Lleoliad: remotely - VC
Cyswllt: Dana Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorydd
Keith Henson ynghyd â Mrs Alex Jenkins, Rheolwr Corfforaethol – Archwilio Mewnol am na fedrent ddod
i’r cyfarfod. |
|
Materion Personol Cofnodion: Dim. |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD i gadarnhau bod Cofnodion Cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2024 yn gywir. Materion yn Codi Dim. |
|
Cofnod o Gamau Gweithredu PDF 89 KB Cofnodion: CYTUNWYD i nodi cynnwys Cofnod o Gamau Gweithredu’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel y’i cyflwynwyd. |
|
Adroddiadau'r Rheoleiddwyr ac Arolygiaeth ac Ymatebion y Cyngor PDF 103 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriwyd Adroddiadau’r Rheoleiddwyr a’r Arolygiaethau ac
Ymatebion Cyngor Sir Ceredigion. Roedd yr Adroddiad yn amlinellu Adroddiadau a
Diweddariadau’r Rheoleiddwyr a’r Arolygiaethau ynghyd ag ymatebion y Cyngor
ynghylch y cynnydd a wnaed o ran y cynigion a’r argymhellion. Roedd yr
adroddiad mewn tair rhan: a) Diweddariad chwarterol Archwilio Cymru i'r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio b) Unrhyw waith lleol ynghylch risg a gyflwynwyd / a
gyhoeddwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio c) Adroddiadau Cenedlaethol Archwilio Cymru Y Sefyllfa bresennol a) Diweddariad
chwarterol Archwilio Cymru i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio • Rhaglen Waith
ac Amserlen Archwilio Cymru – Cyngor Sir Ceredigion – Chwarter 4 b) Unrhyw waith lleol ar risgiau a gyflwynwyd/a gyhoeddwyd
ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio • Archwilio
Cymru – Ardystio Grantiau a Ffurflenni 2022-23 – Cyngor Sir Ceredigion • Archwilio
Cymru – Cyngor Sir Ceredigion– Cynllun Archwilio 2024 • Archwilio
Cymru – Ffurflen Flynyddol Awdurdod Harbwr Ceredigion 23-24 c) Ffurflenni Ymateb y Sefydliad • Archwilio
Cymru – ‘Craciau yn y Sylfeini?’
Diogelwch Adeiladau yng Nghymru ‘Craciau yn y Sylfeini’ – Diogelwch
Adeiladau yng Nghymru | Archwilio Cymru • Ffurflen
Ymateb y Cyngor – ‘Craciau yn y Sylfeini?’ Diogelwch Adeiladau yng Nghymru • Cynllun
Gweithredu Lleol Rheoli Adeiladu Cyngor Sir Ceredigion • Archwilio
Cymru – Adolygiad o’r Strategaeth Ddigidol – Cyngor Sir Ceredigion Cyngor Sir
Ceredigion – Adolygiad o’r Strategaeth Ddigidol | Archwilio Cymru • Ffurflen
Ymateb – Adolygiad o’r Strategaeth Ddigidol • Archwilio
Cymru – ‘Cyfle wedi’i Golli’ – Mentrau Cymdeithasol ‘Cyfle wedi’i golli’ –
Mentrau Cymdeithasol | Archwilio Cymru • Ffurflen
Ymateb y Cyngor – Cyfle wedi’i Golli’ – Mentrau Cymdeithasol • Archwilio
Cymru – Llamu Ymlaen – Rheoli Asedau Strategol Cyngor Sir Ceredigion: Llamu
Ymlaen – Rheoli Asedau Strategol | Archwilio Cymru • Ffurflen
Ymateb y Cyngor – Llamu Ymlaen – Rheoli Asedau Strategol – Cyngor Sir
Ceredigion d) Adroddiadau Cenedlaethol Archwilio Cymru Dim Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i: - (i) nodi adroddiadau a diweddariadau’r Rheoleiddwyr a’r
Arolygiaethau; (ii) nodi ymateb y Cyngor (Ffurflenni Ymateb y Rheolwyr /
