Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Euros Davies a Rhodri Davies am na fedrent ddod i’r cyfarfod.

 

Ymddiheurodd y Cynghorydd Elizabeth Evans am na fedrai ddod i’r cyfarfod gan ei bod ar ddyletswyddau eraill ar ran y Cyngor.

 

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Dim.

3.

Canlyniadau TGAU a Safon Uwch 2023 (Diweddariad) pdf eicon PDF 122 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, sef y Cynghorydd Wyn Thomas. Adroddwyd bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu wedi cael trosolwg o ganlyniadau Ceredigion yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Medi 2023. Erbyn hyn, roedd y data swyddogol ar gael oddi wrth Lywodraeth Cymru, a chyflwynwyd y data hwnnw yn yr adroddiad. Roedd y data cenedlaethol hefyd ar gael ac roedd y Pwyllgor yn awyddus i weld y gymhariaeth.

 

Byddai’r data terfynol ar gael ym mis Rhagfyr, felly nodwyd mai data dros dro yn unig a gyflwynwyd.

 

Roedd y set o ddata a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru o ran canlyniadau wedi lleihau tipyn dros y blynyddoedd. Erbyn hyn, roeddent yn cyhoeddi sgoriau pwyntiau yn unig.

Roedd y data TGAU swyddogol yn edrych ar y “radd gyntaf” yn hytrach na’r “radd orau”. Er enghraifft os oedd disgybl yn cael “C” ym mis Tachwedd ac yna’n ail-sefyll ac yn cael “A” yn yr haf, y radd “C” fyddai’n cael ei chynnwys.

Yn lleol roeddem yn rhoi’r sgoriau pwyntiau “gradd orau” i’r ysgolion er mwyn dangos yn well pa gymwysterau roedd y disgyblion yn eu hennill ar ddiwedd Blwyddyn 11.

 

 

 

“gradd gyntaf”

“gradd orau”

 

Ceredigion

2023

Cymru

2023

Ceredigion

2023

Sgôr pwyntiau wedi’i chapio (Capped 9)

357

357

358

Pwyntiau Iaith / Llenyddiaeth

40

40

41

Pwyntiau Mathemateg / Rhifedd

38

37

38

Pwyntiau Gwyddoniaeth

38

37

38

Pwyntiau Tystysgrif Her (BAC)

35

32

35

 

O ran y data Safon Uwch, roedd data cenedlaethol ar gael ar gyfer A*-B ac A*-C ac ychwanegwyd y rhain at y tabl isod er gwybodaeth.

 

 

Ceredigion

2023

Cymru

2023

Graddau A* - A

37.5%

34.2%

Graddau A* - B

61.4%

59.1%

Graddau A* - C

82.5%

80.5%

Graddau A* - E

99.1%

99.5%

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr ynghylch y fethodoleg a ddefnyddir i gasglu’r data gan Lywodraeth Cymru, CYTUNWYD i nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd. 

 

4.

Cymwysterau 14-16 pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad ynghylch y Cymwysterau ar gyfer disgyblion 14-16 oed gan yr Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, sef y Cynghorydd Wyn Thomas. Nododd fod Cymwysterau Cymru’n edrych ar gymwysterau ar gyfer disgyblion rhwng 14 ac 16 mlwydd oed.

Nod ‘Cymwys ar gyfer y Dyfodol’ oedd sicrhau bod dysgwyr Cymru’n dilyn cymwysterau sy’n eu hysbrydoli ac yn eu paratoi ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith. Er mwyn gwneud hyn, roedd Cymwysterau Cymru’n ail-ddychmygu cymwysterau i gefnogi’r Cwricwlwm newydd i Gymru. Bwriad ‘Cymwys ar gyfer y Dyfodol’ oedd:

 

  • ennyn hyder y cyhoedd yng Nghymru, y DU, ac yn fyd-eang
  • sicrhau dewis teg, cydlynol a dwyieithog i ysgolion a dysgwyr
  • gwneud y gorau o dechnoleg ddigidol
  • sicrhau y gellid cyflwyno cymwysterau mewn ffordd reoledig a chynaliadwy.

