Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda
Cyswllt: Dana Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd
Mr Jason Blewitt, Rheolwr Archwilio, Archwilio Cymru
am na fedrai ddod i’r cyfarfod. |
|
Materion Personol Cofnodion: Dim. |
|
Datgelu buddiannau personol / buddiannau sy’n rhagfarnu Cofnodion: Dim. |
|
Adroddiadau a Diweddariadau'r Rheoleiddiwr a'r Arolygiaeth Cofnodion: Ystyriwyd Adroddiadau a Diweddariadau’r Rheoleiddiwr a’r Arolygiaeth. Cyflwynwyd yr adroddiad er
mwyn i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y
cynnydd a wnaed o safbwynt yr astudiaethau yr oedd staff Archwilio Cymru wedi eu
cynnal a’r rhai yr oeddent yn eu cynnal ar hyn o bryd. Rhoddwyd diweddariad ynghylch yr adroddiadau
canlynol:- a) Diweddariad chwarterol Archwilio Cymru i’r Pwyllgor Llywodraethu
ac Archwilio o
Amserlen Rhaglen Waith Chwarter
2 2021-2022 – Ceredigion b) Unrhyw waith ar
berygl lleol a ryddhawyd/a gyhoeddwyd ers cyfarfod diwethaf
y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ·
Tystysgrif – Archwiliad o Asesiad Cyngor Sir
Ceredigion o berfformiad 2020-21 ·
Briff Prosiect– Sicrwydd ac Asesiad Risg, Cyngor Sir
Ceredigion c) Adroddiadau Cenedlaethol Archwilio Cymru o
Briff prosiect cenedlaethol – asesiadau o'r effaith
ar gydraddoldeb a'u defnydd wrth
wneud penderfyniadau o
Briff prosiect cenedlaethol – Llamu Ymlaen - (2021-2022) (gan gynnwys Hysbysiad Preifatrwydd yr Archwilydd Cyffredinol) o
Adfywio Canol Trefi yng
Nghymru o
Llythyr oddi wrth Archwilio
Cymru – Adolygiad Archwilydd Cyffredinol Cymru o Adfywio Canol Trefi o
Yr adroddiad ‘Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus’ Ø
Darlun o Lywodraeth Leol Ø
Darlun o Ofal Cymdeithasol Ø
Darlun o Ofal Iechyd Ø
Darlun o Ysgolion Ø
Darlun o Addysg Uwch ac Addysg Bellach o
Adroddiad Comisiynu Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn o
Adolygiad Sylfaenol ar Ddatgarboneiddio
wrth fynd i’r afael â Newid
yn yr Hinsawdd -
Llythyr oddi wrth Dwrnai
Cyffredinol Cymru / Galwad am Dystiolaeth (Tachwedd 2021) CYTUNWYD i nodi’r adroddiadau a’r diweddariadau er
gwybodaeth gan nodi y byddai Archwilio Cymru yn rhoi diweddariad am dabl y
rhaglenni yn yr wythnosau nesaf. |
|
Ymatebion Cyngor Sir Ceredigion i Adroddiadau Rheoleiddiwr Arolygiaeth Cofnodion: Ystyriwyd Adroddiadau a
Diweddariadau’r Rheoleiddiwr a’r Arolygiaeth.
