Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Dana Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Dim. |
|
Materion Personol Cofnodion: Dim. |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu Cofnodion: Datgelodd y
Cynghorydd Keith Henson fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yn eitem 15
ar yr agenda. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD i gadarnhau
Cofnodion Cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2023 fel rhai cywir. Materion sy’n Codi Dim. |
|
Cofnod o Gamau Gweithredu Cyfarfodydd Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cofnodion: Ystyriwyd Cofnod o Gamau Gweithredu
Cyfarfodydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. CYTUNWYD i nodi'r cynnwys fel y'i cyflwynwyd.
Ychwanegu at Gofnod o Gamau Gweithredu 27/9/23: 1)Datganiad Llywodraethu Blynyddol/Cod Lleol/Fframwaith
Llywodraethu
2)Roedd aelodau lleyg yn dymuno
cael gwahoddiad i'r gweithdai pennu cyllideb i'r Aelodau 24/25 |
|
Adroddiadau a Diweddariadau'r Rheoleiddwyr a'r Arolygiaeth Cofnodion: Consideration was given to the
Regulator & Inspectorate Reports and Rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiadau a
Diweddariadau’r Rheoleiddwyr a’r Arolygiaeth sydd â 3 rhan: a) Diweddariad chwarterol Archwilio Cymru i'r
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio b) Unrhyw waith lleol ar risgiau a
gyflwynwyd/a gyhoeddwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio c) Adroddiadau Cenedlaethol Archwilio Cymru Y Sefyllfa Bresennol a) Diweddariad chwarterol
Archwilio Cymru i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio · Archwilio Cymru – Rhaglen Waith ac Amserlen Ch1
23-24 – Cyngor Sir Ceredigion b) Unrhyw waith lleol ar
risgiau a gyflwynwyd/a gyhoeddwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Llywodraethu
ac Archwilio · Arolygiaeth Gofal Cymru – Arolygiad Gwerthuso
Perfformiad o Gyngor Sir Ceredigion · Arolygiaeth Gofal Cymru – Cynllun Gweithredu
Arolygiad AGC Terfynol · Archwilio Cymru – Gosod Amcanion Llesiant – Cyngor
Sir Ceredigion · Archwilio Cymru – Adolygiad Dilynol o’r Gwasanaeth
Cynllunio – Cyngor Sir Ceredigion c) Adroddiadau Cenedlaethol
Archwilio Cymru ·
Archwilio Cymru – Craciau yn y Sylfeini – Diogelwch Adeiladau yng Nghymru ·
Archwilio Cymru – Ymgynghoriad ar y Graddfeydd Ffioedd ar gyfer 2024-25 ·
Archwilio Cymru – Llamu Ymlaen – Gwersi o’n Gwaith ar y gweithlu ac asedau
mewn llywodraeth leol Yn dilyn y cyflwyniad gan Archwilio Cymru a
chwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD:- (i) i nodi'r adroddiadau er gwybodaeth; a (ii) bod adroddiad
ymateb y Cyngor i bob un o Adroddiadau'r Rheoleiddiwr
a'r Arolygiaeth ar agendâu'r dyfodol yn cael ei fewnosod ar ôl pob adroddiad;
er mwyn i'r Aelodau allu ystyried y ddau adroddiad cyfun yn rhwydd |
|
Ymateb Cyngor Sir Ceredigion i Adroddiadau’r Rheoleiddiwr a’r Arolygiaeth Cofnodion: Mae’r Adroddiad hwn
yn nodi ymatebion y Cyngor i Adroddiadau’r Rheoleiddiwr
a’r Arolygiaeth a’r cynnydd a wnaed ynghylch y cynigion a’r argymhellion. Roedd 2 ran i’r
Adroddiad hwn: a) Arolwg tracio’r
Cyngor o gynigion y Rheoleiddiwr/ Arolygiaeth ar
gyfer gwella ac argymhellion; a b) Materion eraill
sy’n ymwneud â’r Cyngor. Y Sefyllfa Bresennol a) Arolwg tracio’r Cyngor o
gynigion y Rheoleiddiwr/ Arolygiaeth ar gyfer gwella
ac argymhellion o
Ffurflenni Ymateb Rheolwyr y Cyngor 2020-2021 & 2021-2022 Diweddariad: · Archwilio Cymru – Asesiadau o'r Effaith ar
