Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Dana Jones
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorwyr Endaf Edwards, Maldwyn Lewis a
Mark Strong ynghyd â Mr Liam Hull a Mrs Alex Jenkins, Rheolwr Corfforaethol -
Archwilio Mewnol am na fedrent fod yn bresennol yn y cyfarfod. |
|||||||||||||||||||
Datgelu Buddiannau Personol / Buddiannau sy'n Rhagfarnu Cofnodion: Dim. |
|||||||||||||||||||
Materion Personol Cofnodion: Llongyfarchwyd Hannah Rees ar
enedigaeth ei hail fab; roedd y ddau yn gwneud yn dda. |
|||||||||||||||||||
Cofnodion: CYTUNWYD cadarnhau fel cofnod cywir Gofnodion y Cyfarfod
o’r Pwyllgor a gynhaliwyd 06 Mehefin 2022. |
|||||||||||||||||||
Cofnod o Gamau Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cofnodion: Ystyriwyd Cofnod Gweithredu Cyfarfod y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio. CYTUNWYD nodi’r cynnwys fel y’i cyflwynwyd. |
|||||||||||||||||||
Gweithdrefn Cofnodion: CYTUNWYD y byddai eitemau 8 a 9 yn cael eu
hystyried cyn eitemau 7 ac 8 ar yr agenda gan nad oedd y swyddog cyflwyno yn
bresennol. |
|||||||||||||||||||
Adroddiadau a Diweddariadau’r Rheoleiddiwr ar Arolygiaeth Cofnodion: Ystyriwyd yr eitem ynghylch Adroddiadau a Diweddariadau’r
Rheoleiddiwr a’r Arolygiaeth. Mae’r adroddiad yn nodi
Adroddiadau a Diweddariadau’r Rheoleiddiwr a’r
Arolygiaeth ac mae iddo dair rhan a) Diweddariad chwarterol Archwilio Cymru i'r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio; b) Unrhyw waith lleol ynghylch risg a gyflwynwyd/a
gyhoeddwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio c) Adroddiadau Cenedlaethol Archwilio Cymru CYTUNWYD nodi’r sefyllfa bresennol. |
|||||||||||||||||||
Ymateb Cyngor Sir Ceredigion i Adroddiadau'r Rheoleiddiwr a'r Arolygiaeth Cofnodion: Ystyriwyd yr Adroddiad sy’n nodi ymatebion y Cyngor i
Adroddiadau’r Rheoleiddiwr a’r Arolygiaeth a'r
cynnydd a wnaed o ran y cynigion a'r argymhellion. Roedd dwy ran i’r adroddiad hwn: Y Sefyllfa Bresennol a) Gwybodaeth dracio’r Cyngor am gynigion y Rheoleiddiwr/Arolygiaeth ar gyfer gwella a’r argymhellion b) Materion eraill sy’n ymwneud â’r Cyngor CYTUNWYD nodi’r sefyllfa bresennol. |
|||||||||||||||||||
Asesiad Ansawdd Allanol o Archwilio Mewnol Cofnodion: Ystyriwyd yr Adroddiad Asesiad
Ansawdd Allanol. Adroddwyd bod Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus
(PSIAS) wedi dod i rym ar 1 Ebrill 2013, ac roeddent yn cyflwyno gofyniad am
asesiad allanol o bob gwasanaeth archwilio mewnol, y mae’n rhaid ei gynnal o
leiaf un waith bob pum mlynedd gan adolygydd annibynnol, cymwys y tu allan i’r
sefydliad Cynhaliodd tîm adolygu o Gyngor
Sir Ynys Môn, a oedd yn cynnwys y Pennaeth Archwilio a
Risg a’r Prif Archwilydd, adolygiad o hunanasesiad Cyngor Sir Ceredigion
rhwng mis Mai a Gorffennaf 2022. Mae’r
adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau eu hasesiad. CYTUNWYD nodi cynnwys Asesiad
Ansawdd Allanol yr Archwiliad Mewnol Diolchodd y Swyddog Arweiniol
Corfforaethol - Cyfreithiol a Llywodraethu a Swyddog Monitro i’r Pennaeth
Archwilio a Risg a’r Prif Archwilydd am ei chymorth a’i harweiniad i’r Rheolwr
Corfforaethol - Archwilio Mewnol, ac hefyd i’r tîm Archwilio Mewnol am eu
gwaith. |
|||||||||||||||||||
Ymateb RhCAM i Gynllun Gweithredu Gwella Asesu Ansawdd Allanol Cofnodion: Ystyriwyd ymateb y Rheolwr
Corfforaethol, Archwilio Mewnol i Asesiad Ansawdd Allanol Cyngor Sir Ynys Môn.
