Agenda a Chofnodion

Lleoliad: yn rhithrol

Cyswllt: Dana Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Peter Davies MBE, Matthew Woolfall Jones a Ray Quant MBE am na fedrent ddod i’r cyfarfod.

 

2.

Materion Personol

Cofnodion:

Dim.

3.

Datgelu Buddiannau Personol / Buddiannau sy'n Rhagfarnu

Cofnodion:

Dim.

4.

Polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw Diwygiedig ar gyfer 2021/22 pdf eicon PDF 385 KB

Cofnodion:

O dan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygiad) 2008, roedd yn ofynnol i Awdurdodau Lleol neilltuo darpariaeth refeniw ‘ddarbodus’ ar gyfer ad-dalu dyled (Isafswm Darpariaeth Refeniw) lle yr oeddent wedi defnyddio trefniadau benthyca neu gredyd i ariannu gwariant cyfalaf. Roedd Isafswm Darpariaeth Refeniw ar gyfer trefniant Benthyca a Gefnogwyd y Cyngor yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio’r Gofyniad Ariannu Cyfalaf yn sylfaen iddo. Mesur o angen sylfaenol y Cyngor i fenthyca at ddibenion cyfalaf oedd y Gofyniad Ariannu Cyfalaf.

 

Cynhaliwyd adolygiad o’r Polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2015 a arweiniodd at y Cyngor yn diwygio Polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw 2015/16. Roedd elfen fwyaf yr Isafswm Darpariaeth Refeniw yn ymwneud â dyled hanesyddol/a gefnogwyd y cytunodd y Cyngor ddarparu ar ei chyfer ar sail llinell syth o 2% dros oes amcangyfrifedig yr asedau, a oedd yn 50 mlynedd.

 

Roedd y swyddogion wedi cynnal adolygiad arall yn ddiweddar i sicrhau bod y Polisi yn parhau i fod yn ddarbodus. Amlinellwyd manylion y materion a ystyriwyd yn ystod yr adolygiad a chafodd y newidiadau canlynol eu cynnwys  yn y Datganiad Polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw Diwygiedig arfaethedig ar gyfer 2021/22 a fyddai’n cael ei ystyried gan y Cyngor ar 17 Mehefin 2021.

 

              i.        Benthyciadau Hanesyddol/a Gefnogwyd - mabwysiadu Opsiwn 3 (dull oes ased), canllawiau 2018 Llywodraeth Cymru a chymhwyso’r Dull Blwydd-daliad gyda chyfradd llog o 4.20% (cyfradd fenthyca gyfartalog ar fenthyciadau heb eu talu o 01/04/21) dros gyfnod o 44 mlynedd yn cychwyn 01/04/2021.

            ii.        Benthyciadau a Gefnogwyd Newydd - mabwysiadu Opsiwn 3 (dull oes ased), canllawiau 2018 Llywodraeth Cymru a chymhwyso’r Dull Blwydd-daliad.

           iii.        Trefniadau credyd Mentrau Cyllid Preifat - mabwysiadu Opsiwn 3 (dull oes ased), canllawiau 2018 Llywodraeth Cymru a chymhwyso’r Dull Blwydd-daliad.

           iv.        Benthyciadau Darbodus Hanesyddol/a Gefnogwyd - mabwysiadu Opsiwn 3 (dull oes ased), canllawiau 2018 Llywodraeth Cymru a chymhwyso’r Dull Blwydd-daliad gyda chyfradd llog o 3.68% (cyfradd llog gyfartalog wedi’i phwysoli y benthyciad dan sylw) dros gyfnod o 38 mlynedd yn cychwyn 01/04/2021.

            v.         Benthyciadau Darbodus nas Cefnogwyd Newydd mabwysiadu oes ddefnyddiol gyfartalog amcangyfrifedig yr asedau gan ddefnyddio Opsiwn 3 (dull oes ased), canllawiau 2018 Llywodraeth Cymru a chymhwyso’r Dull Blwydd-daliad.

 

CYTUNWYD i:-

(i) gefnogi’r Polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw Diwygiedig arfaethedig ar gyfer 2021/22 yn amodol ar adolygiadau cyfnodol; ac

(ii) y byddai’r arbedion refeniw yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Cyngor ar 17 Mehefin 2021.

Roedd Archwilio Cymru wedi cytuno i’r newid hwn.

 

 

5.

Adroddiad Monitro'r Rhaglen Gyfalaf Chwarter 3 pdf eicon PDF 812 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd Adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf Chwarter 3 a oedd wedi’i gyflwyno gerbron y Cabinet. Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor fel y gallai’r Pwyllgor fod yn ymwybodol o gynnwys yr adroddiad a chael y cyfle i roi sylwadau.

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i nodi cynnwys yr adroddiad.

 

Hefyd, gofynnwyd i’r Gwasanaethau Cwsmeriaid egluro’r swm o £150,000 a wariwyd ar ffonau clyfar. Byddai’r wybodaeth hon yn cael ei hadrodd yn ôl i’r Pwyllgor yn unol â’r drefn arferol.

 

 

6.

Diweddariad Rhaglen Waith Archwilio Cymru pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

Ystyriwyd yr adroddiad ynghylch y diweddaraf am Raglen Waith Archwilio Cymru. Cyflwynwyd yr adroddiad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y cynnydd yr oedd Archwilio Cymru wedi’i wneud neu yn ei wneud o ran eu hastudiaethau. Roedd hyn yn sicrhau bod y Cyngor yn ymateb yn briodol i ganfyddiadau Archwilio Cymru a’i fod yn cytuno bod y camau wedi’u cwblhau er boddhad y Pwyllgor.

 

Roedd dwy elfen i’r adroddiad:

1) darparu manylion am y cynnydd a wnaed hyd yma ynghylch adroddiadau blaenorol Archwilio Cymru, ac

2) adrodd ynghylch y gwaith yr oedd Archwilio Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd.

·         Cynllun Archwilio Cyngor Sir Ceredigion 2021-2022

·         Adroddiadau lleol a dderbyniwyd:

o   Archwilio Cymru - Ardystio Grantiau a Ffurflenni 2019-20 – Cyngor Sir Ceredigion

Adroddiadau cenedlaethol a dderbyniwyd: dim

 

·         Tystysgrifau a dderbyniwyd: dim

·         Ffurflenni Ymateb Rheolwyr ar y gweill/wedi'u cwblhau:

o   Taenlen Excel o Ymatebion Ffurflenni Ymateb Rheolwyr

o   ''Gwella ein Perfformiad' Mynd i'r Afael â Thwyll yng Nghymru (30/7/2020)

o   Adolygiad o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (7/10/19)

o   Cysgu Allan yng Nghymru – Problem i Bawb; Cyfrifoldeb i Neb (23/7/2020)

o   Y 'Drws Blaen' i Ofal Cymdeithasol i Oedolion (11/9/19)

o   Cynnydd o ran rholi'r Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar waith (21/11/19)

o   Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol: Archwiliad o ddylunio a gweithredu Model Gwasanaethau Integredig y Cyngor – Cyngor Sir Ceredigion (20/12/19)

o   Y Fenter Twyll Genedlaethol yng Nghymru 2018-20 (13/10/20)

o   System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (15/10/20)

o   Effeithiolrwydd Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru (6/6/2019)

o   Masnacheiddio mewn Llywodraeth Leol (6/10/2020)

  • Diweddariad ynghylch Prisio Asedau (ar lafar)
  • Protocolau Archwilio Cymru

 

1)    Gwaith Cyfredol

o   Brîff Prosiect – Gwerth am Arian Taliadau Uniongyrchol

o   Brîff Prosiect – Adolygiad o Gynllunio

o   Prosiect Asesu Cynaliadwyedd Ariannol 2020-2021

 

            Ailadroddodd Archwilio Cymru ei bryderon ynghylch materion yn ymwneud â chyfathrebu ac ailbrisio o fewn y Gwasanaeth Ystadau. Roedd y pryderon hyn wedi’u codi mewn sawl adroddiad ISA 260 yng nghyswllt y Datganiad Cyfrifon. Gofynnwyd am y wybodaeth hon ym mis Ionawr ond ni chafwyd y wybodaeth. Cynhaliwyd cyfarfod rhwng y Prif Weithredwr ac Archwilio Cymru ym mis Mawrth a rhoddwyd sicrwydd i Archwilio Cymru y byddai’r wybodaeth hon ar gael fel y gellid cwblhau’r archwiliad. Cafodd hyn effaith hefyd ar y gwaith o gwblhau Datganiad Cyfrifon 2020/21. Wrth ymateb, dywedodd y Rheolwr Corfforaethol – Twf a Menter fod swyddogion Archwilio Cymru yn gywir o ran yr hyn yr oeddent yn ei ddweud, a bod y gwaith prisio wedi’i wneud ym mis Hydref a mis Tachwedd y llynedd. Fodd bynnag, roeddent ar hyn o bryd yn cwblhau asesiad terfynol o broses fewnol y gwaith prisio hwn. Roedd angen mynd i’r afael â rhai materion. Serch hynny, dywedodd fod ganddo hyder yn ansawdd y gwaith prisio a’r trywydd archwilio. Hefyd, byddai’r swyddogion ar gael ym mis Medi i fynd i’r afael ag unrhyw faterion y byddai Archwilio Cymru yn eu codi, felly byddai modd mynd i’r afael yn hyderus â’r prif bwyntiau yn yr ISA 260.

 

Ailadroddodd yr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

Adroddiad diweddaru am newidiadau sy'n effeithio ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn unol â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 pdf eicon PDF 528 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyfreithiol a Llywodraethu / y Swyddog Monitro am y newidiadau sy’n effeithio ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn unol â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Roedd yr adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor er mwyn rhoi diweddariad am Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ac effaith y Ddeddf ar Bwyllgorau Archwilio.

 

CYTUNWYD i nodi’r canlynol:-

(i) gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 sy’n effeithio ar y Pwyllgor, gan gynnwys y newidiadau arfaethedig i’r Cyfansoddiad.

(ii) y broses sy’n mynd rhagddi i recriwtio aelodau lleyg i’r Pwyllgor; a’r

(iii) gofyniad i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth sefydlu Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

 

8.

Adroddiad ynghylch Cynnydd o ran Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2021-2022 a Chynllun Gweithredu'r Flwyddyn Gyfredol pdf eicon PDF 631 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd yr Adroddiad ynghylch y Cynnydd a wnaed o ran Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2021-2022 a Chynllun Gweithredu'r Flwyddyn Gyfredol. Cyflwynwyd yr adroddiad er mwyn rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ynghylch y cynnydd wnaed o ran Datganiad Llywodraethu Blynyddol                       2021-2022 a Chynllun Gweithredu’r Flwyddyn Gyfredol

 

CYTUNWYD:-

(i) i nodi’r adroddiad ynghylch cynnydd ar sail y camau gweithredu a nodwyd yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol; ac

(ii) y byddai’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn cael adrodd i’r Pwyllgor bob chwarter yn y dyfodol.

 

9.

Adroddiad ynghylch Canllawiau Statudol ar Berfformiad a Llywodraethu Prif Gynghorau pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Ystyriwyd yr adroddiad ynghylch Canllawiau Statudol Llywodraeth Cymru ar Berfformiad a Llywodraethu Prif Gynghorau o dan Ran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ac ynghylch cyhoeddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad.

 

Yn dilyn cwestiwn o’r llawr, CYTUNWYD i nodi cynnwys y Canllawiau Statudol am y modd y dylai’r Cyngor gyflawni ei swyddogaethau o ran perfformiad a llywodraethu dan Ran 6, Pennod 1, o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, gan gynnwys rôl a dyletswyddau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

 

10.

Diweddariad ar Bwer Cymhwysedd Cyffredinol y Cyngor pdf eicon PDF 337 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd diweddariad ynghylch ymateb y Cyngor Sir i  i Gwestiynau Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Rheoliadau Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol (Diben Masnachol) (Amodau) (Cymru) 2021 drafft.

 

Dywedwyd bod y dogfennau ymgynghori wedi cael eu dosbarthu i holl Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol y Cyngor ac i aelodau Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’r Cyngor ar 13 Ebrill 2021, gan roi’r cyfle iddynt gyflwyno sylwadau. Yn ogystal, cynhaliwyd Gweithdy ar gyfer Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’r Cyngor ar 27 Ebrill 2021 i roi cyfle i’r Pwyllgor wneud sylwadau.

 

Rhoddodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Cyfreithiol a Llywodraethu / y Swyddog Monitro wybod i’r Grŵp Arweiniol am yr Ymgynghoriad ar 14 Ebrill 2021.

 

Roedd ymateb y Cyngor i’r Ymgynghoriad yn cael ei baratoi (byddai’r cyfnod Ymgynghori’n dod i ben ar 11 Mehefin 2021) a chafodd ymateb y Cyngor, a fyddai’n cael ei gyflwyno cyn y dyddiad cau ei rannu.

 

Bwriad Llywodraeth Cymru oedd dadansoddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad dros yr haf ac ystyried a oedd angen gwneud unrhyw newidiadau cyn llunio’r rheoliadau drafft yn yr hydref. Yna bwriedir eu bod yn dod i rym ar 1 Tachwedd 2021, i gyd-fynd â chyflwyno’r Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol ar gyfer prif gynghorau.

 

Bwriedir diwygio’r Rheoliadau drafft rhwng Tachwedd 2021 a Mai 2022 er mwyn ymestyn eu defnydd i gynghorau cymuned cymwys. 

 

Yn dilyn cwestiwn o’r llawr, CYTUNWYD i wneud y canlynol:-

(i) nodi’r adroddiad diweddaru ynglŷn â’r Ymgynghoriad ar y Rheoliadau Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol (Diben Masnachol) (Amodau) (Cymru) 2021 drafft ynghylch Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;

(ii) nodi bod y Pwyllgor wedi derbyn ymateb y Cyngor i’r Ymgynghoriad; a

(iii) nodi y rhagwelid y byddai Llywodraeth Cymru yn rhoi canllawiau pellach ynghylch cymhwysedd Cynghorau Tref a Chymuned o ran y Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol maes o law.

 

 

11.

Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol 1/1/21 - 31/3/21 pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Ystyriwyd Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol 2020/21 – Chwarter 4 (1/1/2021-31/3/2021). Cyflwynwyd yr adroddiad i sicrhau bod y Pwyllgor yn fodlon bod yr Adain Archwilio Mewnol yn ymgymryd â gwaith priodol a digonol i ddarparu sicrwydd realistig ar ddiwedd y flwyddyn gan ychwanegu gwerth a chynorthwyo’r Cyngor wrth gyflawni ei amcanion.

 

CYTUNWYD i nodi’r gwaith a wnaed a’r sefyllfa bresennol o ran yr Adain Archwilio Mewnol.

 

12.

Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol 2020/21 pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Ystyriwyd Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol 2020/21. Roedd yr Adroddiad Blynyddol yn darparu crynodeb o’r gweithgarwch archwilio mewnol yn ystod y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2021, ac roedd yn ymgorffori barn yr adain archwilio.

Roedd hefyd yn cofnodi’r sefyllfa bresennol o ran adnoddau, a chynlluniau sicrhau ansawdd, gwelliant a chynnydd yr Adain.

 

CYTUNWYD ynghylch y canlynol:-

(i) cymeradwyo’r adroddiad;

(ii) bod y gwasanaeth archwilio mewnol yn gofyn am eglurhad ynghylch y broblem gyfathrebu a gododd o fewn y gwasanaeth ystadau, a oedd wedi arwain at yr oedi o ran darparu gwybodaeth i Archwilio Cymru; a

(iii) bod yr adroddiadau cynnydd mewnol chwarterol yn parhau am y flwyddyn sydd i ddod, ynghyd â’r adroddiad blynyddol, er mwyn gweld beth yn union yw gwaith y gwasanaeth pan fydd yn gweithredu i’w gapasiti llawn.

13.

Adroddiad Archwilio Mewnol - Atal Twyll 2020/21 pdf eicon PDF 917 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd Adroddiad Atal Twyll yr Adain Archwilio Mewnol ar gyfer 2020/21. Dywedwyd bod yr adroddiad yn cyd-fynd â’r Adroddiad Blynyddol a’i fod yn amlinellu’r gwaith ym maes atal twyll oedd yr Adain Archwilio Mewnol wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn.

 

CYTUNWYD i gymeradwyo’r adroddiad.

 

Roedd yr Aelodau o’r farn y dylai pob gwasanaeth fabwysiadu’r arddull a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad hwn wrth gyflwyno adroddiadau i’r pwyllgorau am ei fod yn glir ac yn gryno i’r darllenydd. Byddai’r neges hon yn cael ei chyfleu i’r Grŵp Arweiniol.

 

 

14.

Adroddiad Archwilio Mewnol – Rheoli Risg pdf eicon PDF 646 KB

Cofnodion:

Dywedwyd bod yr Adain Archwilio Mewnol wedi adolygu Fframwaith Rheoli Risgiau’r Cyngor yn ddiweddar a bod y gweithdrefnau corfforaethol ategol ar waith yn ystod blwyddyn ariannol 2020/21.

 

Dim ond rhai mân gamau gweithredu a nodwyd ac roedd un o’r rheiny eisoes ar droed. Roedd hyn felly yn caniatáu i’r Adain Archwilio Mewnol gynnig sicrwydd sylweddol bod yna system gadarn ar waith o ran prosesau risg, rheolaethau a llywodraethu.

 

CYTUNWYD i nodi’r cynnwys.

 

 

15.

Adroddiad Archwilio Mewnol - Adolygiad Fframwaith Llywodraethu 2020/21 pdf eicon PDF 577 KB

Cofnodion:

Cynhaliwyd adolygiad yn ddiweddar o’r Fframwaith sy’n cefnogi Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2020/21.

 

Cyflwynwyd y Fframwaith Llywodraethu, y Datganiad Llywodraethu Blynyddol a’r Cod Llywodraethu Corfforaethol Leol i’r Pwyllgor ym mis Chwefror 2021. Roedd Aelodau’r Pwyllgor hefyd yn rhan o’r adolygiad. 

 

Roedd Archwilio Cymru yn rhoi barn archwilio am y Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn seiliedig ar y ffaith ei fod yn gyson o ran eu gwybodaeth nhw ohono a’i fod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth.

 

Roedd adolygiad yr adain archwilio mewnol yn cynnwys asesiad o’r gweithdrefnau sydd ar waith i baratoi’r fframwaith llywodraethu a’r fethodoleg sgorio a ddefnyddiwyd ynghyd ag ystyriaeth o’r ‘dystiolaeth’ a nodwyd yn y fframwaith. 

 

Roedd yr adolygiad hwn felly yn ategu gwaith Swyddfa Archwilio Cymru ar y Datganiad Llywodraethu Blynyddol, ac roedd yn rhoi sicrwydd bod y weithdrefn yn gadarn, yn benodol ac yn effeithiol.

 

CYTUNWYD i nodi’r cynnwys.

 

16.

Strategaeth ar Atal Twyll, Llygredd a Llwgrwobrwyo (i gynnwys Gwrthwyngalchu Arian) pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Dywedwyd bod gan Gyngor Sir Ceredigion ddyletswydd i’r cyhoedd i ddiogelu arian y dylid ei ddefnyddio er budd y cyhoedd. I gynorthwyo cyrff i gyflawni hyn wrth ystyried eu risgiau i dwyll, roedd CIPFA wedi creu Cod Ymarfer ar Reoli’r Risg o Dwyll a Llygredd. Roedd y Cod yn datgan bod angen strategaeth atal twyll ar sefydliad sy’n nodi ei ddull o reoli risgiau ac yn diffinio cyfrifoldebau o ran gweithredu. 

 

Roedd y ddogfen hon yn cyflawni’r diben hwn, ac roedd yn berthnasol i bob gweithiwr, Aelod Etholedig ac Aelod Annibynnol o’r Cyngor.

 

CYTUNWYD i gefnogi’r Strategaeth a’i chyflwyno i’r Cabinet a’r Cyngor i’w chymeradwyo’n derfynol.

 

17.

Cofrestr Risgiau Corfforaethol pdf eicon PDF 1014 KB

Cofnodion:

Dywedwyd bod adroddiadau rheolaidd yn cael eu rhoi i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ynghylch Cofrestr Risgiau Corfforaethol y Cyngor i roi gwybodaeth barhaus a sicrwydd bod risgiau'n parhau i gael eu rheoli. Roedd hyn yn cynorthwyo'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ei rôl o ddarparu sicrwydd annibynnol i'r Cyngor a rheoli digonolrwydd y fframwaith rheoli risgiau.

 

Er mis Mawrth 2020 pan ddaeth pandemig Covid-19 i Gymru, mae ymateb y Cyngor i’r achosion o Covid-19 wedi cael blaenoriaeth. Mae Risg R018 yn amlinellu manylion y risg a'r camau lliniaru sy'n angenrheidiol i leihau lledaeniad y clefyd yng Ngheredigion.

 

Mae'r holl risgiau wedi'u hadolygu ac yn cynnwys sylwebaeth wedi'i diweddaru. Gofynnir i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio nodi'r newidiadau canlynol i'r Gofrestr ers y diweddariad diwethaf:

 

·         R003 Gwella a Pherfformiad Corfforaethol – mae sgôr y risg wedi cynyddu’n gyffredinol yn bennaf yn dilyn cyflwyno Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn Ebrill 2021. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno trefn berfformiad newydd ar gyfer prif gynghorau yn seiliedig ar hunanasesu, ac yn ei gwneud hi’n ofynnol i ddatblygu proses newydd yn ystod 2021/22 i gefnogi cyflwyno’r drefn newydd. Felly mae’r sgôr wedi cynyddu o 9 i 12 ar y gofrestr.

 

·         R016 Brexit – mae sgôr y risg wedi lleihau i adlewyrchu'r sefyllfa ddiweddaraf o ran y risgiau sy'n gysylltiedig â gadael yr UE, ac yn arbennig bod gadael yr UE gyda chytundeb wedi lliniaru'r risgiau yn sylweddol. Mae'r Cyngor yn parhau i fonitro effaith Brexit trwy is-grŵp o swyddogion, sy'n adrodd i'r Grŵp Arweiniol.

 

·         Risg 19 - Newid Hinsawdd ac Erydu Arfordirol / Llifogydd. Risg newydd yw hon sy’n cyfuno’r risgiau blaenorol Rheoli Carbon (R012) ac Erydu Arfordirol (R013) i greu un risg gyffredinol ar newid hinsawdd. Mae’r risg newydd hon yn cynnwys goblygiadau ehangach newid hinsawdd, megis mwy o achosion o lifogydd, sychder a stormydd. Mae’r Cyngor yn cydnabod bod angen iddo arwain trwy esiampl a rhoi sylw i’r risgiau hyn. Mae camau lliniaru ar waith gan gynnwys datblygu Strategaeth Newid Hinsawdd Gorfforaethol a chynllun gweithredu yn amlinellu sut y bydd y Cyngor yn cyflawni carbon sero-net erbyn 2030. Yn wyneb yr effeithiau posibl a’r tebygolrwydd, mae’r risg hon wedi cael sgôr o 25 ar y gofrestr.

 

·         Risg 20 – Mae Clefyd Coed Ynn yn risg newydd y chwarter hwn gan adlewyrchu’r effaith fawr y gallai Clefyd Coed Ynn ei chael ar draws Ceredigion a Chymru. Amcangyfrifir bod 42,000 o goed ynn aeddfed ar hyd ffyrdd sirol yn unig, a 10,000 pellach ar Ystad Gorfforaethol y Cyngor. Mae Clefyd Coed Ynn eisoes yn gyffredin ac i’w weld ar draws y sir. Mae camau lliniaru wedi cael eu rhoi ar waith gan gynnwys cynhyrchu cynllun gweithredu, sefydlu grŵp llywio, ynghyd â chynnal arolwg o’r meysydd â blaenoriaeth uchel i nodi lleoliadau coed ynn a’u cyflwr.

 

·         Nid oes unrhyw newidiadau i sgoriau risg R004 Parhad Busnes, R005 Cynllun Ariannol Tymor Canolig,, R006 Rhaglen Gydol Oed a Llesiant, R009 Rheoli Gwybodaeth – Diogelwch, R015 Cefnogi Busnesau Bwyd Lleol, R017 Diogelu ac R018 Covid-19 ers  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 17.

18.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 78 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi cynnwys y Flaenraglen Waith fel y’i cyflwynwyd.

 

19.

Cadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 24 Chwefror 2021 pdf eicon PDF 436 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i gadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 24 Chwefror 2021 yn rhai cywir.

 

Materion yn codi

Cofnod 4 – Gofynnodd y Cadeirydd am farn yr Aelodau ynglŷn â nifer yr eitemau ar yr agenda. Cytunwyd y byddai’r swyddogion yn ystyried strwythur yr agenda yn dilyn y cyfarfod. Hefyd, byddai modd ystyried adroddiadau Archwilio Cymru yn fwy manwl mewn cyfarfod â Swyddogion Archwilio Cymru cyn cyflwyno’r adroddiadau i’r Pwyllgor

20.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor