Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y
Cynghorwyr Rhodri Davies, Endaf Edwards a Mark Strong am na fedrent fod yn
bresennol yn y cyfarfod. Gan fod y Cadeirydd,
y Cynghorydd Endaf Edwards, yn absennol, cadeiriwyd y cyfarfod gan yr
is-gadeirydd, y Cynghorydd Chris James. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Datgelodd Cathryn Charnell White fuddiant
personol o ran eitem 3 ar yr agenda. |
|
Adroddiad Trosolwg y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol 2021 - 2022 Cofnodion: Ystyriwyd Adroddiad Trosolwg y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol 2021-2022
yn fanwl. Cyflwynwyd yr adroddiad er mwyn rhoi trosolwg a diweddariad i
Aelodau’r Pwyllgor ar gynnydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth
Cymru. Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD nodi’r adroddiad er gwybodaeth. |
|
Canlyniadau TGAU a Lefel A 2022 Cofnodion: Ystyriwyd y canlyniadau TGAU a Lefel A 2022 a gyflwynwyd i’r Pwyllgor er
tryloywder. Adroddwyd o ganlyniad i bandemig
Covid-19, ni chynhaliwyd arholiadau allanol yn eu dull traddodiadol yn ystod
2020 na 2021. Penderfynwyd y byddai arholiadau allanol yn cael eu cynnal yn ystod Haf
2022, a chyflwynwyd rhai addasiadau megis lleihau’r cynnwys mewn rhai pynciau. Penderfynwyd gan Gymwysterau Cymru y byddai canlyniadau ar lefel
genedlaethol yn adlewyrchu pwynt hanner ffordd yn fras rhwng canlyniadau haf
2019 a haf 2021. I’r perwyl hwnnw, nid oedd modd cymharu canlyniadau 2022 gyda
blynyddoedd blaenorol. Cyflwynwyd canlyniadau dros dro ar gyfer Ceredigion
(bydd y data swyddogol ar gael ddechrau mis Hydref). CYTUNWYD nodi cynnwys yr adroddiad er gwybodaeth a llongyfarch y
disgyblion, yr athrawon a’r staff ar y canlyniadau gwych hyn yn dilyn y
pandemig. |
|
Fframwaith Gwella Ysgolion Llywodraeth Cymru Cofnodion: Ystyriwyd
Canllawiau Gwella Ysgolion Llywodraeth Cymru. Cyflwynwyd yr adroddiad i’r
Pwyllgor er mwyn rhannu gwybodaeth am ddogfen allweddol parthed Gwella Ysgolion
a fydd â goblygiadau o ran sut mae’r Gwasanaeth Gwella Ysgolion yn cael ei
weithredu yng Ngheredigion. Adroddwyd yn
dilyn ymgynghoriad cenedlaethol a ddaeth i ben ar 15 Mawrth 2021, cyhoeddwyd
dogfen ganllaw o’r enw Fframwaith Gwella Ysgolion Llywodraeth Cymru, ac mae’r
ddogfen hon bellach yn weithredol ers mis Medi 2022. Bydd y ddogfen yn statudol
o fis Medi 2024. Nod y ddogfen yw; · Cryfhau effeithiolrwydd hunanwerthuso a gwella
cynllunio o fewn ysgolion. · Rhoi’r gorau i ddefnyddio’r system genedlaethol
ar gyfer categoreiddio ysgolion a rhoi system gymorth debyg yn ei lle heb
gyhoeddi categorïau ysgol · Cryfhau a
darparu eglurder ynghylch y gwahanu rhwng gweithgareddau gwerthuso / gwella a’r
system atebolrwydd · Neilltuo
rolau a chyfrifoldebau gwahanol gyrff yn glir mewn system hunan-wella Mae’r canllawiau
yn gosod yr hyn y mae’n rhaid i ysgolion ac eraill yn y system addysg ei wneud
a’r hyn y dylai ysgolion ac eraill ei wneud o dan y fframwaith ar gyfer
gwerthuso, gwella ac atebolrwydd. Mae rhwymedigaeth statudol y tu ôl i’r
cyfeiriadau at yr hyn y mae’n ‘rhaid’ i ysgolion ac eraill ei wneud. Arfer
gorau, yn unol â’r canllawiau, yw’r gweithrediadau hynny a nodir fel yr hyn y
‘dylai’ ysgolion ac eraill ei wneud. Drwy gyhoeddi canllawiau gwella ysgolion ar sail
anstatudol nawr, rydym am i ysgolion, awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol,
Estyn ac awdurdodau esgobaethol weithredu a phrofi’r dulliau gwella ysgolion ac
atebolrwydd sy’n cael eu nodi ynddynt. Byddant wedyn yn gwerthuso eu heffaith.
Ar ôl hynny, rydym yn bwriadu diweddaru’r canllawiau, gan adeiladu ar ddysgu yn
2022 i 2023 a 2023 i 2024 a’u cyhoeddi ar ffurf canllawiau statudol a fydd yn
dod i rym ym mis Medi 2024. Yna amlinellwyd
rhestr o’r prif negeseuon i’r Aelodau. CYTUNWYD nodi’r
adroddiad er gwybodaeth. |
|
Arolygiadau Estyn, tymor yr Haf 2022 Cofnodion: CYTUNWYD nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd a bod yr
adroddiadau’n gadarnhaol iawn. Estynnwyd llongyfarchiadau i’r holl ysgolion ar
eu cyflawniadau. Adroddwyd bod y wasg wedi canolbwyntio ar un
argymhelliad yn adroddiad Ysgol Penglais; ac nid yr adroddiad yn ei gyfanrwydd
a oedd yn un cadarnhaol, gydag Estyn yn gofyn am ddwy astudiaeth achos o arfer
ardderchog gan yr ysgol. |
|
Blaenraglen Waith Ddrafft 2022/23 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD nodi’r Flaenraglen Waith ddrafft fel y’i cyflwynwyd yn amodol ar y
canlynol: -
|
|
Cofnodion: CYTUNWYD cadarnhau bod Cofnodion cyfarfod
blaenorol y pwyllgor yn rhai cywir. |