Gydraddoldeb: Mwy nag Ymarfer Blwch Ticio? · Archwilio Cymru – Llamu Ymlaen – Adolygiad o
Reoli’r Gweithlu’n Strategol · Archwilio Cymru – 'Codi ein Gêm' Mynd i'r afael â
thwyll yng Nghymru – diweddariad yn ddyledus 2024 o
Ffurflenni Ymateb Rheolwyr y Cyngor 2022-23: ·
Archwilio Cymru – Craciau yn y Sylfeini – Diogelwch Adeiladau yng Nghymru ·
Archwilio Cymru - Adolygiad Dilynol o’r Gwasanaeth Cynllunio ·
Gosod Amcanion Llesiant b) Materion eraill sy'n
ymwneud â'r Cyngor CYTUNWYD: (i) i nodi'r adroddiadau er
gwybodaeth; a (ii)
byddai ffurflenni ymateb rheolwyr yn y dyfodol yn cael eu cyflwyno ochr yn ochr
ag Adroddiadau cyfatebol y Rheoleiddwyr a'r Arolygiaeth (eitem 6 uchod) |
|
Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad ar Ddogfen y Fframwaith Llywodraethu a Datganiad Llywodraethu
Blynyddol 2022-23 i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar Ionawr yr 17eg 2023
ac ar Fawrth y 9fed 2023. Roedd Dogfen
Ddrafft y Fframwaith Llywodraethu 2022-23 wedi'i diweddaru yn dilyn yr
adroddiad blaenorol ar Fawrth y 9fed 2023 i sicrhau ei bod yn parhau'n gyfredol
a thynnwyd sylw manwl at yr holl newidiadau yn unol â hynny yn yr adroddiad. Paratowyd Datganiad
Llywodraethu Blynyddol Drafft 2022-23 yn unol â'r fframwaith. Mae’n cynnwys: •
Cydnabod
cyfrifoldeb dros sicrhau llywodraethu da; •
Cyfeiriad at
yr asesiad; •
Barn ar lefel
y sicrwydd y gall y trefniadau llywodraethu ei rhoi; •
Adroddiad
cynnydd ar sut y cafodd problemau a nodwyd y llynedd eu datrys; •
Cynllun
gweithredu y cytunwyd arno i ymdrin â phroblemau llywodraethu dros y flwyddyn
nesaf; a •
Chasgliad. Ar Fawrth y 9fed
2023, cytunodd y Pwyllgor i argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo Datganiad
Llywodraethu Blynyddol Drafft 2022-23, yn amodol ar gynnwys y frawddeg ganlynol
yn y crynodeb gweithredol: ‘Cadarnhaodd yr
adolygiad fod trefniadau llywodraethu'r Cyngor yn effeithiol ac yn addas i’r
diben’. Roedd y frawddeg hon bellach
wedi'i chynnwys Ar Ebrill yr 20fed
2023 cytunodd y Cyngor i gymeradwyo Datganiad Llywodraethu Blynyddol Drafft
2022-23. Roedd Datganiad Llywodraethu Blynyddol Drafft 2022-23 hefyd wedi'i
ddiweddaru yn dilyn yr adroddiad blaenorol ar Fawrth y 9fed 2023 i sicrhau ei
fod yn parhau i fod yn gyfredol. Amlinellwyd y newidiadau yn fanwl yn yr
adroddiad. Gofynnwyd i'r
Pwyllgor argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol
Drafft diwygiedig 2022-23. Fframwaith Llywodraethu 2023-24 a Chynllun
Gweithredu’r Flwyddyn Gyfredol Cynhelir gweithdy
ar 6 Rhagfyr 2023 er mwyn i Swyddogion perthnasol ac Aelodau'r Pwyllgor
ystyried cynnydd ar y camau a nodir yn Natganiad Llywodraethu Blynyddol
2022-23. Yn ystod y gweithdy
hwn, byddai Dogfen y Fframwaith Llywodraethu yn cael ei diweddaru i
adlewyrchu'r cynnydd a wnaed tuag at gwblhau'r camau hyn. Yna byddai Dogfen ddrafft Fframwaith
Llywodraethu 2023-24, dogfen wedi'i diweddaru yn cael ei chyflwyno i'r Pwyllgor
hwn yn y cyfarfod ar 24 Ionawr 2024. CYTUNWYD: (i)i nodi cynnwys
yr adroddiad hwn; (ii) i nodi Dogfen
Fframwaith Llywodraethu Drafft 2022-23 a (iii)argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo'r Datganiad Llywodraethu
Blynyddol Drafft 2022-23; a (iii) y byddai gwaith pellach ar y dogfennau hyn yn cael
sylw yn y dyfodol agos yn dilyn trafodaeth gyda'r Cadeirydd; ac y byddai dogfen gyffredinol yn cael ei chyflwyno i ystyried y
