Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynhadledda
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorwyr Rhodri Davies a Mark Strong am
nad oedd modd iddynt fod yn y cyfarfod. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Roedd Mrs Lisa Evans, Swyddog
Cymorth Craffu a Safonau wedi datgan buddiant personol a buddiant sy’n
rhagfarnu parthed cludiant ysgolion a grybwyllir yn y Flaenraglen Waith. |
|
Cofnodion: Bu i’r Aelod o’r Cabinet, y
Cynghorydd Wyn Thomas, gyflwyno’r adroddiad ar y Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes a
Sgiliau a Chanolfan Eos a Chanolfan Aeron (Unedau Cyfeirio Disgyblion).
Dywedodd fod yna bump Gwasanaeth o fewn Porth Cymorth Cynnar, sef –
Dywedodd fod y Porth Cymorth
Cynnar:-
Bu i Ms Carys Tisdell, Pennaeth
UCD Ceredigion roi cyflwyniad gwybodus i’r Aelodau ar y canlynol:
Wedyn rhoddodd y Rheolwr
Corfforaethol, Mark Gleeson, gyflwyniad i’r Aelodau ar y canlynol:
Yn dilyn cwestiynau a sylwadau
o'r llawr, CYTUNWYD (i) i nodi'r diweddariad a
ddarparwyd; (ii) i longyfarch y ddau
wasanaeth ar eu gwaith rhagorol; (iii) y dylai Aelodau’r
Pwyllgor ymweld â Hyfforddiant Ceredigion yn y dyfodol agos; ac (iv) ar ôl trafod â’r staff yng
Nghanolfan Eos a Chanolfan Aeron, y dylai’r Aelodau ymweld â Chanolfan Eos a
Chanolfan Aeron ar adeg sy’n gyfleus i bawb. |
|
Hunanarfarnu a Chynllunio Gwelliant Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant PDF 195 KB Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r
adroddiad ar Hunanarfarnu a Chynllunio Gwelliant yn y Gwasanaeth Ysgolion a
Diwylliant. Cyflwynwyd yr adroddiad i sicrhau fod aelodau’r Pwyllgor Craffu yn
deall prosesau hunanarfarnu’r Gwasanaeth a’u rôl yn y prosesau hyn. Rhoddwyd gwybod bod gan y
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant drefniadau ar waith ar gyfer hunanarfarnu
cyson. Mae’r trefniadau hyn yn rhan o’r cynllunio busnes corfforaethol. Cyflwynwyd grid i ddarlunio’r
prosesau hunanarfarnu a rôl y Pwyllgor Craffu a Throsolwg Cymunedau sy’n Dysgu
yn y prosesau hynny. Yn dilyn cwestiynau o’r llawr,
CYTUNWYD I: (i) sefydlu ffrwd waith sydd yn
ymateb i dair blaenoriaeth Cynllun Busnes Lefel 1 y Gwasanaeth Ysgolion a
Diwylliant; a (ii) sefydlu ffrwd waith i
gyfrannu tuag at brosesau hunanwerthuso’r gwasanaeth. |
|
Partneriaeth Addysg Canolbarth Cymru - Cynllun Busnes PDF 340 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd yr Aelod o’r Cabinet ddiweddariad ar
flaenoriaethau’r bartneriaeth addysg rhwng Powys a Cheredigion ar gyfer
2022-23. Adroddwyd bod Partneriaeth Addysg Canolbarth Cymru wedi’i
llunio rhwng Awdurdodau Lleol Powys a Cheredigion ym Medi 2021. Fe’i seiliwyd
ar Femorandwm o Ddealltwriaeth rhwng y ddwy sir. Nodir yn y Memorandwm o
Ddealltwriaeth fod y ddwy sir yn cydweithio ar faterion sy’n ymwneud â’r canlynol:
Ym Medi 2021, a hithau ar ganol blwyddyn ariannol, fe
gyflwynodd Powys a Cheredigion ddau gynllun busnes ar wahân i Lywodraeth Cymru.
Cymeradwywyd y cynlluniau ac o ganlyniad dyrannwyd y Grant Gwella Ysgolion
Rhanbarthol (RCSIG) i’r ddau Awdurdod Lleol. Ym mis Mawrth 2022, cyflwynwyd Cynllun Busnes ar y cyd
gan Bartneriaeth Addysg Canolbarth Cymru ac fe’i gymeradwywyd gan Lywodraeth
Cymru. Mae’r ddau Awdurdod Lleol yn parhau i dderbyn eu cyfran o’r Grant Gwella
Ysgolion Rhanbarthol. CYTUNWYD i gymeradwyo Cynllun Busnes Partneriaeth Addysg Canolbarth
Cymru ar gyfer 2022-23, fel y’i cyflwynwyd. |
|
Diweddariad ar Ysgol Ardal newydd yn Nyffryn Aeron PDF 194 KB Cofnodion: Cytunwyd i adeiladu ysgol gynradd newydd yn ardal Dyffryn
Aeron fel rhan o raglen Llywodraeth Cymru, Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain.
Bellach, fe elwir y rhaglen honno yn Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Bydd
yr ysgol ar gyfer disgyblion oed 3-11 ac yn gwasanaethu ardaloedd Felin-fach,
Ciliau Aeron, Dihewyd a Chilcennin. Ym mis Tachwedd 2021 pwrcaswyd tir addas ar gyfer yr
adeilad ym mhentref Felin-fach. Cymeradwywyd yr Achos Amlinellol Strategol gan Lywodraeth
Cymru ym mis Rhagfyr 2021 am y gost adeiladu amcangyfrifedig o £10,932,950.
Cyhoeddwyd y tendr i benodi ymgynghorwyr i ddatblygu’r prosiect ym mis Chwefror
2022 ac yn dilyn proses faith, penodwyd SPP ym mis Ebrill 2022. Ymgynghorwyr
Rheoli Prosiectau a Mesur Meintiau yw SPP ac maent yn gyfrifol am gyflawni’r
prosiect yn dilyn Proses Gaffael Dau Gam. Penodwyd Ymgynghorwyr BREEAM ym mis
Ebrill 2022. Cyhoeddwyd tendr y Contractwr ar Fai’r 16eg 2022 ac yn
dilyn sawl cais i ymestyn y cyfnod tendro, pennwyd dyddiad cau diwygiedig y
tendr ar gyfer Mehefin 20fed 2022. Yn dilyn proses gwerthuso’r tendr, dylid penodi
contractwr yn gynnar ym mis Gorffennaf 2022. Yn ôl yr amserlen, mae’r
cynlluniau ar gyfer yr ysgol i’w cytuno a’u cymeradwyo erbyn Tachwedd/Rhagfyr
2022. Bwriedir cytuno ar swm y Contract erbyn Ionawr / Chwefror
2023, a bydd Achos Busnes Amlinellol ac Achos Busnes Terfynol Llywodraeth Cymru
yn cael eu cyflwyno i’w cymeradwyo cyn gynted ag y cytunir ar swm y contract.
Gofynnir am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer swm y contract ar yr un pryd. Rhagwelir y bydd gwaith yn dechrau ar y safle ym
Mawrth/Ebrill 2023, gan dybio bod yr holl brosesau’n rhedeg yn esmwyth, a
disgwylir y bydd y gwaith yn cwblhau yng Ngorffennaf/Awst 2024. Mae Corff Llywodraethu Cysgodol ar gyfer yr ysgol newydd
yn cael ei sefydlu ar hyn o bryd. CYTUNWYD i nodi’r diweddariad a roddwyd, ond gwnaeth yr
Aelodau annog fod y gwaith yn dechrau cyn gynted â phosib yn sgil y cynnydd
mewn costau deunyddiau adeiladu yn dilyn y pandemig. |
|
Cwricwlwm i Gymru - diweddariad PDF 187 KB Cofnodion: Rhoddodd yr Aelod o’r Cabinet wybod y bydd ysgolion
cynradd Cymru yn cychwyn gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru ym Medi 2022, gyda’r
sector uwchradd yn gweithredu’n statudol o Fedi 2023 ymlaen. Rhoddodd Cydlynydd y Cwricwlwm i Gymru ddiweddariad am yr
amrywiaeth o gefnogaeth a roddir i ysgolion wrth weithredu, a’r blaenoriaethau
sy’n parhau ar gyfer 2022-23.
CYTUNWYD i nodi’r diweddariad a roddwyd. |
|
Diweddariad llafar ar ddarpariaeth prydau ysgol am ddim Cofnodion: Rhoddodd yr Aelod o’r Cabinet wybod y bydd Cyngor Sir
Ceredigion yn cynnig prydau ysgol am ddim o dymor yr hydref ymlaen a hynny i
bob plentyn yn y dosbarthiadau Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2. Roedd hyn yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru i gynnig
Prydau Ysgol am Ddim i ddisgyblion ysgolion cynradd ledled Cymru, gan ddechrau
gyda’r dosbarthiadau Derbyn o fis Medi 2022 ymlaen. Mewn ymateb i'r cynnydd mewn costau byw ar hyn o bryd,
roedd hwn yn gam cadarnhaol ymlaen i sicrhau na fydd yr un plentyn yn teimlo’n
llwglyd yn yr ysgol ac er mwyn mynd i'r afael â thlodi yn ein Sir. O ddydd Llun 5 Medi 2022 ymlaen, bydd pob plentyn yn y
dosbarthiadau Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 yng Ngheredigion yn cael cynnig
Prydau Ysgol am Ddim, gan ymestyn y cynnig y tu hwnt i'r hyn sy’n ofynnol i’w
wneud erbyn mis Medi. Roedd Cyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru yn
benderfynol o weithredu'r cynllun hwn yn fuan ac roedd angen adeiladu’r
capasiti arlwyo i sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno’n raddol ac yn
llwyddiannus, gan symud tuag at ei gyflwyno drwy’r ysgolion cyfan dros y tair
blynedd nesaf. Roedd y Cyngor yn cydweithio â Llywodraeth Cymru i
ddatblygu proses er mwyn i chi fedru gofyn am bryd ysgol am ddim i’ch
plentyn/plant yn Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 o fis Medi 2022 ymlaen, gan
osgoi gwaith diangen i rieni/gwarcheidwaid. Bydd rhagor o wybodaeth i ddod erbyn diwedd y tymor. CYTUNWYD i nodi’r sefyllfa bresennol |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd yr Aelod o’r Cabinet
wybod fod angen, yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, dau gynrychiolydd
Rhieni-Lywodraethwyr sy'n gwasanaethu ar Gyrff Llywodraethu ar hyn o bryd i
wasanaethu ar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy'n Dysgu fel aelodau
cyfetholedig gyda hawliau pleidleisio. Un o'r sector cynradd ac un o'r sector
uwchradd. Bydd tymor y penodiad yn para
am bum mlynedd o ddyddiad y penodiad neu hyd nes y bydd y cynrychiolydd yn
peidio â bod yn rhiant-lywodraethwr neu'n ymddiswyddo o'r Pwyllgor. Cynhaliwyd gwaith recriwtio yn
ystod mis Mai 2022 a’r ddau ymgeisydd llwyddiannus oedd:
Gofynnwyd i'r Cyngor ar 7
Gorffennaf gymeradwyo penodi’r aelodau cyfetholedig canlynol i'r Pwyllgor
Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy'n Dysgu oddi ar 7 Gorffennaf 2022, am gyfnod o
bum mlynedd:
CYTUNWYD i nodi’r sefyllfa
bresennol. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD i nodi cofnodion
cyfarfod diwethaf y Pwyllgor. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD i nodi’r Flaenraglen Waith, fel y’i cyflwynwyd,
ar yr amod yr ystyrir y Polisi Cludiant Ysgolion yn y cyfarfod nesaf. Roedd hwn
yn bolisi o dan gylch gwaith Mr Rhodri Llwyd, Swyddog Arweiniol Corfforaethol y
Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, felly bydd ef yn dod i hwyluso’r
drafodaeth am y mater hwn. Hefyd nodwyd bod y Cyngor wedi rhoi gwybod yn ddiweddar i
rieni/gwarcheidwaid y bydd yn gorffen cludiant ysgol am ddim i ddisgyblion
ardal Llangwyryfon a ddymunai mynychu Ysgol Henry Richard. Mewn ymateb,
gofynnodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Ysgolion am i rieni/gwarcheidwaid
gysylltu â’r Cyngor drwy Clic gydag enw a chyfeiriad y disgyblion sy’n cael eu
heffeithio. Bydd Aelod Lleol yr ardal
dan sylw, y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans, yn rhoi gwybod i’r
rhieni/gwarcheidwaid am y cais hwn. Nodwyd mai hwn oedd cyfarfod cyntaf y Pwyllgor yma yn
dilyn marwolaeth y Cynghorydd Hag Harris a fu’n Aelod o’r Cabinet dros Addysg.
Bydd colled mawr ar ei ôl. |