Sefydliad) a mewnbwn y Swyddogion ac Archwilio Cymru yn y cyfarfod; a (iii) ychwanegu adroddiadau rheoleiddwyr eraill (gan gynnwys Arolygiaeth Gofal Cymru ac Estyn) fel eitem sefydlog pan gyflwynir adroddiadau yn y dyfodol |
|
Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol 1/1/24 - 31/3/24 PDF 112 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriwyd adroddiad y Rheolwr Corfforaethol – Archwilio
Mewnol am Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol Chwarter 4. Cyflwynwyd yr
adroddiad er mwyn sicrhau bod y Pwyllgor yn fodlon bod yr Adain Archwilio
Mewnol yn ymgymryd â gwaith priodol a digonol i ddarparu sicrwydd realistig ar
ddiwedd y flwyddyn gan ychwanegu gwerth a chynorthwyo’r Cyngor wrth gyflawni ei
amcanion. CYTUNWYD i nodi’r gwaith a wnaed a’r sefyllfa bresennol o ran y Gwasanaeth Archwilio Mewnol.Audit Service |
|
Adroddiad Camau Rheoli Archwilio Mewnol 1/10/23 - 31/3/24 PDF 111 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriwyd yr Adroddiad ynghylch Camau Rheoli Archwilio Mewnol ar gyfer y cyfnod rhwng 1/10/23 a 31/3/25. Cyflwynwyd yr adroddiad er mwyn rhoi diweddariad i’r Aelodau am y gwaith a wnaed gan yr adain archwilio mewnol wrth fonitro a diweddaru’r camau rheoli yn ystod y cyfnod a nodir uchod. Fel y nodwyd yn Fframwaith Arferion Proffesiynol Rhyngwladol Sefydliad yr Archwilwyr Mewnol, mae Safon Perfformiad 2500 yn nodi bod yn rhaid i Archwilio Mewnol sefydlu proses i fonitro a mynd ar drywydd camau rheoli. Y Rheolwr Corfforaethol – Archwilio Mewnol oedd yn gyfrifol am fonitro’r cynnydd a wneir o ran y camau gweithredu hyn ac am gyflwyno adroddiadau gerbron y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Roedd yr adroddiad hwn yn diweddaru’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am y cynnydd a wnaed gan y rheolwyr o ran mynd i’r afael â’r camau rheoli a gyhoeddwyd yng nghynllun gweithredu’r adroddiadau archwilio mewnol
CYTUNWYD i : (i) nodi’r gwaith a wnaed a’r sefyllfa bresennol o ran yr Adain Archwilio Mewnol; a (ii) ailgyflwyno’r diweddariad ar y cofnod o gamau gweithredu i’r pwyllgor i gadarnhau bod y gwasanaethau perthnasol wedi cymryd y camau angenrheidiol |
|
Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol 2023/24 PDF 64 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yng nghyfarfod
y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ym mis Mawrth 2023, ystyriodd yr aelodau
Gynllun Archwilio Mewnol blynyddol 2023/24. Roedd y Cynllun yn rhoi amlinelliad
o’r gwaith yr oedd gofyn
i’r Adain Archwilio Mewnol ei wneud
yn ystod y flwyddyn er mwyn ffurfio barn ynghylch sicrwydd. Roedd y farn
hon yn ffurfio rhan o fframwaith sicrwydd y Cyngor. Roedd Archwilio Mewnol hefyd yn darparu
cyngor annibynnol i wasanaethau er mwyn helpu rheolwyr i wella’u mesurau rheoli mewnol, eu dull o reoli risg, a’u trefniadau
llywodraethu.
Roedd yr
Adroddiad Blynyddol yn darparu crynodeb
o’r gweithgarwch archwilio mewnol yn ystod y flwyddyn
hyd at 31 Mawrth 2024, ac roedd
yn ymgorffori barn yr adain archwilio..
