Lleoliad: Hybrid
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorydd Paul Hinge am na allai fynychu’r cyfarfod. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: None |
|
Adroddiad ar y Gyllideb ddrafft ar gyfer 2023/24 Cofnodion: Cyfarfu
Aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu i ystyried y cyllidebau
ar gyfer y gwasanaethau sydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor, ynghyd ag ystyried
yr argymhellion canlynol: 1. Ystyried sefyllfa gyffredinol
y gyllideb fel y dangosir yn yr adroddiad ar y gyllideb yn Atodiad A. 2. Ystyried elfennau perthnasol y
pwysau o ran costau ar y gyllideb, sef cyfanswm o £22.2m ar draws yr holl
wasanaethau. 3. Ystyried elfennau perthnasol y
cynigion ar gyfer gwneud arbedion yn y gyllideb, sef cyfanswm o £8.9m ar draws
yr holl wasanaethau. 4. Ystyried elfennau perthnasol y
cynigion ynghylch ffioedd a chostau. 5. Ystyried y 4 opsiwn a
amlinellir yn Argymhelliad 3a) i 3d) o adroddiad Cabinet 24/01/23, sef: 3a)
Cynnydd o 6.3% yn Nhreth y Cyngor (gan
gynnwys 1.3% mewn perthynas â’r cynnydd arfaethedig yn Ardoll yr Awdurdod Tân)
a gofyniad cyllidebol o £179.627m ar gyfer 23/24, a fyddai’n darparu cyfraniad
is tuag at Bwysau Costau Cyllidebau Dirprwyedig Ysgolion. 3b)
Cynnydd o 7.3% yn Nhreth y Cyngor (gan
gynnwys 1.3% mewn perthynas â’r cynnydd arfaethedig yn Ardoll yr Awdurdod Tân)
a gofyniad cyllidebol o £180.101m ar gyfer 23/24. 3c)
Cynnydd o 8.3% yn Nhreth y Cyngor (gan
gynnwys 1.3% mewn perthynas â’r cynnydd arfaethedig yn Ardoll yr Awdurdod Tân)
a gofyniad cyllidebol o £180.576m ar gyfer 23/24, a fyddai’n darparu cyfraniad
uwch tuag at Bwysau Costau Cyllidebau Dirprwyedig Ysgolion. 3d)
Cynnig opsiwn arall yn ychwanegol at
Argymhellion 3a) i 3c) i ddarparu cynnydd penodol at ddiben penodol, ar yr amod
bod unrhyw opsiwn yn cael ei ystyried yn ystod y cyfarfodydd a gynhelir i
graffu ar y gyllideb a bod y Swyddog Adran 151 yn cael digon o amser ymlaen
llaw i fodelu’r effaith yn llawn ac i roi ei farn ar ei gadernid. 6. Darparu unrhyw adborth priodol
arall ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 23/24 i’r Cabinet. Cafodd y Pwyllgor gyflwyniadau gan Arweinydd y
Cyngor (y Cynghorydd Bryan Davies), yr Aelod Cabinet dros Gyllid a Chaffael (y
Cynghorydd Gareth Davies) a’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a
Chaffael (Duncan Hall). Yna cyflwynodd yr Aelod
Cabinet priodol yr eitemau yn y gyllideb sy’n berthnasol ar gyfer y meysydd
gwasanaeth sydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor. Rhoddwyd cyfle i’r Aelodau ofyn
cwestiynau a atebwyd yn eu tro gan yr Aelodau Cabinet a/neu’r Uwch Swyddogion. Argymhellion: Cytunodd y Pwyllgor ar y canlynol:
|
|
Cofnodion: CYTUNWYD bod cofnodion y pwyllgor a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr yn rhai cywir. Materion yn codi Dim. |