Fframwaith a'r Datganiad ar gyfer 2023-2024 yn unol â hynny. |
|
Huanaasesu arfer dda a gwerthuso effeithiolrwydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i'r Hunanasesiad o
arferion da a gwerthuso effeithiolrwydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Yn dilyn dosbarthu
arolwg a gweithdy, ar 10 Mawrth 2022, ystyriwyd Hunanasesiad drafft a
Gwerthusiad o Adolygiad o Effeithiolrwydd gan y Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio. Cytunwyd y byddai'r ddogfen yn cael ei hailystyried er mwyn cyflwyno
dogfen adolygu derfynol yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor. Yng nghyfarfod y
Pwyllgor ar 08 Mehefin 2022, cadarnhawyd bod yr Hunanasesiad drafft a'r
Gwerthusiad o Adolygiad o Effeithiolrwydd wedi'u hychwanegu at y Flaenraglen Gwaith o dan y cyfarfod a drefnwyd ym mis Medi
2022 gan mai'r gobaith oedd y byddai Gweithdy'n cael ei drefnu ar gyfer y
Pwyllgor newydd cyn y cyfarfod hwn er mwyn ailystyried y ddogfen a thrafod
sgiliau'r Pwyllgor newydd. Cytunwyd y byddai gweithdy’n cael ei gynnal cyn y
cyfarfod ym mis Medi er mwyn coladu sgiliau Aelodau’r Pwyllgor. Cynhaliwyd gweithdy
ym mis Tachwedd 2022. Cynhaliwyd gweithdy
arall ar 13 Mehefin 2023 i’r Pwyllgor ystyried yr Hunanasesiad drafft a
Gwerthusiad o’r Adolygiad o Effeithiolrwydd. Cyflwynwyd y ddogfen ‘Hunanasesiad
o arferion da’, fel y’i cwblhawyd. Ni chwblhaodd y
Pwyllgor declyn y CIPFA ‘Gwerthuso effaith ac effeithiolrwydd y pwyllgor
archwilio’). Ar hyn o bryd, roedd angen i'r Pwyllgor ystyried •
a oedd yr
ymarfer hunanasesu ar gyfer 2022-23 wedi'i gwblhau •
a yw’n dymuno
defnyddio teclynnau ‘Hunanasesiad o arferion da’ a ‘Gwerthuso effaith ac
effeithiolrwydd y pwyllgor archwilio’ CIPFA wrth symud ymlaen, neu ddefnyddio
dull arall o hunanasesu. CYTUNWYD (i) i nodi cynnwys
y ddogfen ddrafft ‘Hunanasesiad o arferion da’ (ii) bod yr ymarfer hunanasesu ar gyfer 2022-23 wedi'i
gwblhau, ond bod angen gwneud mwy o waith ar gyfer Cwestiwn 28 ar y ddogfen; a (iii)y byddai angen i weithdrefn hunanasesu ddiwygiedig ar
gyfer proses hunanasesu 2023-2024 gynnwys sicrwydd llywodraethu |
|
Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol 1/4/23 â 30/6/23 Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr
Corfforaethol - Archwilio Mewnol ar Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol Chwarter
1. Dywedwyd bod y Pwyllgor wedi ystyried Strategaeth Archwilio Mewnol flynyddol
2023/24 yn ei gyfarfod ym mis Mawrth 2023 a wnaeth hefyd yn nodi'r prif feysydd
gwaith ar gyfer cynllun archwilio gweithredol 2023/24. Roedd y Cynllun yn
cynnwys adolygiadau a gariwyd ymlaen o gynllun
archwilio’r flwyddyn flaenorol, archwiliadau arferol e.e. ardystiadau grantiau
a gwaith wedi’i flaenoriaethu yn dibynnu ar risg, y gallai’r Adain Archwilio
Mewnol lunio ei barn sicrwydd arnynt. Ar gyfer 2023/24, cynhaliwyd asesiad risg yn
ogystal â gwybodaeth o Gofrestr Risgiau Corfforaethol y Cyngor wrth i risgiau
newydd i’r Cyngor barhau i ddod i’r amlwg, a oedd yn newid yn gyson. Byddai
Archwilio Mewnol felly yn asesu ei waith yn barhaus, gan ystyried anghenion a
blaenoriaethau newidiol y Cyngor yn rheolaidd. Roedd unrhyw waith adweithiol a
ychwanegwyd at y Cynllun Gweithredol yn cael ei grybwyll yn yr adroddiad hwn. Mae’r adroddiad cynnydd hwn yn nodi’r camau a
gymerwyd hyd yma o ran cyflawni’r cynllun archwilio drwy roi crynodeb o’r
gwaith a wnaed. Mae hefyd yn nodi’r sefyllfa bresennol o ran adnoddau yn