Cyflwynwyd yr adroddiad er mwyn i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio gael yr
wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o safbwynt yr astudiaethau yr oedd
staff Archwilio Cymru wedi eu cynnal a’r rhai yr oeddent yn eu cynnal ar hyn o
bryd. Rhoddwyd diweddariad
ynghylch yr adroddiadau canlynol:- a) Diweddariad chwarterol Archwilio Cymru i’r
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o Amserlen Rhaglen Waith Chwarter 2 2021-2022 – Ceredigion b) Unrhyw waith ar berygl lleol a ryddhawyd/a
gyhoeddwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ·
Tystysgrif – Archwiliad o Asesiad Cyngor
Sir Ceredigion o berfformiad 2020-21 ·
Briff Prosiect– Sicrwydd ac Asesiad
Risg, Cyngor Sir Ceredigion c) Adroddiadau Cenedlaethol Archwilio Cymru o Briff prosiect cenedlaethol – asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb a'u
defnydd wrth wneud penderfyniadau o Briff prosiect cenedlaethol – Llamu Ymlaen - (2021-2022) (gan gynnwys Hysbysiad Preifatrwydd yr Archwilydd Cyffredinol) o Adfywio Canol Trefi yng Nghymru o Llythyr oddi wrth Archwilio Cymru – Adolygiad Archwilydd Cyffredinol Cymru
o Adfywio Canol Trefi o Yr adroddiad ‘Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus’ Ø Darlun o Lywodraeth Leol Ø Darlun o Ofal Cymdeithasol Ø Darlun o Ofal Iechyd Ø Darlun o Ysgolion Ø Darlun o Addysg Uwch ac Addysg Bellach o Adroddiad Comisiynu Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn o Adolygiad Sylfaenol ar Ddatgarboneiddio wrth fynd i’r afael â Newid yn yr
Hinsawdd -
Llythyr oddi wrth Dwrnai Cyffredinol
Cymru / Galwad am Dystiolaeth (Tachwedd 2021) CYTUNWYD i nodi’r
adroddiadau a’r diweddariadau er gwybodaeth gan nodi y byddai Archwilio Cymru
yn rhoi diweddariad am dabl y rhaglenni yn yr wythnosau nesaf. |
|
Cofnodion: Ystyriwyd yr Adroddiad ynghylch Adroddiad Cynaliadwyedd Ariannol Archwilio Cymru 2020-21 a’r Adroddiad ynghylch Cynaliadwyedd Ariannol Llywodraeth Leol - Effaith Covid-19, Adferiad a Heriau yn y Dyfodol.
Cyflwynwyd yr adroddiad er mwyn
rhoi’r
wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Llywodraethu
ac Archwilio ynghylch y deilliannau yn dilyn Asesiad Archwilio
Cymru o Gynaliadwyedd Ariannol y Cyngor Sir ac adroddiad
Archwilio Cymru am Gynaliadwyedd Ariannol Llywodraeth Leol. CYTUNWYD i (i) nodi cynnwys
dogfen Archwilio Cymru ‘Cyngor Sir Ceredigion - Asesiad
o Gynaliadwyedd Ariannol
2020-21’, (ii)
nodi Ffurflen Ymateb y Cyngor; a (iii) nodi’r Adroddiad Cenedlaethol fel y’i cyflwynwyd |
|
Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol 1/7/21 â 30/09/21 (Cwarter 2) Cofnodion: Ystyriwyd yr Adroddiad ynghylch Adroddiad Cynaliadwyedd Ariannol Archwilio Cymru 2020-21 a’r Adroddiad ynghylch Cynaliadwyedd Ariannol Llywodraeth Leol - Effaith Covid-19, Adferiad a Heriau yn y Dyfodol.