 

Roedd y sefydliad wedi gweithredu model o ddatblygu ar y cyd ac wedi cynnal dau ymgynghoriad.

 

Cynhaliwyd dau ymgynghoriad yn ystod y flwyddyn ddiweddaf. Roedd y papur hwn yn ystyried penderfyniadau’r ymgynghoriad ynghylch TGAU Gwneud-i-Gymru. Rhwng mis Hydref 2022 a mis Mawrth 2023 cynhaliwyd ymgynghoriad helaeth ar y cynigion ar gyfer y TGAU Gwneud-i-Gymru. Ymgynghorwyd ar y cynigion ar gyfer 26 cymhwyster newydd, a oedd wedi’u grwpio o dan y chwe Maes Dysgu a Phrofiad. Darparodd yr Ymgynghorydd Cefnogi Ysgolion ragor o wybodaeth am y cynnig hwn mewn cyflwyniad PowerPoint.

 

  • Beth sy’n newid a phryd?
  • Egwyddorion Gwneud-i-Gymru
  • Ymgynghori
  • Cymraeg, Saesneg ac Ieithoedd
  • Mathemateg a Rhifedd
  • Y Gwyddorau a Thechnoleg
  • Y Celfyddydau Mynegiannol
  • Y Dyniaethau
  • Iechyd a Llesiant
  • Y cynnig llawn o gymwysterau 14-16

 

Yn ogystal â’r uchod, cynhaliwyd ymgynghoriad ynghylch y cynnig llawn o gymwysterau, a oedd yn cynnwys rhai galwedigaethol a chyn-alwedigaethol. Tra bod yr uchod yn ystyried pynciau mwy traddodiadol, roedd y cynnig llawn yn ystyried pob math o gymwysterau. Byddai’r cymwysterau hyn yn sefyll ochr yn ochr â’r cymwysterau TGAU. Byddai hyn yn darparu cymwysterau a fyddai’n cefnogi ehangder y Cwricwlwm i Gymru ac yn paratoi dysgwyr ar gyfer bywyd a gwaith. Byddai canfyddiadau’r ymgynghoriad yn cael eu cyhoeddi ym mis Ionawr 2024.

 

CYTUNWYD i nodi’r sefyllfa bresennol.

 

5.

Cofnodion Cyfarfod Cyngor Ieuenctid Ceredigion (20.10.23) pdf eicon PDF 116 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi cofnodion cyfarfod Cyngor Ieuenctid Ceredigion.

 

 

6.

Diweddariad ynghylch y ddarpariaeth Gofal Plant yn Llanbedr Pont Steffan pdf eicon PDF 140 KB

Cofnodion:

Roedd Adroddiad Cynnydd Blwyddyn 1 yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Craffu ym mis Gorffennaf 2023 yn tynnu sylw at y diffyg gofal plant yn Llanbedr Pont Steffan. Roedd hyn yn bryder o ran cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ehangu’r hawl i ofal plant Dechrau’n Deg a oedd yn cynnig 12.5 awr yr wythnos i blant 2-3 oed yn y dref. 

 

Yn dilyn y cytundeb i ehangu gofal plant wedi’i ariannu drwy’r rhaglen Dechrau’n Deg i blant 2 oed yng Nghymru, cynhaliodd Ceredigion ymarfer cwmpasu sylweddol i nodi’r ardaloedd ar gyfer ehangu. Ar ôl cyflwyno cynllun busnes i Lywodraeth Cymru, cytunwyd i gynnwys yr Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOAs) canlynol yn y cynllun ehangach a ddechreuodd ym mis Ebrill 2023:

 

• Llanbedr Pont Steffan 1 a 2

• Tregaron

• Ceinewydd

• Lledrod

• Llangeitho

• Y Borth

Ceulanamaesmawr

 

Llanbedr Pont Steffan oedd yr unig dref heb Gylch Meithrin neu ddarpariaeth gofal plant sesiynol i blant 2-4 oed. Roedd llawer o blant 3 oed yn dechrau’r ysgol (bore yn unig) heb fod wedi mynychu unrhyw fath o ofal plant.

