Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Iau, 9fed Medi, 2021 9.30 am

Lleoliad: drwy fideo cynhadledda

Cyswllt: Dana Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

.

Roedd y Cynghorydd Matthew Woolfall Jones ynghyd â Mr Jason Blewitt, Eleanor Ansell a Clare James o Archwilio Cymru wedi ymddiheuro am na allent fod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

 

 

2.

Materion Personol

Cofnodion:

Materion Personol:

Croesawodd y Pwyllgor y Cynghorydd Lloyd Edwards yn ôl i’r Cyngor yn dilyn cyfnod o salwch.

 

Estynnwyd cydymdeimlad â theulu’r Cyn-gynghorydd Will Edwards ar ei farwolaeth.

 

 

3.

Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Dim.

4.

Cofrestr Risgiau Corfforaethol pdf eicon PDF 4 MB

Cofnodion:

Adroddwyd bod adroddiadau rheolaidd yn cael eu darparu i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ynghylch Cofrestr Risgiau Corfforaethol y Cyngor i roi gwybodaeth barhaus a sicrwydd bod risgiau yn parhau i gael eu rheoli. Mae hyn yn cynorthwyo’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ei rôl o roi sicrwydd annibynnol i’r Cyngor a’r rheolwyr ynghylch digonolrwydd y fframwaith rheoli risg.

 

Ers mis Mawrth 2020, pan gyrhaeddodd pandemig Covid-19 Gymru, mae ymateb y Cyngor i’r achosion o Covid-19 wedi cael blaenoriaeth. Mae Risg RO18 yn amlinellu manylion y risg a’r camau lliniaru sy’n angenrheidiol i leihau lledaeniad y clefyd yng Ngheredigion.

 

Mae'r holl risgiau wedi'u hadolygu ac yn cynnwys sylwebaeth wedi'i diweddaru.  Gofynnwyd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio nodi’r newidiadau a ganlyn i’r Gofrestr ers y diweddariad diwethaf:

 

           R009 Rheoli Gwybodaeth – fe’i ehangwyd i gynnwys Rheoli Gwybodaeth a Chydnerthedd Seiberddiogelwch i adlewyrchu pwysigrwydd cynyddol seiberddiogelwch ymhlith y staff swyddfa sy’n gweithio gartref.

 

           R018 Covid-19 – mae sgôr y risg wedi lleihau o 25 i 20 i adlewyrchu'r sefyllfa ddiweddaraf o ran y risgiau sy'n gysylltiedig â’r pandemig yn dilyn llwyddiant y rhaglen frechu.   Mae'r Cyngor yn parhau i ymwneud ag amrywiaeth o grwpiau yn fewnol ac yn allanol ynghylch y trefniadau ymateb ac adfer. 

 

Nid yw sgoriau risg y risgiau sy’n weddill wedi newid ers yr adroddwyd arnynt ddiwethaf, ond mae’r camau lliniaru wedi’u hadolygu a’r sylwebaeth wedi’i diweddaru. 

 

CYTUNWYD nodi’r adroddiad yn amodol ar y canlynol:

(i) yr angen i fynd i’r afael â’r risg sy’n gysylltiedig â phrinder gyrwyr cerbydau HGV a’i effaith ar wasanaethau yn lleol ac yn genedlaethol.  Dywedodd y Rheolwr Perfformiad ac Ymchwil bod y mater hwn wedi’i amlygu ac y byddai’n cael ei gynnwys yn yr adolygiad nesaf o’r gofrestr.  Nodwyd hefyd y byddai’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus yn ystyried prinder gyrwyr yn y gwasanaeth casglu sbwriel a’i effaith ar y gwasanaeth yn ddiweddar. 

(ii) yr angen i fynd i’r afael unwaith eto â’r risg uchel sy’n gysylltiedig ag archwiliadau diogelwch bwyd; byddai hyn yn cael ei gyfleu i’r swyddogion perthnasol;

(iii) yr angen i ystyried y risg sy’n gysylltiedig â gwywiad coed ynn yn enwedig yn sgil y posibilrwydd o dywydd garw yn ystod y gaeaf.  Byddai hyn hefyd yn cael ei gyfleu i’r swyddogion perthnasol a gallai gael ei ymgorffori yn y rhaglen waith i fynd i’r afael â gwywiad coed ynn ar lwybrau troed a ffyrdd y Cyngor;

(iv) yr angen i ymgysylltu â’r cyhoedd mewn perthynas â Newid Hinsawdd ac Erydu/Gorlifo Arfordirol yn sgil y posibilrwydd o dywydd garw dros y gaeaf.  Roedd hwn yn angenrheidiol er mwyn mynd i’r afael â phryderon trigolion ynghylch y risgiau hyn a byddai’r sylwadau hyn hefyd yn cael eu cyfleu i’r swyddogion perthnasol;

(v) nodi bod y gofrestr risg yn offeryn/matrics rheoli ardderchog a oedd yn dyst o’r gwaith a wnaed rhwng y pwyllgor a’r swyddogion i fynd i’r afael â’r meysydd risg. 

 

 

 

 

5.

Diweddariad am Raglen Waith Archwilio Cymru pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Diweddariad am Raglen Waith Archwilio Cymru

Darperir adroddiadau rheolaidd i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar astudiaethau cyfredol Archwilio Cymru a'r cynnydd a wneir mewn ymateb i gynigion neu argymhellion blaenorol.

 

Mae dwy elfen i'r adroddiad:

1) rhoi gwybod am y cynnydd hyd yma ar adroddiadau blaenorol Archwilio Cymru, ac

2) adrodd ar y gwaith cyfredol gydag Archwilio Cymru.

 

1)    Y diweddaraf am y cynnydd

 

·         Adroddiadau lleol a dderbyniwyd:

·         Adroddiadau cenedlaethol a dderbyniwyd:

-       Tlodi yng Nghymru

-       Meithrin Cydnerthedd Cymdeithasol a Hunanddibyniaeth Dinasyddion a Chymunedau

-       Mentrau Cymdeithasol

·         Tystysgrifau a dderbyniwyd: dim

·         Diweddariad ar Ffurflenni Ymateb y Rheolwyr:

o   Taenlen Excel o Ymatebion Ffurflenni Ymateb y Rheolwyr  

o   'Gwella ein Perfformiad' Mynd i'r Afael â Thwyll yng Nghymru (30/7/2020) (ymateb wedi’i ddiweddaru) Mehefin 2021

o   Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol:  Archwiliad o ddylunio a gweithredu Model Gwasanaethau Integredig y Cyngor (ymateb wedi’i ddiweddaru Awst 2021)

·         Y diweddaraf am Brotocol y Cyngor

 

2)    Gwaith Cyfredol

o   Llythyr Archwilio Cymru i Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio – Adroddiadau ac Argymhellion Archwilio Cymru (Rhaglen Waith ac Amserlen Archwilio Cymru - Cyngor Sir Ceredigion)

o   Briff Prosiect Springing Forward (2021-2022)

 

CYTUNWYD nodi’r adroddiadau a gyflwynwyd yn amodol ar:

(i) drafodaeth bellach gyda’r Cadeirydd, Is-gadeirydd a Swyddogion yn dilyn y cyfarfod ar gynnwys a maint agenda cyfarfodydd y Pwyllgor; ac

(ii) ystyried yr awgrym y gellid trefnu cyfarfod yn flynyddol i ystyried materion llywodraethu yn unig.  Roedd hyn er mwyn mynd i’r afael â’r newid yn y cyfrifoldebau fel a adlewyrchir yn enw’r Pwyllgor - Pwyllgor Archwilio i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

 

 

6.

Gwirio Sicrwydd 2021 - Arolygiaeth Gofal Cymru pdf eicon PDF 422 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Porth Cynnal/Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol lythyr oddi wrth Arolygiaeth Gofal Cymru ar yr ail o Orffennaf, 2021. Darparwyd adroddiad manwl ar gynnwys y llythyr.

 

CYTUNWYD nodi cynnwys y llythyr a dderbyniwyd ac i longyfarch y gwasanaeth ar adroddiad rhagorol.

 

7.

Llythyr Estyn, tymor yr Haf 2021 pdf eicon PDF 260 KB

Cofnodion:

7                 Adroddwyd bod Estyn, ym mis Tachwedd 2020, wedi cynnal ymweliad rhithiol gyda swyddogion y Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant yn arfarnu ein gwaith wrth gefnogi ysgolion yn ystod pandemig Covid.  Wedi hynny, amlinellodd Estyn ei ganfyddiadau mewn llythyr a gyflwynwyd i’r pwyllgor hwn, i’r Cabinet ac i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu.    Lluniodd Estyn hefyd adroddiad cenedlaethol cyfansawdd ag iddo argymhellion penodol.

 

Ym mis Mai 2021 cynhaliodd Estyn ail ymweliad gyda phob Awdurdod Lleol i ffocysu ar ein gwaith yn ymateb i’r argymhellion yn yr adroddiad cenedlaethol.   Anfonodd Estyn lythyr yn amlinellu ein gwaith yn y meysydd hynny at y Prif Weithredwr ar 16 Gorffennaf 2021.

 

CYTUNWYD nodi’r adroddiad er gwybodaeth. Roedd yr Aelodau am longyfarch y gwasanaeth ar yr adroddiad rhagorol.

 

8.

Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol 1/4/21 – 30/6/21 pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

7              Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Corfforaethol - Archwilio Mewnol ar Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol, Chwarter 1 (1/4/21 – 30/6/21). Cyflwynwyd yr adroddiad i sicrhau bod y Pwyllgor yn fodlon bod yr Adain Archwilio Mewnol yn ymgymryd â gwaith priodol a digonol er mwyn darparu sicrwydd realistig ar ddiwedd y flwyddyn gan ychwanegu gwerth a chynorthwyo’r Cyngor wrth gyflawni ei amcanion.

8               

9              CYTUNWYD nodi’r gwaith yr ymgymerwyd ag ef a’r sefyllfa bresennol o ran yr Adain Archwilio Mewnol.

Roedd yr Aelodau am longyfarch y gwasanaeth ar y gwaith y cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad.

 

9.

Adroddiad Archwilio Mewnol –Ystadau pdf eicon PDF 366 KB

Cofnodion:

7              Adroddiad Archwilio Mewnol –Ystadau

8              Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Corfforaethol - Archwilio Mewnol ar Adroddiad Archwilio Mewnol - Ystadau. Yn dilyn trafodaeth yn y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ym mis Mehefin ynglŷn â'r diffyg cyfathrebu rhwng Archwilio Cymru a Gwasanaeth Ystadau'r Cyngor, cytunwyd:

9               

10           12 (ii) y byddai’r gwasanaeth archwilio mewnol yn gofyn am esboniad ynglŷn â'r broblem gyfathrebu a gododd yn y gwasanaeth ystadau, a arweiniodd at yr oedi wrth ddarparu gwybodaeth i Archwilio Cymru.

11            

12           Adroddodd y Rheolwr Corfforaethol - Archwilio Mewnol ei bod wedi trefnu cyfarfod â'r Rheolwr Corfforaethol - Twf a Menter ar 29/7/21 i drafod y mater hwn.

13            

14           Yn y cyfarfod, cadarnhaodd y Rheolwr Corfforaethol - Twf a Menter fod y gwaith angenrheidiol wedi'i wneud yn ôl yr angen wrth baratoi ar gyfer y cyfrifon penodedig; fodd bynnag, roedd gwiriadau mewnol y gwasanaeth Ystadau ei hun wedi cymryd mwy o amser na'r disgwyl. Roedd hyn, ynghyd â phwysau gwaith eraill, wedi achosi oedi wrth gyfathrebu ag Archwilio Cymru. Wrth edrych yn ôl, mae’r Rheolwr Corfforaethol - Twf a Menter yn cydnabod y dylai Archwilio Cymru fod wedi cael gwybod am hyn ar y pryd ac mae'n cymryd cyfrifoldeb llawn am yr amryfusedd.

15            

16           I sicrhau bod y cyfathrebu’n foddhaol o hyn ymlaen, mae’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol - Economi ac Adfywio a’r Rheolwr Corfforaethol - Twf a Menter yn cyfarfod bob pythefnos â'r Rheolwr Archwilio a'r Arweinydd Archwilio o dîm Archwilio Ariannol lleol Archwilio Cymru. Roedd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol - Economi ac Adfywio yn cytuno bod y trefniant hwn yn gweithio'n dda hyd yma. Nid oes unrhyw anawsterau o bwys wedi codi ers hynny ac mae adroddiad drafft ar y prisiadau presennol wedi'i rannu eisoes â Swyddogion Archwilio Cymru er mwyn cael eu hadborth.

17            

18           Byddai’r fforwm hwn yn parhau i gyfarfod ar y cyd naill ai bob pythefnos neu bob mis, yn dibynnu ar Archwilio Cymru, i sicrhau yr ymdrinnir ar unwaith ag unrhyw faterion sy'n codi ac i osgoi rhagor o oedi wrth gyfathrebu.

19            

20           I gloi, roedd y Rheolwr Archwilio o Archwilio Cymru wedi cadarnhau’r trefniadau uchod drwy e-bost ar 30/7/21 a chadarnhaodd fod y cyfathrebu yn well ar hyn o bryd.

21           Darllenodd y cynrychiolydd o Archwilio Cymru ddatganiad hefyd a baratowyd gan y Rheolwr Archwilio o Archwilio Cymru yn cadarnhau ei fod yn fodlon â’r sefyllfa bresennol.

Roedd yr Aelodau yn falch o dderbyn sicrwydd bod y sefyllfa mewn perthynas â chyfathrebu wedi gwella yn awr, a CHYTUNWYD nodi’r sefyllfa bresennol.

 

22            

 

10.

Mynd i'r afael â materion prisio asedau yn deillio o Adroddiad Archwilio Cymru 2019/20 a sylwadau Archwilio Cymru wedi hynny pdf eicon PDF 188 KB

Cofnodion:

 

7              Adroddiad ar fynd i’r afael a materion yn ymwneud â phrisio asedau sy’n codi o Adroddiad Archwilio Cymru 2019/20 a mewnbwn Archwilio Cymru wedi hynny

8              Yn dilyn adroddiad a thrafodaeth yn y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, 3ydd Mehefin 2021, ar berfformiad yn ymwneud â phrisio asedau’r Cyngor, diweddariad yw hwn ar y camau a gymerwyd ers hynny i sicrhau y cyflawnwyd gwelliannau cynaliadwy hirdymor a thymor byr yn y system werthuso wrth symud ymlaen.

9              Camau a gymerwyd ers Mehefin

10            

11           Gan fod cyfathrebu gwan wedi’i nodi’n fater allweddol, cynhaliwyd cyfarfodydd rheolaidd (bob pythefnos) rhwng y Swyddog Arweiniol Corfforaethol, y Rheolwr Corfforaethol a swyddogion Archwilio Cymru wrth i’r gwaith paratoi gael ei wneud i adolygu’r prisiadau ar gyfer 2020/21 ym mis Medi.

12            

13           Rhannwyd yr adroddiad prisiadau drafft gyda swyddog Archwilio Cymru ac awgrymwyd gwelliannau bach. Roedd yr adroddiad wedi’i ddiwygio a’i gwblhau yn awr. 

Cynhaliwyd cyfarfod rhwng swyddogion Archwilio Cymru a swyddogion y gwasanaeth Ystadau ar 6ed Medi i amlinellu’r broses adolygu. 

14            

15           Bu aelodau staff yr adran Ystadau wrth law yn y pythefnos yn dilyn y 6ed i ymateb i unrhyw gwestiynau a godwyd.

16           Gwelliannau i’r dyfodol

17           Byddai’r gyfres o gyfarfodydd a drefnwyd rhwng y Swyddog Arweiniol Corfforaethol/Rheolwr Corfforaethol ac Archwilio Cymru yn parhau wrth i’r gwaith prisio ar gyfer 2021/22 fynd yn ei flaen fel y gellid dynodi unrhyw broblemau a mynd i’r afael â nhw ar unwaith.

18            

19           Byddai recriwtio i lenwi swyddi yn y gwasanaeth yn digwydd yn y 4-6 wythnos i ddod, a byddai hyn hefyd yn cefnogi’r gwelliannau parhaus yn y gwasanaeth.

CYTUNWYD nodi’r sefyllfa gyfredol.  

20            

 

11.

Adroddiad Blynyddol 2020-21 y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf eicon PDF 440 KB

Cofnodion:

7              Adroddiad ar fynd i’r afael a materion yn ymwneud â phrisio asedau sy’n codi o Adroddiad Archwilio Cymru 2019/20 a mewnbwn Archwilio Cymru wedi hynny

8              Yn dilyn adroddiad a thrafodaeth yn y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, 3ydd Mehefin 2021, ar berfformiad yn ymwneud â phrisio asedau’r Cyngor, diweddariad yw hwn ar y camau a gymerwyd ers hynny i sicrhau y cyflawnwyd gwelliannau cynaliadwy hirdymor a thymor byr yn y system werthuso wrth symud ymlaen.

9              Camau a gymerwyd ers Mehefin

10            

11           Gan fod cyfathrebu gwan wedi’i nodi’n fater allweddol, cynhaliwyd cyfarfodydd rheolaidd (bob pythefnos) rhwng y Swyddog Arweiniol Corfforaethol, y Rheolwr Corfforaethol a swyddogion Archwilio Cymru wrth i’r gwaith paratoi gael ei wneud i adolygu’r prisiadau ar gyfer 2020/21 ym mis Medi.

12            

13           Rhannwyd yr adroddiad prisiadau drafft gyda swyddog Archwilio Cymru ac awgrymwyd gwelliannau bach. Roedd yr adroddiad wedi’i ddiwygio a’i gwblhau yn awr. 

Cynhaliwyd cyfarfod rhwng swyddogion Archwilio Cymru a swyddogion y gwasanaeth Ystadau ar 6ed Medi i amlinellu’r broses adolygu. 

14            

15           Bu aelodau staff yr adran Ystadau wrth law yn y pythefnos yn dilyn y 6ed i ymateb i unrhyw gwestiynau a godwyd.

16           Gwelliannau i’r dyfodol

17           Byddai’r gyfres o gyfarfodydd a drefnwyd rhwng y Swyddog Arweiniol Corfforaethol/Rheolwr Corfforaethol ac Archwilio Cymru yn parhau wrth i’r gwaith prisio ar gyfer 2021/22 fynd yn ei flaen fel y gellid dynodi unrhyw broblemau a mynd i’r afael â nhw ar unwaith.

18            

19           Byddai recriwtio i lenwi swyddi yn y gwasanaeth yn digwydd yn y 4-6 wythnos i ddod, a byddai hyn hefyd yn cefnogi’r gwelliannau parhaus yn y gwasanaeth.

CYTUNWYD nodi’r sefyllfa gyfredol.  

20            

 

12.

Adroddiad ynghylch Cynnydd o ran Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2021-2022 a Chynllun Gweithredu’r Flwyddyn Gyfredol pdf eicon PDF 321 KB

Cofnodion:

7              Adroddiad Blynyddol 2020-21 y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

8              Yng nghyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 14eg Medi 2017 cytunwyd y byddai'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol sy'n darparu asesiad ar effeithiolrwydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac i roi sicrwydd bod materion wedi cael sylw a symud ymlaen.

9               

10           Defnyddir Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i:

11           a) Dynnu sylw at y gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ystod y flwyddyn;

12           b) Dangos sut mae'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi gwneud gwahaniaeth;

13           c) Amlinellu'r flaenraglen waith ar gyfer y flwyddyn i ddod; a

14           d) Darparu hunanasesiad a sicrwydd.

15            

16           Rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiad Blynyddol drafft y Pwyllgor ar gyfer 2020/21. Adroddwyd y byddai’n cael ei gyflwyno i'r Cyngor gan Gadeirydd 2020/21 y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac y byddai’n cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor wedi hynny.

17            

18           Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD cymeradwyo Adroddiad Blynyddol drafft y Cadeirydd, 2020-21 cyn ei gyflwyno i'r Cyngor, yn amodol ar gynnwys cyfeiriad bod y Pwyllgor wedi bod yn paratoi yn 2020/21 i fynd i’r afael â chyfrifoldebau newydd y Pwyllgor mewn perthynas â llywodraethu yn ychwanegol at rôl ragweithiol wrth wella’r gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor lle y bo’n briodol.  

19            

 

13.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf eicon PDF 80 KB

Cofnodion:

7              Cyflwynwyd y Flaenraglen Waith i’r Pwyllgor. Cadarnhawyd bod yr Adroddiad Gwariant Cyfalaf wedi’i ddileu o Flaenraglen Waith y Pwyllgor, fel y cytunwyd gan y Cadeirydd ac y byddai Adroddiad Cynaliadwyedd Ariannol Archwilio Cymru hefyd yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Ionawr.

8               

9              CYTUNWYD nodi cynnwys y Flaenraglen Waith fel y’i cyflwynwyd.

 

14.

Cofnodion cyfarfod y pwyllgor a gynhaliwyd ar 3 Mehefin 2021 pdf eicon PDF 386 KB

Cofnodion:

7              CYTUNWYD cadarnhau fel cofnod cywir Gofnodion y Cyfarfod o’r Pwyllgor a gynhaliwyd ar 03 Mehefin 2021.

Materion sy’n codi

Adroddwyd nad oedd y Gwasanaethau i Gwsmeriaid wedi gofyn am ymateb y Swyddog Arweiniol Corfforaethol - Gwasanaethau i Gwsmeriaid ynghylch y £150,000 a wariwyd ar ffonau clyfar. Byddid yn cael gafael ar y wybodaeth hon a’i dosbarthu i’r Aelodau dros e-bost erbyn diwedd Medi; byddid yn adrodd yn ôl arno yn y cyfarfod nesaf yn unol â hynny.

 

15.

Gwasanaeth y Crwner - Ffioedd Trefnwyr Angladdau - Nid yw'r atodiadau ar eitem 16 ar gael i'w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o ran 4 o atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)(Amrywio)(Cymru) 2007. Os bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, yn unol â'r Ddeddf ac ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, caiff y cyhoedd eu heithrio o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno, yn unol ag Adran 100B(2) o'r Ddeddf. pdf eicon PDF 153 KB

Cofnodion:

7              GWAHARDD Y CYHOEDD A’R WASG

8              Gwasanaeth y Crwner - Ffioedd Cyfarwyddwyr Angladdau - ni chyhoeddir yr atodiadau sy’n gysylltiedig ag eitem 15 gan fod gwybodaeth esempt ynddynt fel y’i diffinnir ym mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth)(Amrywio)(Cymru) 2007.  Os, yn dilyn cymhwyso Prawf Lles y Cyhoedd, y bydd y Cyngor yn penderfynu ystyried yr eitem hon yn breifat, gwaherddir y cyhoedd a’r wasg rhag dod i’r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o’r fath, yn unol ag Adran 100B(2) y Ddeddf.  

I BENDERFYNU ARNO

CYTUNWYD gwahardd y Cyhoedd a’r Wasg

Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i’r adroddiad a’r atodiadau a ddarparwyd a CHYTUNWYD y byddai adroddiad pellach ar y wybodaeth y gofynnwyd amdani yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

 

9               

 

16.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor

Cofnodion:

7              Adroddodd y Cadeirydd ei bod hi a nifer o swyddogion wedi bod yn bresennol mewn cyfarfod o’r Rhwydwaith i Gadeiryddion Pwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio ddydd Llun, 6ed Medi 2021 a’i fod yn gyfarfod buddiol iawn. Dywedodd ei fod yn gadarnhaol bod nifer o Gynghorau hefyd wedi dangos eu bod yn bwriadu cael 9 Aelod ar eu Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio er bod rhai wedi dweud bod ganddynt hyd at 19 Aelod ar eu pwyllgor ar hyn o bryd.  Fodd bynnag, roedd nifer wedi adrodd y byddent yn lleihau eu haelodaeth o fis Mai 2022 oherwydd y ddeddfwriaeth newydd.   Roedd hefyd yn dda gallu nodi bod Ceredigion ar y blaen i eraill yn y broses o recriwtio aelodau lleyg.