Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy'n Dysgu - Dydd Iau, 30ain Mawrth, 2023 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Dim.

 

Dywedodd y Cadeirydd mai hwn fyddai cyfarfod olaf Mrs Meinir Ebbsworth gan ei bod yn gadael ei swydd fel y Swyddog Arweiniol Corfforaethol dros Ysgolion. Diolchodd yr holl Aelodau a’r Aelod Cabinet iddi am ei gwaith a’i hymroddiad wrth wella addysg yn y Sir ers iddi gael ei phenodi i’r swydd chwe blynedd yn ôl. Diolchwyd yn arbennig iddi am ei gwaith yn ystod y pandemig a dymunwyd yn dda iddi i’r dyfodol. Wrth ymateb, diolchodd Mrs Ebbsworth i’r Cynghorwyr, y staff a’r athrawon am eu gwaith, eu hymroddiad a’u cefnogaeth yn ystod ei chyfnod fel y Swyddog Arweiniol Corfforaethol dros Ysgolion. 

 

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Dim.

3.

Cynllun Gweithredu y Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-32 (CSGA) pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriwyd Cynllun Gweithredu Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-32. Yn unol ag adran 84, Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, roedd disgwyl i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru gyflwyno Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg i Lywodraeth Cymru. Roedd y cynllun a luniwyd yn cydymffurfio â rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru 2019 ac roedd Cabinet Cyngor Ceredigion wedi mabwysiadu Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar 22 Chwefror 2022. Cymeradwywyd y cynllun gan Lywodraeth Cymru ar 20 Gorffennaf 2022. 

 

Roedd y cynllun yn un strategol a oedd yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol er mwyn datblygu a chryfhau’r Gymraeg:

Deilliant 1: Mwy o blant meithrin/ tair oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg

Deilliant 2: Mwy o blant dosbarth derbyn/ pump oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg

            Deilliant 3: Mwy o blant yn parhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cyfnod o'u haddysg statudol i un arall

Deilliant 4: Mwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau Cymraeg 

(fel pwnc) a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg

Deilliant 5: Mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destunau gwahanol yn yr Ysgol

Deilliant 6: Cynnydd yn y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (“ADY”) (yn unol â'r dyletswyddau 

a bennir gan y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018)

Deilliant 7: Cynnydd yn nifer y staff addysgu sy'n gallu addysgu Cymraeg (fel pwnc) a thrwy gyfrwng y Gymraeg 

 

Ar ôl cymeradwyo’r cynllun, o dan adran 85(7), Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, roedd yn rhaid i awdurdodau lleol gymryd pob cam rhesymol i weithredu eu CySGA a pharatoi cynllun gweithredu, a fyddai’n cael ei fonitro yn flynyddol ar ffurf adroddiad adolygu. Roedd y Cynllun Gweithredu yn nodi lle’r oedd yr Awdurdod Lleol arni yn 2022 yn y meysydd dan sylw ac roedd yn egluro beth oedd y nod ymhen 5 mlynedd a sut y byddai modd cyrraedd hynny. Yn ogystal, amlinellwyd y nodau a’r hyn a ddisgwylid ar ddiwedd oes y Cynllun ymhen degawd. Roedd y Cynllun Gweithredu a gyflwynwyd yn rhoi trosolwg o’r gweithdrefnau dros 5 mlynedd, ac roedd y cynllun gweithredol mwy manwl ar gyfer y ddwy flynedd gyntaf yn nodi cyfrifoldebau staff penodol o ran gwireddu’r camau gweithredu angenrheidiol. 

 

Cyflwynwyd fersiwn ddrafft y cynllun gweithredu i’r Llywodraeth ar 23 Rhagfyr 2022. Cafwyd cadarnhad ar 28 Chwefror 2023 fod y camau gweithredu a’r amserlen yn glir ac yn bwrpasol. Roedd y sylwadau a dderbyniwyd wedi eu cynnwys yn y cynllun gweithredu a gyflwynwyd. Roedd Llywodraeth Cymru yn ystyried bod y cynllun gweithredu yn ddogfen fyw a hyblyg y byddai angen ei diwygio ar hyd y ffordd yn ôl anghenion a datblygiadau lleol. Byddai’r cynllun gweithredu yn cael ei fonitro bob tymor gan Fforwm Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg a’r is-bwyllgorau yn ôl yr angen.

 

Un o’r camau a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu oedd dechrau’r broses ymgynghori ar gyfer newid cyfrwng iaith y Cyfnod Sylfaen mewn pum ysgol yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Egwyddorion isadeiledd cynaliadwy ar gyfer addysg pdf eicon PDF 83 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ym mis Tachwedd 2018, diweddarodd Llywodraeth Cymru ei chod statudol o ran trefniadaeth ysgolion a chyflwynodd gymal rhagdybiaeth yn erbyn cau ar gyfer ysgolion gwledig. Roedd y diffiniad ysgol wledig wedi’i bennu gan Lywodraeth Cymru gan ddefnyddio categorïau gwledig a threfol y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ac o ganlyniad, roedd 28 o ysgolion yng Ngheredigion wedi’u diffinio fel ysgolion gwledig.

 

Yn dilyn penderfyniad y Cabinet ar 15 Medi 2021, diddymwyd y Polisi Adolygu Ysgolion a mabwysiadwyd y llawlyfr i gyd-fynd â Chod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru. Cynhaliwyd gweithdy i gyflwyno’r llawlyfr. Gan fod cyfnod y ddogfen Datblygu Addysg wedi dod i ben yn 2020, roedd yn amserol cyflwyno dogfen a oedd yn amlinellu egwyddorion y gwasanaeth i’r dyfodol.

Ar hyn o bryd, roedd y cod statudol yn ei gwneud hi’n ofynnol i Awdurdodau Lleol ddilyn cyfres o weithdrefnau a gofynion manylach wrth lunio cynnig i gau ysgol wledig, ymgynghori ar y cynnig hwnnw, a phenderfynu a ddylid gweithredu’r cynnig i gau ysgol wledig ai peidio.

 

Cyn penderfynu a ddylid mynd ati i gynnal ymgynghoriad, byddai’n rhaid paratoi a chyflwyno papur cynnig i’r Ffrwd Waith Cymunedau sy’n Dysgu. Yn dilyn cyfarfod o Ffrwd Waith y Pwyllgor Craffu, byddai’r papur cynnig yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet fel y gellid ystyried a ddylid:

 

a) Cymeradwyo’r cynnig a mynd ati i gynnal ymgynghoriad statudol

b) Gwrthod y cynnig

c) Cynnig opsiwn amgen

 

Byddai’r papur cynnig wedyn yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau sy’n Dysgu cyn y byddai Ymgynghoriad Statudol yn cael ei gynnal.

 

Byddai unrhyw benderfyniad yn cael ei seilio ar yr Egwyddorion yn Atodiad A ynghyd â gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion (https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-10/cod-trefniadaeth-ysgolion-fersiwn-diwygiedig.pdf).

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i wneud y canlynol:

 

(i) argymell i’r Cabinet gymeradwyo’r Ddogfen Egwyddorion Isadeiledd Cynaliadwy (Atodiad A) ar gyfer addysg; a

(ii) cadarnhau aelodaeth y ffrwd waith trawsbleidiol a fyddai’n trafod unrhyw bapurau cynnig a ddaw gerbron yn unol â’r Llawlyfr Trefniadaeth Ysgolion.

 

 

5.

Diweddariad mewn perthynas ag Addysg Ddewisol yn y Cartref pdf eicon PDF 105 KB

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Ms Catrin Petche, Arweinydd Tîm y Gwasanaeth Cynhwysiant Addysg i’r cyfarfod i roi cyflwyniad PwyntPwer i’r Aelodau am addysg ddewisol yn y cartref. Amlinellwyd y wybodaeth ganlynol:-

           

·       Y cefndir cyfreithiol

·       Nifer y plant sy’n derbyn addysg ddewisol yn y cartref

·       Y darlun yng Ngheredigion

·       Ymweliadau cartref a gwblhawyd yn ystod y 12 mis diwethaf

·       Nifer y disgyblion sydd wedi cael eu haddysgu gartref

·       Nifer y disgyblion sydd wedi dychwelyd i’r ysgol

·       Dyletswyddau

·       Gorchmynion Mynychu'r Ysgol

·       Diogelu

·       Gweithio gyda Rhieni

 

 Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i nodi’r canlynol:

 (i) niferoedd presennol y plant sy’n cael eu haddysgu gartref yng Ngheredigion; a’r

(ii) modd y mae’r Gwasanaeth Ysgolion yn adolygu darpariaeth y plant sy’n cael eu haddysgu gartref.

           

 

6.

Polisi Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mrs Laurie Hughes, yr Athrawes Ymgynghorol Llesiant i’r cyfarfod i ddarparu gwybodaeth am y newidiadau diweddar o ran Addysg Ryw a’r broses o gyflwyno Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn y Cwricwlwm i  Gymru. Roedd hyn yn sicrhau bod gan yr Awdurdod Lleol bolisi Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb addas y gallai’r ysgolion ei fabwysiadu a’i addasu. Byddai’r polisi yn cefnogi’r ysgolion i ymgorffori’r cwricwlwm newydd a byddai’n darparu cymorth, gwybodaeth, cysondeb ac eglurder.

  Yn ystod ei chyflwyniad PwyntPwer, rhoddodd y wybodaeth ganlynol:

 

  • Y Cefndir
  • Beth yw Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb?
  • Y Cynnwys Polisi
  • Y sefyllfa Bresennol
  • Cefnogaeth i Ysgolion

 

  CYTUNWYD i wneud y canlynol:-

 

(i) mabwysiadu cynnwys Polisi Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb Ceredigion; a

(ii) nodi y byddai unrhyw sylwadau a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cynnwys fel newidiadau i’r Polisi Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb

 

7.

Cofnodion Cyfarfod Cyngor Ieuenctid Ceredigion (03.02.23) pdf eicon PDF 116 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

It CYTUNWYD i nodi’r cofnodion fel y’u cyflwynwyd.

8.

Y diweddaraf am Ffrydiau Gwaith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy'n Dysgu pdf eicon PDF 98 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi gwaith y ffrydiau gwaith fel y’i cyflwynwyd.

 

9.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion pdf eicon PDF 87 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i gadarnhau bod cofnodion cyfarfod diwethaf y Pwyllgor yn gywir.

 

10.

I ystyried Blaenraglen Waith Ddrafft 2022/23 pdf eicon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunwyd i nodi’r Flaenraglen Waith ddrafft fel y’i cyflwynwyd yn amodol ar y canlynol:-

(i) y byddai’r adroddiad am addysg ôl-16 yn y Sir a chynllun busnes a memorandwm cyd-ddealltwriaeth Canolbarth Cymru yn cael eu cyflwyno yn y cyfarfod ym mis Mehefin; ac

(ii) y byddai adroddiadau Estyn am arolygon diweddar yn cael eu cyflwyno yn y cyfarfod ym mis Gorffennaf;

 

Roedd yr Aelod Cabinet yn dymuno nodi y byddai disgyblion Blynyddoedd 2 a 3 yn derbyn prydau ysgol am ddim ar ôl y Pasg. Roedd hefyd yn dymuno llongyfarch pawb a fu’n rhan o gyngerdd fawreddog yr ysgolion a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.