Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynhadledda
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: i.
Ymddiheurodd y Cynghorwyr Amanda Edwards, Geraint Wyn Hughes a Mark Strong
am nad oeddent yn gallu bod yn
bresennol yn y cyfarfod. ii.
Ymddiheurodd y Cynghorwyr Euros Davies, Meirion Davies and Ceris Jones am ymuno a’r cyfarfod
yn hwyr. iii.
Ymddiheurodd y Cynghorydd Gareth Lloyd y byddai'n
gadael y cyfarfod yn gynnar. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Roedd Mrs Lisa Evans, Swyddog
Craffu a Safonau wedi datgan buddiant
personol a buddiant sy’n rhagfarnu parthed cludiant ysgolion a grybwyllir yn y Flaen raglen
Waith. |
|
Y llwybr cyfeirio cyfredol i gael diagnosis o awtistiaeth PDF 96 KB Cofnodion: Dywedwyd bod aelodau o’r Pwyllgor Trosolwg
a Chraffu Cymunedau Iachach wedi’u gwahodd i’r cyfarfod
hwn fel y gallent gyfrannu at y drafodaeth dan sylw. Esboniodd y Cynghorydd
Wyn Thomas, yr Aelod
Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes
a Sgiliau mai diben yr adroddiad
oedd darparu gwybodaeth am y llwybr cyfredol i gael
diagnosis o awtistiaeth, nodi’r heriau
ac amlinellu’r modd yr oedd y Gwasanaethau
Ysgolion yn bodloni anghenion y plant a’r bobl ifanc
a oedd wedi derbyn diagnosis a’r rhai a oedd yn
aros am hynny. Tynnwyd sylw at y ffaith bod awtistiaeth yn gyflwr gydol
oes a bod symptomau pob unigolyn
yn wahanol. Rhoddodd Angharad Behnan, Prif Seicolegydd Addysg gyflwyniad i'r Pwyllgor, gan amlinellu'r
canlynol: ·
Cefndir ·
Newid ·
Y sefyllfa bresennol ·
Effaith ar blant a phobl
ifanc yn ysgolion Ceredigion ·
Cefnogaeth i ysgolion ·
Cymorth ehangach
gan yr Awdurdod
Lleol i deuluoedd, plant a phobl ifanc ·
Y camau nesaf Gofynnodd yr Aelodau nifer o gwestiynau ynghylch eu meysydd o ddiddordeb
ac atebwyd y rhain yn eu tro
gan y Swyddogion. Y prif bwyntiau a godwyd oedd y canlynol: ·
Pwysleisiwyd nad oedd
diagnosis o awtistiaeth yn effeithio ar
yr addysg a oedd yn cael
ei ddarparu i blant a phobl
ifanc yng Ngheredigion, ac mewn gwirionedd, byddai cymorth yn cael
ei roi ar
waith ar unwaith os byddai
unrhyw symptomau o awtistiaeth yn cael eu nodi. ·
Roedd y Tîm Asesu Cyfathrebu
Cymdeithasol (SCAT) yn cwrdd bob 6 wythnos i drafod atgyfeiriadau.
Y gwasanaeth iechyd oedd yn arwain y gwaith
hwn oherwydd mai iechyd oedd yr unig gorff
a fedrai ddarparu diagnosis
o awtistiaeth. Roedd yn allweddol
bwysig bod yn ofalus er mwyn sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael
y diagnosis cywir. ·
Meddygon Teulu a Nyrsys Ysgolion
ddylai fod yn gwneud yr
atgyfeiriadau. ·
Roedd gan 70% o
ysgolion Ceredigion Dystysgrifau
Ymwybyddiaeth am Awtistiaeth
ac Eiriolwyr Awtistiaeth (byddai’r rhestr yn cael ei
rhannu â’r Aelodau maes o law). ·
Codwyd pryderon am restrau
aros hir y Gwasanaeth
Iechyd Gwladol. Anogwyd yr aelodau i
godi’r mater hwn ar bob cyfle posibl.
Dywedwyd bod Llywodraeth
Cymru wedi cynnal Adolygiad Capasiti lle nodwyd bod Byrddau Iechyd yn genedlaethol yn ei chael hi’n
anodd ymdopi ag asesiadau ac felly, roedd addewid wedi’i wneud am gyllid ychwanegol. ·
Codwyd pwysigrwydd cynhwysiant
er mwyn sicrhau bod gan bob plentyn a pherson ifanc y cyfle cyfartal i dderbyn addysg
prif ffrwd yn y lle cyntaf.
Os na fyddai
hynny’n addas, roedd unedau arbenigol ar gampysau rhai
ysgolion a chan eu bod yn agos,
roedd modd i’r plant a’r bobl
ifanc dderbyn gwersi prif ffrwd
lle bo hynny’n
briodol. Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i nodi’r isod: 1. I gael gwybod am y llwybr cyfeirio cyfredol i gael diagnosis o awtistiaeth yng
Ngheredigion. 2. I gael gwybod am sut mae’r Gwasanaethau Ysgolion yn bodloni anghenion plant sydd wedi cael diagnosis o awtistiaeth neu’n aros ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Strategaeth Tegwch ac Amddifadedd PDF 124 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Esboniodd y Cynghorydd Wyn
Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes
a Sgiliau bod y bwlch o ran
bwlch o ran cyrhaeddiad a chyfleoedd wedi lledu rhwng dysgwyr
difreintiedig a’r rhai mwy breintiedig
yn dilyn Covid-19. Mae canlyniadau ar lefel TGAU yn awgrymu
fod y bwlch amddifadedd a geir ym myd addysg
yng Nghymru yn gyfystyr â thua
24 mis o gynnydd addysgol. Mae'r argyfwng costau byw ond
yn ehangu’r bwlch o ran cyrhaeddiad a chyfleoedd addysgol a fodolai eisoes. Tynnwyd sylw at y ffaith fod Gweinidog
y Gymraeg ac Addysg, Jeremy
Miles, wedi siarad yn rheolaidd am ei ymrwymiad i
gefnogi dysgwyr bregus a difreintiedig. Rhoddwyd trosolwg o’r sefyllfa bresennol
fel y nodwyd yn yr adroddiad. Rhoddodd Gareth Lewis, Cydlynydd
Strategaeth Ddifreintedd a Thlodi Gwledig gyflwyniad i'r Pwyllgor, gan amlinellu'r
canlynol: 1.
Cefndir 2.
Sylwadau gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg 3.
Pwrpas y
Strategaeth 4.
Cynnwys y
Strategaeth 5.
Cyfleodd I
fyfyrio 6.
Pa effaith rydyn ni’n gobeithio
gweld 7.
Y camau nesaf Gofynnodd yr Aelodau nifer o gwestiynau ynghylch eu meysydd o ddiddordeb
ac atebwyd y rhain yn eu tro
gan y Swyddogion. Y prif bwyntiau a godwyd oedd y canlynol: · Er
bod Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn cefnogi
ysgolion, codwyd pryderon fod y gyllideb yn cael
ei thorri o hyd. Byddai’r £8 miliwn yng nghronfeydd wrth gefn yr
ysgolion yn gostwng yn sylweddol
wrth i gyflogau
staff ysgolion a chostau ynni gynyddu. Roedd
y Swyddogion eisoes wedi codi eu
pryderon â Llywodraeth
Cymru. · Dywedwyd y dylai pob plentyn a pherson
ifanc gael cyfle cyfartal i lwyddo yn
yr ysgol. Roedd y strategaeth yn cynnwys nifer
o bwyntiau ymarferol i gefnogi teuluoedd
o gefndiroedd difreintiedig,
er cydnabuwyd bod cyllid yn ffactor. · Ystyriwyd bod presenoldeb mewn ysgolion yn
bwysig iawn am nifer o resymau. Yn dilyn gwaith
gan yr adran,
roedd presenoldeb yn yr ysgolion
cynradd wedi gwella ond roedd
angen gwneud rhagor o waith o ran presenoldeb yn yr ysgolion uwchradd. · Ni
ddylai’r un plentyn na pherson ifanc
deimlo’n oer yn yr ystafell
ddosbarth. Os oedd plant neu bobl ifanc yn teimlo’n
oer, dylai’r Aelodau anfon tystiolaeth
at swyddogion yr adran. · Er
mwyn paratoi pobl ifanc ar
gyfer profiad gwaith a’u gyrfaoedd
yn ddiweddarach mewn bywyd, roedd
cynllun peilot wedi’i gynnal yn
Aberteifi lle’r oedd yr ysgol yn
gweithio’n agos gyda’r gymuned a’r busnesau yn
lleol. Hefyd, roedd y cwricwlwm newydd yn caniatáu
i’r ysgolion ddysgu sgiliau bywyd gan gefnogi’r
bobl ifanc i fod yn
annibynnol. Soniwyd hefyd am rwydwaith Seren, menter gan Lywodraeth
Cymru, a oedd yn cefnogi pobl ifanc
i wireddu eu dyheadau a chyrraedd
eu llawn botensial yn academaidd. Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD: 1.
i fabwysiadu cynnwys Strategaeth Tegwch ac Amddifadedd Ceredigion ar gyfer ysgolion. 2. bod adroddiad blynyddol ar y cynnydd a wneir gyda Strategaeth Tegwch ac Amddifadedd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Cofnodion Cyfarfod Cyngor Ieuenctid Ceredigion (21.10.22) PDF 128 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriwyd Cofnodion Cyfarfod Cyngor Ieuenctid
Ceredigion. Un o'r dyletswyddau
a roddwyd i Awdurdodau Lleol o fewn Llywodraeth Cymru – Rhannu Pwrpas: Rhannu Dyfodol: Canllawiau Statudol i Ddeddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol
(Cymru) 2015 - yw Atodiad B
- y Canllawiau Statudol ar Gyfranogiad Plant a Phobl Ifanc. Rhoddwyd
y cefndir a’r sefyllfa bresennol fel y nodwyd yn
yr adroddiad. Dywedwyd bod cynrychiolwyr o bob
un o ysgolion uwchradd Ceredigion,
Coleg Ceredigion, Prifysgol Aberystwyth ynghyd ag amrywiol Grwpiau Ieuenctid yn rhan o Gyngor
Ieuenctid
Ceredigion eleni, ynghyd
â swyddogion yr awdurdod lleol a dau aelod Cabinet, a oedd hefyd yn
cael eu gwahodd
i fod yn
bresennol yn y cyfarfodydd. Nodwyd bod tymor Poppy
Evans fel Aelod Ceredigion
o Senedd Ieuenctid y Deyrnas
Unedig wedi dod i ben yn
ddiweddar ac yn sgil hynny, cafodd
Aled Lewis ei ethol i gynrychioli Ceredigion yn 2022-23. Roedd Lloyd Warburton
yn parhau fel Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru. Byddai Cadeirydd newydd y Cyngor Ieuenctid yn cael
ei ethol yn y cyfarfod nesaf
ar 03.02.23. Roedd sicrhau bod barn pobl ifanc yn rhan
o’r broses ddemocrataidd yng Ngheredigion yn cael ei ystyried
yn rhywbeth pwysig iawn. Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD bod cofnodion
Cyngor Ieuenctid Ceredigion yn
cael eu cyflwyno
i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Dysgu a’r Cabinet, er gwybodaeth, bob tymor. |
|
Diweddariad llafar ar y grantiau sydd ar gael i ysgolion Cofnodion: Esboniodd Meinir Ebbsworth, Swyddog
Arweiniol Corfforaethol: Ysgolion a Diwylliant nad oedd disgwyl
manylion setliad yr awdurdod lleol
tan 13.12.22, ac nid oedd
dim gwybodaeth am y grantiau
i ysgolion yn 2023-24 ar gael
hyd yma. Yn 2022-23, roedd nifer o grantiau wedi bod ar gael
i’r ysgolion fel y nodir isod: 1.
Y Grant
Amddifadedd Disgyblion - gwerth £1.6 miliwn – i gefnogi addysg
a llesiant disgyblion prydau ysgol am ddim - 98% o’r swm hwn wedi’i
ddirprwyo i’r ysgolion a 2% o’r swm wedi’i gadw’n
ganolog i gefnogi Plant sy’n Derbyn Gofal 2.
Y Grant
Gwella Addysg – gwerth £2.6 miliwn - 96% o’r swm hwn wedi’i
ddirprwyo i’r ysgolion a 4% o’r swm wedi’i gadw’n
ganolog i gefnogi lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir 3.
Grant Dysgu Proffesiynol – gwerth £260,000 - 100% o’r swm hwn wedi’i ddirprwyo
i’r ysgolion i gefnogi’r costau
staffio sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm newydd 4. Recriwtio, Adfer
a Chodi Safonau: Grant y Rhaglen Dysgu Carlam – gwerth £1.4 miliwn - 100% o’r swm hwn wedi’i
ddirprwyo i’r ysgolion Lle bo modd, roedd y grantiau
wedi’u dirprwyo i’r ysgolion i
sicrhau eu bod yn derbyn y budd
mwyaf. Byddai’r Grant Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau, a oedd yn gysylltiedig
â Covid-19, yn lleihau wrth i amser
fynd yn ei
flaen. Serch hynny, ni fyddai
manylion grantiau 2023-24 ar gael am rai misoedd ar ôl
i’r setliad gael ei gyhoeddi.
Yn gyffredinol, byddai’n well gan yr ysgolion dderbyn
cymorth o ran eu cyllid craidd yn
hytrach na derbyn grantiau. Dywedwyd bod yr ysgolion wedi derbyn
grantiau cynnal a chadw dros y blynyddoedd
i wella adeiladau.
Roedd gan bob ysgol lyfryn cytundeb
a oedd yn amlinellu’n glir yr hyn yr
oedd yr ysgol
a’r awdurdod yn gyfrifol amdano.
Hefyd, roedd gan yr awdurdod
raglen cynnal a chadw ar waith
a oedd yn seiliedig ar yr
arolwg a gynhaliwyd gan Faithful+Gould. Fel rhan o’r rhaglen
honno, roedd gwaith brys yn
cael blaenoriaeth. Cynghorwyd yr Aelodau
i gysylltu â’r adran addysg
pe byddent yn teimlo bod angen gwneud gwaith cynnal
a chadw brys mewn ysgol benodol
a bod y gwaith hwnnw heb ei gynnwys
yn y rhaglen. Tynnwyd sylw at y ffaith ei bod hi’n
anodd denu busnesau i dendro
am y gwaith. Serch hynny, pe na fyddai’r
grantiau wedi’u defnyddio erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, byddai trefniadau eraill yn cael eu
rhoi ar waith. Adroddwyd na fyddai cyllid ar
gael ar gyfer
Band C Ysgolion yr 21ain
Ganrif na’r rhaglen Colegau. Roedd gofyn i’r
awdurdod gyflwyno gwybodaeth i Lywodraeth
Cymru o fewn y 18 mis nesaf
yn nodi’r angen am unrhyw estyniadau, gwaith sylweddol y tu hwnt i raglen
gyfalaf yr awdurdod neu ysgolion newydd ar gyfer
y 5 mlynedd nesaf. Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i nodi’r sefyllfa bresennol. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD cadarnhau
bod Cofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor yn rhai cywir. Materion yn codi:
Dim. |
|
I ystyried Blaenraglen Waith Ddrafft 2022/23 PDF 87 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD nodi’r
Flaen raglen Waith ddrafft fel y’i cyflwynwyd yn amodol ar y canlynol: ·
Diweddariad
am y nifer o ddisgyblion sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg ·
Adroddiad
ynghylch annog disgyblion i ddefnyddio’r Gymraeg mewn ysgolion ·
Nodwyd
bod gan yr Awdurdod Lleol ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu cludiant i’r ysgol
agosaf yn unol â’r Polisi Cludiant i’r Ysgol. Roedd y wybodaeth hon wedi’i
chyflwyno i’r Aelodau mewn gweithdy yn flaenorol. Os oedd y disgyblion yn
penderfynu mynd i ysgol arall, cyfrifoldeb y rhieni oedd trefnu’r cludiant ·
Adroddiad
am y nifer o blant sy’n cael eu haddysgu gartref ers Covid-19 |
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: Diolchodd y Cynghorydd Wyn
Thomas i’r holl swyddogion am eu gwaith gan nodi bod y gefnogaeth a ddarparwyd i’r ysgolion yn
cael ei gwerthfawrogi’n
fawr. |