Agenda a chofnodion drafft

Cyfarfod Arbennig, Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy'n Dysgu - Dydd Iau, 27ain Mawrth, 2025 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron ac o bell trwy fideo gynhadledda

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Dim.

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Atgoffodd y Dirprwy Swyddog Monitro, Mrs Patricia Armstrong, Aelodau o’r Cod Ymddygiad ac atgoffodd gynghorwyr o’u dyletswyddau ac i ddangos parch ac ystyriaeth i eraill wrth siarad.

 

Datganodd y Cynghorwyr Endaf Edwards, Gareth Lloyd a Gwyn Wigley Evans fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 4.

 

Nodwyd bod gan bob Cynghorydd ddiddordeb personol yn eitem 4 fel llywodraethwyr ysgolion.

3.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Mynegodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad ag Elen James ar ei phrofedigaeth ddiweddar.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Lisa Evans am ei chefnogaeth yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd a dymunodd yn dda iddi yn ei rôl gyda’r Cyngor Sir.

4.

Cod Trefniadaeth Ysgolion pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, yr adroddiad i’r Pwyllgor. Adroddodd, ar gais y Cynghorydd Elizabeth Evans, fod Gweithdy i’r holl Aelodau wedi’i gynnal ar 14 Ionawr 2025 i ddarparu gwybodaeth a sicrhau dealltwriaeth lawn o’r prosesau a ddilynir mewn perthynas â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion.

 

Yn y Gweithdy, rhoddodd swyddogion gyflwyniad cynhwysfawr a oedd yn ymdrin â phob maes o’r broses gan ddarparu tystiolaeth glir a oedd yn brawf pendant o uniondeb y broses a gwaith trylwyr a wnaed gan y swyddogion.

 

Treuliodd y 25 Aelod Etholedig a oedd yn bresennol cyfnod estynedig iawn yn cwestiynu ac yn herio'r swyddogion ar y manylion penodol a gyflwynwyd. Cadarnhaodd y Cynghorwyr ar ddiwedd y gweithdy eu bod yn gwbl fodlon â’r broses ac roeddent yn dawel eu meddwl nad oedd unrhyw dystiolaeth o gamarwain gan swyddogion.

 

Fodd bynnag, roedd Aelodau Etholedig yn teimlo bod angen bod y mater yn cael ei roi ar flaen-raglen waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy'n Dysgu (fel y fforwm cyhoeddus priodol) er gwybodaeth a rhannu gymaint o wybodaeth â phosibl wrth gydymffurfio â chanllawiau diogelu gwybodaeth. Cytunwyd yn y Gweithdy y byddai datganiad ar y cyd gan dri Arweinydd y grwpiau gwleidyddol yn cael ei ryddhau yn cadarnhau eu bod yn fodlon â’r dystiolaeth a dderbyniwyd. Dywedodd Aelodau Etholedig o bob grŵp gwleidyddol eu bod yn gwbl fodlon nad oeddent wedi cael eu camarwain gan swyddogion cyn, yn ystod, neu ar ôl

cyfarfod y Cabinet ar 3 Medi 2024.

 

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas mai pwrpas y sesiwn hon oedd rhoi trosolwg i'r cyhoedd o'r dystiolaeth a gyflwynir yn y gweithdy. Byddai’r dystiolaeth yn mynd i'r afael â nifer o faterion dadleuol a godwyd yn ystod y broses ac wedi hynny, yn dangos cywirdeb ffeithiol y wybodaeth a gyflwynwyd.

 

Roedd y pynciau a drafodwyd yn cynnwys:

         Trefniadau llywodraethu a ddarparodd y mandad gwleidyddol i gyflawni’r gwaith.

         Data deddfwriaethol (ar gyfer ad-drefnu ysgolion)

         Cywirdeb data.

         CYBLD (PLASC)

         Capasiti ysgolion

         Costau cludiant ysgol

         Cwyn Cymdeithas Yr Iaith.

         Ymateb Comisiynydd y Gymraeg i’r gwyn.

         Ymateb gan Gyngor Sir Ceredigion.

         Ymateb Estyn i'r broses.

 

Dywedodd Barry Rees, Cyfarwyddwr Corfforaethol, yn dilyn y Gweithdy a gynhaliwyd ar 14 Ionawr 2025, fod Aelodau'r Grŵp Annibynnol wedi anfon llythyr at y Cadeirydd yn gofyn am wahoddiad i gynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru i fynychu'r cyfarfod i ymateb i'r negeseuon e-bost yr oeddent wedi'u hanfon at Swyddogion y Cyngor Sir ynglŷn â'r broses.

 

Mewn ymateb, roedd Llywodraeth Cymru wedi ymateb gan nodi nad oeddent yn credu y dylai swyddogion Llywodraeth Cymru fynychu cyfarfod craffu’r Cyngor, Nodwyd “nid oes gennym unrhyw rôl yn y broses a gallai ein presenoldeb awgrymu fel arall. Wrth gwrs, rydym yn hapus iawn i siarad â swyddogion o’r Cyngor am y Cod Trefniadaeth Ysgolion, ond ni allwn roi cyngor cyfreithiol, ac ni allwn gymeradwyo unrhyw gynnig. Byddwn yn pryderu y gallai mynychu cyfarfod fel hyn sydd ar gofnod cyhoeddus  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Diweddariad o'r Ffrwd Waith Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy'n Dysgu pdf eicon PDF 84 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi’r diweddariad fel y darparwyd.

6.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i gadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor fel cofnod cywir a gynhaliwyd ar 6 Chwefror.