ogystal â chynllun gwella’r Adain. CYTUNWYD:- (i) i nodi'r gwaith a wnaed a sefyllfa bresennol y Gwasanaeth Archwilio Mewnol; (ii) bod Aelodau perthnasol y
Cabinet yn ymwybodol o unrhyw broblemau a godwyd mewn adroddiadau Archwilio
Mewnol; (iii) i nodi bod cyfarfod
dilynol wedi'i gynnal gyda'r Swyddog Arweiniol Corfforaethol a Rheolwr
Corfforaethol gwasanaeth yr Amgueddfa a bod Archwiliad Mewnol pellach o
Reolaeth Ariannol ac Incwm i'w gynnal ym mis Hydref i sicrhau bod rheolaethau
digonol yn cael sylw gan reolwyr; a (vi) i ofyn i'r Swyddog
Arweiniol Corfforaethol perthnasol sy'n gyfrifol am siop yr Amgueddfa fod yn
bresennol mewn cyfarfod yn y dyfodol i fynd i'r afael â'r problemau a godwyd yn
y ddogfen |
|
Hunanasesiad Archwilio Mewnol 2022-23 Cofnodion: Dywedwyd bod
Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus a Nodyn Cymhwyso Llywodraeth Leol y
Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth yn disodli Cod 2006 ar gyfer
Archwilio Mewnol. Daeth hwn i rym ym mis Ebrill 2013. Rhaid cydymffurfio gyda
Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus a’r Nodyn Cydymffurfio er mwyn
sicrhau bod arferion archwilio mewnol cywir yn cael eu cymhwyso. Mae’r Nodyn
Cymhwyso yn cynnwys rhestr wirio a ddatblygwyd i ddiwallu’r gofynion fel y’u
hamlinellir yn Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS) 1311 a 1312
ar gyfer hunanasesiadau cyfnodol fel rhan o’r rhaglen Sicrhau Ansawdd a
Gwelliant. Mae’n ymgorffori gofynion Safonau Archwilio Mewnol y Sector
Cyhoeddus (PSIAS) yn ogystal â’r Nodyn Cymhwyso er mwyn cwmpasu’r ddwy ddogfen
mewn ffordd gynhwysfawr. Amgaeir yr
hunanasesiad llawn yn ei grynswth, yn ogystal â’r cynllun gwella a ddaeth yn
sgil yr hunanasesiad. Er mwyn tynnu sylw at y newidiadau allweddol yn yr
Hunanasesiad ar gyfer 2022-23, mae'r meysydd a nodwyd ar gyfer gwella a
adroddwyd i chi yn Hunanasesiad 2021-22 wedi cael sylw a'u marcio fel
'cydymffurfio'. Yr ardal sy'n weddill yw Std 1210: 5.3.1 A oes
gan RhCAM gymhwyster proffesiynol, fel CMIIA/CCAB neu
gyfwerth? Fel yr
adroddwyd yn rheolaidd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, roedd y Rheolwr
Corfforaethol Archwilio Mewnol ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer Tystysgrif
Archwilio Mewnol yr IIA. CYTUNWYD i
nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Cofnodion: Mae'r adroddiad hwn
yn darparu gwybodaeth yn ymwneud â gweithgarwch Canmoliaeth, Cwynion a Rhyddid
Gwybodaeth y Cyngor rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023. Roedd yr adroddiad ei hun yn cynnwys gwybodaeth
benodol am nifer a math y ganmoliaeth a dderbyniwyd, y gwahanol gamau cwynion,
perfformiad a chanlyniadau sy'n ymwneud â'r rhain a gwybodaeth am gydymffurfio
â deddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol. Cyflwynwyd hefyd
adroddiad yn manylu ar ganmoliaeth a chwynion mewn perthynas â'r Gwasanaethau
Cymdeithasol, a darparwyd gwybodaeth am y gwersi a ddysgwyd o ganlyniad i
gwynion (corfforaethol) hefyd. Mae'r
prif adroddiad yn cynnwys adran am y cyswllt a dderbyniwyd gan Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ("yr Ombwdsmon") yn ystod y cyfnod
adrodd. Cyflwynwyd Llythyr Blynyddol yr
Ombwdsmon i’r Cyngor hefyd a rhoddodd fanylion pellach am holl weithgarwch yr
Ombwdsmon ar gyfer Ceredigion, yn ogystal ag ar gyfer Cynghorau eraill ledled
Cymru. Dyma'r pedwerydd