Adroddwyd bod Nodyn Cais Llywodraeth Leol y PSIAS a CIPFA yn disodli Cod 2006
ar gyfer Archwilio Mewnol, a daeth i rym o fis Ebrill 2013. Rhaid cydymffurfio â'r PSIAS
a'r Nodyn Cais er mwyn sicrhau bod arferion archwilio mewnol priodol wedi’u
gweithredu. Mae'r Nodyn Cais yn cynnwys
rhestr wirio sydd wedi'i datblygu i fodloni'r gofynion a nodir yn PSIAS 1311 a
1312 ar gyfer hunan-asesiadau cyfnodol fel rhan o'r Rhaglen Sicrhau Ansawdd a
Gwella. Mae'n ymgorffori gofynion y
PSIAS yn ogystal â'r Nodyn Cais er mwyn rhoi sylw cynhwysfawr i'r ddwy ddogfen.
Cynhaliodd tîm Archwilio Mewnol
Ynys Môn adolygiad gan gymheiriaid o hunanasesiad Rheolwr Corfforaethol, Archwilio
Mewnol 2021/22 Ceredigion rhwng Mai – Gorffennaf 2022 i ddarparu asesiad
allanol o gydymffurfiaeth y gwasanaeth, yn ôl y gofyn gan PSIAS Cymeradwyodd y Swyddog
Arweiniol Corfforaethol - Cyfreithiol a Llywodraethu a Swyddog Monitro yr
argymhelliad y dylai’r Rheolwr Corfforaethol - Archwilio Mewnol gwblhau’r
cymhwyster Archwilio proffesiynol ac roedd yn hyderus y byddai’n cael ei
gwblhau o fewn 12 mis. Bu oedi hefyd i
gael y cymhwyster hwn oherwydd y pandemig.
CYTUNWYD nodi’r adroddiad ac
ymateb y gwasanaeth i Asesiad Ansawdd Allanol yr Adain Archwilio Mewnol. |
|||||||||||||||||||
Arolygiadau Estyn, tymor yr Haf 2022 Cofnodion: Ystyriwyd yr Adroddiad ar
Arolygiadau Estyn, tymor yr Haf 2022. CYTUNWYD nodi’r wybodaeth a
gyflwynwyd a bod yr adroddiadau’n gadarnhaol iawn. Adroddwyd bod y wasg wedi tynnu
sylw at un argymhelliad yn adroddiad Ysgol Penglais ac nid at yr adroddiad yn
gyffredinol a oedd yn gadarnhaol. |
|||||||||||||||||||
Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol 1/4/22 - 30/6/22 (Cwarter 1) Cofnodion: Ystyriwyd adroddiad y Rheolwr Corfforaethol - Archwilio
Mewnol ar Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol, Chwarter 1. Cyflwynwyd yr adroddiad
i sicrhau bod y Pwyllgor yn fodlon bod yr Adain Archwilio Mewnol yn ymgymryd â
gwaith priodol a digonol er mwyn darparu sicrwydd realistig ar ddiwedd y
flwyddyn gan ychwanegu gwerth a chynorthwyo’r Cyngor wrth gyflawni ei amcanion.
CYTUNWYD nodi’r gwaith yr ymgymerwyd ag ef a’r sefyllfa bresennol o ran yr Adain Archwilio Mewnol. |
|||||||||||||||||||
Hunanasesiad Archwilio Mewnol 2021-22 Cofnodion: Ystyriwyd Hunanasesiad
Archwilio Mewnol 2021-22. Adroddwyd bod Nodyn Cais Llywodraeth Leol y PSIAS a
CIPFA yn disodli Cod 2006 ar gyfer Archwilio Mewnol, a daeth i rym o fis Ebrill
2013. Rhaid cydymffurfio â'r PSIAS a'r Nodyn Cais er mwyn sicrhau bod arferion
archwilio mewnol priodol wedi’u gweithredu.
Roedd y Nodyn Cais yn cynnwys
rhestr wirio sydd wedi'i datblygu i fodloni'r gofynion a nodir yn PSIAS 1311 a
1312 ar gyfer hunan-asesiadau cyfnodol fel rhan o'r Rhaglen Sicrhau Ansawdd a
Gwella (QAIP). Mae'n ymgorffori gofynion y PSIAS yn ogystal â'r Nodyn Cais er
mwyn rhoi sylw cynhwysfawr i'r ddwy ddogfen. CYTUNWYD nodi cynnwys yr hunanasesiad. |
|||||||||||||||||||
Cofnodion: Ystyriwyd Adroddiad Diweddaru
am Gynnydd y Datganiad Llywodraethu Blynyddol. Cyflwynwyd yr adroddiad er mwyn rhoi
diweddariad ar y cynnydd gyda Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2021-2022 yn
ogystal â diweddariad ar y cynnydd gyda Datganiad Llywodraethu Blynyddol
2022-2023. CYTUNWYD nodi’r sefyllfa
bresennol. |
|||||||||||||||||||
Adroddiad Blynyddol am Sylwadau o Ganmoliaeth, Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth (2021-2022) Cofnodion: Consideration
was given to the Annual Report of Compliments, Complaints and Ystyriwyd Adroddiad Diweddaru am Gynnydd y Datganiad Llywodraethu
Blynyddol. Cyflwynwyd yr adroddiad er mwyn rhoi diweddariad ar y cynnydd gyda
Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2021-2022 yn ogystal â diweddariad ar y cynnydd
gyda Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2022-2023. CYTUNWYD nodi’r sefyllfa
bresennol. |
|||||||||||||||||||
Cofrestr Risgiau Corfforaethol Cofnodion: Adroddwyd bod adroddiadau
rheolaidd yn cael eu darparu i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ynghylch
Cofrestr Risgiau Corfforaethol y Cyngor i roi gwybodaeth barhaus a sicrwydd bod
risgiau a ddynodir gan uwch reolwyr yn cael eu rheoli’n briodol. Mae hyn yn
atgyfnerthu rôl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o roi sicrwydd annibynnol
i’r Cyngor ynghylch rheoli’r Gofrestr Risgiau Corfforaethol yn briodol. Mae'r holl risgiau wedi'u
hadolygu ac yn cynnwys sylwebaeth wedi'i diweddaru. Mae’r sgoriau yn parhau heb newid ar gyfer
pob risg. Fodd bynnag, gwnaed newidiadau i gamau lliniaru nifer o risgiau er
mwyn adlewyrchu’r ymateb sy’n newid. Roedd y rhain yn cynnwys: R003: Perfformiad Corfforaethol
a Gwella R006: Rhaglen Gydol Oed a Lles R009: Rheoli Gwybodaeth a Chydnerthedd Seiberddiogelwch R015: Cefnogi Busnesau Bwyd
Lleol, Cynnal Diogelwch R017: Diogelu R019: Newid yn yr Hinsawdd ac
Erydu Arfordirol/Llifogydd R020: Gwywiad Coed Ynn R021: Ffosffad CYTUNWYD: (i) nodi’r sefyllfa bresennol; (ii)
(ii) y byddai’r Swyddog
Arweiniol Corfforaethol - Polisi a Pherfformiad yn cyfleu barn yr Aelodau
i’r Grŵp Arweiniol y dylid ystyried cynnwys Recriwtio a Chadw ar y
gofrestr risgiau gan nad oedd nifer o wasanaethau yn medru recriwtio; dywedodd
yr Arweinydd y byddai’n cyfleu’r farn hon hefyd i Lywodraeth Leol; (iii)
y dylid rhoi ystyriaeth bellach i lwyth gwaith y tîm Diogelwch Bwyd oherwydd y
nifer o arolygiadau heb eu gwneud gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau
Iachach; a (vi)
y byddid yn gofyn am eglurhad pellach ynghylch sut yr oedd y Cyngor wedi
monitro’r niferoedd mewn perthynas â Gwywiad Coed Ynn; ac adrodd i’r Aelodau yn
unol â hynny yn dilyn y cyfarfod. Cafwyd diweddariad gan y
Swyddog Arweiniol Corfforaethol - Polisi a Pherfformiad ar y rhesymeg o ran
tynnu Brexit o’r Gofrestr Risgiau Corfforaethol.
Cytunwyd y byddai’r sail resymegol mewn perthynas â’r rhesymau dros dynnu
risgiau yn cael ei rhoi i’r Pwyllgor yn y dyfodol. |
|||||||||||||||||||
Adroddiad Hunanasesu Drafft Cyngor Sir Ceredigion 2021/22 Cofnodion: Ystyriwyd Adroddiad Hunanasesu
Drafft Cyngor Sir Ceredigion 2021/22. Adroddwyd bod Rhan 6 o Ddeddf Llywodraeth
Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn cyflwyno trefn berfformiad newydd ar gyfer
Prif Gynghorau yn seiliedig ar Hunanasesu. Mae'r Ddeddf hefyd yn nodi'r
rôl hanfodol y mae'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ei chwarae yn y
Broses Hunanasesu. Mae’r rôl hon yn gofyn i’r Pwyllgor: • Dderbyn Adroddiad Hunanasesu drafft y Cyngor • Adolygu'r Adroddiad Hunanasesu
drafft a gwneud argymhellion ar y casgliadau neu'r camau y mae'r Cyngor yn
bwriadu eu cymryd • Derbyn yr adroddiad
Hunanasesu terfynol pan gaiff ei gyhoeddi, gan gynnwys sylwebaeth ar pam y
derbyniodd neu na dderbyniodd yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio Adroddwyd bod yr Adroddiad
Hunanasesu Drafft yn awr wedi’i gynhyrchu fel y’i cyflwynwyd. Datblygwyd yr Adroddiad drwy
asesu amrywiaeth eang o dystiolaeth gan gynnwys adroddiadau ac adolygiadau
mewnol, adroddiadau rheoleiddio ac arolygu allanol ac, yn hollbwysig,
gweithgareddau ymgysylltu ac ymgynghori. Mabwysiadodd y Cyngor gyfres o
gwestiynau allweddol neu “Linellau Ymholi Allweddol” er mwyn sicrhau bod y
broses yn canolbwyntio ar ganlyniadau, y safbwynt sefydliad cyfan o berfformiad
a'i bod yn seiliedig ar dystiolaeth.
Cynhaliwyd gweithdai yn ystod Mehefin a Gorffennaf gydag Aelodau a
Swyddogion y Cyngor i nodi perfformiad cyfredol, y cyfleoedd sy'n bodoli ar
gyfer gwella a'r camau penodol y bwriadwn eu cymryd. Er mai'r Adroddiad Hunanasesu
oedd yr allbwn allweddol o'r broses, roedd y gwaith ar wella canlyniadau yn
weithgaredd parhaus ar hyd y flwyddyn. Cynhaliwyd ymgynghoriadau i gefnogi
hunanasesiad drwy gydol y flwyddyn, casglwyd tystiolaeth i lywio'r gweithdai,
cyflawnwyd camau gweithredu yn y cynllun gweithredu Hunanasesu a chafodd eu
cynnydd ei fonitro tuag at ei gwblhau. Roedd yn bwysig nodi bod yr
Adroddiad yn cyflawni gofynion y ddwy ddeddf yma: • Deddf Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru) 2021 – y ddyletswydd i adrodd ar berfformiad • Deddf Llesiant Cenedlaethau'r
Dyfodol (Cymru) 2015 – gosod ac adolygu cynnydd yn erbyn ein Hamcanion Llesiant
Corfforaethol
Yn dilyn cwestiynau o’r llawr,
CYTUNWYD cymeradwyo Adroddiad Hunanasesu Drafft Cyngor Sir Ceredigion 2021/22
fel y’i cyflwynwyd. |
|||||||||||||||||||
Cofnodion: CYTUNWYD nodi cynnwys y Flaenraglen Waith fel y’i cyflwynwyd yn amodol ar: (i) wahodd pob Aelod i gyfarfod
17 Tachwedd gan y byddai’r Pwyllgor yn ystyried y Datganiad Ariannol Blynyddol
yn fanwl, a byddai hyn yn arbennig o ddefnyddiol i Aelodau newydd y Cyngor; a (ii)
bod yr Adroddiad ar ddefnydd y Cyngor o Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000
(RIPA) i gael ei gyflwyno yng nghyfarfod 19 Ionawr. |