Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Marc Davies ynghyd â Ms Gillian Evans, Rheolwr Corfforaethol - Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant a Lles a Mrs Mary Davies, Rheolwr Corfforaethol - Gwella Ysgolion am na allent fynychu'r cyfarfod.

 

 

2.

Personal

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd a'r Aelod o’r Cabinet Mrs Elen James a Mr Clive Williams i'w cyfarfod cyntaf yn eu rolau newydd. Llongyfarchwyd hefyd yr holl ddisgyblion a gymerodd ran yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri a rali’r CFfI yn Felin-fach

3.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio)
Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd
personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a
gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf
Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad
Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip
plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn
ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

 Dim.

4.

Adroddiad ar waith ac effaith Partneriaid Addysg Canolbarth Cymru (PACC) pdf eicon PDF 152 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Arweinydd Strategol PACC a'r Ymgynghorydd Cefnogi Ysgolion i'r Cyfarfod i roi cyflwyniad ar adroddiad Partneriaid Addysg Canolbarth Cymru (PACC). Cyflwynwyd y wybodaeth ganlynol:-

·       Pwrpas

·       Y strwythur a threfniadau llywodraethu ar draws awdurdodau lleol

·       Cyllid

·       Gwerthusiad o waith PACC

·       Blaenoriaethau 2022 – 2023

·       Yr ystod o ddysgu proffesiynol a’r cymorth a gynigir

·       Cynllunio ar gyfer 2023 – 2024

·       Chwe Amcan Cyffredinol ar gyfer Addysg Genedlaethol a'r Iaith Gymraeg

·       Wyth Ffactor Gyfrannol – fel a osodwyd yn rhan 1 o’r Grant Consortia Rhanbarthol ar gyfer 23/24

·       Blaenoriaethau 2023 – 2024

·       Camau Nesaf

 

  Yn dilyn cwestiwn o'r llawr, CYTUNWYD i nodi'r adroddiad er gwybodaeth.

 

 

5.

Arolygiadau Estyn , tymor yr Hydref 2022 a thymor y gwanwyn, 2023 pdf eicon PDF 89 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi’r Arolygiadau Estyn a gynhaliwyd yn ystod tymor yr Hydref 2022 a thymor y Gwanwyn 2023. Llongyfarchwyd pawb a gymerodd ran.

6.

Canllawiau Pontio ar gyfer ysgolion a lleoliadau- model cymorth cynhwysol pdf eicon PDF 98 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i'r Canllawiau Pontio ar gyfer Ysgolion a Lleoliadau: model cymorth cynhwysol.  Roedd y canllawiau wedi'u cyflwyno er mwyn darparu gwybodaeth ac arweiniad i ysgolion, lleoliadau a cholegau ar drefniadau pontio a chymorth cynhwysol effeithiol. Byddai’r canllawiau’n rhannu arferion da gan ddarparu arweiniad effeithiol, er mwyn cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i ffynnu, byw bywydau llawn ac ystyrlon, a dod yn aelodau a chyfranwyr gwerthfawr yn eu cymuned leol.

 

Yn dilyn cwestiwn o’r llawr, CYTUNWYD i argymell i’r Cabinet :-

(i) mabwysiadu cynnwys y canllawiau pontio ar gyfer ysgolion a lleoliadau

Ceredigion; a

(ii) datblygu cysondeb gweithredu a phontio llyfn ar gyfer plant a phobl ifanc trwy gydol eu gyrfa addysgol ac i fyd oedolion, gan eu galluogi i gyrraedd eu potensial.

7.

Cofnodion Cyfarfod Cyngor Ieuenctid Ceredigion (17.03.23) pdf eicon PDF 117 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi'r cofnodion fel y'u cyflwynwyd.

8.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion pdf eicon PDF 127 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i gadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor fel rhai cywir.

 

Materion sy’n Codi

Dim.

9.

I ystyried Blaenraglen Waith Ddrafft 2022/23 pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi'r Flaenraglen Waith ddrafft fel y'i cyflwynwyd yn amodol ar y canlynol

(i)  nodi bod adroddiad yr adolygiad ôl-16 yn cael ei ohirio tan gyfarfod mis Medi;

(ii) nodi, fel y cytunwyd yn flaenorol yn y cyfarfodydd diwethaf yn craffu ar y gyllideb, pe bai cais am wybodaeth ychwanegol am unrhyw agwedd ar y gyllideb, byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno; yn unol â hynny, a

(iii) rhoddir adroddiad o’r data ar ganlyniadau TGAU a Safon Uwch yng nghyfarfod mis Medi yn amodol ar eglurhad ar y data a fyddai ar gael gan y Rheolwr Corfforaethol - Atebolrwydd a Chynnydd