Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Dana Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Dim.

2.

Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu

Cofnodion:

Datgelodd y Cynghorydd Endaf Edwards fuddiant personol yng nghyswllt eitem 6 sef y Datganiad Cyfrifon. Roedd y buddiant yn ymwneud â Phensiynau Llywodraeth Leol.

 

3.

Adroddiad ar Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol 2021-22 – y diweddaraf pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Ystyriwyd y diweddariad am Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol 2021-22. Dywedwyd bod y Cyngor wedi cymeradwyo fersiwn ddrafft o Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol 2021/22 ar 08 Gorffennaf 2022.

 

Cafodd yr Aelodau wybod bod y newidiadau canlynol wedi’u gwneud i Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol 2021-22 yn dilyn argymhellion gan Archwilio Cymru:

 

         Tudalen 7 – roedd y dyddiadau y byddai’r Adain Archwilio Mewnol yn adolygu'r Ddogfen Fframwaith Llywodraethu wedi’u cywiro.

         Tudalen 7 – roedd casgliad yr adolygiad hunanasesu o God Rheoli Ariannol CIPFA wedi’i ychwanegu.

         Tudalennau 13, 29 a 35 – roedd dyddiad cymeradwyo’r Siarter Archwilio Mewnol wedi’i ddiweddaru.

         Tudalen 22 – roedd blwyddyn y Strategaeth a’r Cynllun Archwilio Mewnol, sef 2021/2022, wedi’i chywiro.

         Tudalen 29 – roedd y dyddiadau ychwanegol ar gyfer adrodd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ynghylch Archwilio Mewnol wedi’u darparu.

         Tudalennau 30, 35 a 36 – roedd dyddiad yr adolygiad diweddaraf gan gymheiriaid a wnaed gan Gyngor Sir Ynys Môn ym mis Mai 2022 wedi’i ddiweddaru. 

         Tudalen 36 – roedd y dyddiad ar gyfer adrodd i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ynghylch Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol wedi’i ddiweddaru.

         Tudalen 37 – roedd y sylwadau a'r dyddiadau ar gyfer Adroddiad Cynnydd ac Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol 2021/22 wedi’u diweddaru.

         Tudalen 38 – roedd mân wall teipio wedi’i gywiro. 

 

Yn dilyn cwestiwn o’r llawr, CYTUNWYD i argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo’r fersiwn ddiwygiedig o Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol 2021-2022.

 

CYTUNWYD hefyd y dylai’r adolygiad nesaf o’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ystyried cynnwys llinell ychwanegol yng Nghasgliad y ddogfen, a fyddai’n cadarnhau bod y Datganiad Llywodraethu Blynyddol wedi bod yn offeryn effeithiol i fynd i’r afael â materion llywodraethu yn ystod y flwyddyn flaenorol, a bod y Cyngor yn y sefyllfa y dylai fod. Byddai hyn yn rhoi sicrwydd i Aelodau’r Pwyllgor. 

 

4.

Adroddiad ISA260 pdf eicon PDF 806 KB

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr Jason Blewitt o Archwilio Cymru i’r cyfarfod i gyflwyno’r adroddiad.

 

Cafodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol - Cyllid a Chaffael a’i swyddogion eu llongyfarch am eu gwaith wrth gwblhau’r archwiliad.

 

Tynnodd Mr Blewitt sylw’r Aelodau at y wybodaeth a oedd wedi’i chynnwys yn yr adroddiad.

 

Bu i’r swyddogion ateb cwestiynau ynghylch paragraffau 20-22 yn yr adroddiad gan esbonio’r cynllun a oedd wedi’i lunio i gyflawni’r rhaglen waith eleni.

 

PENDERFYNWYD:-

(i) nodi cynnwys yr adroddiad;

(ii) llongyfarch y gwasanaeth am yr adroddiad rhagorol; a

(iii) threfnu cyfarfod ychwanegol o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ymhen y mis i gael diweddariad am y materion a oedd wedi’u codi yn Adroddiad ISA 260 ynghylch y Gwasanaeth Ystadau ynghyd â chynllun gweithredu’r gwasanaeth a’r hyn y byddai’r gwasanaeth wedi’i wneud erbyn hynny o ran y gwaith prisio a oedd i’w gwblhau erbyn 31 Mawrth 2023. Roedd yr Aelodau yn dymuno derbyn sicrwydd y byddai’r gwaith hwn yn cael ei gwblhau ac na fyddai’n cael ei godi eto yn Adroddiad ISA 260 yn 2022/23.

 

5.

Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a Chaffael yngl?n â Datganiadau Cyfrifon Cyngor Sir Ceredigion ac Awdurdod Harbwr Ceredigion 2021/22. pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

 

Cyflwynodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Cyllid a Chaffael                           Ddatganiadau Cyfrifon Cyngor Sir Ceredigion ac Awdurdod Harbwr Ceredigion ar gyfer 2021/22 gan dynnu sylw at faterion gweithdrefnol a chyflwyniadol.

 

Diolchodd yr Aelodau i’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Cyllid a Chaffael a’r Rheolwr Corfforaethol - Cyllid Craidd a’u staff am eu gwaith caled wrth baratoi’r Datganiad.

 

PENDERFYNWYD argymell i’r Cyngor gymeradwyo Datganiad Cyfrifon Cyngor Sir Ceredigion a Datganiad Cyfrifon Awdurdod Harbwr Ceredigion ar gyfer 2021/22 fel y’u cyflwynwyd gan nodi y byddai’r Cadeirydd yn cyflwyno argymhelliad y Pwyllgor gerbron y Cyngor ddydd Iau nesaf.