Lleoliad: remotely - VC
Cyswllt: Dana Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorydd Elizabeth Evans, Mrs Caroline Whitby a Ms Elin Prysor na fedrent ddod i’r cyfarfod. |
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Dim. |
|
Datgelu buddianau personol / buddiannau sy'n rhagfarnu Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD i gadarnhau bod Cofnodion Cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 29 Ionawr 2025 yn gywir. Materion yn codi Dim. |
|
Cofnod o Gamau Gweithredu 2024-25 Cofnodion: CYTUNWYD i nodi cynnwys Cofnod o Gamau Gweithredu’r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio fel y’i cyflwynwyd, yn amodol ar nodi y byddai
gweithdy am yr Hunanasesiad yn cael ei gynnal ar 14 Ebrill 2025 ac y byddai’r
Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Cyfreithiol a Llywodraethu yn cyflwyno
adroddiad am yr ail eitem ym mis Medi. |
|
Adroddiad Grantiau Archwilio Cymru 2023-24 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD i nodi cynnwys Cofnod o Gamau Gweithredu’r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio fel y’i cyflwynwyd, yn amodol ar nodi y byddai
gweithdy am yr Hunanasesiad yn cael ei gynnal ar 14 Ebrill 2025 ac y byddai’r
Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Cyfreithiol a Llywodraethu yn cyflwyno
adroddiad am yr ail eitem ym mis Medi. |
|
Ffurflenni Adroddiad Rheoli Cyngor Sir Ceredigion Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriwyd Adroddiad Grantiau Archwilio Cymru ar gyfer 2023-24. Cyflwynwyd yr adroddiad fel rhan o Adroddiadau a Diweddariadau’r Rheoleiddwyr a’r Arolygiaethau ynghyd ag ymatebion y Cyngor ynghylch y cynnydd a wnaed o ran y cynigion a’r argymhellion. Ar hyn o bryd, hwn oedd yr unig adroddiad lle’r oedd unrhyw waith lleol ynghylch risg wedi’i gyflwyno / wedi’i gyhoeddi ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Dywedodd Ms Lucy Evans o Archwilio Cymru fod dau o’r tri hawliad grant a ardystiwyd wedi derbyn barn gymwys. Fodd bynnag, nid oedd y materion a godwyd yn sylweddol nac ychwaith yn berthnasol i’r Awdurdodau Lleol eraill. CYTUNWYD i nodi’r sefyllfa bresennol. |
|
Cofnodion: Dywedwyd bod Estyn wedi lansio fframwaith arolygu newydd yn
ystod blwyddyn academaidd 2024/25. Roedd hyn yn cynnwys ymweliadau interim o
rhwng un a dau ddiwrnod i weithio ochr yn ochr ag arolygiadau llawn byrrach o
rhwng tri a phedwar diwrnod. Roedd arolygiadau ysgolion wedi bod yn gadarnhaol
ac roedd Awdurdod Lleol Ceredigion yn un o’r ychydig o awdurdodau lleol yng
Nghymru heb unrhyw gategorïau dilynol yn dilyn arolygiadau. Roedd yr ysgolion a’r sefydliadau nas-gynhelir canlynol wedi
cael eu harolygu yn ystod blwyddyn academaidd 2024/25: • Ysgol Henry
Richard • Ysgol
Penweddig • Cylch
Meithrin Llanfarian • Ysgol Bro
Teifi • Ysgol
Penllwyn a Phenrhyncoch (Interim) • Meithrinfa
Plas Gogerddan • Cylch
Meithrin Cei Newydd • Ysgol Comins
Coch • Ysgol
Aberporth (Interim) CYTUNWYD i nodi’r canlynol:- (i) yr arolygiadau cadarnhaol a gafwyd; a (ii) y gwaith parhaus yr oedd yr ysgolion a’r gwasanaeth
ysgolion yn ei wneud o ran mynd i’r afael â’r argymhellion a amlinellir yn yr
adroddiadau arolygu, er mwyn sicrhau gwelliant parhaus. Cydymdeimlwyd â Mrs Elen James, y Swyddog Arweiniol
Corfforaethol, yn dilyn ei phrofedigaeth ddiweddar. |
|
Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Fframwaith Llywodraethu ei gyflwyno ddiwethaf i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 14 Mawrth 2025. Fe’i cymeradwywyd gan y Cyngor a’i gyhoeddi ar 21 Mawrth 2024. Cynhaliwyd adolygiad o'r Fframwaith Llywodraethu cyfredol ar gyfer 2024-25 gan y tîm Llywodraethu a phenderfynwyd nad oedd angen unrhyw newidiadau gan ei fod yn gyfredol ac yn berthnasol. Roedd y fframwaith yn rhoi arweiniad clir ar ymrwymiad y Cyngor i’r saith egwyddor ar gyfer llywodraethu da, fel yr amlinellir yn y ddogfen Darparu Llywodraethu Da mewn Llywodraeth Leol: Fframwaith' CIPFA/SOLACE (Rhifyn 2016). CYTUNWYD:- (i) i nodi cynnwys yr adroddiad hwn; (ii) y byddai’r Fframwaith yn cael ei adolygu bob tair blynedd yn hytrach na phob blwyddyn. Pwysleisiodd y Cadeirydd pa mor bwysig oedd peidio ag adolygu eitemau’n ddiangen oni bai bod y gyfraith yn mynnu bod hynny’n digwydd. |
|
Datganiad Llywodraethu Blynyddol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd Datganiad Llywodraethu Blynyddol Drafft 2024/25 yn cynnwys Cynllun Gweithredu ar gyfer 24/25 fel yr amlinellwyd yn Rhan 7(Atodiad 1) fel y’i cyflwynwyd: • Paratowyd hyn yn unol â'r fframwaith. Roedd y cynnig fel a ganlyn:- • Monitro’r cynnydd a wnaed o ran y Cynllun Gweithredu yn Natganiad Llywodraethu Blynyddol 2024-25 (Atodiad 1). • Nodi bod y camau hyd yma wedi’u diweddaru. CYTUNWYD i (i) nodi cynnwys yr adroddiad; a (ii) nodi Datganiad Llywodraethu Blynyddol Drafft 2024-25 gan gynnwys y Cynllun Gweithredu – Rhan 7 (Atodiad 1) |
|
Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol Cwarter 3 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriwyd adroddiad y Rheolwr Corfforaethol – Archwilio Mewnol ynghylch Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol Chwarter 3. Cyflwynwyd yr adroddiad er mwyn sicrhau bod y Pwyllgor yn fodlon bod yr Adain Archwilio Mewnol yn ymgymryd â gwaith priodol a digonol i ddarparu sicrwydd realistig ar ddiwedd y flwyddyn gan ychwanegu gwerth a chynorthwyo’r Cyngor wrth gyflawni ei amcanion. Adroddwyd bod pedwar darn o waith wedi’u cwblhau a bod 6 darn o waith yn parhau i fynd rhagddynt. CYTUNWYD i nodi’r gwaith a wnaed a’r sefyllfa bresennol o ran y Gwasanaeth Archwilio Mewnol. |
|
Strategaeth Archwilio Fewnol 2025-2027 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang yn Sector
Cyhoeddus y Deyrnas Unedig yn ei gwneud yn ofynnol i’r Rheolwr Corfforaethol –
Archwilio Mewnol ddatblygu Strategaeth Archwilio Mewnol i gefnogi llwyddiant y
Cyngor. Roedd y Strategaeth wedi'i chynllunio i sicrhau bod
Archwilio Mewnol yn cyd-fynd â disgwyliadau'r Cyngor a'i randdeiliaid trwy
gefnogi gweledigaeth ac Amcanion Llesiant y Cyngor fel y nodir yn Strategaeth
Gorfforaethol y Cyngor. Roedd y Strategaeth Archwilio Mewnol yn nodi pwrpas,
gweledigaeth ac amcanion Archwilio Mewnol ar gyfer gweddill cyfnod y
Strategaeth Gorfforaethol gyfredol (2027). Roedd ein hamcanion yn cynnwys
meysydd a fyddai’n: • Helpu’r Archwilwyr Mewnol i ddatblygu eu cymwyseddau, • Cyflwyno technoleg ar gyfer ei defnyddio ym maes Archwilio
Mewnol, • Cynnwys cyfleoedd i wella Archwilio Mewnol yn ei
gyfanrwydd. CYTUNWYD (i) i gymeradwyo Strategaeth Archwilio Mewnol 2025-27; (ii) i ddatblygu siart llif er mwyn esbonio’r protocol
ynghylch sut y gallai’r Aelodau Etholedig, y Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio, a’r Pwyllgorau Craffu awgrymu meysydd i’w hystyried ar gyfer eu
cynnwys yn y Cynllun Archwilio Mewnol; y Prif Archwilydd Mewnol fyddai’n gwneud
y penderfyniad terfynol ynghylch yr hyn a fyddai’n cael ei gynnwys yn y cynllun
ond byddai’n ofynnol ymgynghori â’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio; (iii) y dylai’r Pwyllgor ystyried y broses a amlinellir yn
(ii) uchod i sicrhau gwell trefniadau ar gyfer cydweithio a darparu cymorth yng
nghyswllt y strategaeth a’r cynllun archwilio; a (iv) y dylai’r eitem gael ei rhoi ar Gynllun Gweithredu’r
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Rhoddwyd llongyfarchiadau i’r Rheolwr Corfforaethol – Archwilio Mewnol am ennill ei chymhwyster proffesiynol. |
|
Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol 2025-2026 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang yn Sector Cyhoeddus y Deyrnas Unedig yn ei gwneud yn ofynnol i'r Rheolwr Corfforaethol - Archwilio Mewnol ddatblygu Cynllun Archwilio Mewnol a fyddai’n cefnogi’r gwaith o gyflawni amcanion y sefydliad. Roedd y cynllun yn cael ei baratoi mewn modd a fyddai’n sicrhau bod sylw digonol yn cael ei roi i’r gwaith o gefnogi'r casgliad blynyddol ar effeithiolrwydd systemau llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fewnol ar draws y Cyngor. Roedd y cynllun yn seiliedig ar asesiad blynyddol o strategaethau, amcanion a risgiau'r Cyngor a oedd wedi'i ddogfennu ac roedd uwch reolwyr yn cyfrannu ato. Roedd y cynllun yn cael ei adolygu a'i ddiwygio'n rheolaidd yn unol â risgiau a byddai’r holl ddiwygiadau yn cael eu rhannu â’r uwch reolwyr a'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. CYTUNWYD i gymeradwyo’r adroddiad. |
|
Mandad Archwilio Mewnol a Siarter – Rownd Derfynol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedwyd bod safon 6.2 o’r Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang yn nodi bod yn rhaid i'r ‘prif swyddog gweithredol Archwilio Mewnol ddatblygu a chynnal siarter archwilio mewnol’. Dogfen ffurfiol yw’r siarter sy’n diffinio mandad y gweithgaredd archwilio mewnol, ei ddiben, ei awdurdod a’i gyfrifoldeb ynghyd â sefydlu rôl archwilio mewnol o fewn y sefydliad a’r perthnasau adrodd. Yn ogystal, mae'r siarter yn cadarnhau cyfrifoldebau'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o ran y swyddogaeth Archwilio Mewnol ynghyd â rôl a chyfrifoldebau’r Rheolwr Corfforaethol - Archwilio Mewnol wrth reoli'r swyddogaeth Archwilio Mewnol, y sgôp a’r mathau o wasanaethau y mae’r swyddogaeth yn eu darparu. Cafodd Siarter Archwilio Mewnol Cyngor Sir Ceredigion ei chymeradwyo’n wreiddiol ym mis Mawrth 2013. Roedd fersiwn ddrafft Siarter Archwilio Mewnol 2025/26 wedi cael ei hadolygu a'i diweddaru gan y Rheolwr Corfforaethol Archwilio Mewnol gan sicrhau ei bod yn gyson â'r Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang newydd, Nodyn Gweithredu Llywodraeth Leol a Chod Ymarfer: Llywodraethu Archwilio Mewnol ‘CIPFA’. Roedd y diweddariadau yn cynnwys: • Y Mandad Archwilio Mewnol; • Newidiadau i'r Mandad a’r Siarter Archwilio Mewnol; a • Diben Archwilio Mewnol; Adolygwyd y siarter drafft yn dilyn cyhoeddi fersiynau terfynol Nodyn Gweithredu Llywodraeth Leol a'r Cod Ymarfer: Llywodraethu Archwilio Mewnol ac roedd y gwelliannau canlynol wedi'u cynnwys yn y fersiwn derfynol fel y gellir eu cymeradwyo: • Cynnwys ‘trydydd partïon’ o ran awdurdod a hawliau mynediad Archwilio Mewnol • Rhoi’r teitl ‘Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang yn Sector Cyhoeddus y Deyrnas Unedig’ i’r safonau perthnasol • Cyfeirio at Archwilio Mewnol fel ‘Archwilio Mewnol’ yn unig yn hytrach na fel swyddogaeth, yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. CYTUNWYD i nodi’r cynnwys a CHYMERADWYO’R siarter a gyflwynwyd. |
|
Adolygiad o'r Fframwaith Llywodraethu Archwilio Mewnol 2024-2025 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd adolygiad wedi’i gynnal yn ddiweddar o’r Fframwaith a
gefnogai Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol 2024/25. Cyflwynwyd y Fframwaith
Llywodraethu a’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol gerbron y Pwyllgor ym mis
Ionawr 2025. Bu Aelodau’r Pwyllgor hefyd yn rhan o’r adolygiad. Roedd Archwilio Cymru wedi rhoi barn archwilio am y
Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn seiliedig ar y ffaith ei fod yn gyson o ran
eu gwybodaeth nhw ohono a’i fod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth. Roedd
adolygiad yr adain archwilio mewnol yn cynnwys asesiad o’r gweithdrefnau a oedd
ar waith i baratoi’r fframwaith llywodraethu a’r fethodoleg sgorio a
ddefnyddiwyd ynghyd ag ystyriaeth o’r ‘dystiolaeth’ a nodwyd yn y fframwaith. Roedd yr adolygiad hwn felly yn ategu gwaith Swyddfa
Archwilio Cymru ar y Datganiad Llywodraethu Blynyddol, ac roedd yn rhoi
sicrwydd bod y weithdrefn yn gadarn, yn benodol ac yn effeithiol. CYTUNWYD i nodi’r adolygiad a wnaed o’r Fframwaith Llywodraethu. of the Governance Framework: |
|
Cofrestr Risg Gorfforaethol Cwarter 3 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedwyd bod adroddiadau rheolaidd yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ynghylch Cofrestr Risgiau Corfforaethol y Cyngor i roi gwybodaeth a sicrwydd parhaus bod y risgiau a nodwyd gan uwch reolwyr yn cael eu rheoli’n briodol. Roedd hyn yn atgyfnerthu rôl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o ran rhoi sicrwydd annibynnol i’r Cyngor bod y Gofrestr Risgiau Corfforaethol yn cael ei rheoli’n briodol. Cynhaliwyd adolygiad o statws diweddaraf y risgiau yng nghyfarfod y grŵp arweiniol ar 05 Mawrth 2025 lle trafodwyd a chytunwyd ar y risgiau y gellir eu huwchgyfeirio i'r Gofrestr Risgiau Corfforaethol a’r risgiau y gellir eu hisgyfeirio o’r Gofrestr. Hefyd, yn y cyfarfod hwnnw, cytunwyd ar y Gofrestr Risgiau Corfforaethol ddiweddaraf. Isgyfeirio o fod yn risg gorfforaethol i fod yn risg i’r gwasanaeth R021: Lefelau Ffosffadau Uwchgyfeirio o fod yn risg i’r gwasanaeth i fod yn risg gorfforaethol Dim Newidiadau i sgoriau’r risgiau corfforaethol O ganlyniad i gamau lliniaru llwyddiannus, roedd sgôr risg R021: Lefelau Ffosffadau wedi gostwng i 12, a oedd yn golygu y gellid ystyried isgyfeirio’r risg. Yng nghyfarfod y Grŵp Arweiniol ar 05 Mawrth 2025, cytunwyd y dylai’r risg gael ei hisgyfeirio o fod yn risg gorfforaethol i fod yn risg i’r gwasanaeth. Roedd yr holl risgiau eraill wedi'u hadolygu ac roeddent yn cynnwys y statws RAG diwygiedig o ran camau lliniaru a sylwadau wedi'u diweddaru. Roedd pob un o sgoriau’r risgiau eraill wedi aros yr un fath, ar wahân i: R025: Mesuriadau