Cyflwynwyd yr adroddiad er mwyn
rhoi’r
wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Llywodraethu
ac Archwilio ynghylch y deilliannau yn dilyn Asesiad Archwilio
Cymru o Gynaliadwyedd Ariannol y Cyngor Sir ac adroddiad
Archwilio Cymru am Gynaliadwyedd Ariannol Llywodraeth Leol. CYTUNWYD i (i) nodi cynnwys
dogfen Archwilio Cymru ‘Cyngor Sir Ceredigion - Asesiad
o Gynaliadwyedd Ariannol
2020-21’, (ii)
nodi Ffurflen Ymateb y Cyngor; a (iii) nodi’r Adroddiad Cenedlaethol fel y’i cyflwynwyd |
|
Siarter Archwilio Mewnol Cofnodion: Ystyriwyd yr
adroddiad ynghylch y Siarter Archwilio Mewnol er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf
i Aelodau’r Pwyllgor am y Siarter Archwilio Mewnol. Tynnwyd sylw at y
ffaith bod y canlynol wedi newid yn y siarter:- ·
Pwynt
4.7 – er mwyn ystyried y trefniadau atal twyll sy’n cefnogi’r ymarfer Menter
Twyll Cenedlaethol (NFI); ·
Pwynt
5.2 – er mwyn darparu sicrwydd nad yw cyflwyno Swyddog Llywodraethu i’r
strwythur yn effeithio ar annibyniaeth a gwrthrychedd y Rheolwr Corfforaethol
Archwilio Mewnol a’r gwasanaeth Archwilio Mewnol; ·
Pwyntiau
6.1 i 6.3 – er mwyn nodi bod y Rheolwr Corfforaethol Archwilio Mewnol newydd
wedi dechrau ar 1/1/2022. Roedd hefyd yn
adlewyrchu’r newid yn enw’r pwyllgor i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r
dyddiad y cafodd Strategaeth y Cyngor ar Atal Twyll, Llygredd a Llwgrwobrwyo
(gan gynnwys Gwrthwyngalchu Arian) (pwynt 4.5) ei
diwygio a’i chymeradwyo ac roedd yn cyfeirio at effaith parhaus y pandemig ar waith Archwilio Mewnol yn 2021/22 (pwyntiau
2.3, 2.7 a 5.1). CYTUNWYD i
gymeradwyo’r adroddiad a’r Siarter Archwilio Mewnol diwygiedig. |
|
Menter Twyll Cenedlaethol (NFI) â Hunan-Asesiad Cofnodion: Ystyriwyd copi o’r
hunanarfarniad, yn dilyn ymarfer y Fenter Twyll
Genedlaethol yn 2021, i ddarparu sicrwydd i’r Pwyllgor bod Cyngor Sir
Ceredigion yn llwyr gefnogi’r ymarfer. CYTUNWYD i nodi’r hunanarfarniad. |
|
Cofnodion: Ystyriwyd Adroddiad ynghylch Datganiad Llywodraethu Blynyddol Drafft 2021/22, Cod Llywodraethu Corfforaethol Lleol (2022/2023) a’r Ddogfen Fframwaith
Llywodraethu. Cyflwynwyd yr
adolygiad diweddaraf o Fframwaith Llywodraethu 2021-2022, Datganiad
Llywodraethu Blynyddol 2021-2022 a Chod Llywodraethu Corfforaethol Lleol
2022-2023. Bu i’r Pwyllgor argymell i’r Cyngor gymeradwyo’r canlynol: i) Datganiad Llywodraethu Blynyddol drafft 2021-22 a ii) Chod Llywodraethu Corfforaethol Lleol 2022-2023 Cytunwyd hefyd y byddai’n werth ystyried rhoi esboniad ar ddechrau’r
Datganiad Llywodraethu Blynyddol ynglŷn â’r bandiau a ddefnyddiwyd wrth
ddarparu sgoriau yn unol â chanllawiau CIPFA. Byddai hyn yn hwyluso pethau i’r
cyhoedd a fyddai'n darllen y ddogfen. Hefyd, dywedwyd y dylai ‘cof
corfforaethol’ gael ei sefydlu er mwyn cael cysondeb. Byddai hyn yn sicrhau bod
cysylltiad rhwng yr argymhellion a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiadau a
pholisïau, hunanasesiadau a fframweithiau’r Cyngor. Byddai angen cynnwys hyn yn
y Datganiad Llywodraethu Blynyddol er mwyn sicrhau gwaith olrhain a monitro. Dywedwyd y byddai sylw yn cael ei roi i hyn yn y Cofnod o Gamau Gweithredu
Cyfarfodydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Hefyd, gofynnodd y Cadeirydd a
fyddai modd i’r Swyddog
Arweiniol Corfforaethol - Polisi, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd gael ei
wahodd i’r cyfarfod nesaf i roi diweddariad am brosesau’r Cyngor o ran
