Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy'n Dysgu - Dydd Iau, 26ain Medi, 2024 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Elizabeth Evans a Mark Strong am fethu â bod yn bresennol. Estynwyd cydymdeimladau â’r Cynghorydd Mark Strong ar farwolaeth ei fam.

 

Estynodd y Cadeirydd Mynegodd ei gydymdeimlad hefyd â theulu’r diweddar Gynghorydd Paul Hinge fel cyn-gadeirydd y Pwyllgor a'i ymrwymiad i addysg y Sir.

 

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Datgelodd y Cynghorydd Rhodri Davies fuddiant personol yn eitem 7 ar yr agenda, Papurau cynnig mewn perthynas â Ysgol Craig yr Wylfa, Ysgol

Llanfihangel y Creuddyn, Ysgol Llangwyryfon and Ysgol Syr John

Rhys.

 

Datgelodd y Cynghorwyr Euros Davies, Marc Davies, Meirion Davies, Amanda Edwards, Chris James a Gareth Lloyd fuddiant personol yn eitem 4 ar yr agenda Arolygiadau Estyn, blwyddyn academaidd 2023/24.

 

Datgelodd y Cynghorwyr Chris James, Gareth Lloyd a Caryl Roberts fuddiant personol yn eitem 5 yn ymwneud â'r Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant 2022 – 2027, Adroddiad Cynnydd Blwyddyn 2.

3.

Adroddiad Arolygu Estyn - Cyngor Sir Ceredigion pdf eicon PDF 78 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Amlinellodd yr Aelod o’r Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, y Cynghorydd Wyn Thomas gynnwys Adroddiad Arolygiad Estyn ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion. Dywedodd fod Estyn, Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, wedi dyfarnu adroddiad disglair i Gyngor Sir Ceredigion o ran pa mor dda y mae'n darparu ei Wasanaethau Addysg. Cyhoeddwyd yr adroddiad ar 2 Medi 2024 yn dilyn archwiliad cynhwysfawr o weithdrefnau a threfniadau Gwasanaeth Addysg y Cyngor, gan gynnwys -

 

dadansoddiad o ymatebion i holiaduron,

cyfweliadau rhagarweiniol gyda phartneriaid perthnasol

dadansoddiad o ddata amrywiol megis deilliannau dysgwyr a pherfformiad ysgolion, ansawdd a safon y cymorth a chefnogaeth sy’n cael ei ddarparu i ysgolion

craffu manwl ar brosesau hunanwerthuso, cynlluniau strategol a threfniadau diogelu dysgwyr.

 

Mae’r adroddiad ar hyn o bryd yn datgan bod yr Awdurdod yn rhoi pwyslais amlwg ar sicrhau darpariaeth addysgol sefydlog o safon uchel i ddysgwyr yng Ngheredigion a hynny dros gyfnod estynedig a bod hyn yn bennaf oherwydd arweinyddiaeth gadarn; strategaethau ac uchelgeisiau clir a bwriadus; a chydweithio agos ymysg swyddogion yr awdurdod, aelodau etholedig, ysgolion a phartneriaid eraill. Dywed hefyd bod gan yr awdurdod hanes da o gynnal a gwella eu darpariaeth a chyflawni deilliannau da i blant a phobl ifanc Ceredigion.

 

Mae’r adroddiad yn cynnwys nifer o gryfderau. Dyma rai o’r uchafbwyntiau:-

Mae gan Gyngor Sir Ceredigion weledigaeth gadarn ar gyfer ei wasanaeth gwella ysgolion. Gweithia swyddogion yn effeithiol i geisio gwireddu’r weledigaeth i sicrhau'r profiadau gorau posibl ar gyfer holl blant a phobl ifanc Ceredigion ac mae ffocws cryf ar ddatblygu dysgu, addysgu a safonau lles disgyblion.

Mae’r awdurdod yn rhoi blaenoriaeth amlwg i ddatblygu capasiti arweinyddiaeth mewn ysgolion ac yn y gwasanaeth er mwyn ymateb i’r heriau recriwtio cenedlaethol. Mae’r strategaeth yn cynnwys y rhaglen dysgu proffesiynol, secondiadau a gweithgareddau’r tîm gwella ysgolion.

Mae trefniadau’r awdurdod o ran datblygu’r Gymraeg yn gryfder arwyddocaol, gwelir sawl agwedd o ragoriaeth ymhlith y ddarpariaeth a’r arferion. Ceir cydweithio llwyddiannus rhwng swyddogion yr adran diwylliant a thimau’r adran addysg i gefnogi’r Gymraeg a Chymreictod.