adroddiad yn olynol lle na ddechreuwyd ymchwiliadau Ombwdsmon nac adroddiadau
ffurfiol mewn perthynas â chwynion a wnaed yn erbyn y Cyngor. Er bod llai o atgyfeiriadau gan yr Ombwdsmon
yn ystod y flwyddyn adrodd hon, mae gan y Cyngor gyfradd gyson uchel o
Setliadau Datrysiad Cynnar/Gwirfoddol. Cydnabuwyd felly
bod heriau'n parhau mewn perthynas â chymhlethdod y cwynion a dderbyniwyd,
cynnydd cyffredinol mewn gweithgarwch sy'n ymwneud â chwynion, ceisiadau
Rhyddid Gwybodaeth, atgyfeiriadau Ombwdsmon ac atgyfeiriadau at Swyddfa'r
Comisiynydd Gwybodaeth, yn ogystal â'r heriau sy'n gysylltiedig â darpariaeth y
Tîm Cwynion a'r Rhyddid Gwybodaeth ei hun.
Roedd yn anochel bod yr heriau hyn wedi cael effaith ar allu'r Cyngor i
gyflawni ei amcanion perfformiad mewn perthynas ag amserlenni rhagnodedig. Yn gryno, dywedwyd bod: • 465 o sylwadau o ganmoliaeth wedi dod i law • 403 o ymholiadau wedi’u prosesu gan y Gwasanaeth Cwynion a
Rhyddid Gwybodaeth • 144 o gwynion wedi dod i law: Cyfnod 1 = 96 Cyfnod 2 = 48 • 35 o ‘Gsylltiadau' wedi’u cael gan
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru • 882 o Geisiadau Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Gwybodaeth
Amgylcheddol wedi'u prosesu gan y Gwasanaeth Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth I grynhoi,
dywedwyd:- •Cafwyd llawer mwy
o Ganmoliaeth yn ystod y cyfnod adrodd hwn.
Mae gwella'r ffordd y caiff canmoliaeth eu cyflwyno yn parhau i fod yn waith
y mae angen i'r Tîm Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth ei wneud, ond roedd hyn yn
cael ei ohirio oherwydd cyfyngiadau capasiti. •Derbyniodd y
gwasanaeth llawer mwy o ymholiadau –llawer ohonynt nail ai wedi’u dyrannu i’r
meysydd gwasanaeth i’w datrys yn rhagweithiol, neu roedd angen ymatebion
ffurfiol er mwyn egluro pam na ellid ymdrin â materion o’r fath o dan y
gweithdrefnau cwynion. •Roedd yn werth
nodi mai nifer y cwynion a dderbyniwyd gan y Cyngor oedd y trydydd isaf yng
Nghymru. •Roedd angen llawer
iawn o waith i atal cwynion Cyfnod 1 rhag cynyddu i Gyfnod 2 yn ddiangen
oherwydd na fu'n bosibl ymateb o fewn yr amser penodedig o ddeg diwrnod
gwaith. •Mae cydymffurfio a’r amser sydd wedi ei nodi yng Nghyfnod 2 hefyd angen sylw, ynghyd a’r diffygion ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 12. |
|
Adroddiad Hunanasesu Drafft Cyngor Sir Ceredigion 2022/23 Cofnodion: Cyflwynodd Rhan 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol
ac Etholiadau (Cymru) 2021 drefn perfformiad newydd yn seiliedig ar Hunanasesu
ar gyfer Prif Gynghorau. Bwriad y gyfundrefn berfformiad newydd oedd
adeiladu a chefnogi diwylliant lle mae cynghorau yn ceisio gwella a gwneud yn
well yn barhaus ym mhopeth a wnânt, heb ystyried pa mor dda y maent yn
perfformio eisoes. Roedd y Ddeddf yn disgwyl y byddai cynghorau bob amser yn
ymdrechu i gyflawni mwy ac yn ceisio sicrhau’r canlyniadau gorau i bobl a
chymunedau lleol. Un ffordd o wneud hyn oedd herio'r sefyllfa bresennol yn
barhaus a gofyn cwestiynau am sut yr oeddent yn gweithredu. Roedd 5 dyletswydd benodol i Gynghorau a
gyflwynwyd gan y Ddeddf: •Dyletswydd i barhau i adolygu perfformiad •Dyletswydd i ymgynghori ar berfformiad •Dyletswydd i adrodd ar berfformiad •Dyletswydd i drefnu Panel Asesu Perfformiad •Dyletswydd i ymateb i Asesiad y Panel
Perfformiad Mae'r Ddeddf hefyd yn nodi'r rhan annatod y
mae'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ei chwarae yn y Broses Hunanasesu.
