Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Dana Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorydd
Wyn Evans a Mr Duncan Hall, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a Chaffael, am na fedrent ddod i’r
cyfarfod. |
|
Materion Personol Cofnodion: Nododd y Cadeirydd mai dyma fyddai cyfarfod olaf Mr Harry Dimmack a dymunodd yn dda iddo yn ei swydd newydd. |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD i gadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 09 Mawrth 2023 yn gywir. Materion yn
Codi Cofnod 6.v) – Nododd
y Swyddog Llywodraethu y byddai’n
cadarnhau’r wybodaeth hon ar ôl y cyfarfod.
|
|
Cofnod o Gamau Gweithredu Cyfarfodydd Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio PDF 85 KB Cofnodion: Ystyriwyd Cofnod
o Gamau Gweithredu Cyfarfodydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. CYTUNWYD i nodi’r cynnwys a’r diweddariad
fel y’u cyflwynwyd.
Roedd y Pwyllgor eisiau bod yn rhan o’r broses ar gyfer y Fframwaith Rheoli Risg. |
|
Adroddiadau a Diweddariadau'r Rheoleiddwyr a'r Arolygiaeth PDF 2 MB Cofnodion: Ystyriwyd Adroddiadau
a Diweddariadau’r Rheoleiddiwr
a’r Arolygiaeth a oedd yn cynnwys
3 rhan: a) Diweddariad chwarterol
Archwilio Cymru i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio b) Unrhyw waith
lleol ar risgiau a gyflwynwyd / a gyhoeddwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio c) Adroddiadau Cenedlaethol
Archwilio Cymru Y Sefyllfa Bresennol a) Diweddariad chwarterol
Archwilio Cymru i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio b) Unrhyw waith
lleol ar risgiau a gyflwynwyd / a gyhoeddwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio • Archwilio Cymru – Llythyr i Gyrff Llywodraeth Leol • Archwilio Cymru – Cynllun Archwilio Manwl 2023 - Cyngor Sir
Ceredigion • Archwilio Cymru – Ardystio Grantiau a Ffurflenni 2021-22 –
Cyngor Sir Ceredigion • Archwilio Cymru – Briff Prosiect – Defnyddio Gwybodaeth am Berfformiad – Safbwynt Defnyddwyr Gwasanaethau a Deilliannau –
Cyngor Ceredigion • Archwilio Cymru – Cynllun Blynyddol 2023-24 • Arolygiaeth Gofal Cymru – Arolygiad Gwerthuso Perfformiad Cyngor Sir Ceredigion • Arolygiaeth Gofal Cymru – Cynllun Gweithredu Drafft c) Adroddiadau Cenedlaethol
Archwilio Cymru • Archwilio Cymru – Ein rhaglen waith ar gyfer
2023-26 Yn dilyn
cyflwyniad gan Archwilio Cymru a chwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD:- (i) i nodi’r adroddiadau
er gwybodaeth; (ii) bod angen sicrwydd bod y Cyngor yn ymgeisio am yr holl grantiau posib. |
|
Ymateb Cyngor Sir Ceredigion i Adroddiadau’r Rheoleiddiwr a’rArolygiaeth PDF 429 KB Cofnodion: Roedd yr adroddiad yn nodi ymatebion y Cyngor i
Adroddiadau’r Rheoleiddiwr a’r Arolygiaeth a’r cynnydd a wnaed o ran y cynigion
a’r argymhellion. Roedd dwy ran i’r adroddiad hwn: a) Arolwg tracio’r Cyngor o gynigion y Rheoleiddiwr /
Arolygiaeth ar gyfer gwella a’r argymhellion; a b) Materion eraill sy’n ymwneud â’r Cyngor. Y Sefyllfa Bresennol a) Arolwg tracio’r Cyngor o gynigion y Rheoleiddiwr /
Arolygiaeth ar gyfer gwella a’r argymhellion o Diweddariad am Ffurflenni Ymateb Rheolwyr y Cyngor
2022-23: • Archwilio
Cymru – Amser am Newid – Tlodi yng Nghymru • Archwilio
Cymru – Cyfle wedi’i golli – Mentrau Cymdeithasol • Archwilio
Cymru – Llamu Ymlaen – Adolygiad Rheoli’r Gweithlu’n Strategol • Archwilio
Cymru – Llamu Ymlaen – Adolygiad Rheoli Asedau’n Strategol (b) Materion eraill sy’n ymwneud â’r Cyngor • Archwilio
Cymru – Llythyr Ymholiadau Archwilio 2023 Cyngor Sir Ceredigion Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i nodi’r adroddiadau er gwybodaeth ac y dylai enwau’r swyddogion sy’n gyfrifol am unrhyw adroddiadau gael eu cynnwys yn y dogfennau |
|
Arolygiaeth Gofal Cymru - Datganiad Blynyddol 2022-23 PDF 659 KB Cofnodion: Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru)
2016 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau cofrestredig gyflwyno
datganiad blynyddol i Weinidogion Cymru ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol. Rhaid
i’r datganiad blynyddol gynnwys y wybodaeth a nodwyd yn Adran 10 o Ddeddf 2016.
