Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy'n Dysgu - Dydd Iau, 30ain Mehefin, 2022 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynhadledda

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Rhodri Davies a Mark Strong am nad oedd modd iddynt fod yn y cyfarfod.

 

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Roedd Mrs Lisa Evans, Swyddog Cymorth Craffu a Safonau wedi datgan buddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu parthed cludiant ysgolion a grybwyllir yn y Flaenraglen Waith.

 

3.

Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes a Sgiliau a Chanolfan Eos a Chanolfan Aeron (yr Unedau Cyfeirio Disgyblion) pdf eicon PDF 204 KB

Cofnodion:

Bu i’r Aelod o’r Cabinet, y Cynghorydd Wyn Thomas, gyflwyno’r adroddiad ar y Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes a Sgiliau a Chanolfan Eos a Chanolfan Aeron (Unedau Cyfeirio Disgyblion). Dywedodd fod yna bump Gwasanaeth o fewn Porth Cymorth Cynnar, sef –

 

  • Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar
  • Gwasanaeth Cymorth ag Atal
  • Gwasanaeth Canolfannau Lles
  • Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
  • Canolfan Eos a Chanolfan Aeron.

 

Dywedodd fod y Porth Cymorth Cynnar:-

  • yn darparu cymorth cynnar cyffredinol a phwrpasol, ynghyd â gwybodaeth, cyngor ac ymyrraeth integredig a hynny gydol oes.
  • Mai nod y gwasanaeth yw gwella agweddau ar les personol, cymdeithasol, addysgol, corfforol, meddyliol ac emosiynol yr unigolyn a hynny drwy hyrwyddo cydnerthedd, grym ac annibyniaeth y person a’r teulu.
  • Bod y Gwasanaeth yn darparu cyngor a chymorth hwylus a phwrpasol.
  • Bod y Gwasanaeth yn gwella'r hyn a gynigir yng Ngheredigion o ran gweithgareddau corfforol a hamdden ac yn cryfhau a chynyddu sgiliau a gwybodaeth unigolion drwy fyd gwaith a chyfleoedd i wirfoddoli.

 

Bu i Ms Carys Tisdell, Pennaeth UCD Ceredigion roi cyflwyniad gwybodus i’r Aelodau ar y canlynol:

  • Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) Ceredigion:
  • Trosolwg
  • Strwythur Staffio
  • Datblygiad personol y Staff
  • Cyd-destun/ gwybodaeth am ddata disgyblion
  • Ailintegreiddio
  • Presenoldeb
  • Amserlen ar gyfer mis Medi 2022
  • Gwisg Ysgol
  • Gweithgareddau Llesiant
  • Wythnosau themâu
  • Llesiant yn y gaeaf, ymweliad gan Art of Brilliance
  • Chwaraeon yn yr ysgol
  • Chwarae actif
  • Gweithgareddau a dyddiadau i ddod

 

Wedyn rhoddodd y Rheolwr Corfforaethol, Mark Gleeson, gyflwyniad i’r Aelodau ar y canlynol:

  • Ein gweledigaeth
  • Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
  • Amcanion y Cwricwlwm Amgen
  • Cymwysterau
  • Hyfforddiant Ceredigion
  • Hyfforddeiaeth – Pwy sy’n gymwys?
  • Llinyn ymgysylltu
  • Beth ydym ni’n ei wneud?
  • Llinyn Datblygu
  • Prentisiaethau
  • Dysgu Bro,
  • Tîm Cymorth Cyflogaeth - sut allwn ni helpu? Sut ydym ni’n helpu unigolion
  • Gwybodaeth
  • Datganiadau i’r wasg

 

Yn dilyn cwestiynau a sylwadau o'r llawr, CYTUNWYD

(i) i nodi'r diweddariad a ddarparwyd;

(ii) i longyfarch y ddau wasanaeth ar eu gwaith rhagorol;

(iii) y dylai Aelodau’r Pwyllgor ymweld â Hyfforddiant Ceredigion yn y dyfodol agos; ac

(iv) ar ôl trafod â’r staff yng Nghanolfan Eos a Chanolfan Aeron, y dylai’r Aelodau ymweld â Chanolfan Eos a Chanolfan Aeron ar adeg sy’n gyfleus i bawb.