Mae’r rôl hon yn gofyn i’r Pwyllgor: •Dderbyn adroddiad Hunanasesu drafft y Cyngor •Adolygu'r Adroddiad Hunanasesu drafft a
gwneud argymhellion ar y casgliadau neu'r camau y mae'r Cyngor yn bwriadu eu
cymryd •Derbyn yr adroddiad Hunanwerthuso terfynol
wedi iddo gael ei gyhoeddi, gan gynnwys sylwebaeth ar pam y cafodd argymhellion
eu derbyn neu eu gwrthod. Ar hyn o bryd, roedd yr Adroddiad Hunanasesu
Drafft bellach wedi'i gynhyrchu ac fe'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor i'w ystyried. Roedd yr Adroddiad wedi’i ddatblygu drwy
asesu amrywiaeth eang o dystiolaeth gan gynnwys adroddiadau ac adolygiadau
mewnol, adroddiadau rheoleiddio ac arolygu allanol ac yn hollbwysig
gweithgareddau ymgysylltu ac ymgynghori. Mabwysiadodd y Cyngor gyfres o
gwestiynau allweddol neu “Llinellau Ymholi Allweddol” er mwyn sicrhau bod y
broses yn canolbwyntio ar ganlyniadau, y safbwynt sefydliad cyfan o berfformiad
a'i bod yn seiliedig ar dystiolaeth. Cynhaliwyd gweithdai yn ystod Ebrill a Mai
gydag Aelodau a Swyddogion y Cyngor i nodi perfformiad cyfredol, y cyfleoedd
sy'n bodoli ar gyfer gwella a'r camau penodol y bwriadwn eu cymryd. Cofnodwyd y
canfyddiadau yn ein dogfen Matrics Hunanasesu sy’n cael ei ddefnyddio i’n
cynorthwyo i gynhyrchu Adroddiad y Cynllun Hunanasesu a Gweithredu. Mae ar gael
ar gais. Er mai'r Adroddiad Hunanasesu oedd allbwn
allweddol o'r broses, roedd y gwaith ar wella canlyniadau yn weithgaredd parhaus
drwy gydol y flwyddyn. Drwy gydol y flwyddyn rydym yn cynnal ymgynghoriad i
gefnogi hunanasesiad, rydym yn coladu tystiolaeth i lywio'r gweithdai, rydym yn
cyflawni'r camau gweithredu yn ein cynllun gweithredu Hunanasesu ac rydym yn
monitro eu cynnydd tuag at ei gwblhau. Mae’n bwysig nodi bod yr Adroddiad yn
cyflawni gofynion y ddwy ddeddf yma: • Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau
(Cymru) 2021 – y ddyletswydd i adrodd ar Berfformiad • Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
(Cymru) 2015 – gosod ac adolygu cynnydd yn erbyn ein Hamcanion Llesiant
Corfforaethol Rhan o’r Drefn Hunanasesu Perfformiad oedd y
ddyletswydd o gynnal Asesiad Perfformiad Panel unwaith ymhob cylchred
etholiadol. Bwriad Asesiadau Panel oedd darparu persbectif annibynnol ac allanol o'r graddau y mae'r Cyngor yn bodloni gofynion perfformiad ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 13. |
|
Cofrestr Risgiau Corfforaethol Cofnodion: Rhoddwyd adroddiadau rheolaidd i'r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio ynghylch Cofrestr Risgiau Corfforaethol y Cyngor i
roi gwybodaeth a sicrwydd parhaus bod y risgiau a nodwyd gan uwch reolwyr yn
cael eu rheoli’n briodol. Mae hyn yn atgyfnerthu rôl y Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio o ran rhoi sicrwydd annibynnol i’r Cyngor bod y Gofrestr Risgiau
Corfforaethol yn cael ei rheoli’n briodol. Cynhaliwyd adolygiad o'r statws risg
diweddaraf yng nghyfarfod y Grŵp Arweiniol ar 30.08.23 lle trafodwyd a
chytunwyd ar ymgeiswyr ar gyfer dyrchafu / israddio i'r Gofrestr Risgiau
Corfforaethol. Roedd y gofrestr risgiau bellach wedi'i diwygio i gynnwys