Rhaid i’r datganiad blynyddol hefyd gynnwys y wybodaeth a
nodwyd yn Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol)
(Cymru) 2017 (“y Rheoliadau”), fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Gwasanaethau
Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol a Chofrestru) (Cymru) (Diwygio) 2019. Roedd Deddf 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru
gyhoeddi pob datganiad blynyddol a gyflwynwyd. Byddai hyn drwy wefan
Arolygiaeth Gofal Cymru ar y cyd â phob adroddiad arolygu ar gyfer y
gwasanaethau a reoleiddir. Roedd y Rheoliadau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r
datganiad blynyddol fod ar ffurf datganiad ar-lein a rhaid ei gyflwyno i
Weinidogion Cymru o fewn 56 diwrnod i ddiwedd y flwyddyn ariannol y mae’n
ymwneud â hi, sef 26 Mai 2023. O dan Adran 48 o Ddeddf 2016, roedd yn drosedd i
ddarparwr gwasanaeth fethu â chyflwyno datganiad blynyddol o fewn y terfynau
amser a bennwyd gan y Rheoliadau. Pe bai darparwr gwasanaeth yn methu â
chyflwyno datganiad blynyddol o fewn y terfynau amser gofynnol, gallai fod yn
destun hysbysiad cosb neu gamau gorfodi eraill fel y bo’n briodol gan
Arolygiaeth Gofal Cymru. O dan Adroddiad 52 o Ddeddf 2016, gallai Gweinidogion Cymru
roi hysbysiad cosb pe baent yn fodlon bod y darparwyr gwasanaeth wedi cyflawni
trosedd ragnodedig. Roedd hyn yn cynnwys methiant i gyflwyno datganiad
blynyddol. Nododd Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb)
(Cymru) 2019 fod y gosb i’w thalu yn swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa
safonol (sef £2,500). Y Datganiad Blynyddol Dyma’r gwasanaethau a oedd wedi’u cynnwys yn y Datganiad
Blynyddol: • Cartref Gofal
Preswyl Bryntirion, Tregaron • Cartref Gofal
Preswyl Tregerddan, Bow Street • Cartref Gofal
Preswyl Min y Môr, Aberaeron • Cartref Gofal
Preswyl Hafan Deg, Llanbedr Pont Steffan • Cartref Gofal
Preswyl Yr Hafod, Aberteifi • Gwasanaeth
Gofal wedi’i Dargedu a Galluogi Y cyfnod amser ar gyfer y data a’r wybodaeth a gyflwynwyd yn
y datganiad blynyddol oedd rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023. Fel darparwr
gwasanaeth, roedd ganddynt hyd at ganol nos ar 26 Mai i gyflwyno’r datganiad
blynyddol. Llwyddwyd i gyflwyno’r datganiad blynyddol i Arolygiaeth
Gofal Cymru ar 26 Mai 2023. Fel rhan o’r broses, roedd yn rhaid i Unigolyn
Cyfrifol y sefydliad sicrhau’r canlynol: •bod y rhan o’r datganiad blynyddol a oedd yn ymwneud â’r
gwasanaeth y’i dynodwyd ar ei gyfer wedi’i chwblhau’n llawn; a •darparu datganiad, a oedd yn cadarnhau fod y wybodaeth a
ddarparwyd yn y datganiad blynyddol yn gywir. Gan fod yr adroddiad yn un mor gynhwysfawr a’r ffont yn fach ar gyfer y wybodaeth y gofynnodd Arolygiaeth Gofal Cymru amdani (gan fod yr adroddiad wedi’i gyflwyno ar-lein), CYTUNWYD y byddai tri neu bedwar o’r materion allweddol yn yr adroddiad yn cael eu hadrodd flwyddyn nesaf. CYTUNWYD i nodi’r adroddiad er gwybodaeth. |
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 2022-23 PDF 684 KB Cofnodion: Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru)

Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol 1/1/23 - 31/3/23 PDF 769 KB Cofnodion: Ystyriwyd adroddiad
y Rheolwr Corfforaethol – Archwilio Mewnol ynghylch Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol ar gyfer
Chwarter 4. Cyflwynwyd yr adroddiad er mwyn sicrhau bod y Pwyllgor yn fodlon
