Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Gwnaeth
y Cynghorwyr Marc Davies a Mark Strong ymddiheurio am
eu hanallu i fynychu’r cyfarfod. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Gwnaeth y Cynghorydd Caryl Roberts ddatgan buddiant personol ar gyfer
eitemau 4 a 5 ar yr agenda (cofnod 5 a 5 isod). Datganodd y Cynghorwyr Euros Davies, Endaf Edwards, Elizabeth Evans,
Chris James , Gareth Lloyd, Ann Bowen Morgan fuddiant personol yn eitem 5 ar yr
agenda (cofnod 6 isod) |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Gweithdrefn CYTUNWYD y dylid ystyried eitem 6 ar yr agenda yn gyntaf. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Trefniadau Arolygu Newydd 2024 - 2030 PDF 71 KB Cofnodion: Rhoddwyd
ystyriaeth i drefniadau arolygu newydd 2024-2030. Rhoddodd Mr Gareth Lanagan,
Rheolwr Corfforaethol - Gwella Ysgolion gyflwyniad pwynt pŵer i'r Aelodau
ar y canlynol :-
Yn dilyn cwestiynau o'r
llawr, CYTUNWYD bod y Pwyllgor yn derbyn diweddariad ar y trefniadau newydd yn
dilyn ymweliadau cyntaf Estyn â'r ysgolion enwebedig, i gynnwys profiad y
Pennaeth. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Canlyniadau TGAU a Safon Uwch 2024 (Dros Dro) PDF 117 KB Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i ganlyniadau TGAU a Safon Uwch 2024 (Dros Dro)
Adroddwyd bod data swyddogol wedi'i gyhoeddi'n ddiweddar gan
Lywodraeth Cymru fel y darperir yn y tablau canlynol. Byddai data terfynol ar
gael ym mis Rhagfyr, felly nodwyd mai data dros dro oedd hwn. Ar hyn o bryd roedd y set ddata a gyhoeddwyd
gan Lywodraeth Cymru o ran canlyniadau wedi gostwng yn sylweddol dros y
blynyddoedd, gyda sgoriau pwyntiau bellach yn cael eu cyhoeddi. Isod roedd canlyniadau swyddogol Llywodraeth
Cymru dros dro - byddai'r data terfynol yn cael ei gyhoeddi ddechrau
Rhagfyr, ond fel arfer nid oedd llawer o newid.
O ran y data Safon Uwch, gweler y canrannau isod sy’n dangos graddau
penodol ar draws yr holl bynciau Safon Uwch:
CYTUNWYD i nodi'r adroddiad am wybodaeth a llongyfarch y disgyblion a'r
athrawon ar eu canlyniadau ardderchog. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Astudiaeth Dichonolrwydd - Adolygu Darpariaeth Addysg Ôl-16 PDF 97 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet, y Cynghorydd Wyn Thomas, yr adroddiad a
dywedodd oherwydd y cytunwyd mewn cyfarfod
Cabinet a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2022 y byddai'n amserol cynnal adolygiad o'r
ddarpariaeth ôl-16 yng Ngheredigion. Cytunodd Cabinet Cyngor Ceredigion ar 7 Tachwedd 2023
i gynnal Astudiaeth Ddichonoldeb i roi ystyriaeth fanwl i Opsiwn 2 ac Opsiwn 4
yn yr 'Adolygiad o Ddarpariaeth Ôl-16 yng Ngheredigion' ac ystyried ymhellach
fanteision ac anfanteision Opsiwn 2 ac Opsiwn 4 yng nghyd-destun y chwe
egwyddor. Comisiynwyd Mr John Hayes (a oedd yn bresennol yn y cyfarfod) i ymchwilio
i'r ddau opsiwn hyn a chyflwyno adroddiad i Graffu yn nhymor yr Hydref 2024.