Roedd hefyd
yn cofnodi’r sefyllfa bresennol o ran adnoddau, a chynlluniau’r adain ar gyfer
sicrhau ansawdd, gwelliant a chynnydd. CYTUNWYD: i) i gymeradwyo’r adroddiad ii) y byddai’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor yn monitro’r cynnydd a wneir o ran camau gweithredu hwyr ac os na fyddai unrhyw gynnydd wedi’i wneud, byddai’r mater yn cael ei ystyried eto. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd Adroddiad Blynyddol yr Adain Archwilio Mewnol yn
darparu crynodeb o’r gweithgarwch archwilio mewnol yn ystod y flwyddyn hyd at
31 Mawrth, ac roedd yn ymgorffori barn yr adain archwilio. Yn y gorffennol, roedd yr Adroddiad Blynyddol yn cynnwys
adran ar Dwyll, gan amlinellu’r math o waith yr oedd yr Adain Archwilio Mewnol
wedi’i wneud yn y maes hwn. Bellach, roedd Adroddiad Atal Twyll yn cael ei
gyhoeddi ar wahân gan gefnogi Adroddiad Blynyddol yr Adain Archwilio Mewnol ar
ddiwedd y flwyddyn. CYTUNWYD i gymeradwyo’r adroddiad ar yr amod bod diweddariad yn cael ei roi am nifer y gweithwyr oedd wedi cwblhau’r e-fodiwl hyfforddi gorfodol ynghylch Atal Twyll. Roedd yr Aelodau o’r farn bod canran y gweithwyr a oedd wedi cwblhau’r hyfforddiant (40%) yn isel a bod angen mynd i’r afael â hyn cyn gynted ag y bo modd. e. |
|
Menter Twyll Cenedlaethol (NFI) - Hunan-Asesiad PDF 131 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyhoeddodd Archwilio Cymru adroddiad Archwilydd Cyffredinol
Cymru ‘Y Fenter Twyll Genedlaethol yng Nghymru 2018-20’ ar 13 Hydref 2020: Y Fenter Twyll Genedlaethol yng Nghymru 2018-20 | Archwilio
Cymru Roedd yr adroddiad yn nodi bod ‘llwyddiant y Fenter Twyll
Genedlaethol yn ddibynnol ar natur ragweithiol ac effeithiolrwydd cyrff sy’n
cyfranogi o ran ymchwilio i’r pariadau data. Fe wnaeth y rhan fwyaf o gyrff
cyhoeddus yng Nghymru a gyfranogodd reoli eu rolau yn ymarfer y Fenter Twyll
Genedlaethol yn 2018-20 yn dda. Fodd bynnag, gallai rhai cyrff fod yn llawer
mwy rhagweithiol’. Roedd yr adroddiad yn argymell felly ‘y dylai pwyllgorau
archwilio, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny, a swyddogion sy’n arwain y Fenter
Twyll Genedlaethol adolygu rhestr wirio hunanarfarnu’r Fenter Twyll
Genedlaethol’. Rhannwyd copi o’r hunanarfarniad a gynhaliwyd yn dilyn
ymarfer y Fenter Twyll Genedlaethol ar gyfer 2022/23 er mwyn darparu sicrwydd
i’r Pwyllgor bod Cyngor Sir Ceredigion yn llwyr gefnogi’r ymarfer. Cytunwyd i nodi’r hunanarfarniad yn amodol ar ddarparu diweddariad am y casgliadau i aelodau’r Pwyllgor yn un o gyfarfodydd y dyfodol. |
|
Rôl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o ran y Datganiad Llywodraethu Blynyddol PDF 103 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriwyd rôl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o ran y
Datganiad Llywodraethu Blynyddol. Er nad oes
rheidrwydd ar gynghorau Cymru i baratoi Datganiad Llywodraethu Blynyddol,
gellir defnyddio’r datganiad: • fel arf ar
gyfer gwelliant corfforaethol; • i werthuso
cryfderau a gwendidau yn y fframwaith llywodraethu; ac • el rhan o
gynllun gweithredu blynyddol O dan Adran 5, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru)
2014, roedd yn ofynnol cyhoeddi datganiad blynyddol ar reolaeth fewnol. O dan fodel CIPFA, roedd yn ofynnol i awdurdodau lleol
baratoi datganiad llywodraethu blynyddol er mwyn adrodd yn gyhoeddus ar y
graddau y maent yn cydymffurfio â'u cod llywodraethu eu hunain ac roedd yn
ofynnol iddynt gynnwys y datganiad llywodraethu blynyddol gyda’r datganiad
cyfrifon. Felly, roedd
diben clir i’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol o hyd wrth asesu arferion
llywodraethu da’r Cyngor yn flynyddol. Ystyriwyd bod y broses bresennol yn gweithio'n dda i roi
sicrwydd i'r Pwyllgor a'r Cyngor. CYTUNWYD i: (i) nodi cynnwys yr adroddiad; (ii) argymell bod y Cyngor yn cadw’r Datganiad Llywodraethu
Blynyddol a’i fod yn ei ddefnyddio: i. fel datganiad blynyddol ar reolaeth fewnol, ii. fel arf ar gyfer adolygu ei drefniadau
llywodraethu, iii. fel arf ar gyfer gwelliant corfforaethol ehangach, i