manylion ynghylch pryd a pha bwyllgor a adolygodd y risg ddiwethaf, fel y
gofynnwyd yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
(21/06/2023). Is-gyfeiriwyd o gorfforaethol i wasanaeth R006: Rhaglen Llesiant Gydol Oed. Mae sgôr y
risg wedi gostwng i 12 gan fod y model Llesiant Gydol Oed bellach wedi’i
ddatblygu a’i atgyfnerthu’n fwy. Mae gan staff, defnyddwyr y gwasanaeth a ‘r
gymuned well ddealltwriaeth ac yn derbyn y model. Mae’r arolwg diweddar gan
Arolygiaeth Gofal Cymru yn cefnogi’r model. Mae’r model wedi’i adolygu a’i
ddiwygio ychydig er mwyn gwella effeithlonrwydd ynghylch Sicrwydd Ansawdd a
Lles Meddyliol. Roedd y risgiau wedi'u lliniaru ac mae lefel y risg canfyddedig wedi lleihau. Cytunodd y Grŵp Arweiniol i
ostwng y risg i lefel gwasanaeth. R017: Diogelu. Mae sgôr y risg wedi gostwng i
12 wrth i’r camau lliniaru gael eu cwblhau ac i grŵp diogelu corfforaethol
gael ei ailsefydlu. Mae’r gwasanaeth yn gweithredu’n llawn ymhob cyfarfod
rhanbarthol a chyfarfodydd cenedlaethol priodol a byrddau o fewn y maes
diogelu. Roedd gwasanaeth diogelu wedi’i staffio’n llawn yn dilyn penodiad
asiantaeth tim Innovative.
Canlyniad hyn yw gwasanaeth sy’n ymateb yn well dan bwysau gan ymdopi gydag
angen cynyddol. Roedd gweithdrefnau wedi’u sefydlu’n well gan wneud y
gwasanaeth yn fwy ymatebol. Ar y cyfan, roedd llai o bryderon ynghylch risgiau diogelu gan fod y
risgiau’n cael eu rheoli’n briodol. Cytunodd y Grŵp Arweiniol i ostwng y
risg i lefel gwasanaeth. Uwchgyfeiriwyd o
wasanaeth i gorfforaethol Dim Sgôr y risg ar gyfer R006: Roedd y Rhaglen
Llesiant Gydol Oed wedi gostwng i 12. Roedd sgôr y risg ar gyfer R017: Diogelu wedi gostwng i 12. Roedd yr holl risgiau eraill wedi'u hadolygu
ac yn cynnwys y statws RAG diwygiedig o gamau lliniaru a sylwadau wedi'u
diweddaru. Nodwyd bod Ceredigion yn un o'r Awdurdodau
Lleol mwyaf blaenllaw yng Nghymru o ran y mater hwn, gyda Swyddog o Geredigion
yn gadeirydd grŵp Seiber Cymru Gyfan a drefnwyd
gan Lywodraeth Cymru. CYTUNWYD: (i) i nodi'r gofrestr wedi'i diweddaru fel y'i cyflwynwyd; a (ii) mewn perthynas
ag R009: Rheoli Gwybodaeth a Chydnerthedd Seiberddiogelwch, gofynnodd y Pwyllgor iddynt gael eu
hystyried fel dwy risg ar wahân oherwydd difrifoldeb ymosodiad seiber, byddai'r argymhelliad hwn yn cael ei gyflwyno i'r
Grŵp Arweiniol i'w ystyried; |
|
Y Polisi, Strategaeth a Fframwaith Rheoli Risg Drafft Cofnodion: Adolygwyd Polisi, Strategaeth a Fframwaith
Rheoli Risgiau’r Cyngor bob tair blynedd i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn
gyfredol ac yn cyflawni eu dibenion. Cynhaliwyd yr adolygiad diweddaraf rhwng
Rhagfyr 2022 a Ionawr 2023. Roedd canfyddiadau'r adolygiad eisoes wedi'u
hystyried gan y Grŵp Arweiniol ac wedi arwain at nifer o ddiweddariadau
i'r Polisi, Strategaeth a Fframwaith Drafft o ran Rheoli Risgiau. Ar hyn o bryd, roedd y Polisi, y Strategaeth
a'r Fframwaith Rheoli Risgiau wedi'u diweddaru i adlewyrchu canfyddiadau'r
adolygiad a thueddiadau cyfredol mewn arferion gorau. Rhestrwyd y prif
ddiweddariadau yn yr adroddiad fel a ganlyn:- •
Cryfhau monitro risgiau gwasanaethau –
