Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynhadledda

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

i.      Ymddiheurodd y Cynghorwyr Amanda Edwards, Geraint Wyn Hughes a Mark Strong am nad oeddent yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

ii.     Ymddiheurodd y Cynghorwyr Euros Davies, Meirion Davies and Ceris Jones am ymuno a’r cyfarfod yn hwyr. 

iii.    Ymddiheurodd y Cynghorydd Gareth Lloyd y byddai'n gadael y cyfarfod yn gynnar.

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Roedd Mrs Lisa Evans, Swyddog Craffu a Safonau wedi datgan buddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu parthed cludiant ysgolion a grybwyllir yn y Flaen raglen Waith.

3.

Y llwybr cyfeirio cyfredol i gael diagnosis o awtistiaeth pdf eicon PDF 96 KB

Cofnodion:

Dywedwyd bod aelodau o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach wedi’u gwahodd i’r cyfarfod hwn fel y gallent gyfrannu at y drafodaeth dan sylw.

 

Esboniodd y Cynghorydd Wyn Thomas, yr Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau mai diben yr adroddiad oedd darparu gwybodaeth am y llwybr cyfredol i gael diagnosis o awtistiaeth, nodi’r heriau ac amlinellu’r modd yr oedd y Gwasanaethau Ysgolion yn bodloni anghenion y plant a’r bobl ifanc a oedd wedi derbyn diagnosis a’r rhai a oedd yn aros am hynny. Tynnwyd sylw at y ffaith bod awtistiaeth yn gyflwr gydol oes a bod  symptomau pob unigolyn yn wahanol.

 

Rhoddodd Angharad Behnan, Prif Seicolegydd Addysg gyflwyniad i'r Pwyllgor, gan amlinellu'r canlynol:

·       Cefndir

·       Newid

·       Y sefyllfa bresennol

·       Effaith ar blant a phobl ifanc yn ysgolion Ceredigion

·       Cefnogaeth i ysgolion

·       Cymorth ehangach gan yr Awdurdod Lleol i deuluoedd, plant a phobl ifanc

·       Y camau nesaf

 

Gofynnodd yr Aelodau nifer o gwestiynau ynghylch eu meysydd o ddiddordeb ac atebwyd y rhain yn eu tro gan y Swyddogion. Y prif bwyntiau a godwyd oedd y canlynol:

·       Pwysleisiwyd nad oedd diagnosis o awtistiaeth yn effeithio ar yr addysg a oedd yn cael ei ddarparu i blant a phobl ifanc yng Ngheredigion, ac mewn gwirionedd, byddai cymorth yn cael ei roi ar waith ar unwaith os byddai unrhyw symptomau o awtistiaeth yn cael eu nodi.

·       Roedd y Tîm Asesu Cyfathrebu Cymdeithasol (SCAT) yn cwrdd bob 6 wythnos i drafod atgyfeiriadau. Y gwasanaeth iechyd oedd yn arwain y gwaith hwn oherwydd mai iechyd oedd yr unig gorff a fedrai ddarparu diagnosis o awtistiaeth. Roedd yn allweddol bwysig bod yn ofalus er mwyn sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael y diagnosis cywir.

·       Meddygon Teulu a Nyrsys Ysgolion ddylai fod yn gwneud yr atgyfeiriadau.

·       Roedd gan 70% o ysgolion Ceredigion Dystysgrifau Ymwybyddiaeth am Awtistiaeth ac Eiriolwyr Awtistiaeth (byddai’r rhestr yn cael ei rhannu â’r Aelodau maes o law).

·       Codwyd pryderon am restrau aros hir y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Anogwyd yr aelodau i godi’r mater hwn ar bob cyfle posibl. Dywedwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal Adolygiad Capasiti lle nodwyd bod Byrddau Iechyd yn genedlaethol yn ei chael hi’n anodd ymdopi ag asesiadau ac felly, roedd addewid wedi’i wneud am gyllid ychwanegol.

·       Codwyd pwysigrwydd cynhwysiant er mwyn sicrhau bod gan bob plentyn a pherson ifanc y cyfle cyfartal i dderbyn addysg prif ffrwd yn y lle cyntaf. Os na fyddai hynny’n addas, roedd unedau arbenigol ar gampysau rhai ysgolion a chan eu bod yn agos, roedd modd i’r plant a’r bobl ifanc dderbyn gwersi prif ffrwd lle bo hynny’n briodol.

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i nodi’r isod:

1.    I gael gwybod am y llwybr cyfeirio cyfredol i gael diagnosis o awtistiaeth yng Ngheredigion.

2.    I gael gwybod am sut mae’r Gwasanaethau Ysgolion yn bodloni anghenion plant sydd wedi cael diagnosis o awtistiaeth neu’n aros  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Strategaeth Tegwch ac Amddifadedd pdf eicon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Esboniodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau bod y bwlch o ran bwlch o ran cyrhaeddiad a chyfleoedd wedi lledu rhwng dysgwyr difreintiedig a’r rhai mwy breintiedig yn dilyn Covid-19. Mae canlyniadau ar lefel TGAU yn awgrymu fod y bwlch amddifadedd a geir ym myd addysg yng Nghymru yn gyfystyr â thua 24 mis o gynnydd addysgol. Mae'r argyfwng costau byw ond yn ehangu’r bwlch o ran cyrhaeddiad a chyfleoedd addysgol a fodolai eisoes. Tynnwyd sylw at y ffaith fod Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi siarad yn rheolaidd am ei ymrwymiad i gefnogi dysgwyr bregus a difreintiedig. Rhoddwyd trosolwg o’r sefyllfa bresennol fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd Gareth Lewis, Cydlynydd Strategaeth Ddifreintedd a Thlodi Gwledig gyflwyniad i'r Pwyllgor, gan amlinellu'r canlynol:

1.    Cefndir

2.    Sylwadau gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

3.    Pwrpas y Strategaeth

4.    Cynnwys y Strategaeth

5.    Cyfleodd I fyfyrio

6.    Pa effaith rydyn ni’n gobeithio gweld

7.    Y camau nesaf

 

Gofynnodd yr Aelodau nifer o gwestiynau ynghylch eu meysydd o ddiddordeb ac atebwyd y rhain yn eu tro gan y Swyddogion. Y prif bwyntiau a godwyd oedd y canlynol:

·       Er bod Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn cefnogi ysgolion, codwyd pryderon fod y gyllideb yn cael ei thorri o hyd. Byddai’r £8 miliwn yng nghronfeydd wrth gefn yr ysgolion yn gostwng yn sylweddol wrth i gyflogau staff ysgolion a chostau ynni gynyddu. Roedd y Swyddogion eisoes wedi codi eu pryderon â Llywodraeth Cymru.

·       Dywedwyd y dylai pob plentyn a pherson ifanc gael cyfle cyfartal i lwyddo yn yr ysgol. Roedd y strategaeth yn cynnwys nifer o bwyntiau ymarferol i gefnogi teuluoedd o gefndiroedd difreintiedig, er cydnabuwyd bod cyllid yn ffactor.

·       Ystyriwyd bod presenoldeb mewn ysgolion yn bwysig iawn am nifer o resymau. Yn dilyn gwaith gan yr adran, roedd presenoldeb yn yr ysgolion cynradd wedi gwella ond roedd angen gwneud rhagor o waith o ran presenoldeb yn yr ysgolion uwchradd.

·       Ni ddylai’r un plentyn na pherson ifanc deimlo’n oer yn yr ystafell ddosbarth. Os oedd plant neu bobl ifanc yn teimlo’n oer, dylai’r Aelodau anfon tystiolaeth at swyddogion yr adran.

·       Er mwyn paratoi pobl ifanc ar gyfer profiad gwaith a’u gyrfaoedd yn ddiweddarach mewn bywyd, roedd cynllun peilot wedi’i gynnal yn Aberteifi lle’r oedd yr ysgol yn gweithio’n agos gyda’r gymuned a’r busnesau yn lleol. Hefyd, roedd y cwricwlwm newydd yn caniatáu i’r ysgolion ddysgu sgiliau bywyd gan gefnogi’r bobl ifanc i fod yn annibynnol. Soniwyd hefyd am rwydwaith Seren, menter gan Lywodraeth Cymru, a oedd yn cefnogi pobl ifanc i wireddu eu dyheadau a chyrraedd eu llawn botensial yn academaidd.

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD:

1.    i fabwysiadu cynnwys Strategaeth Tegwch ac Amddifadedd Ceredigion ar gyfer ysgolion.

2.    bod adroddiad blynyddol ar y cynnydd a wneir gyda Strategaeth Tegwch ac Amddifadedd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cofnodion Cyfarfod Cyngor Ieuenctid Ceredigion (21.10.22) pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriwyd Cofnodion Cyfarfod Cyngor Ieuenctid Ceredigion. Un o'r dyletswyddau a roddwyd i Awdurdodau Lleol o fewn Llywodraeth Cymru – Rhannu Pwrpas: Rhannu Dyfodol: Canllawiau Statudol i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 - yw Atodiad B - y Canllawiau Statudol ar Gyfranogiad Plant a Phobl Ifanc. Rhoddwyd y cefndir a’r sefyllfa bresennol fel y nodwyd yn yr adroddiad. Dywedwyd bod cynrychiolwyr o bob un o ysgolion uwchradd Ceredigion, Coleg Ceredigion, Prifysgol Aberystwyth ynghyd ag amrywiol Grwpiau Ieuenctid yn rhan o Gyngor Ieuenctid  Ceredigion eleni, ynghyd â swyddogion yr awdurdod lleol a dau aelod Cabinet, a oedd hefyd yn cael eu gwahodd i fod yn bresennol yn y cyfarfodydd.

 

Nodwyd bod tymor Poppy Evans fel Aelod Ceredigion o Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig wedi dod i ben yn ddiweddar ac yn sgil hynny, cafodd Aled Lewis ei ethol i gynrychioli Ceredigion yn 2022-23. Roedd Lloyd Warburton yn parhau fel Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru. Byddai Cadeirydd newydd y Cyngor Ieuenctid yn cael ei ethol yn y cyfarfod nesaf ar 03.02.23. Roedd sicrhau bod barn pobl ifanc yn rhan o’r broses ddemocrataidd yng  Ngheredigion yn cael ei ystyried yn rhywbeth pwysig iawn.

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD bod cofnodion Cyngor Ieuenctid Ceredigion yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Dysgu a’r Cabinet, er gwybodaeth, bob tymor.

6.

Diweddariad llafar ar y grantiau sydd ar gael i ysgolion

Cofnodion:

Esboniodd Meinir Ebbsworth, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Ysgolion a Diwylliant nad oedd disgwyl manylion setliad yr awdurdod lleol tan 13.12.22, ac nid oedd dim gwybodaeth am y grantiau i ysgolion yn 2023-24 ar gael hyd yma. Yn 2022-23, roedd nifer o grantiau wedi bod ar gael i’r ysgolion fel y nodir isod:

1.    Y Grant Amddifadedd Disgyblion - gwerth £1.6 miliwni gefnogi addysg a llesiant disgyblion prydau ysgol am ddim - 98% o’r swm hwn wedi’i ddirprwyo i’r ysgolion a 2% o’r swm wedi’i gadw’n ganolog i gefnogi Plant sy’n Derbyn Gofal

2.    Y Grant Gwella Addysggwerth  £2.6 miliwn - 96% o’r swm hwn wedi’i ddirprwyo i’r ysgolion a 4% o’r swm wedi’i gadw’n ganolog i gefnogi  lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir

3.    Grant Dysgu Proffesiynolgwerth £260,000 - 100% o’r swm hwn wedi’i ddirprwyo i’r ysgolion i gefnogi’r costau staffio sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm newydd

4.    Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau: Grant y Rhaglen Dysgu Carlam gwerth £1.4 miliwn - 100% o’r swm hwn wedi’i ddirprwyo i’r ysgolion

 

Lle bo modd, roedd y grantiau wedi’u dirprwyo i’r ysgolion i sicrhau eu bod yn derbyn y budd mwyaf. Byddai’r Grant Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau, a oedd yn gysylltiedig â Covid-19, yn lleihau wrth i amser fynd yn ei flaen. Serch hynny, ni fyddai manylion grantiau 2023-24 ar gael am rai misoedd ar ôl i’r setliad gael ei gyhoeddi. Yn gyffredinol, byddai’n well gan yr ysgolion dderbyn cymorth o ran eu cyllid craidd yn hytrach na derbyn grantiau.

 

Dywedwyd bod yr ysgolion wedi derbyn grantiau cynnal a chadw dros y blynyddoedd i wella adeiladau. Roedd gan bob ysgol lyfryn cytundeb a oedd yn amlinellu’n glir yr hyn yr oedd yr ysgol a’r awdurdod yn gyfrifol amdano. Hefyd, roedd gan yr awdurdod raglen cynnal a chadw ar waith a oedd yn seiliedig ar yr arolwg a gynhaliwyd gan Faithful+Gould. Fel rhan o’r rhaglen honno, roedd gwaith brys yn cael blaenoriaeth. Cynghorwyd yr Aelodau i gysylltu â’r adran addysg pe byddent yn teimlo bod angen gwneud gwaith cynnal a chadw brys mewn ysgol benodol a bod y gwaith hwnnw heb ei gynnwys yn y rhaglen. Tynnwyd sylw at y ffaith ei bod hi’n anodd denu busnesau i dendro am y gwaith. Serch hynny, pe na fyddai’r grantiau wedi’u defnyddio erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, byddai trefniadau eraill yn cael eu rhoi ar waith.

 

Adroddwyd na fyddai cyllid ar gael ar gyfer Band C Ysgolion yr 21ain Ganrif na’r rhaglen Colegau. Roedd gofyn i’r awdurdod gyflwyno gwybodaeth i Lywodraeth Cymru o fewn y 18 mis nesaf yn nodi’r angen am unrhyw estyniadau, gwaith sylweddol y tu hwnt i raglen gyfalaf yr awdurdod neu ysgolion newydd ar gyfer y 5 mlynedd nesaf.

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i nodi’r sefyllfa bresennol.

7.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion pdf eicon PDF 83 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD cadarnhau bod Cofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor yn rhai cywir.

 

Materion yn codi: Dim.

8.

I ystyried Blaenraglen Waith Ddrafft 2022/23 pdf eicon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD nodi’r Flaen raglen Waith ddrafft fel y’i cyflwynwyd yn amodol ar y canlynol:

·       Diweddariad am y nifer o ddisgyblion sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg

·       Adroddiad ynghylch annog disgyblion i ddefnyddio’r Gymraeg mewn ysgolion

·       Nodwyd bod gan yr Awdurdod Lleol ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu cludiant i’r ysgol agosaf yn unol â’r Polisi Cludiant i’r Ysgol. Roedd y wybodaeth hon wedi’i chyflwyno i’r Aelodau mewn gweithdy yn flaenorol. Os oedd y disgyblion yn penderfynu mynd i ysgol arall, cyfrifoldeb y rhieni oedd trefnu’r cludiant

·       Adroddiad am y nifer o blant sy’n cael eu haddysgu gartref ers Covid-19

 

9.

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

Diolchodd y Cynghorydd Wyn Thomas i’r holl swyddogion am eu gwaith gan nodi bod y gefnogaeth a ddarparwyd i’r ysgolion yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr.