Lleoliad: remotely - VC
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Dim. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Dim. |
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Gareth Lewis i’w gyfarfod cyntaf o’r
Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu. Nododd y Cadeirydd hefyd, yn ôl ei ddisgresiwn, ei fod wedi cytuno y
byddai’r cyfarfod yn cael ei gynnal trwy gyfrwng fideo yn unig oherwydd y
tywydd garw ac er diogelwch i bawb. |
|
Y diweddaraf ynghylch Anghenion Dysgu Ychwanegol Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: . Rhoddwyd ystyriaeth i’r Adroddiad ar y diweddariad Anghenion Dysgu Ychwanegol a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet, y Cynghorydd Wyn Thomas. Darparodd yr adroddiad ddiweddariad ynghylch darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol o fewn ysgolion Ceredigion a Chanolfannau Adnoddau Arbenigol (SRCs) Yn dilyn hynny, rhoddodd Mrs Bethan Payne, Rheolwr Corfforaethol, Cynhwysiant ADY a Llesiant gyflwyniad pwynt pŵer i'r Aelodau, gan dynnu sylw at y canlynol :- • Diweddariad staffio • Canolfan athrawon • EBSA • Ymateb i’r galw – adolygu ein darpariaethau • Lleoliad y Canolfannau Adnoddau Arbennig Yn dilyn cwestiynau o'r llawr, CYTUNWYD i nodi'r adroddiad am wybodaeth. |
|
Y Fforwm Ymddygiad a Llesiant Cofnodion: Gwnaeth yr Aelod Cabinet, y Cynghorydd Wyn Thomas,
gyflwyno’r adroddiad ar y diweddariadau mewn perthynas a’r Fforwm Ymddygiad a
Lles. Yna, gwnaeth Ms Samantha Connolly, Rheolwr Corfforaethol, Gwasanaethau
Ymgysylltu a Chyrhaeddiad, gyflwyno pwynt pŵer ar y canlynol :- • Y pwrpas
cyffredinol • Cynllun Tair
Blynedd • Blaenoriaeth
1- Panel PRU/EOTAS newydd • Blaenoriaeth
2 – cryfhau’r cysylltiad rhwng ymddygiad ac ADY • Blaenoriaeth
3 - Paul Dix: Rhieni, ymddygiad a phresenoldeb • Blaenoriaeth
4 - Rhaglen Dysgu Proffesiynol Cyffredinol ar gyfer Ymddygiad a Rheoli Ystafell
Ddosbarth • Blaenoriaeth
5 - Ceisiadau Addysg Grant ar y Cyd • Gwaharddiadau
yn ysgolion uwchradd Ceredigion(nifer y
gwaharddiadau fesul 1,000 o ddisgyblion) Yn dilyn cwestiynau o'r llawr, CYTUNWYD i: (i) nodi’r adroddiad er gwybodaeth; a (ii) bod yr Aelodau'n derbyn sesiwn arddangos/hyfforddiant
ar Ymddygiad a Rheoli Ystafell Ddosbarth (gan ddefnyddio'r Clustffonau) Diolchodd yr Aelodau hefyd i'r Swyddogion am eu gwaith yn y ddau wasanaeth. |
|
Cofnodion Cyfarfod Cyngor Ieuenctid Ceredigion (18.10.24) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD i nodi cynnwys cofnodion Cyngor Ieuenctid
Ceredigion ac i nodi gwaith y Cyngor yn y dyfodol i gynnwys ymweliad yn y
flwyddyn newydd i’r Senedd yng Nghaerdydd i gwrdd ag Elin Jones er mwyn trafod
materion cyfoes cyfredol. Cytunwyd hefyd bod Aelodau’r Pwyllgor yn mynychu cyfarfod
Cyngor Ieuenctid Ceredigion yn y dyfodol i weld eu gwaith. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunwyd i nodi bod y Blaenraglen Waith presennol yn amodol
ar : - (i) Aelodau’n derbyn sesiwn arddangos/hyfforddi ar Ymddygiad
a Rheoli’r Ystafell Ddosbarth (defnyddio clustffonau), (ii) bod Aelodau’r Pwyllgor yn mynychu cyfarfod o Gyngor
Ieuenctid Ceredigion yn y dyfodol i weld eu gwaith, (iii) i wahodd cynrychiolydd o Heddlu Dyfed Powys i fynychu
cyfarfod yn y dyfodol i drafod eu cyfranogiad a’u perthynas gydag ysgolion a
gwasanaethau perthnasol o fewn yr ALl, (vi) bod pob un o'r 3 Ffrwd Waith yn ymweld ag Ysgol Dyffryn
Aeron newydd yn eu cyfarfod nesaf. Gwnaeth y Cynghorydd Euros Davies ofyn am ddiweddariad os
gofynnwyd i’r Swyddog Monitro am gyngor, os yn bosibl, i ymwela â’r pedair
ysgol gynradd sydd ar hyn o bryd yn destun ymgynghoriad; i weld y pryderon a
godwyd yn yr adroddiadau ymgynghori ar gyflwr adeiladau’r ysgol ac ati.
Adroddwyd mai’r cyngor a gafodd ei ddarparu oedd nad oed dyn priodol i’r
Pwyllgor na’r Ffrwd Waith i ymweld â hwy yn ystod y broses ymgynghori. Nododd hefyd ei fod wedi derbyn galwad ffôn wrth riant
gofidus a dig ynghylch yr erthygl ddiweddar yn y Cambrian News. Nododd yr
erthygl bod Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg wedi gwadu bod
pennaeth Cyngor Sir Ceredigion wedi derbyn sêl bendith gan y Llywodraeth wrth
lunio cynigion i gau pedair o Ysgolion Cymraeg gwledig y Sir. Mewn ymateb,
nododd Swyddog Arweiniol Corfforaethol Dysgu Gydol Oes a’r Prif Swyddog Addysg
eu bod wedi derbyn y wybodaeth hon yn ysgrifenedig wrth Uwch Was Sifil bod y
broses gan y Cyngor Sir yn cydymffurfio. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD i gadarnhau fod cofnodion y cyfarfod pwyllgor blaenorol yn
gofnod cywir. Materion sy’n Codi Mynegwyd siom gan y Cynghorydd Euros Davies a Gareth Lloyd nad oedd y
Cabinet wedi ystyried argymhelliad y Pwyllgor fel a ganlyn, gan eu bod wedi
cytuno i fwrw ymlaen â'r argymhelliad heb (i) a (ii) yn cael eu derbyn.
Dywedodd y Cynghorydd Davies hefyd na fu trafodaeth helaeth gan Aelodau Craffu
ar yr argymhellion a gyflwynwyd yn eu cyfarfod. “Cytuno mewn egwyddor i ddechrau'r broses o fabwysiadu Opsiwn 2 ar gyfer
Medi 2026, yn amodol: (i) i'r pwyllgor gael Cylch Gorchwyl drafft ar gyfer y Bwrdd Strategol a'r
Bwrdd Gweithredol; a (ii) Cyflwyno costau Cynnig 2 i gymharu â'r costau darpariaeth ôl-16
presennol ym mhob un o'r chwe ysgol." Mewn ymateb, dywedodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Gwasanaethau
Democrataidd a'r Swyddog Arweiniol Corfforaethol Dysgu Gydol Oes a'r Prif
Swyddog Addysg y bu trafodaeth hir ar yr eitem hon yng nghyfarfod y Cabinet, ac
mai eu disgresiwn nhw oedd ystyried argymhellion y Pwyllgorau Craffu. Hefyd, roedd y wybodaeth y gofynnwyd amdani
yn y cyfarfod diwethaf yn cael ei chasglu ar hyn o bryd, ond roedd yr ALl yn
aros i dderbyn rhagor o wybodaeth am eu dyraniad o Gyllid Ôl 16 gan Medr, corff
newydd Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am gyllid. Roedd y gwaith ar y Cylch
Gorchwyl yn parhau. |