Rhoddodd Mr Hayes drosolwg i'r Aelodau o'r Astudiaeth Ddichonoldeb a'i
ganfyddiadau ac ystyriaeth fanwl i opsiwn 2 a 4 isod. Dywedodd fod chwe ysgol yng Ngheredigion yn cynnig
addysg chweched dosbarth, fel y gŵyr yr Aelodau: Aberteifi, Bro Teifi,
Aberaeron, Bro Pedr, Penweddig a Phenglais. Y ddau
opsiwn y cytunwyd i'w hymchwilio oedd: Opsiwn 2: Datblygu'r sefyllfa
bresennol Byddai'r opsiwn hwn yn adeiladu ar y sefyllfa
bresennol yng Ngheredigion. Yn y lle cyntaf, byddai'r ddarpariaeth ôl-16 yn
parhau ar y 6 safle presennol. Byddai'r 6 Bwrdd Llywodraethu presennol yn
parhau â'u rolau presennol o ran llywodraethu hyd at 16 ond yn cytuno â'r
Awdurdod Lleol i ffurfio Bwrdd Strategol a fyddai'n rheoli cyllideb ôl-16 yr
Awdurdod, sicrhau trefniadau addas ar gyfer cydgynllunio'r cwricwlwm ac yna
comisiynu'r ddarpariaeth gan yr ysgolion, e-sgol a phartneriaid eraill.
Byddai'r Bwrdd Strategol yn cael ei gefnogi gan Fwrdd Gweithredol er mwyn
gweithredu'r cynigion cwricwlaidd. Byddai'r Bwrdd Strategol yn gyfrifol am
fonitro ansawdd y ddarpariaeth a gwneud argymhellion i'r Awdurdod Lleol a'r
darparwyr ar gyfer gwella. Dros amser, gallai'r argymhellion hyn gynnwys addasu
nifer y safleoedd a'r hyn a ddarperir ar bob safle. Byddai'r holl ddarparwyr yn
cael eu cynrychioli ar y ddau fwrdd, gyda chynrychiolaeth gan yr Awdurdod Lleol
a lle priodol ar gyfer llais y dysgwr a'r rhieni. Opsiwn 4: Un Ganolfan Byddai'r opsiwn hwn yn cynnig newid mwy
pellgyrhaeddol. Byddai'n golygu cau'r ddarpariaeth ôl-16 bresennol a sefydlu
Canolfan Ragoriaeth, gan gynnwys amrywiaeth o bartneriaid, mewn un neu fwy o
safleoedd daearyddol addas. Corff Llywodraethol sy'n annibynnol ar yr ysgolion
fyddai'n gyfrifol am y cyllid a'r cwricwlwm a byddai'n penodi nifer fach o
staff craidd i lywio a rheoli'r gwaith. Wrth edrych mewn i'r ddau opsiwn roedd yn bwysig
iawn ystyried -
Roedd y lleoliad gwledig ac amddifadedd gwledig,
dyfodol y Gymraeg, materion amgylcheddol, costau a chyllid a llais
rhanddeiliaid i gyd yn ffactorau allweddol pwysig y dylid eu hystyried yng
nghyd-destun opsiwn 2 ac opsiwn 4. Mae'r penderfyniad ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunwyd i nodi'r Blaenraglen Waith gyfredol yn
amodol ar: - (i) nodi bod cyfarfod arbennig wedi ei drefnu ym mis Chwefror i ystyried
yr Ysgolion Ailstrwythuro - ymatebion i'r ymgynghoriad, (ii) Trosolwg o’r materion ariannol yn ystod y
flwyddyn (Chw 2) i’w hystyried yng nghyfarfod mis
Tachwedd; a (iii) bod y cyngor yn cael ei ofyn gan y
Swyddog Monitro pe bai'n bosibl ymweld â'r ysgolion a oedd ar hyn o bryd yn
destun yr ymgynghoriad ailstrwythuro; I weld y pryderon a godwyd yn yr
adroddiadau ymgynghori ar gyflwr adeiladau'r ysgol ac ati. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: CYTUNWYD i gadarnhau fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod pwyllgor
blaenorol yn ddibynnol ar (i)nodi mai'r Cynghorydd Chris James oedd yn cadeirio'r cyfarfod ac nid
Endaf Edwards, a (ii) bod y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans hefyd
yn bresennol yn y cyfarfod. Materion yn Codi Dim. |