 

4.

Hunanarfarnu a Chynllunio Gwelliant Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant pdf eicon PDF 195 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad ar Hunanarfarnu a Chynllunio Gwelliant yn y Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant. Cyflwynwyd yr adroddiad i sicrhau fod aelodau’r Pwyllgor Craffu yn deall prosesau hunanarfarnu’r Gwasanaeth a’u rôl yn y prosesau hyn.

 

Rhoddwyd gwybod bod gan y Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant drefniadau ar waith ar gyfer hunanarfarnu cyson. Mae’r trefniadau hyn yn rhan o’r cynllunio busnes corfforaethol.

 

Cyflwynwyd grid i ddarlunio’r prosesau hunanarfarnu a rôl y Pwyllgor Craffu a Throsolwg Cymunedau sy’n Dysgu yn y prosesau hynny.

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD I:

(i) sefydlu ffrwd waith sydd yn ymateb i dair blaenoriaeth Cynllun Busnes Lefel 1 y Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant; a

(ii) sefydlu ffrwd waith i gyfrannu tuag at brosesau hunanwerthuso’r gwasanaeth.

 

5.

Partneriaeth Addysg Canolbarth Cymru - Cynllun Busnes pdf eicon PDF 340 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod o’r Cabinet ddiweddariad ar flaenoriaethau’r bartneriaeth addysg rhwng Powys a Cheredigion ar gyfer 2022-23.

 

Adroddwyd bod Partneriaeth Addysg Canolbarth Cymru wedi’i llunio rhwng Awdurdodau Lleol Powys a Cheredigion ym Medi 2021. Fe’i seiliwyd ar Femorandwm o Ddealltwriaeth rhwng y ddwy sir. Nodir yn y Memorandwm o Ddealltwriaeth fod y ddwy sir yn cydweithio

ar faterion sy’n ymwneud â’r canlynol:

 

  • Datblygiadau Cwricwlwm i Gymru
  • Llwybrau Arweinyddiaeth
  • Cymorth i Athrawon Newydd Gymhwyso a Gyrfa Gynnar
  • Datblygiad proffesiynol Cynorthwy-wyr Dysgu
  • Difreintedd Gwledig ac Ecwiti

 

Ym Medi 2021, a hithau ar ganol blwyddyn ariannol, fe gyflwynodd Powys a Cheredigion ddau gynllun busnes ar wahân i Lywodraeth Cymru. Cymeradwywyd y cynlluniau ac o ganlyniad dyrannwyd y Grant Gwella Ysgolion Rhanbarthol (RCSIG) i’r ddau Awdurdod Lleol.

 

Ym mis Mawrth 2022, cyflwynwyd Cynllun Busnes ar y cyd gan Bartneriaeth Addysg Canolbarth Cymru ac fe’i gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r ddau Awdurdod Lleol yn parhau i dderbyn eu cyfran o’r Grant Gwella Ysgolion Rhanbarthol.

 

CYTUNWYD i gymeradwyo Cynllun Busnes Partneriaeth Addysg Canolbarth Cymru ar gyfer 2022-23, fel y’i cyflwynwyd.

 

 

6.

Diweddariad ar Ysgol Ardal newydd yn Nyffryn Aeron pdf eicon PDF 194 KB

Cofnodion:

Cytunwyd i adeiladu ysgol gynradd newydd yn ardal Dyffryn Aeron fel rhan o raglen Llywodraeth Cymru, Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain. Bellach, fe elwir y rhaglen honno yn Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Bydd yr ysgol ar gyfer disgyblion oed 3-11 ac yn gwasanaethu ardaloedd Felin-fach, Ciliau Aeron, Dihewyd a Chilcennin.

Ym mis Tachwedd 2021 pwrcaswyd tir addas ar gyfer yr adeilad ym mhentref Felin-fach.