ymgysylltu â’r cyhoedd gan fod pryderon wedi’u codi bod y wybodaeth sy’n cael
ei chasglu fel rhan o’r ymarferion hyn yn
annigonol. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn nodi cynnwys Fframwaith Datblygu Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer Cynghorwyr
yng Nghymru (Ebrill 2021) a’r Fframwaith o Ddisgrifiadau Rôl a Manylebau Person
ar gyfer Aelodau (Mehefin 2021). |
|
Cofnodion: Ystyriwyd
yr Adroddiad Blynyddol am Sylwadau o Ganmoliaeth, Cwynion a cheisiadau Rhyddid
Gwybodaeth. Roedd yr adroddiad wedi’i gyflwyno er mwyn rhoi trosolwg cynhwysfawr i'r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio o'r Sylwadau o Ganmoliaeth, Cwynion a cheisiadau
Rhyddid Gwybodaeth (gan gynnwys Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol) a gafodd yr
Awdurdod yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol. Roedd yr adroddiad hwn hefyd
yn rhoi gwybodaeth am y cwynion a gyfeiriwyd at Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru yn ystod 2020/2021. CYTUNWYD i nodi cynnwys yr
Adroddiad Blynyddol am Sylwadau o Ganmoliaeth, Cwynion a cheisiadau Rhyddid
Gwybodaeth – 2020/2021 a Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon ar gyfer 2020-2021. CYTUNWYD hefyd, o’r flwyddyn nesaf ymlaen, y byddai’r adroddiad yn cael ei
gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn gyntaf cyn iddo fynd gerbron
y fforymau eraill. Ar hyn o bryd, y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio oedd y
fforwm olaf i ystyried yr adroddiad hwn. Dywedodd y Swyddog Arweiniol
Corfforaethol – Cyfreithiol a Llywodraethu a’r Swyddog Monitro ei bod yn
ofynnol i’r Pwyllgor hwn ystyried yr adroddiad oherwydd ei swyddogaethau newydd
o ran cwynion, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021,
Paragraff 115, 4 (da/db). |
|
Cyfarfod Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Camau Gweithredu Cofnodion: Ystyriwyd yr Adroddiad ynghylch y Cofnod o Gamau Gweithredu Cyfarfodydd y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a oedd wedi’i gyflwyno er mwyn i’r Pwyllgor
gael sicrwydd bod trefniadau
effeithiol ar waith i reoli gweithdrefnau’r Awdurdod o ran materion ariannol,
rheoli risgiau, rheolaeth fewnol a threfniadau llywodraethu corfforaethol. CYTUNWYD:- 1) bod yr Aelodau yn croesawu gweld y Cofnod o Gamau Gweithredu Cyfarfodydd
y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar yr agenda; ac 2) y byddai’r Cofnod o Gamau Gweithredu Cyfarfodydd y Pwyllgor Llywodraethu
ac Archwilio yn cael ei gynnwys fel eitem agenda reolaidd ar Flaenraglen Waith y Pwyllgor. Awgrymwyd hefyd y dylai teitl pob colofn gael ei roi ar bob un o
dudalennau’r tabl er mwyn lleihau’r angen i’r defnyddiwr sgrolio drwy’r ddogfen
gyfan. Hefyd, dylid ystyried cyflwyno cofnod o’r math hwn ym mhob un o’r
Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu. |
|
Cofrestr Risgiau Corfforaethol Cofnodion: Dywedwyd bod yr holl
risgiau wedi'u hadolygu a’u bod yn cynnwys sylwebaeth wedi'i diweddaru. Gofynnwyd i’r
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio nodi’r newidiadau canlynol i'r Gofrestr ers y diweddariad diwethaf: ·
R003
Gwella a Pherfformiad – mae sgôr y risg wedi gostwng o 12 i 6 i adlewyrchu'r
sefyllfa ddiweddaraf a’r ffaith bod cyfarfodydd chwarterol y Bwrdd Perfformiad
a Chynllunio Busnes wedi ailddechrau yn dilyn cyfnod yn ystod 2020/21 pan na
chynhaliwyd y cyfarfodydd am fod angen ymateb i bandemig
Covid. ·
