Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Odwyn Davies a Mark Strong am eu hanallu i fod yn bresennol yn y cyfarfod. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Dim |
|
Adroddiad ynghylch y gyllideb ddrafft ar gyfer 2022/23 Cofnodion: Gwnaeth Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu gyfarfod i ystyried cyllideb y Gwasanaeth ar gyfer y meysydd gwasanaeth hynny sydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor ac ystyried yr argymhellion a ganlyn: 1. Ystyried y Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf cyffredinol a gynigir. 2. Ystyried pwysau amcangyfrifedig y costau a wynebir (£13.173m ar draws pob agwedd). 3. Ystyried y Ffioedd a'r costau arfaethedig a'r incwm ychwanegol o £155k a amcangyfrifir i helpu gyda'r Arbedion sydd eu hangen. 4. Nodi'r Targed Arbedion Teithio arfaethedig o £230k ar gyfer Swyddogion ac Aelodau. 5. Nodi’r Balans Arbedion o £113k y mae angen dod o hyd iddo o hyd. 6. Ystyried y 3 opsiwn a gynigir ar gyfer lefel Treth y Cyngor, sef 4.75%, 5.0% a 5.25%. 7. Rhoi unrhyw adborth priodol arall sy'n gysylltiedig â'r Gyllideb Ddrafft i'r Cabinet. Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, yr adroddiad ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2022/2023 gan gynnwys y rhaglen gyfalaf tair blynedd, gan egluro mai setliad dros dro yw hwn, a bod y setliad terfynol i fod i ddod ar Fawrth 1af, 2022. Dywedodd yr Arweinydd hefyd fod llythyr wedi dod i law ar Chwefror 17eg 2022 oddi wrth Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn cyhoeddi cynnydd o £50m ar gyfer y setliad llywodraeth leol ar gyfer 2021-2022. Nid yw'r swm i'w ddyrannu i Gyngor Sir Ceredigion yn hysbys hyd yma ond mae'n debygol o fod oddeutu £1m. Nid yw’r cyllid wedi’i neilltuo (h.y. nid yw wedi’i ddyrannu i wasanaethau penodol) a gellir ei gario ymlaen mewn cronfeydd wrth gefn i flwyddyn ariannol 2022-2023. Eglurwyd y byddai angen ystyried goblygiadau’r cyllid ychwanegol hwn a sut y byddai hynny’n cael ei ddyrannu ar gyfer cyllideb 2022-2023. Croesawodd yr aelodau’r cyllid ychwanegol ond mynegwyd siom bod y cyhoeddiad yn hwyr ac nad oedd yn caniatáu i graffu ddigwydd ar sail y wybodaeth newydd. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai gwybodaeth yn cael ei chyflwyno i'r Cyngor ar Fawrth 3ydd 2022 ac y byddai cyfle i drafod ymhellach. Cyflwynodd Aelod perthnasol y Cabinet y wybodaeth sy'n berthnasol i'w Faes Gwasanaeth. Yna rhoddwyd cyfle i'r aelodau ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb yn eu tro gan Aelodau’r Cabinet a/neu Swyddogion. Ystyriodd Aelodau'r Pwyllgor Bwysau’r Costau gyfer y meysydd gwasanaeth hynny sydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor, sef: • Ysgolion a Diwylliant a Phorth Cymorth Cynnar Ac: Ystyriodd Aelodau'r Pwyllgor y newidiadau arfaethedig i’r Ffioedd a Chostau o dan Gylch gwaith y Pwyllgor yn Atodiad D, tudalennau 17 i 18 o 64, papurau’r agenda. Cytunodd y Pwyllgor na fyddai’r 3 opsiwn a gynigiwyd ar gyfer lefelau Treth y Cyngor yn cael eu trafod yn y cyfarfod heddiw oherwydd cyhoeddiad Llywodraeth Cymru bod amcangyfrif o £1miliwn ychwanegol wedi’i ddyrannu i Gyngor Ceredigion. Bydd trafodaethau pellach yn cael eu cynnal yn y Cyngor. Argymhellion: Yn dilyn ystyriaeth, cytunodd yr Aelodau i argymell bod y Cabinet yn: 1. CYMERADWYO’r Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf cyffredinol a gynigir; 2. CYMERADWYO Pwysau amcangyfrifedig y Costau; |
|
Cynllun Gweithredu y Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-32 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu Aelodau’r Pwyllgor Trosolwg
a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu yn ystyried Cynllun Strategol y Gymraeg mewn
Addysg 2022-32. Cynhaliwyd ymgynghoriad
ar gynnwys y Cynllun am wyth wythnos, sef rhwng 20.9.21 a 12.11.21. Cafwyd
ystod o ymatebion i’r ymgynghoriad hwnnw, sydd wedi’u coladu, ynghyd â
sylwadau’r Awdurdod Lleol, yn y ddogfen ‘CSGA - ymateb i’r ymgynghoriad’. Cyflwynwyd Cynllun Strategol y
Gymraeg mewn Addysg i Lywodraeth Cymru ar 31.1.22 a bydd unrhyw sylwadau a ddaw
ganddynt yn cael eu cyflwyno fel gwelliannau i’r Cynllun gwreiddiol. Nid oes
dyddiad penodol ar gyfer Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ei hymateb i Awdurdodau
Lleol. Ar ôl ystyried yr ymatebion
i’r ymgynghoriad, CYTUNODD y Pwyllgor i argymell y canlynol i’r Cabinet: i)
Cytuno i fabwysiadu
cynnwys Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar gyfer 2022-2032, a’i
weithredu o Fedi 1 2022 ac am y ddegawd i ddilyn ii)
Bod unrhyw sylwadau a gynigir gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cynnwys fel
gwelliannau i’r Cynllun, ac yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu
Cymunedau sy’n Dysgu ac i’r Cabinet er gwybodaeth iii)
Bod Cynllun Gweithredu
blynyddol yn cael ei lunio a’i fonitro drwy gyfrwng y Fforwm Iaith a phwyllgor
Dyfodol Dwyieithog. iv)
Bod adroddiad blynyddol
ar gynnydd yn erbyn Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn cael ei gyflwyno
i’r Fforwm Iaith, pwyllgor Dyfodol Dwyieithog, Pwyllgor Trosolwg a Chraffu
Cymunedau sy’n Dysgu ac i’r Cabinet |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol ac unrhyw faterion sy'n codi ohonynt Cofnodion: CYTUNWYD i gadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2021 Materion yn
codi Nid oedd materion yn codi. |