Diogelwch Tân ac Amddiffyn yn Eiddo'r Cyngor – a oedd wedi gostwng o 20 i 16. Dywedwyd bod y dyddiadau y byddai’r Pwyllgorau Craffu yn adolygu’r risgiau wedi’u cynnwys yn y crynodeb. CYTUNWYD (i) i nodi’r Gofrestr Risgiau Corfforaethol a oedd wedi’i diweddaru; (ii) i ystyried yn fanylach, drwy gyfrwng gweithdy, gysyniad goddefgarwch risgiau’r Cyngor a’i gysylltiad â’r gofrestr risgiau gan ganolbwyntio’n benodol ar risgiau ariannol a diogelwch tân; (iii) y byddai (ii) yn cael ei roi ar waith ar ôl derbyn adroddiad Archwilio Cymru ar Reoli Risg, a allai gynnwys argymhellion i helpu’r Pwyllgor gyda’i oddefgarwch risgiau ac i osgoi dyblygu ymdrechion yng nghyswllt y mater hwn; a (iv) i nodi bod Uwch Swyddogion ar hyn o bryd yn ystyried y risg bosibl o ran Ardal Cadwraeth Arbennig Morol Gorllewin Cymru a’i safle ar y Gofrestr Risgiau Corfforaethol. |
|
Hunanasesiad terfynol Cyngor Sir Ceredigion Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rhan 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 drefn perfformiad newydd yn seiliedig ar Hunanasesu ar gyfer Prif Gynghorau. Nod y drefn hon yw meithrin diwylliant o welliant parhaus, lle mae cynghorau yn ymdrechu i wella, waeth pa mor dda y maent eisoes yn perfformio. Mae’r Ddeddf yn disgwyl i gynghorau geisio cyflawni mwy bob amser gan ganolbwyntio ar sicrhau’r canlyniadau gorau i bobl a chymunedau lleol. Roedd 5 dyletswydd benodol i Gynghorau a gyflwynwyd gan y Ddeddf: • Dyletswydd i barhau i adolygu perfformiad • Dyletswydd i ymgynghori ar berfformiad • Dyletswydd i adrodd ar berfformiad • Dyletswydd i drefnu Asesiad o Berfformiad gan Banel • Dyletswydd i ymateb i Asesiad o Berfformiad gan Banel Yn unol â’i ddyletswydd i adrodd ar berfformiad, mae'n ofynnol i'r Cyngor gyhoeddi Adroddiad Hunanasesu ar gyfer pob blwyddyn ariannol gan nodi'r casgliadau ynghylch a oedd y Cyngor wedi bodloni'r gofynion perfformiad yn ystod y flwyddyn ariannol honno, ac unrhyw gamau y bydd yn eu cymryd neu y mae eisoes wedi eu cymryd i wneud mwy o gynnydd wrth fodloni'r gofynion perfformiad. Mae pwyslais yr adroddiad ar ddeall sut mae'r Cyngor yn gweithredu ar hyn o bryd, y galw tebygol y bydd yn ei wynebu yn y dyfodol, a sut y gall adeiladu cynaliadwyedd. Y Sefyllfa Bresennol Bu’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ystyried yr Adroddiad Hunanasesu Drafft yn ei gyfarfod ar 15 Hydref 2024. Ni wnaed unrhyw argymhellion ffurfiol i newid y casgliadau na’r camau yr oedd y Cyngor yn bwriadu eu cymryd. Cymeradwywyd yr adroddiad terfynol gan y Cyngor ar 7 Ionawr 2025. Y Camau Nesaf Roedd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn un o bedwar derbynnydd statudol yr Adroddiad Hunanasesu Terfynol. Byddai’r Adroddiad hefyd yn cael ei gyflwyno i Weinidogion, Estyn ac Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn ogystal â chael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor. CYTUNWYD i nodi’r Adroddiad Hunanasesu 2023/24 gan gynnwys yr Adolygiad Blynyddol o Berfformiad a’r Amcanion Llesiant. Diolchwyd i Mr Rob Starr a’i dîm am eu gwaith wrth iddynt baratoi’r adroddiad hwn. |
|
Adolygiad Perfformiad Panel ac Ymateb Drafft Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Rhan 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau
(Cymru) 2021 drefn perfformiad newydd yn seiliedig ar Hunanasesu ar gyfer Prif
Gynghorau. Rhan o'r drefn newydd oedd y ddyletswydd i gynnal Asesiad o
Berfformiad gan Banel unwaith ym mhob cylch etholiad. Bwriad yr Asesiadau o
Berfformiad gan Banel oedd rhoi persbectif annibynnol ac allanol o’r graddau yr
oedd y Cyngor yn bodloni gofynion perfformiad Deddf Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru) 2021, gan ofyn: • a yw’n arfer
ei swyddogaethau'n effeithiol; • a yw’n
defnyddio ei adnoddau yn ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol; • a yw ei
drefniadau llywodraethu yn effeithiol ar gyfer sicrhau’r uchod Y nod yw cefnogi cynghorau i gyflawni eu dyheadau trwy
ddatblygu dealltwriaeth o sut maent yn gweithredu a sut y gallant sicrhau eu
bod yn medru darparu gwasanaethau effeithiol yn yr hirdymor. Cynhaliwyd yr Asesiad gan banel o gymheiriaid a oedd wedi’u
hyfforddi, o bob rhan o’r sectorau
cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Yng Ngheredigion, cynhaliwyd yr Asesiad cyntaf
o Berfformiad gan Banel rhwng 30 Medi a 3 Hydref 2024. Roedd fersiwn derfynol Adroddiad yr Asesiad o Berfformiad
gan Banel, a oedd yn cynnwys casgliadau ac argymhellion y panel, bellach wedi
dod i law. Roedd gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio rôl statudol
i’w chwarae ym mhroses yr Asesiad o Berfformiad gan Banel, sef: • Fel un o’r derbynwyr statudol, derbyn yr Asesiad terfynol
o Berfformiad gan Banel. • Adolygu ymateb drafft y Cyngor i’r Asesiad o Berfformiad
gan Banel. • Gwneud unrhyw argymhellion, os oes angen, ynghylch
newidiadau i’r Ymateb i’r Asesiad o Berfformiad gan Banel. Bu’r Asesiad o Berfformiad gan Banel yn llwyddiant i'r
Cyngor ac adlewyrchir hyn ym mhrofiad cadarnhaol y Panel a'r casgliadau y
daethpwyd iddynt yn ei hadroddiad terfynol. Roedd casgliadau cyffredinol y Panel fel a ganlyn: • O ystyried y galw mawr am wasanaethau ar hyn o bryd a'r
pwysau ariannol hynod heriol, mae Cyngor Sir Ceredigion yn awdurdod lleol sy’n
cael ei redeg yn dda. • Mae gan y Cyngor arweinyddiaeth glir ac effeithiol gyda
pherthnasoedd cryf rhwng y weithrediaeth wleidyddol, y swyddogion gweithredol
a'r strwythurau ehangach ac mae’r Cyngor yn cyflawni ei swyddogaethau'n
effeithiol yng ngoleuni'r pwysau ariannol, strategol a gweithredol sylweddol y
mae'r Cyngor yn delio â nhw o ddydd i ddydd. • Mae gan y Cyngor drefniadau llywodraethu ac adrodd
effeithiol ar waith ond mae cyfle i gryfhau ymhellach y berthynas rhwng aelodau
gweithredol y Cyngor a’r aelodau mainc gefn o ran y prosesau gwneud
penderfyniadau a’r blaenoriaethau y bydd angen i’r Cyngor eu cymryd wrth symud
ymlaen. • Mae'r Cyngor wedi sefydlu a datblygu meysydd arloesi gan
gynnwys Canolfannau Lles, TGCh, a gweithio hybrid. • Mae’r cyfleoedd ar gyfer gwella wedi'u nodi. Bydd hyn yn
gwella'r trefniadau sydd ar waith gan gefnogi cyfathrebu effeithiol, rheoli
perthnasoedd a sicrhau cydberchnogaeth o heriau'r presennol a'r dyfodol. Yn ogystal ag asesu i ba raddau y mae’r Cyngor yn bodloni gofynion perfformiad Rhan 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, mae hefyd yn ofynnol i’r Panel nodi ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 18. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD i nodi cynnwys y Flaenraglen Waith fel y’i cyflwynwyd. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor Cofnodion: Dim. |