Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy'n Dysgu - Dydd Iau, 9fed Chwefror, 2023 1.30 pm

Lleoliad: Hybrid

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Paul Hinge am na allai fynychu’r cyfarfod.

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

None

3.

Adroddiad ar y Gyllideb ddrafft ar gyfer 2023/24 pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Cyfarfu Aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu i ystyried y cyllidebau ar gyfer y gwasanaethau sydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor, ynghyd ag ystyried yr argymhellion canlynol:

 

1.    Ystyried sefyllfa gyffredinol y gyllideb fel y dangosir yn yr adroddiad ar y gyllideb yn Atodiad A. 

2.    Ystyried elfennau perthnasol y pwysau o ran costau ar y gyllideb, sef cyfanswm o £22.2m ar draws yr holl wasanaethau.

3.    Ystyried elfennau perthnasol y cynigion ar gyfer gwneud arbedion yn y gyllideb, sef cyfanswm o £8.9m ar draws yr holl wasanaethau.

4.    Ystyried elfennau perthnasol y cynigion ynghylch ffioedd a chostau.

5.    Ystyried y 4 opsiwn a amlinellir yn Argymhelliad 3a) i 3d) o adroddiad Cabinet 24/01/23, sef:

3a)   Cynnydd o 6.3% yn Nhreth y Cyngor (gan gynnwys 1.3% mewn perthynas â’r cynnydd arfaethedig yn Ardoll yr Awdurdod Tân) a gofyniad cyllidebol o £179.627m ar gyfer 23/24, a fyddai’n darparu cyfraniad is tuag at Bwysau Costau Cyllidebau Dirprwyedig Ysgolion.

3b)   Cynnydd o 7.3% yn Nhreth y Cyngor (gan gynnwys 1.3% mewn perthynas â’r cynnydd arfaethedig yn Ardoll yr Awdurdod Tân) a gofyniad cyllidebol o £180.101m ar gyfer 23/24.

3c)   Cynnydd o 8.3% yn Nhreth y Cyngor (gan gynnwys 1.3% mewn perthynas â’r cynnydd arfaethedig yn Ardoll yr Awdurdod Tân) a gofyniad cyllidebol o £180.576m ar gyfer 23/24, a fyddai’n darparu cyfraniad uwch tuag at Bwysau Costau Cyllidebau Dirprwyedig Ysgolion.

3d)   Cynnig opsiwn arall yn ychwanegol at Argymhellion 3a) i 3c) i ddarparu cynnydd penodol at ddiben penodol, ar yr amod bod unrhyw opsiwn yn cael ei ystyried yn ystod y cyfarfodydd a gynhelir i graffu ar y gyllideb a bod y Swyddog Adran 151 yn cael digon o amser ymlaen llaw i fodelu’r effaith yn llawn ac i roi ei farn ar ei gadernid.

6.    Darparu unrhyw adborth priodol arall ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 23/24 i’r Cabinet.

 

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniadau gan Arweinydd y Cyngor (y Cynghorydd Bryan Davies), yr Aelod Cabinet dros Gyllid a Chaffael (y Cynghorydd Gareth Davies) a’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a Chaffael (Duncan Hall). Yna cyflwynodd yr Aelod Cabinet priodol yr eitemau yn y gyllideb sy’n berthnasol ar gyfer y meysydd gwasanaeth sydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor. Rhoddwyd cyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau a atebwyd yn eu tro gan yr Aelodau Cabinet a/neu’r Uwch Swyddogion.

 

Argymhellion:

 

Cytunodd y Pwyllgor ar y canlynol:

 

  1. Roedd wedi ystyried sefyllfa gyffredinol y gyllideb fel y dangosir yn yr adroddiad ar y gyllideb yn Atodiad A. 
  2. Roedd wedi ystyried elfennau perthnasol y pwysau o ran costau ar y gyllideb sydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu hwn.
  3. Roedd wedi ystyried elfennau perthnasol y cynigion ar gyfer gwneud arbedion yn y gyllideb sydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu hwn.
  4. Roedd wedi ystyried elfennau perthnasol y cynigion ynghylch ffioedd a chostau sydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu hwn.
  5. Pleidleisiodd rhan fwyaf Aelodau’r Pwyllgor o blaid cynnydd o 7.3% yn Nhreth y Cyngor. Felly mae’r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion pdf eicon PDF 101 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD bod cofnodion y pwyllgor a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr yn rhai cywir. 

 

Materion yn codi

Dim.