 

Cymeradwywyd yr Achos Amlinellol Strategol gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2021 am y gost adeiladu amcangyfrifedig o £10,932,950. Cyhoeddwyd y tendr i benodi ymgynghorwyr i ddatblygu’r prosiect ym mis Chwefror 2022 ac yn dilyn proses faith, penodwyd SPP ym mis Ebrill 2022. Ymgynghorwyr Rheoli Prosiectau a Mesur Meintiau yw SPP ac maent yn gyfrifol am gyflawni’r prosiect yn dilyn Proses Gaffael Dau Gam. Penodwyd Ymgynghorwyr BREEAM ym mis Ebrill 2022.

Cyhoeddwyd tendr y Contractwr ar Fai’r 16eg 2022 ac yn dilyn sawl cais i ymestyn y cyfnod tendro, pennwyd dyddiad cau diwygiedig y tendr ar gyfer Mehefin 20fed 2022.

 

Yn dilyn proses gwerthuso’r tendr, dylid penodi contractwr yn gynnar ym mis Gorffennaf 2022. Yn ôl yr amserlen, mae’r cynlluniau ar gyfer yr ysgol i’w cytuno a’u cymeradwyo erbyn Tachwedd/Rhagfyr 2022.

Bwriedir cytuno ar swm y Contract erbyn Ionawr / Chwefror 2023, a bydd Achos Busnes Amlinellol ac Achos Busnes Terfynol Llywodraeth Cymru yn cael eu cyflwyno i’w cymeradwyo cyn gynted ag y cytunir ar swm y contract. Gofynnir am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer swm y contract ar yr un pryd.

 

Rhagwelir y bydd gwaith yn dechrau ar y safle ym Mawrth/Ebrill 2023, gan dybio bod yr holl brosesau’n rhedeg yn esmwyth, a disgwylir y bydd y gwaith yn cwblhau yng Ngorffennaf/Awst 2024.

 

Mae Corff Llywodraethu Cysgodol ar gyfer yr ysgol newydd yn cael ei sefydlu ar hyn o bryd.

 

CYTUNWYD i nodi’r diweddariad a roddwyd, ond gwnaeth yr Aelodau annog fod y gwaith yn dechrau cyn gynted â phosib yn sgil y cynnydd mewn costau deunyddiau adeiladu yn dilyn y pandemig.

 

7.

Cwricwlwm i Gymru - diweddariad pdf eicon PDF 187 KB

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod o’r Cabinet wybod y bydd ysgolion cynradd Cymru yn cychwyn gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru ym Medi 2022, gyda’r sector uwchradd yn gweithredu’n statudol o Fedi 2023 ymlaen.

 

Rhoddodd Cydlynydd y Cwricwlwm i Gymru ddiweddariad am yr amrywiaeth o gefnogaeth a roddir i ysgolion wrth weithredu, a’r blaenoriaethau sy’n parhau ar gyfer 2022-23.

  • Y Siwrnai ers 2015/19
  • Cefnogi’r Cwricwlwm
  • Ffrwd 1 - Cymorth fesul ardal
  • Ffrwd 2 - Rhwydweithio
  • Ffrwd 3 - Cymorth i ysgolion yn unigol
  • Ffrwd 4 - Rhwydweithio cenedlaethol

 

CYTUNWYD i nodi’r diweddariad a roddwyd.

 

8.

Diweddariad llafar ar ddarpariaeth prydau ysgol am ddim

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod o’r Cabinet wybod y bydd Cyngor Sir Ceredigion yn cynnig prydau ysgol am ddim o dymor yr hydref ymlaen a hynny i bob plentyn yn y dosbarthiadau Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2.

 

Roedd hyn yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru i gynnig Prydau Ysgol am Ddim i ddisgyblion ysgolion cynradd ledled Cymru, gan ddechrau gyda’r dosbarthiadau Derbyn o fis Medi 2022 ymlaen.

 

Mewn ymateb i'r cynnydd mewn costau byw ar hyn o bryd, roedd hwn yn gam cadarnhaol ymlaen i sicrhau na fydd yr un plentyn yn teimlo’n llwglyd yn yr ysgol ac er mwyn mynd i'r afael â thlodi yn ein Sir.

