Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Paul Hinge am na fedrai ddod i’r cyfarfod.

2.

Materion Personol

Cofnodion:

Dymunwyd yn dda i Mrs Mary Davies a oedd yn absennol o’r gwaith oherwydd salwch.

 

Estynnwyd llongyfarchiadau i’r cynllunBwyd a Hwyl’ a gynhaliwyd dros yr haf yn Aberystwyth. 

3.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Datgelodd y Cynghorwyr Endaf Edwards, Euros Davies, Marc Davies, Meirion Davies, Amanda Edwards, Elizabeth Evans, Eryl Evans, Chris James, Ann Bowen Morgan a Mark Strong fuddiant personol yn eitem 5 gan eu bod nhw i gyd yn llywodraethwyr ysgolion.

 

4.

Canlyniadau TGAU a Safon Uwch 2023 pdf eicon PDF 125 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, sef y Cynghorydd Wyn Thomas, yr adroddiad a nododd na chynhaliwyd arholiadau allanol yn eu dull traddodiadol mewn ysgolion yn haf 2020 na haf 2021 oherwydd y pandemig COVID-19. Ar gyfer haf 2022, roedd Cymwysterau Cymru wedi penderfynu y byddai canlyniadau ar lefel genedlaethol yn adlewyrchu pwynt hanner ffordd rhwng canlyniadau haf 2019 a haf 2021. Felly, nid oedd modd cymharu canlyniadau 2023 â’r blynyddoedd blaenorol.

 

Adroddwyd y canrannau dros dro ar gyfer Ceredigion (byddai’r data swyddogol ar gael ar ddechrau mis Hydref).

 

Y SEFYLLFA AR HYN O BRYD:

 

Canlyniadau TGAU 2023

 

Cymariaethau Cenedlaethol – Arholiadau Haf 2023 (TGAU CBAC yn unig)

 

 

Ceredigion

2023

Cymru

2023

Gradd A* - A

24.8%

21.7%

Gradd A* - C

68.6%

64.9%

Gradd A* - G

97.2%

96.9%

         

 

Ystyriwyd nifer o ddangosyddion wrth arfarnu canlyniadau’n lleol. Roedd y rhain yn edrych ar raddau gorau disgyblion ar ddiwedd Blwyddyn 11:

 

Dangosyddion

Diffiniad

Ceredigion 2023

5A*-C (LM)

Canran y disgyblion sydd wedi ennill 5 TGAU graddau A*-C (neu gyfwerth) gan gynnwys Iaith a Mathemateg / Rhifedd

55.0%

5A*-C

Canran y disgyblion sydd wedi ennill 5 TGAU graddau A*-C (neu gyfwerth)

66.0%

5A*-G

Canran y disgyblion sydd wedi ennill 5 TGAU graddau A*-G (neu gyfwerth)

92.2%

5A*-A

Canran y disgyblion sydd wedi ennill 5 TGAU graddau A*-A (neu gyfwerth)

22.4%

Cymraeg

Canran y disgyblion sydd wedi ennill TGAU gradd A*-C

mewn Cymraeg Iaith Gyntaf

70.1%

Saesneg

Canran y disgyblion sydd wedi ennill TGAU gradd A*-C mewn Saesneg Iaith

62.3%

Mathemateg

Canran y disgyblion sydd wedi ennill TGAU gradd A*-C mewn Mathemateg

58.5%

Rhifedd

Canran y disgyblion sydd wedi ennill TGAU gradd A*-C mewn Mathemateg Rhifedd

57.2%

Gwyddoniaeth

Canran y disgyblion sydd wedi ennill TGAU gradd A*-C mewn Gwyddoniaeth

62.8%

 

 

 

Canlyniadau Safon Uwch 2023

 

Cymariaethau Cenedlaethol – Arholiadau Haf 2023 (Safon Uwch CBAC yn unig)

 

 

Ceredigion

2023

Cymru

2023

Gradd A* - A

37.5%

34.0%

Gradd A* - B

61.4%

Amherthnasol

Gradd A* - C

82.5%

Amherthnasol

Gradd A* - E

99.1%

97.5%

 

 

CYTUNWYD i nodi’r adroddiad er gwybodaeth a llongyfarch yr holl ddisgyblion a staff ar eu llwyddiannau.

5.

Y ddarpariaeth Addysg ol-16 mewn ysgolion pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, sef y Cynghorydd Wyn Thomas, yr adroddiad a rhoddodd Mr Barry Rees, Cyfarwyddwr Corfforaethol, Mrs Elen James, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Dysgu Gydol Oes a’r Prif Swyddog Addysg, a Mr Clive Williams, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Ysgolion a’r Dirprwy Brif Swyddog Addysg, gyflwyniad PowerPoint a oedd yn amlinellu cynnwys yr adroddiad. 

 

Adroddwyd bod y Cabinet wedi cytuno yn y cyfarfod rhithiol a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2022, y byddai’n amserol cynnal adolygiad o’r ddarpariaeth ôl-16 yng Ngheredigion. Bwriad yr adolygiad oedd darparu dadansoddiad ac arfarniad o’r sefyllfa gyfredol o ran y ddarpariaeth ôl-16 yng Ngheredigion a nodi opsiynau cynaliadwy i’r dyfodol, ynghyd â’u manteision ac anfanteision posib.

 

Nod yr adolygiad oedd i:

• greu set o egwyddorion cytûn a oedd yn ddysgwr-ganolog

• gynnig ystod o opsiynau hygyrch a chynaliadwy gan sicrhau bod llais y dysgwyr, llywodraethwyr, rhieni, penaethiaid a swyddogion yr Awdurdod Lleol yn rhan annatod o’r broses

• sicrhau bod ystyriaeth lawn wedi ei rhoi i ganfyddiadau ac argymhellion adolygiadau cenedlaethol Estyn a chefndir polisi presennol Llywodraeth Cymru gan gynnwys y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

• rhoi ystyriaeth i wledigrwydd a goblygiadau ôl-troed carbon.

 

Yn ogystal, roedd cyd-destun ehangach i’r adolygiad hwn, sef:

• Penderfyniad Llywodraeth Cymru i sefydlu Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CADY) a fyddai’n gyfrifol, ymhlith materion eraill, am strategaeth, cyllido a goruchwylio’r sector addysg bellach, gan gynnwys colegau a chweched dosbarth ysgolion.

• Adroddiad Thematig Estyn ar Bartneriaethau Ôl-16 (Ionawr 2021).

• Y cyfleoedd a geid drwy Fargen Dwf Canolbarth Cymru, y Strategaeth Economaidd a’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar gyfer anghenion a sgiliau gweithlu’r dyfodol a rôl ganolog y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol yn y broses o gasglu a dadansoddi’r wybodaeth.

• Yr angen i sicrhau cynnig galwedigaethol eang o ansawdd, ynghyd ag arlwy ehangach o bynciau Safon Uwch, a fyddai’n caniatáu i ddysgwyr ddilyn cyfuniadau gwahanol o bynciau ac arbenigo yn eu diddordebau, waeth ble maent yn byw yn y sir.

• Adroddiad Estyn – Adolygiad o’r cwricwlwm 16-19 presennol yng Nghymru (Hydref 2022).

 

  Cytunwyd y dylid creu set o “egwyddorion cytûn a oedd yn ddysgwr-ganolog”, er mwyn sicrhau bod llais y dysgwyr, llywodraethwyr, rhieni a phenaethiaid yn cael lle canolog yn yr adroddiad. 

 

Rhoddwyd gwybod i’r Aelodau fod 6 egwyddor wedi’u llunio, sef -

 1) Dylid blaenoriaethu anghenion y dysgwyr dros unrhyw anghenion sefydliadol.

2) Dylid cynnal a gwella ymhellach y safonau cyffredinol uchel a welwyd yn ysgolion Ceredigion.

3) Dylid sicrhau gwell tegwch a chyfle cyfartal i bob dysgwr ar draws y sir o ran y cynnig, y cyngor ac arweiniad, gofal bugeiliol a llesiant, y gofynion teithio, y patrwm dysgu a’r mynediad at gefnogaeth. Mae hyn yn cynnwys sicrhau cefnogaeth bwrpasol ac arbenigol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol gan sicrhau continwwm addysg ar eu cyfer yn absenoldeb ysgol arbennig yn y Sir.

4) Dylid cryfhau’r cynnig yn y Gymraeg i fod o leiaf yn gyson â’r cynnig yn y Saesneg er mwyn cynyddu nifer  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion pdf eicon PDF 107 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i gadarnhau bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor yn gywir.

 

Materion yn Codi

Eitem 8 - Adroddwyd y byddai’r Ffrwd Waith Sicrhau Tegwch i Bob Disgybl yn ymweld â Chwrtnewydd ar 20 Hydref 2023. Rhoddwyd gwahoddiad i holl Aelodau’r Pwyllgor fynd hefyd. 

 

7.

I ystyried Blaenraglen Waith Ddrafft pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunwyd i nodi’r Flaenraglen Waith ddrafft fel y’i cyflwynwyd, yn amodol ar nodi’r canlynol:-

(i) Byddai adroddiad diweddaru ynghylch y cymwysterau 14-16 yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf; a

(ii) Byddai’r diweddariad a geir bob chwe mis ynghylch yr Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant yn cael ei gyflwyno hefyd.

 

8.

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

CYTUNWYD y dylid anfon llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor at Lywodraeth Cymru yn nodi pryderon ynghylch y toriadau termau real sy’n debygol o ddigwydd i gyllideb y Cyngor Sir ar gyfer 2024/25 a’r effaith ar y gwasanaeth addysg ac ysgolion y sir yn benodol.