bod y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn ymgymryd
â gwaith priodol a digonol i ddarparu sicrwydd realistig ar ddiwedd y flwyddyn
gan ychwanegu gwerth a chynorthwyo’r Cyngor wrth gyflawni ei
amcanion. CYTUNWYD i nodi’r gwaith a wnaed a’r sefyllfa bresennol o ran y Gwasanaeth Archwilio Mewnol. |
|
Adroddiad Camau Rheoli Archwilio Mewnol PDF 572 KB Cofnodion: Fel y nodwyd
yn Fframwaith Arferion Proffesiynol Rhyngwladol Sefydliad yr Archwilwyr Mewnol,
roedd Safon Perfformiad 2500 yn nodi bod yn rhaid i Archwilio
Mewnol sefydlu proses i fonitro a mynd ar drywydd camau
rheoli. Y Rheolwr Corfforaethol – Archwilio Mewnol oedd yn
gyfrifol am fonitro’r cynnydd a wnaed yn erbyn y camau
gweithredu hyn ac adrodd i’r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio. Roedd yr
adroddiad hwn yn rhoi diweddariad
i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o’r cynnydd a wnaed
gan y rheolwyr i fynd ar drywydd
y camau rheoli a gyhoeddwyd yng nghynlluniau gweithredu’r adroddiadau Archwilio Mewnol. CYTUNWYD ar y canlynol:
(i) nodi’r gwaith
presennol; (ii) dylid ystyried
coladu’r holl gamau yr oedd
angen eu cymryd a hynny yn ôl gwasanaeth,
er mwyn eu monitro; a iii) dylai’r Grŵp Arweiniol dderbyn yr adroddiadau. |
|
Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol PDF 720 KB Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor
Gynllun Archwilio Mewnol Blynyddol 2022/23 yn y cyfarfod ym
mis Mawrth 2022. Roedd y Cynllun
yn darparu amlinelliad o’r gwaith yr oedd
yn rhaid i’r Adain Archwilio
Mewnol ei gyflawni yn ystod
y flwyddyn er mwyn ffurfio barn ynghylch sicrwydd. Roedd y farn
hon yn ffurfio rhan o fframwaith sicrwydd y Cyngor. Roedd Archwilio Mewnol hefyd yn darparu
cyngor annibynnol i wasanaethau er mwyn helpu rheolwyr i wella’u mesurau rheoli mewnol, eu dull o reoli risg, a’u trefniadau
llywodraethu. Roedd yr Adroddiad Blynyddol
yn darparu crynodeb o’r gweithgarwch
archwilio mewnol yn ystod y flwyddyn
hyd at 31 Mawrth 2023, ac roedd
yn ymgorffori barn yr adain archwilio.
Roedd hefyd yn cofnodi’r sefyllfa
bresennol o ran adnoddau, a
chynlluniau’r adain ar gyfer sicrhau
ansawdd, gwelliant a chynnydd. CYTUNWYD I GYMERADWYO'R adroddiad ac i gynnwys data ar hyfforddiant y gwasanaeth Archwilio Mewnol yn y flwyddyn flaenorol mewn adroddiadau yn y dyfodol. |
|
Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol 2022/23 PDF 519 KB Cofnodion: Roedd Adroddiad
Blynyddol Archwilio Mewnol yn darparu
crynodeb o’r gweithgarwch archwilio mewnol yn ystod
y flwyddyn hyd at 31
Mawrth, ac roedd yn ymgorffori barn yr adain archwilio. Yn y gorffennol,
roedd yr Adroddiad Blynyddol yn cynnwys rhan
ar dwyll, gan roi braslun
o’r gwaith roedd y gwasanaeth wedi’i wneud yn
y maes hwn. Erbyn hyn roedd
adroddiad ar wahân ar gyfer
Atal Twyll a oedd yn cefnogi Adroddiad
Blynyddol Archwilio Mewnol ar ddiwedd
y flwyddyn. CYTUNWYD I GYMERADWYO'R adroddiad
ac i gyflwyno papur i'r Grŵp Arweiniol
i ystyried Asesiad Risg ar Dwyll
Ariannol, gan fod iddo werth
sylweddol; a gallai fod yn hanfodol
ar gyfer rhoi rhagor o sicrwydd
Gwrth-dwyll. |
|
Cofrestr Risgiau Corfforaethol PDF 5 MB Cofnodion: Rhoddwyd adroddiadau
rheolaidd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ynghylch Cofrestr Risgiau Corfforaethol y Cyngor i roi gwybodaeth a sicrwydd parhaus bod y risgiau a nodwyd gan uwch
reolwyr yn cael eu rheoli’n
briodol. Roedd hyn yn atgyfnerthu