bydd risgiau gwasanaethau sy'n sgorio 15 neu’n uwch yn cael eu hasesu'n
chwarterol gan y Grŵp Arweiniol er mwyn uwchgyfeirio i'r Gofrestr Risgiau
Corfforaethol ac i'r gwrthwyneb. •
Bydd risgiau gwasanaethau yn cael eu
hychwanegu i System Rheoli Perfformiad Teifi er mwyn iddynt gael eu diweddaru
a’u rheoli drwy’r system. •
Eglurwyd mai’r trothwy ar gyfer
uwchgyfeirio / is-gyfeirio risgiau i’w hystyried gan y Grŵp Arweiniol yw
15. •
Eglurwyd mai'r Grŵp Arweiniol oedd
yn gyfrifol am benderfynu a ddylai risgiau gael eu huwchgyfeirio neu eu
his-gyfeirio •
Egluro rôl Archwilio Mewnol yn y Polisi
a'r Fframwaith, sef asesu a gwerthuso effeithiolrwydd y camau gweithredu sydd
ar waith i liniaru risgiau a rhoi sicrwydd gwrthrychol bod risgiau'n cael eu
rheoli'n briodol. Yn ogystal, byddai Archwilio Mewnol hefyd yn rhoi sicrwydd
gwrthrychol i'r Grŵp Arweiniol, y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a'r
Cyngor ynghylch cadernid ac effeithiolrwydd y gweithdrefnau rheoli risgiau trwy
gynnwys adolygiadau cyfnodol o'r Gofrestr Risgiau Corfforaethol, Cofrestr
Risgiau Gwasanaethau a gweithdrefnau Rheoli Risgiau Corfforaethol. •
Egluro y dylid rhoi sgorau “risg
targed” i gyd-fynd â’r camau lliniaru ar gyfer risg, h.y. i ba sgôr y dylid
lleihau’r risg drwy gyflawni’r camau lliniaru a nodwyd. Ar ôl cymeradwyo'r ddogfen ddrafft o ran Rheoli
Risgiau, penderfynodd y Grŵp Arweiniol y byddai ymarfer ymgynghori wedi'i
gyfyngu i randdeiliaid allweddol yn cael ei gynnal i gynnwys aelodau'r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio a Zurich Insurance. Yn dilyn yr ymgynghoriad,
byddai'r dogfennau terfynol yn cael eu cymryd drwy'r broses ddemocrataidd i'w
cymeradwyo'n derfynol. Anfonwyd llythyr ymgynghori at holl aelodau'r
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar Fehefin y 30ain, yn gwahodd sylwadau
ysgrifenedig erbyn 25ain Awst. Cafwyd
ateb manwl a defnyddiol gan Ddirprwy Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio ac mae'n cael ei ystyried ar hyn o bryd. Cafwyd ateb Zurich hefyd ac
nid ydynt yn cynnig dim newidiadau i'r drafft. Ar ôl ystyried yr ymateb/ion, byddai'r
dogfennau rheoli risgiau yn cael eu diwygio i gynnwys unrhyw newidiadau
gofynnol. Byddai'r dogfennau rheoli risgiau wedi'u diweddaru yn cael eu rhannu
â'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ei gyfarfod nesaf ac yna'n cael eu
cymryd drwy'r broses Ddemocrataidd i'w cymeradwyo. Byddai unrhyw adborth
pellach gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ynghylch y Polisi, y
Strategaeth a’r Fframwaith Rheoli risgiau bryd hynny yn cael ei gynnwys mewn
adroddiadau dilynol Yn dilyn trafodaeth, nid yw’r Grŵp Arweiniol yn ystyried bod ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 15. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD i nodi cynnwys y Flaenraglen Waith yn amodol ar
nodi na fyddai’r Swyddog Llywodraethu newydd yn ei swydd tan ddechrau mis
Tachwedd, a allai effeithio ar yr adroddiadau a gyflwynwyd yng nghyfarfod
Ionawr 2024. Diolchodd yr holl Aelodau i Ms Hannah Rees am ei gwaith yn
ystod ei chyfnod fel Swyddog Llywodraethu a dymunwyd yn dda iddi ar gyfer y
dyfodol. |