Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

i.       Ymddiheurodd y Cynghorydd Marc Davies am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

ii.      Ymddiheurodd y Cynghorydd Elizabeth Evans y byddai'n gadael y cyfarfod yn gynnar.

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Ni ddatgelodd yr un Aelod o’r Pwyllgor fuddiant personol na buddiant a oedd yn rhagfarnu (nac ychwaith unrhyw ddatganiadau chwipio).

3.

Materion Personol

Cofnodion:

i.       Llongyfarchodd y Cynghorydd Wyn Thomas bawb a oedd ynghlwm â chystadleuaeth Talwrn y Beirdd ar gyfer ysgolion uwchradd yr awdurdod lleol, a gynhaliwyd yn ddiweddar yn ystod Gŵyl Fawr Aberteifi.

ii.      Llongyfarchodd y Cynghorydd Wyn Thomas Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn a oedd yn dathlu 185 o flynyddoedd eleni.

iii.    Estynnodd y Cynghorydd Wyn Thomas longyfarchiadau i Kay Morris ac Eryl Jones am drefnu gweithdy llwyddiannus ar roboteg i dros 300 o ddisgyblion.

iv.    Nododd y Cynghorydd Ann Bowen Morgan fod Ffair Ieithoedd yn Llambed, ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, ar 8 Gorffennaf.

4.

Diweddariad ar lafar ar ddiwygio TGAU (TGAU Gwneud-i-Gymru)

Cofnodion:

 Diolchodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Barry Rees, y Pwyllgor am y cyfle i drafod y mater dan sylw. Rhoddwyd trosolwg o'r newidiadau a gynigiwyd yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd rhwng Hydref a Rhagfyr 2022 ar y gwaith o ddiwygio TGAU gan Gymwysterau Cymru, corff statudol annibynnol a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Fe fyddai'r penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru a bwrdd arholi CBAC fyddai’n gweithredu'r newidiadau. 

 

Cyhoeddwyd canlyniadau'r ymgynghoriad yn ddiweddar iawn a dyna pam rhoddir diweddariad ar lafar yn hytrach nag adroddiad ysgrifenedig. Gellid nodi nifer o bryderon o'r canlyniad, gan gynnwys cyfuno Bioleg, Cemeg a Ffiseg i greu TGAU y Gwyddorau (Dyfarniad Dwbl), a fyddai'n arwain at ddileu TGAU gwyddoniaeth ar wahân (Dyfarniad Triphlyg) a gynigir gan 80% o ysgolion Cymru. 

 

Roedd y dystiolaeth o ddeilliannau'r Ymgynghoriad yn awgrymu bod consensws yr 456 o ymatebwyr wedi cael ei ddiystyru, fel yr adlewyrchir yn y canfyddiadau isod:  

 

  • Yn gyffredinol, i ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’n cynnig ar gyfer TGAU Y Gwyddorau (Dyfarniad Dwbl)? Roedd 13% yn cytuno â’r cynnig ar gyfer TGAU y Gwyddorau (Dyfarniad Dwbl), gyda 78% yn anghytuno.
  • I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno bod y cynnig ar gyfer TGAU Y Gwyddorau (Dyfarniad Dwbl) yn bodloni anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru? Roedd 12% yn cytuno bod y cynnig ar gyfer TGAU Y Gwyddorau (Dyfarniad Dwbl) yn bodloni anghenion dysgwyr yng Nghymru, gyda 75% yn anghytuno.

 

Er gwaethaf yr ymatebion clir, roedd Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi y byddai TGAU y Gwyddorau (Dyfarniad Dwbl) yn cael ei ddatblygu, gan ddisodli TGAU gwyddoniaeth ar wahân. Gallai'r penderfyniad hwn arwain at heriau i ddisgyblion a oedd yn dymuno dilyn llwybrau traddodiadol, megis astudio meddygaeth neu filfeddygaeth yn y brifysgol ac ar gyfer prentisiaethau. Fel yr amlinellwyd yn Strategaeth Gorfforaethol yr awdurdod lleol, un amcan oedd hybu’r economi, cefnogi busnesau a galluogi cyflogaeth, felly, roedd sgiliau gwyddonol cryf yn allweddol ar gyfer mentrau lleol megis AberInnovation a Chanolfan Bwyd Cymru.  Eglurodd Barry Rees fod gwybodaeth wedi ei rhannu am y cynigion gydag arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol, Cadeirydd y Pwyllgor a'r Aelod Cabinet perthnasol.

 

Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan Barry Rees. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·       Roedd y sector addysg uwch yn rhan o'r ymgynghoriad ac wedi cadarnhau fod y llwybr o’r TGAU Dyfarniad Dwbl i Safon Uwch ac ymlaen i addysg uwch yn ddilys. Er hyn, codwyd pryderon gan Swyddogion ac Aelodau y byddai'n creu llwybr anoddach i ddisgyblion o'i gymharu â disgyblion yn Lloegr a fyddai'n elwa o astudio TGAU gwyddoniaeth ar wahân ac a fyddai'n cadw'r llwybr llinellol.

·       Mynegwyd pryderon fod y newidiadau fyddai'n cael eu cyflwyno o fis Medi 2025 ymlaen yn gam sylweddol yn ôl ac y byddai'n atal disgyblion rhag arbenigo mewn pynciau.

·       Awgrymwyd y gallai'r newidiadau fod yn sgil diffyg athrawon, fodd bynnag, byddai'r ateb hwn yn creu problem arall.

·       Roedd newidiadau yn cael eu cynnig ar gyfer pynciau eraill hefyd. Bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod diweddarach.

·       Holwyd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant 2022-2027 - Adroddiad Cynnydd Blwyddyn 1 (2022-2023) pdf eicon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Wyn Thomas (Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau) yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant 2022-2027 - Adroddiad Cynnydd Blwyddyn 1 (2022-2023). Rhoddwyd trosolwg o’r canlynol, fel y nodwyd yn yr adroddiad:

·       Cefndir

·       Y sefyllfa ar hyn o bryd

·       Pryderon

·       Camau i’w cymryd i gau’r bylchau hyn

·       Cynnal/gwella’r ddarpariaeth (poblogaeth- genedigaethau byw, lleoedd gofal plant, tlodi plant, Allgymorth Dechrau’n Deg )

·       Y Iaith Gymraeg (Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CySGA)

 

Rhannodd Carys Davies fideo byr o'r gwaith a wnaed mewn gwahanol sefydliadau gofal plant ledled y sir ar ôl i’r darparwyr wneud ceisiadau llwyddiannus am grant.

 

Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion a oedd yn bresennol. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·       Roedd Dechrau'n Deg wedi gweithio'n agos gyda darparwr preifat yn Llanbedr Pont Steffan i ystyried opsiynau i ehangu eu darpariaeth nhw, ond roeddent wedi penderfynu yn erbyn hynny. Oherwydd yr angen am ddarpariaeth bellach yn yr ardal, roedd opsiynau yn cael eu hystyried gan gynnwys dod o hyd i leoliad addas. 

·       Nodwyd y dylai'r Cyngor weithio gyda cheisiadau cynllunio am ofal plant gan fod diffyg darpariaeth yn y sir.

·       Mae arian grant cyfalaf wedi bod o fudd i'r sector ddatblygu amgylchedd y lleoliad, ond mae’r angen gwirioneddol am gyllid refeniw i gefnogi cyflogau’r staff. Codwyd hyn gyda Llywodraeth Cymru.

·       Pwyslais Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd oedd ehangu darpariaeth Dechrau'n Deg ar gyfer plant dwy oed yng Ngheredigion. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo rhagor o ardaloedd Dechrau'n Deg ym mis Mawrth 2023 ac roedd gwaith yn mynd rhagddo fesul cam i weithredu'r elfen gofal plant.

·       Mae Ceredigion wedi'i nodi fel un o bum Awdurdod Lleol yng Nghymru fydd yn gweithio gyda Cyllid a Thollau EF a Hempsall's yn y flwyddyn sydd i ddod i gynyddu’r nifer sy'n manteisio ar Ofal Plant Di-dreth. Gallai'r cymorth ariannol gefnogi rhieni sy'n gweithio gyda chostau gofal plant ar gyfer plant 0–12 oed. Drwy godi ymwybyddiaeth, y gobaith yw y byddai'n arwain at gynnydd yn nifer y teuluoedd sy'n manteisio ar y cynllun.

·       Mynegodd yr Aelodau fod ‘Y Dyfodol’, a fu’n feithrinfa breifat yng Nghellan, yn wag. Adroddwyd nad oedd gan yr awdurdod lleol gyllid i sicrhau’r ddarpariaeth ac roedd y swm bychan, y pen, o Ddechrau’n Deg ond yn ariannu’r ddarpariaeth gofal plant. Yn ogystal, roedd telerau Dechrau’n Deg yn benodol ac yn dibynnu ar gôd post cyfeiriad y plentyn a ph’un a oedd o fewn Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is (LSOA).

 

Yn dilyn cynnig gan yr Aelodau, cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i argymell bod y Cabinet/ Grŵp Arweiniol yn ystyried opsiynau parthed ‘Y Dyfodol’ yng Nghellan, o ystyried yr angen am ddarpariaeth gofal plant yn yr ardal.

 

Hefyd, cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i nodi’r cynnydd a wnaed i roi’r cynllun gweithredu cyfredol ar waith a’r problemau y mae’r awdurdod lleol yn eu hwynebu o ran bodloni ei ddyletswydd i sicrhau bod digon o ofal plant ar gael.

6.

Trosolwg o e-sgol pdf eicon PDF 90 KB

Cofnodion:

Esboniodd y Cynghorydd Wyn Thomas bod  y prosiect e-sgol wedi bod yn rhedeg ers Medi 2018, gyda’r bwriad gwreiddiol o gefnogi ysgolion trwy gynnig gwersi, trwy e-ddysgu i ddisgyblion ôl-16, na fyddai ar gael heb y ddarpariaeth hon. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Llywodraeth Cymru, a Cheredigion sy’n gyfrifol am gydlynu’r prosiect yn genedlaethol. Ar ôl treialu yng Ngheredigion, symudwyd ymlaen i Bowys a GWE, ble mae effaith gadarnhaol e-sgol i’w weld yn ffynnu erbyn hyn. Mae’r tîm wedi tyfu i gynnwys Pennaeth, 3 Arweinydd Uwchradd ac un Arweinydd Cynradd i ddechrau yn y dyfodol agos. Mae’r prosiect hefyd wedi amsugno peth o waith y prosiect “Ymlaen a’r Dysgu” sy’n cefnogi siaradwyr Cymraeg ôl-16 o fewn ysgolion cyfrwng Saesneg sydd am gario ymlaen i ddatblygu eu sgiliau yn y chweched dosbarth. Ym mis Ionawr 2021, comisiynwyd e-sgol gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu cyfres o sesiynau adolygu byw ar gyfer myfyrwyr TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch (Carlam Cymru). Caiff y rhain eu recordio hefyd, er mwyn i fyfyrwyr ailymweld â hwy ar unrhyw adeg. Nod y sesiynau yw cyfoethogi gwybodaeth y myfyrwyr mewn gwahanol bynciau ac i gynnig cymorth pellach i’r gwaith anhygoel mae’r athrawon yn eu cyflawni yn eu hysgolion. Mae’r sesiynau adolygu byw am ddim ac ar gael i bob myfyriwr ledled Cymru a thu hwnt.

 

Ers y pandemig, mae dysgu cyfunol wedi dod yn gyfarwydd i holl ddisgyblion Cymru ac mae arweinwyr e-sgol wedi bod yn flaengar yn cynnig cymorth a hyfforddiant i ysgolion yn y maes hwn. Elfennau llwyddiannus eraill sydd wedi eu lansio yn ddiweddar gan dîm e-sgol yw gweithio gyda’r Mudiad Meithrin ar draws Cymru; a’r cynllun o gysylltu Unedau Cyfeirio Disgyblion gydag ysgolion cyfagos sy’n ffordd o ddarparu cyrsiau TGAU i ddisgyblion bregus tra’n hyfforddi athrawon prif-lif ar dechnegau addysgu penodol.


Rhoddodd Llifon Ellis gyflwyniad i’r Pwyllgor gan amlinellu’r canlynol:

·       Strwythur y Tîm e-sgol

·       Beth yw e-sgol?

·       Trafodaethau ar y gweill

·       Prosiectau diweddar

·       Model addysgu hybrid a sut mae’n gweithio

·       Gosodiad disgybl a’r athro

·       Llais y disgybl

·       Hyfforddiant a chefnogaeth

 

Diolchodd yr Aelodau i Llifon Ellis am roi cyflwyniad llawn gwybodaeth ac roedd yn braf clywed bod Ceredigion yn arwain y gwaith.

 

Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion a oedd yn bresennol. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·       Mewn ymateb i bryderon a godwyd yn ymwneud â chysylltedd digidol, nodwyd na fu unrhyw anhawster yn y sefydliadau addysgol gan fod y seilwaith sydd ar waith yn dda ar y cyfan.

·       Cafwyd trafodaethau rhwng ysgolion o fewn y clwstwr ynghylch pwy oedd yn darparu cyrsiau. Roedd y cyllid ar gyfer y ddarpariaeth yn amrywio o awdurdod i awdurdod, ond yng Ngheredigion roedd model ariannu ar waith rhwng ysgolion i gefnogi hyn.

·       Yn gyffredinol, roedd dysgwyr yn astudio un cwrs e-sgol ar y tro ac yn cael mynd ar gyrsiau eraill wyneb yn wyneb.

 

Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i nodi’r adroddiad.

7.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion pdf eicon PDF 81 KB

Cofnodion:

8.

I ystyried Blaenraglen Waith Ddrafft 2022/23 pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunwyd nodi cynnwys y Flaen Raglen Waith a gyflwynwyd, yn ddibynnol ar gynnwys y canlynol:

·       Canlyniadau TGAU a Lefel A 2023 (Medi 2023)

·       Addysg Ôl-16 (Medi 2023)

·       Diwygio TGAU (Medi 2023)

·       Adborth ar y Cynllun Datblygu Unigol (Tachwedd 2023/ Mai 2024)

 

Yn dilyn cynnig, gofynnwyd i'r Gwasanaethau Democrataidd gynnal ymholiadau ynghylch a oedd cyfleusterau hybrid ar waith yn Ysgol Cwrtnewydd i gynnal y cyfarfod ym mis Tachwedd. Os nad oedd hyn yn bosib, trefnir ymweliad i weld y gwaith a wnaed yn yr ysgol, a hynny fel rhan o'r ffrwd waith a ystyrir gan y Swyddogion ym mis Medi.

9.

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

i.         Nododd y Cynghorydd Wyn Thomas fod Cyngerdd y Proms Iau yn cael ei chynnal ar 6 Gorffennaf 2023 a Chyngerdd y Proms Hŷn yn cael ei chynnal ar 11 Gorffennaf 2023. Diolchwyd i Wasanaeth Cerdd Ceredigion am eu gwaith.

ii.       Esboniodd y Cynghorydd Wyn Thomas fod y gwaith wedi dechrau ar safle ysgol ardal newydd Dyffryn Aeron. Rhoddir y diweddaraf am y prosiect i’r Pwyllgor maes o law. 

iii.      Nododd yr aelodau fod anawsterau o hyd gyda'r system hybrid, a oedd yn golygu bod rhai yn methu rhannau o'r drafodaeth. Nodwyd bod y Swyddogion TGCh wedi cael gwybod am yr anawsterau a oedd yn digwydd yn ystod y cyfarfod.