Mae’r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) yn uchelgeisiol ac yn glir o ran amcanion yr awdurdod i ddatblygu’r Gymraeg, ac mae swyddogion ar draws y Gwasanaeth Ysgolion ac adrannau eraill o’r awdurdod yn ymrwymo i wireddu’r amcanion a thargedau’r cynllun.

Mae’r Awdurdod yn cefnogi ei ysgolion a'i leoliadau i wella addysgu ac arweinyddiaeth yn effeithiol. Mae gan Ymgynghorwyr Cefnogi’r Awdurdod adnabyddiaeth gref o’u hysgolion a gwneir defnydd craff o ddata i herio a chefnogi ysgolion. Mae hyn yn nodwedd hynod gadarn a bwriadus. Dros gyfnod, mae deilliannau arolygiadau ysgolion yng Ngheredigion yn gryf.

Mae Gwasanaethau Addysg yr Awdurdod Lleol yn hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol a phresenoldeb da yn ei ysgolion, gan roi darpariaeth werthfawr ar waith i annog disgyblion i barhau i ymgysylltu ag  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Arolygiadau Estyn, blwyddyn academaidd 2023/24 pdf eicon PDF 80 KB

Cofnodion:

Yn dilyn ailddechrau arolygiadau Estyn gydag ymweliadau peilot ym mis Chwefror 2022, roedd arolygiadau Estyn wedi dechrau ar flwyddyn olaf y cylch hwn. Aeth arolygiadau ysgolion heibio’n gadarnhaol, ac Awdurdod Lleol Ceredigion yw'r unig awdurdod lleol yng Nghymru heb unrhyw ofynion dilynol, yn dilyn arolygiadau.

Arolygwyd yr ysgolion canlynol yn ystod blwyddyn academaidd 2023/24:

  • Ysgol Cenarth
  • Ysgol Felinfach
  • Ysgol Llanfarian
  • Ysgol Rhos Helyg
  • Ysgol Talgarreg
  • Ysgol Syr John Rhys
  • Ysgol Gymunedol Tal-y-Bont
  • Ysgol Llannon

 

Crynhodd yr Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, y Cynghorydd Wyn Thomas gynnwys pob adroddiad a dywedodd fod yr adroddiadau'n dangos gwaith gwych yr holl staff yn yr ysgolion hyn.

 

Diolchodd y Cadeirydd a'r holl Aelodau bob ysgol am eu hadroddiadau ardderchog.

ir excellent reports

5.

Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant 2022-2027 Adroddiad Cynnydd Blwyddyn 2 (2023-2024) pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Adroddodd Aelod o’r Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, y Cynghorydd Wyn Thomas, fod nifer y lleoedd gofal plant cofrestredig wedi parhau i ostwng dros y flwyddyn ddiwethaf, gan ostwng o 1,438 ym mis Mawrth 2023 i 1,428 ym mis Mawrth 2024. Mae hyn yn gyson â’r duedd genedlaethol. Mae’n gyfystyr â gostyngiad o ddeg lle gofal plant cofrestredig dros y flwyddyn ddiwethaf, ond gostyngiad o 142 lle ers mis Mawrth 2021. Roedd nifer y lleoedd gofal plant yn gostwng yn gyflymach na’r gyfradd genedigaethau. Roedd y galw am argaeledd lleoedd gofal plant yn uchel, er bod y gyfradd genedigaethau wedi bod yn gostwng ers 2013, gan fod y gyfradd genedigaethau wedi cynyddu ychydig yn 2021 a 2023.

Mae'r pwyntiau canlynol yn grynodeb o'r camau gweithredu a gafodd eu blaenoriaethu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf:

 

i.)             Cyflwyno ehangu Dechrau'n Deg – Elfen gofal plant Dechrau'n Deg i 8 Ardal Cynnyrch Ehangach Haen Is yn unig o fis Ebrill 2023. Derbyniodd 127 o blant dwy flwydd oed ofal plant Dechrau’n Deg yn yr ardaloedd hyn. Yn ogystal â'r 142 o blant yn yr ardaloedd Dechrau'n Deg presennol.

ii.)            Sicrhau Cyllid Cyfalaf ar gyfer datblygu'r cyfleuster gofal plant o fewn ysgol newydd Dyffryn Aeron ac roedd gwaith ar y gweill (disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau yn Hydref 2024). Byddai cyfleuster gofal plant pwrpasol yn rhan o'r ysgol sy'n cynnig gofal plant cofleidiol, gofal ar ôl ysgol ac yn ystod y gwyliau.

iii.)           Grantiau Cyfalaf Bach Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar– £299,476.06 o gyllid a ddyfarnwyd i 41 darparwr i wella amgylchedd y lleoliad a/neu gyfnewid offer.

iv.)          Darpariaeth newydd - Gwaith datblygu wedi’i wneud wrth nodi mannau addas ar gyfer datblygu lleoliad newydd ar gyfer sesiynau yn Llanbedr Pont Steffan (ardal Dechrau'n Deg newydd).

v.)            Cefnogi BusnesauBuddsoddwyd adnoddau ac amser sylweddol i gefnogi lleoliad sesiynol/y tu allan i'r ysgol sy'n wynebu problemau cynaliadwyedd.

vi.)          Prosiect Peilot - Trafodaethau cychwynnol gyda'r Mudiad Meithrin ynghylch atebion i'r baich gwaith gweinyddol ar bwyllgorau gwirfoddol.

vii.)         Grant Hyfforddiant a Chymorth newydd Llywodraeth Cymru (LlC) -

Gweinyddu'r grant i ddatblygu a mabwysiadu pecyn Hyfforddi i sicrhau bod darparwyr yn cydymffurfio â'r newidiadau i'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol (NMS) newydd erbyn mis Tachwedd 2024.

viii.)        YmgynghoriadauYmatebwyd i gofrestru’r gweithlu Gofal Plant a Chwarae, Arolygiadau ar y Cyd rhwng Estyn ac AGC ac ymgynghoriadau’r Flwyddyn Ysgol.

ix.)          Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) – sicrhau bod darparwyr yn ymwybodol o'r ymgynghoriad a'r effaith y bydd WESP yn ei chael ar leoliadau gofal plant sesiynol.

x.)            Cynnig Gofal Plant - Gweithredu cyflwyno'r System Ddigidol Genedlaethol yn llawn ar gyfer pedair sir Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Phowys.

xi.)          Gofal Plant Di-drethNodwyd Ceredigion fel un o bum Awdurdod Lleol yng Nghymru i weithio gyda CThEM a Hempsall's yn ystod 2023 i gefnogi cynnydd yn nifer y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Trosolwg o'r materion ariannol yn ystod y flwyddyn pdf eicon PDF 74 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriwyd Trasolwg o’r materion ariannol yn ystod y flwyddyn. Dywedodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Cyllid a Chaffael fel yr oedd yr Aelodau yn ymwybodol, roedd y broses o bennu Cyllideb 24/25 yn un heriol ac roedd yn cynnwys cymeradwyo tua 70 o gynigion i gwtogi’r Gyllideb a oedd yn dod i gyfanswm o tua £5.8m. Roedd y cynnydd wrth gyflawni'r gostyngiadau yma yn y gyllideb yn cael ei adolygu a'i fonitro gan y Grŵp Arweiniol ar ddiwedd pob mis.

 

Yn ystod y flwyddyn y bwriad yw darparu'r wybodaeth ganlynol i bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn unigol:

• Y sefyllfa ariannol chwarterol ddiweddaraf fel yr adroddwyd i'r Cabinet, (i gynnwys y sefyllfa ddiweddaraf o ran statws BRAG ar ostyngiadau yn y gyllideb 24/25)

• Byddai hyn yn cynnwys yr adroddiadau Monitro Refeniw a Chyfalaf.

 

Byddai’r wybodaeth hon yn galluogi'r Pwyllgor i graffu ar y materion ariannol sy'n berthnasol i'r meysydd Gwasanaeth sy'n dod o fewn ei gylch gwaith. Ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn gall y Pwyllgor ddewis bwrw golwg ar unrhyw ran o'r Gyllideb sydd o fewn ei gylch gwaith a hynny drwy'r Flaenraglen Waith.

 

Cyfeiriwyd at y cynnig dyfarniad cyflog o 5.5% i athrawon, a oedd ar y pryd yn destun ymgynghoriad, ac a fyddai'r cyllid ar gyfer hyn ar gael gan Lywodraeth Cymru. Nodwyd bod cynnydd o 1% yng nghyflog athrawon yn cyfateb i £450k.

 

Yn dilyn cwestiynau o'r llawr, CYTUNWYD i nodi’r adroddiad, er gwybodaeth.

 

7.

Papurau cynnig o ran Ysgol Craig yr Wylfa, Ysgol Llanfihangel y Creuddyn, Ysgol Llangwyryfon a Ysgol Syr John Rhys pdf eicon PDF 7 MB

Cofnodion:

Bu i’r Aelod o’r Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, y Cynghorydd Wyn Thomas, gyflwyno’r adroddiad, er gwybodaeth i'r Pwyllgor. Yn dilyn esboniad manwl gan Swyddogion ar weithdrefn y broses ymgynghori ac ar yr angen i hysbysu'r cyhoedd a oedd wedi cyflwyno eu sylwadau’n wreiddiol ar y pedwar cynnig hyn i'w hailgyflwyno i gyfeiriad e-bost corfforaethol a fyddai’n cael ei ddarparu maes o law. Roedd hyn er mwyn sicrhau bod yr holl sylwadau a anfonwyd yn flaenorol at Gynghorwyr a Swyddogion amrywiol yn cael eu casglu o un ffynhonnell.  Anogwyd yr Aelodau i ddosbarthu'r neges hon ar yr angen i ailgyflwyno sylwadau i bartïon â diddordeb, cytunwyd hefyd y byddai'r neges hon yn cael ei chyhoeddi ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor.  Adroddwyd y byddai'r cyfnod ymgynghori yn dechrau ganol mis Hydref am 42 diwrnod (i gynnwys cyfnod o 20 diwrnod pan oedd yr ysgolion ar agor); ac eithrio Ysgol Llanfihangel y Creuddyn, a fyddai'n dechrau ym mis Tachwedd, yn dilyn cyfnod ymgynghori 28 diwrnod gyda'r eglwys.

 

Nodwyd y byddai'r ymgynghoriad yn cynnwys y data mwyaf diweddar, yn dilyn y tymor newydd. Cyflwynwyd y ffigurau diweddaraf i'r Pwyllgor fel a ganlyn:

  • Ysgol Craig yr Wylfa – 24 disgybl gyda 5 cais am fynediad yn ystod y flwyddyn (4 oed);
  • Ysgol Llanfihangel y Creuddyn – 16 disgybl gydag un cais am fynediad yn ystod y flwyddyn (4 oed);
  • Ysgol Llangwyryfon – 25 disgybl gydag un cais am fynediad yn ystod y flwyddyn (4 oed);
  • Ysgol Syr John Rhys – 18 disgybl gydag un cais am fynediad yn ystod y flwyddyn (4 oed).

 

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch cyfiawnhau tynnu Ysgol Rhos Helyg ac Ysgol Talgarreg yn ôl cyn cyfarfod y Cabinet ar 3 Medi 2024. Nodwyd bod llythyr wedi'i anfon i'r ddwy ysgol gan yr Aelod Cabinet a gwnaed cais bod y rhesymau hyn yn cael eu rhannu gyda'r pedair ysgol lle bydd y broses ymgynghori statudol i beidio â chynnal y ddarpariaeth yn cychwyn yn fuan.

 

 

Cyfeiriwyd at yr amserlen a'r effaith ar staff, disgyblion a'u teuluoedd o ran gwneud y penderfyniad terfynol yn hwyr yn ystod y flwyddyn ysgol. Nodwyd bod yn rhaid i'r Cyngor ddilyn gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion.

Ar ôl i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben, byddai adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ym mis Chwefror 2025 i ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd, cyn cyflwyno i'r Cabinet. Byddai hyn wedyn yn gyfle i’r Pwyllgor graffu ymhellach ar yr ymatebion a’r cynigion; ac i gyflwyno argymhellion yn unol â hynny i’r Cabinet.

 

Byddai copi o'r amserlen ar gyfer yr ymgynghoriad/cyfarfodydd hefyd yn cael ei ddosbarthu i'r Aelodau unwaith y bydd wedi’i gwblhau.

 

CYTUNWYD i nodi'r sefyllfa bresennol a'r broses ymgynghori.

8.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion pdf eicon PDF 95 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i gadarnhau bod Cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor yn

gywir.

 

Materion yn Codi

Dim.

 

9.

I ystyried Blaenraglen Waith Ddrafft pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi’r Flaenraglen Waith yn amodol ar y newidiadau canlynol:-

  • Cyfarfod ychwanegol i'w gynnal ym mis Chwefror 2025 i ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd o’r ymgynghoriad ar y papurau cynnig mewn perthynas ag Ysgol Craig yr Wylfa, Ysgol Llanfihangel y Creuddyn, Ysgol Llangwyryfon ac Ysgol Syr John Rhys. Bydd y papur hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y rheswm/rhesymau pam fod y ddwy ysgol a glustnodwyd yn wreiddiol i ddechrau'r broses ymgynghori wedi cael eu tynnu'n ôl cyn cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 03 Medi 2024.
  • Cyflwyniad ar gapasiti a mannau gwag mewn ysgolion
  • Anfon gwahoddiad at Brif Weithredwr Mudiad Meithrin yn gofyn iddi ddod i gyfarfod yn y dyfodol i roi gwybodaeth i'r Aelodau am y sefydliad ac unrhyw heriau y maent yn eu hwynebu nawr ac yn y dyfodol

Bod Polisi Rhoi’r Ysgol Dan Glo newydd yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod Hydref/Tachwedd i'w ystyried.