Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Dana Jones
Rhif | eitem | |
---|---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Dim. |
||
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu Cofnodion:
|
||
Adroddiad ar Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol 2021-22 – y diweddaraf Cofnodion: Ystyriwyd y diweddariad am Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol 2021-22. Dywedwyd bod y Cyngor wedi cymeradwyo fersiwn ddrafft o Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol 2021/22 ar 08 Gorffennaf 2022. Cafodd yr Aelodau wybod bod y newidiadau canlynol wedi’u gwneud i Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol 2021-22 yn dilyn argymhellion gan Archwilio Cymru: • Tudalen 7 – roedd y dyddiadau y byddai’r Adain Archwilio Mewnol yn adolygu'r Ddogfen Fframwaith Llywodraethu wedi’u cywiro. • Tudalen 7 – roedd casgliad yr adolygiad hunanasesu o God Rheoli Ariannol CIPFA wedi’i ychwanegu. • Tudalennau 13, 29 a 35 – roedd dyddiad cymeradwyo’r Siarter Archwilio Mewnol wedi’i ddiweddaru. • Tudalen 22 – roedd blwyddyn y Strategaeth a’r Cynllun Archwilio Mewnol, sef 2021/2022, wedi’i chywiro. • Tudalen 29 – roedd y dyddiadau ychwanegol ar gyfer adrodd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ynghylch Archwilio Mewnol wedi’u darparu. • Tudalennau 30, 35 a 36 – roedd dyddiad yr adolygiad diweddaraf gan gymheiriaid a wnaed gan Gyngor Sir Ynys Môn ym mis Mai 2022 wedi’i ddiweddaru. • Tudalen 36 – roedd y dyddiad ar gyfer adrodd i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ynghylch Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol wedi’i ddiweddaru. • Tudalen 37 – roedd y sylwadau a'r dyddiadau ar gyfer Adroddiad Cynnydd ac Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol 2021/22 wedi’u diweddaru. • Tudalen 38 – roedd mân wall teipio wedi’i gywiro. Yn dilyn cwestiwn o’r llawr, CYTUNWYD i argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo’r fersiwn ddiwygiedig o Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol 2021-2022. CYTUNWYD hefyd y dylai’r adolygiad nesaf o’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ystyried cynnwys llinell ychwanegol yng Nghasgliad y ddogfen, a fyddai’n cadarnhau bod y Datganiad Llywodraethu Blynyddol wedi bod yn offeryn effeithiol i fynd i’r afael â materion llywodraethu yn ystod y flwyddyn flaenorol, a bod y Cyngor yn y sefyllfa y dylai fod. Byddai hyn yn rhoi sicrwydd i Aelodau’r Pwyllgor. |
||
Cofnodion:
|
||
Cofnodion:
|