Er bod LSOA 1 a 2 Llanbedr Pont Steffan wedi’u cymeradwyo ar gyfer ehangu, nid oedd nifer y lleoedd gofal plant a oedd ar gael yn ateb y galw, felly nid oedd modd i lawer o blant gael mynediad i ofal plant cymwys. Yn Llanbedr Pont Steffan roedd un feithrinfa ddydd breifat gofrestredig ar gyfer 36 o blant, a 3 gwarchodwr plant a oedd yn cynnig 22 o leoedd. Ar y pryd, roedd yr holl ddarparwyr yn llawn ac nid oeddent yn gallu derbyn rhagor o blant a fyddai’n gymwys am y 12.5 awr yr wythnos o ofal plant a ariennir drwy Dechrau’n Deg.

 

Prif amcanion ehangu Dechrau’n Deg oedd:

sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd;

mynd i’r afael â thlodi ac amddifadedd; a

chynyddu’r gwasanaethau gofal plant, a’r lleoedd a’r lleoliadau gofal plant cyfrwng Cymraeg a ddarperir.

 

Ar y pryd roedd 19 o blant yn gymwys i gael gofal plant Dechrau’n Deg yn ardal 1 a 2 Llanbedr Pont Steffan. Fodd bynnag, gallai’r Awdurdod Lleol ond ariannu lleoedd ar gyfer 10 o blant gan nad oedd digon o leoedd gwag ar gael. Cynhaliwyd sgyrsiau ac ymholiadau cychwynnol gyda’r Feithrinfa Ddydd breifat ynghylch ehangu. Yn dilyn penderfyniad y Feithrinfa Ddydd i beidio ag ehangu ei gwasanaeth oherwydd ystyriaethau gyda’r safle, roedd swyddogion Dechrau’n Deg wedi bod yn gweithio gyda Mudiad Meithrin i ymchwilio i’r potensial o sefydlu Cylch Meithrin newydd yn Llanbedr Pont Steffan.

 

Bu’n anodd dod o hyd i leoliad addas i gynnal Cylch Meithrin / gofal plant sesiynol oherwydd yr angen i ddilyn rheoliadau Arolygiaeth Gofal Cymru / y Safonau Gofynnol Cenedlaethol. Fodd bynnag, roedd cynnydd yn cael ei wneud. Roedd trafodaethau’n mynd rhagddynt i sefydlu Cylch Meithrin naill ai yng nghwt y Sgowtiaid yn Llanbedr Pont Steffan neu o bosib yn Ysgol Bro Pedr. Nod y Cylch oedd agor ym mis Ionawr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

Y diweddaraf am Ffrydiau Gwaith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy'n Dysgu pdf eicon PDF 156 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi’r adroddiad ynghylch y ffrwd waith a gynhaliwyd yng Nghwrtnewydd. Diolchodd yr Aelodau a oedd yn bresennol yn y ffrwd waith i’r Swyddogion am y cyfle i weld y cyfleusterau yng Nghwrtnewydd a’r cyfle i arsylwi’r addysgu a siarad â’r disgyblion. Roedd yr ymweliad yn un gwerth chweil. 

 

8.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion pdf eicon PDF 98 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i gadarnhau bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor yn rhai cywir. 

 

Materion yn Codi

  Dim.

 

9.

I ystyried Blaenraglen Waith Ddrafft pdf eicon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi’r Flaenraglen Waith Ddrafft fel y’i cyflwynwyd yn amodol ar drefnu cyfarfod arall pe bai angen cyn y cyfnod cyn-etholiad ym mis Mai.