 

O ddydd Llun 5 Medi 2022 ymlaen, bydd pob plentyn yn y dosbarthiadau Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 yng Ngheredigion yn cael cynnig Prydau Ysgol am Ddim, gan ymestyn y cynnig y tu hwnt i'r hyn sy’n ofynnol i’w wneud erbyn mis Medi.

 

Roedd Cyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru yn benderfynol o weithredu'r cynllun hwn yn fuan ac roedd angen adeiladu’r capasiti arlwyo i sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno’n raddol ac yn llwyddiannus, gan symud tuag at ei gyflwyno drwy’r ysgolion cyfan dros y tair blynedd nesaf.

 

Roedd y Cyngor yn cydweithio â Llywodraeth Cymru i ddatblygu proses er mwyn i chi fedru gofyn am bryd ysgol am ddim i’ch plentyn/plant yn Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 o fis Medi 2022 ymlaen, gan osgoi gwaith diangen i rieni/gwarcheidwaid.

 

Bydd rhagor o wybodaeth i ddod erbyn diwedd y tymor.

 

CYTUNWYD i nodi’r sefyllfa bresennol

9.

Aelod Cyfetholedig ar gyfer Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Sy'n Dysgu Cyngor Sir Ceredigion - cynrychiolaeth Rhieni-Lywodraethwyr pdf eicon PDF 206 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod o’r Cabinet wybod fod angen, yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, dau gynrychiolydd Rhieni-Lywodraethwyr sy'n gwasanaethu ar Gyrff Llywodraethu ar hyn o bryd i wasanaethu ar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy'n Dysgu fel aelodau cyfetholedig gyda hawliau pleidleisio. Un o'r sector cynradd ac un o'r sector uwchradd.

 

Bydd tymor y penodiad yn para am bum mlynedd o ddyddiad y penodiad neu hyd nes y bydd y cynrychiolydd yn peidio â bod yn rhiant-lywodraethwr neu'n ymddiswyddo o'r Pwyllgor.

 

Cynhaliwyd gwaith recriwtio yn ystod mis Mai 2022 a’r ddau ymgeisydd llwyddiannus oedd:

  • Cathryn A. Charnell-White (sector cynradd)
  • Jonny Huw Greatrex (sector uwchradd)

 

Gofynnwyd i'r Cyngor ar 7 Gorffennaf gymeradwyo penodi’r aelodau cyfetholedig canlynol i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy'n Dysgu oddi ar 7 Gorffennaf 2022, am gyfnod o bum mlynedd:

  • Cathryn A. Charnell-White (sector cynradd)
  • Jonny Huw Greatrex (sector uwchradd)

 

CYTUNWYD i nodi’r sefyllfa bresennol.

 

 

10.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion pdf eicon PDF 405 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi cofnodion cyfarfod diwethaf y Pwyllgor.

 

11.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 344 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi’r Flaenraglen Waith, fel y’i cyflwynwyd, ar yr amod yr ystyrir y Polisi Cludiant Ysgolion yn y cyfarfod nesaf. Roedd hwn yn bolisi o dan gylch gwaith Mr Rhodri Llwyd, Swyddog Arweiniol Corfforaethol y Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, felly bydd ef yn dod i hwyluso’r drafodaeth am y mater hwn.

 

Hefyd nodwyd bod y Cyngor wedi rhoi gwybod yn ddiweddar i rieni/gwarcheidwaid y bydd yn gorffen cludiant ysgol am ddim i ddisgyblion ardal Llangwyryfon a ddymunai mynychu Ysgol Henry Richard. Mewn ymateb, gofynnodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Ysgolion am i rieni/gwarcheidwaid gysylltu â’r Cyngor drwy Clic gydag enw a chyfeiriad y disgyblion sy’n cael eu heffeithio.  Bydd Aelod Lleol yr ardal dan sylw, y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans, yn rhoi gwybod i’r rhieni/gwarcheidwaid am y cais hwn.

 

 

Nodwyd mai hwn oedd cyfarfod cyntaf y Pwyllgor yma yn dilyn marwolaeth y Cynghorydd Hag Harris a fu’n Aelod o’r Cabinet dros Addysg. Bydd colled mawr ar ei ôl.