R004
Parhad Busnes – mae sgôr y risg wedi cynyddu o 10 i 15 i adlewyrchu'r risg o
ran ymosodiadau meddalwedd wystlo (ransomware) ar
rwydwaith y cyngor a'r effaith y byddai hyn yn ei chael ar y gallu i barhau â
gwaith y cyngor a darparu gwasanaethau hanfodol. ·
R016 Brexit – mae sgôr y risg wedi cynyddu o 12 i 16 i nodi'r
pryderon diweddaraf ynghylch cyflenwi llafur a nwyddau, ac yn benodol prinder
gyrwyr Cerbydau Nwyddau Trwm. ·
R021
Ffosffadau – Mae ffosffadau yn risg newydd y chwarter hwn. Mae'n ofynnol i
Gyngor Sir Ceredigion ystyried cyngor Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy'n
argymell cyfyngiadau cynllunio oherwydd lefelau uchel o ffosffadau yn afon
Teifi. Bydd hyn yn effeithio'n sylweddol ar y sir a bydd yn atal adeiladau rhag
cael eu datblygu ar draws 44.6% o Geredigion, gan effeithio ar dwf economaidd y
sir. Nid oedd sgoriau
risg y risgiau sy’n weddill wedi newid ers yr adroddiad diwethaf, ond roedd y
camau lliniaru wedi’u hadolygu a’r sylwebaeth wedi’i diweddaru. CYTUNWYD i nodi’r sefyllfa bresennol a’r ffaith na fyddai Chwarter 3 yn
cael ei gyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor ym mis Mawrth am na ragwelid y byddai
newidiadau mawr yn y risgiau ers cyhoeddi’r adroddiad hwn. Byddai saethau yn cael eu cynnwys ar frig y dudalen wrth ymyl pob risg i
ddangos a oedd y risg yn mynd i fyny neu i lawr er mwyn hwyluso pethau i’r
darllenydd. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD i
nodi cynnwys y Flaenraglen Waith fel y’i cyflwynwyd. Trafodwyd
hefyd y byddai’r Flaenraglen Waith nesaf yn dechrau
cynnwys eitemau ar gyfer agendâu cyfarfodydd y flwyddyn fwrdeistrefol
nesaf. |
|
Cofnodion: It CYTUNWYD i gadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 25
Tachwedd 2021 yn rhai cywir. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD i
eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod wrth ystyried yr atodiad yn unol â pharagraff 18
o ran 4 o atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan
Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)(Amrywio)(Cymru) 2007. Caniatawyd
i’r cyhoedd ddychwelyd i’r cyfarfod a CHYTUNWYD ynghylch y canlynol:- (i) nodi cynnwys, casgliad ac argymhelliad
Adroddiad Archwilio Cymru ar Seibergadernid yn
Atodiad 1; a (ii) nodi bod meddalwedd briodol yn cael
ei phrofi i ganiatáu i iPads gael eu defnyddio mewn
amgylchedd diogel yn y dyfodol. Caniatawyd
i’r cyhoedd ddychwelyd i’r cyfarfod ac ystyriwyd eitem 19 isod:- |
|
Cofnodion: CYTUNWYD i
eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod wrth ystyried yr atodiad yn unol â pharagraff 18
o ran 4 o atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan
Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)(Amrywio)(Cymru) 2007. CYTUNWYD i eithrio’r cyhoedd wrth ystyried yr atodiadau yn unol â
pharagraff 14 o ran 4 o atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i
diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)(Amrywio)(Cymru)
2007. Caniatawyd
i’r cyhoedd ddychwelyd i’r cyfarfod a CHYTUNWYD i wneud y canlynol:- (i) nodi cynnwys a
chasgliadau’r Adroddiad Dilynol (Atodiad 1) a’r Adroddiad Cymharu (Atodiad 2); a (ii) rhoi cyfarwyddyd i’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol
– Cyfreithiol a Llywodraethu fynd ati i ofyn am ymateb oddi wrth y rheoleiddwyr a chyrff perthnasol ynglŷn â’r mater hwn;
gan nodi yn yr ohebiaeth bod angen iddynt ymateb o fewn y bythefnos nesaf. |