rôl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o ran rhoi sicrwydd annibynnol
i’r Cyngor bod y Gofrestr Risgiau Corfforaethol yn cael ei
rheoli’n briodol. Cynhaliwyd adolygiad
o statws diweddaraf y risgiau yng nghyfarfod
y Grŵp Arweiniol ar 24.5.23 lle trafodwyd a chytunwyd ar risgiau y gellid
eu huwchgyfeirio / isgyfeirio. Isgyfeiriwyd y canlynol
o risg gorfforaethol i risg ar gyfer
y gwasanaeth: R004: Parhad Busnes
– roedd sgôr y risg wedi gostwng
i 12 gan fod prosesau a strwythurau yn eu lle
a bu’r rhain yn ddibynadwy yn
ystod digwyddiadau sylweddol. Roedd cynlluniau wrth gefn a threfniadau busnes yn eu
lle a oedd yn rhoi sicrwydd
nad oedd angen i’r risg
fod ar y Gofrestr Risgiau Corfforaethol. R015: Cefnogi Busnesau
Bwyd Lleol, Cynnal Diogelwch – roedd sgôr y risg
wedi gostwng i 9 wrth i adnoddau diogelu’r cyhoedd gael eu dargyfeirio
i glirio’r ôl-groniad a bu’r camau lliniaru’n
llwyddiannus. R018: Covid-19 – roedd sgôr y risg wedi
gostwng i 9 gan fod Covid-19 wedi’i isgyfeirio ar lefel
genedlaethol. Uwchgyfeiriwyd y canlynol o risg ar gyfer y gwasanaeth
i risg gorfforaethol: Dim. Roedd sgôr
y risg ar gyfer R009: Rheoli Gwybodaeth a Chydnerthedd Seiberddiogelwch wedi cynyddu i 20. Roedd mesurau lliniaru blaenorol yn annigonol
i atal risgiau rhag cynyddu. Felly rhoddwyd mesurau lliniaru newydd ar waith er mwyn
lleihau’r risg, sef: 1. Datblygu adolygiad
rheolaidd ac Adroddiad Blynyddol yr Uwch
Berchennog Risg Gwybodaeth 2. Ailstrwythuro i ffocysu adnoddau ac arbenigedd yn well 3. Mudo data a chynnwys
i leoliadau mwy addas 4. Gweithredu amgryptiad
segur Ychwanegwyd cam lliniaru newydd i R017: Diogelu – gweithredu’r strwythur Llesiant Gydol Oes diwygiedig
i wella’r gweithgarwch o
ran Sicrhau Ansawdd a Diogelu Strategol a Lles Meddyliol a Chamddefnyddio Sylweddau ym Mhorth Cynnal.
Adolygwyd yr
holl risgiau eraill ac roeddent yn cynnwys statws
RAG diwygiedig ar gyfer y camau lliniaru
ac roedd y sylwadau wedi’u diweddaru. Yn dilyn
cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD ar y canlynol: (i) nodi’r gofrestr
a oedd wedi’i diweddaru; (ii) dylai colofn
gael ei hychwanegu
at bob risg i nodi’r dyddiad y cafodd y risg ei hystyried
gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu priodol; er mwyn i’r Pwyllgor gael
sicrwydd bod y gofrestr wedi cael ei
hystyried drwy’r broses ddemocrataidd; (iii) bod hi’n bwysig
i Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fynd i’r cyfarfodydd
Rheoli Perfformiad a gynhaliwyd bob chwarter er mwyn bod yn ymwybodol
o risgiau’r gwasanaethau; (iv) yn dilyn
y cyfarfod, dylai’r Swyddog
Arweiniol Corfforaethol perthnasol ymateb i’r ymholiadau gan Mrs Caroline Whitby ynghylch Risg 8 a 9; a v) dylai’r Cadeirydd gysylltu â Chadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu. |
|
Cofnodion: Cytunwyd i nodi’r Flaenraglen Waith fel y’i cyflwynwyd yn amodol ar nodi y byddai Mrs Hannah Rees yn dychwelyd i gyflwyno’r adroddiadau yn lle Mr Harry Dimmack. |
|
Unrhyw fater arall y mae’r Cadeirydd yn penderfynu ei fod at sylw brys y Pwyllgor Cofnodion: Diolchodd y Cynghorydd Elizabeth Evans i’r Rheolwr Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd am ei gwaith i ddatrys problemau gyda’r system hybrid gan na fu unrhyw broblemau ar-lein, fodd bynnag, dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd fod problemau wedi codi gyda’r system yn y Siambr sawl gwaith yn ystod y cyfarfod. |