werthuso cryfderau a gwendidau yn y fframwaith llywodraethu ac, fel rhan o
gynllun gweithredu blynyddol, i fwrw ymlaen â’r newidiadau y cytunwyd arnynt yn
unol â hynny. iv. i adrodd yn gyhoeddus ar y graddau y mae’r Cyngor yn cydymffurfio â’i Fframwaith Llywodraethu. |
|
Cofrestr Risgiau Corfforaethol PDF 68 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddir adroddiadau rheolaidd i'r Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio ynghylch Cofrestr Risgiau Corfforaethol y Cyngor i roi gwybodaeth a
sicrwydd parhaus bod y risgiau a nodwyd gan uwch reolwyr yn cael eu rheoli’n
briodol. Mae hyn yn atgyfnerthu rôl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o ran
rhoi sicrwydd annibynnol i’r Cyngor bod y Gofrestr Risgiau Corfforaethol yn
cael ei rheoli’n briodol. Yn ystod chwarter 4, nodwyd risg ychwanegol; R025: Diogelwch
Tân a Mesurau Amddiffyn ar Eiddo’r Cyngor, ar gyfer y posibilrwydd o’i huwch-gyfeirio i’r Gofrestr Risgiau
Corfforaethol. Roedd y risg yn ymwneud â maint a chost y gwaith oedd angen ei
wneud mewn adeiladau o eiddo’r Cyngor i gydymffurfio â’r rheoliadau tân
diweddaraf ac ymagwedd gadarnach gan yr Awdurdod Tân ac Achub. Cafodd y risg ei
hystyried a’i chytuno gan y Grŵp Arweiniol ar 15.5.24 ac roedd wedi’i
hychwanegu bellach at y Gofrestr Risgiau Corfforaethol gyda’r sgôr uchaf o 25 i
adlewyrchu’r sefyllfa bresennol a’r heriau a ragwelir yn y dyfodol. Cynhaliwyd adolygiad o statws diweddaraf y risgiau yn yr un
cyfarfod lle trafodwyd a chytunwyd ar y rhai y gellir eu huwchgyfeirio i'r
Gofrestr Risgiau Corfforaethol a’r rheiny y gellir eu his-gyfeirio o’r
Gofrestr. Isgyfeirio o fod yn risg gorfforaethol i fod yn risg i’r
gwasanaeth Dim Uwchgyfeirio o fod yn risg i’r gwasanaeth i fod yn risg
gorfforaethol Cadarnhaodd cyfarfod
y Grŵp Arweiniol y byddai Risg 025 yn cael ei chynnwys ar y Gofrestr
Risgiau Corfforaethol. Roedd yr holl
risgiau eraill wedi'u hadolygu ac roeddent yn cynnwys y statws RAG diwygiedig o
ran camau lliniaru a sylwadau wedi'u diweddaru. CYTUNWYD (i) i nodi’r Gofrestr Risgiau Corfforaethol a oedd wedi’i
diweddaru; (ii) y byddai Cadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu
yn eu cyfarfodydd nesaf yn ystyried yr eitemau sydd ar y gofrestr ar gyfer eu
cynnwys ar eu Blaenraglenni Gwaith, neu byddent yn eu cyfeirio i’r Pwyllgor
perthnasol fel y gellid craffu arnynt; a (iii) y dylid gofyn am eglurhad am yr hyfforddiant ynghylch seibergadernid a roddir i’r gweithiwyr oherwydd y risg sy’n gysylltiedig â’r maes hwn. |
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 2023-24 PDF 183 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriwyd fersiwn
ddrafft Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer 2023-24. Byddai Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cyflwyno
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor i’r Cyngor a byddai’r adroddiad ar ôl hynny
yn cael ei
gyhoeddi ar wefan y Cyngor. CYTUNWYD i gymeradwyo fersiwn ddrafft Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer 2023/24 fel y’i cyflwynwyd, cyn y byddai’n mynd gerbron y Cyngor. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD i nodi cynnwys y Flaenraglen Waith fel y’i cyflwynwyd
yn amodol ar y canlynol: (i) byddai Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Cyllid a Chaffael yn cysylltu ag Archwilio Cymru i drafod y rhaglen ar gyfer
cyflwyno’r Datganiad Cyfrifon;
(ii) cael eglurhad
a oedd unrhyw
Adroddiadau gan Arolygiaethau yn ddiweddar e.e. Adroddiadau gan Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru nad oeddent wedi’u cyflwyno gerbron y pwyllgor fel y cytunwyd, (iii) byddai adroddiadau
gan arolygiaethau yn cael eu
cynnwys fel eitem sefydlog ar yr agenda a hynny fel rhan
o’r eitem am adroddiadau’r rheoleiddwyr; a (iv) byddai adroddiad
am ISA260 yn cael ei ychwanegu at yr eitem am y datganiad
cyfrifon yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 28 Tachwedd 2024 |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor Cofnodion: Dim. |