Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Euros Davies, Paul Hinge ac Alun Lloyd Jones am
eu hanallu i fod yn bresennol yn y cyfarfod. |
|
Personal Cofnodion: Cydymdeimlwyd yn ddiffuant â’r Cynghorydd Gareth Davies a Mrs Julie Davies
a’u teulu yn dilyn marwolaeth sydyn eu mab. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Ni ddatgelwyd yr un buddiant personol na buddiant sy’n rhagfarnu. |
|
Diweddariad ar lafar parthed cefnogaeth y Gwasanaeth Ysgolion dros y cyfnod COVID 19 Cofnodion: Rhoddodd y Swyddog
Arweiniol Corfforaethol: Ysgolion yr wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau ynghylch
ailgyflwyno dysgu o bell o ddydd Llun 20 Rhagfyr hyd at ddiwedd tymor y Nadolig. Adroddodd
ynghylch yr hyn y cytunwyd arno yn ystod y dyddiau diwethaf, sef y byddai
ysgolion y sir dychwelyd at ddysgu o bell o ddydd Llun 20 Rhagfyr hyd at
ddiwedd y tymor. Sail y
penderfyniad oedd y disgwylir gweld cynnydd cyflym a sydyn yn yr amrywiolyn
Omicron yn fuan, yn enwedig ymhlith y rhai sydd dan 25 oed, a hefyd oherwydd yr
heriau dyddiol mewn nifer o ysgolion o ganlyniad i absenoldebau staff. Y nod
oedd lleihau cysylltiadau er mwyn ceisio atal lledu’r haint yn yr wythnosau
allweddol sydd i ddod. Roedd cyngor
meddygol clir bod trydydd brechlyn yn ffordd effeithiol o reoli’r amrywiolyn
newydd, ac mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn annog pawb sy’n dymuno cael y brechlyn
hwnnw i wneud hynny cyn gynted ag y derbyniant y gwahoddiad. Roedd cynlluniau
ar waith bellach i ailgyflwyno dysgu o bell. Byddai hyn yn sicrhau darpariaeth
a strwythur mewn ysgolion ar ddiwedd y tymor. Byddai cyfarpar TGCh ar gael ar
gyfer teuluoedd, pe bai ei angen, a dylid gwneud y cais am gyfarpar o’r fath
drwy’r ysgol. Gallai unrhyw ddisgybl a
oedd yn mynychu uned adnoddau arbenigol barhau i wneud hynny tan ddiwedd y
tymor. Byddai taliadau/talebau ar gyfer ddisgyblion a oedd yn hawlio prydau ysgol am
ddim yn cael eu haddasu i ystyried y diwrnodau dysgu o bell. Yn ogystal, gallai rhieni a oedd yn weithwyr allweddol, ac na allai
wneud trefniadau eraill o ran gofal plant, gael mynediad at hwb gofal plant pe
bai angen yn ystod y cyfnod hwn. Cafodd pob rhiant/gwarcheidwad wybod am y trefniadau hyn drwy lythyr neithiwr a byddai llythyr pellach oddi wrth yr ysgolion unigol yn cael ei anfon, er mwyn rhoi manylion trefniadau gwersi’r disgyblion. O safbwynt y trefniadau ym mis Ionawr, nodwyd bod nifer o gyfarfodydd wedi’u trefnu gyda Llywodraeth Cymru dros gyfnod y Nadolig i drafod y sefyllfa bresennol o ran y feirws |
|
Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Cofnodion: Adroddodd y Swyddog
Arweiniol Corfforaethol: Ysgolion ei bod yn statudol i bob Awdurdod Lleol
baratoi Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar gyfer y degawd 2022-2032. Ar
15 Mehefin 2021, cafwyd cymeradwyaeth y Cabinet i fersiwn ddrafft Cyngor Sir
Ceredigion o Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg fynd i ymgynghoriad am
gyfnod o wyth wythnos. Er mwyn osgoi
ymgynghoriad dros wyliau’r haf, dechreuodd yr ymgynghoriad ar 20 Medi a
gorffennodd ar 12 Tachwedd 2021. Er mwyn darparu ymateb
llawn a manwl i’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod yr ymgynghoriad, mae angen i Lywodraeth
Cymru gyhoeddi’r ddogfen ‘Categoreiddio Ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng
Cymraeg.’ Cyhoeddwyd copi drafft o’r
ddogfen hon ym mis Rhagfyr 2020 ar gyfer y cyfnod ymgynghori. Serch hyn, nid
yw’r copi terfynol wedi’i gyhoeddi eto, er y disgwylir hynny cyn diwedd
blwyddyn galendr 2021. Bydd cynnwys y ddogfen hon yn allweddol wrth gynnig
ymateb i’r ymgynghoriad ar Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yng Ngheredigion. Felly, bydd yr amserlen wreiddiol ar gyfer
cyflwyno sylwadau’r ymgynghoriad a’r ymateb iddynt yn cael ei haddasu o
ganlyniad i’r uchod. Bellach, bydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n
Dysgu yn derbyn yr ymateb i’r ymgynghoriad ar 17 Chwefror a bydd y Cabinet yn
derbyn yr adroddiad ar 22 Chwefror 2022. CYTUNWYD i nodi’r
sefyllfa bresennol. |
|
Prosiect e-sgol yng Ngheredigion a Chymru Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adroddodd y Rheolwr Corfforaethol – Atebolrwydd a Chynnydd fod e-sgol yn
fenter dysgu cyfunol (a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a gydlynir gan
Geredigion) i gynnig cyfleoedd dysgu ac addysgu ar-lein, gan ddefnyddio dulliau
uniongyrchol, a rhyngweithiol mewn amser real.
Roedd e-sgol yn darparu cymorth i ysgolion gyda’r setiau sgiliau a’r
dulliau addysgegol sydd eu hangen i sicrhau’r
profiadau gorau posibl i’r dysgwr. Yn y lle cyntaf, canolbwyntiai’r fenter ar alluogi ysgolion gwledig i
gynnal opsiynau pynciau lle’r oedd nifer anghynaliadwy
o ddysgwyr mewn dysgu ôl-14 ac ôl-16. Yn wreiddiol, gweithiai ysgolion ar draws
clwstwr o chwe ysgol ar y mwyaf, a’r ysgolion hynny o fewn pellter teithio i’w
gilydd. Darparwyd y gwersi drwy ddull dysgu cyfunol, tra anogwyd dysgwyr i
deithio i ysgol yr athro bob hanner tymor. Fel arall, mae’r gwersi’n defnyddio
Microsoft Teams, trwy Hwb, i sicrhau nad oes unrhyw
gostau diangen i ysgol(ion). Roedd y prosiect wedi ehangu cryn dipyn o ganlyniad i COVID, gyda mwy o
ysgolion ledled Cymru yn derbyn cefnogaeth erbyn hyn. Cafwyd cyflwyniad gan y swyddog er mwyn darparu’r wybodaeth hon. Yn dilyn cwestiynau a sylwadau am y prosiect hwn, CYTUNWYD i nodi’r
sefyllfa bresennol. |
|
Cofnodion Cyfarfod Cyngor Ieuenctid Ceredigion Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adroddodd
y Rheolwr Tîm – Gwaith Ieuenctid ac Ymgysylltu fod disgwyl i Awdurdodau Lleol
weithio gyda phartneriaid perthnasol i wneud yr hyn a restrir isod er mwyn
cwrdd ag un o ofynion y ddeddfwriaeth. • Cefnogi
Fforwm / Cyngor Ieuenctid y Sir fel corff cynrychioliadol o bobl ifanc i
weithredu fel sianel ar gyfer barn pobl ifanc ar draws eu hawdurdod lleol a
chynrychioli'r safbwyntiau hynny i gyrff lleol a chenedlaethol sy’n gwneud
penderfyniadau. • Dylent
anelu at fod mor gynhwysol â phosibl o ran gwasgariad daearyddol, oedran a rhyw
a dylent gynrychioli anghenion arbenigol a phobl ifanc mwy ymylol. • Er mwyn
i Fforymau / Cynghorau Ieuenctid y Sir weithredu'n effeithiol, byddai angen
iddynt gael eu cefnogi'n ddigonol gan Awdurdodau Lleol a ddylai ystyried pa
gymorth sydd ei angen i wneud hyn. • Dylent
dderbyn gwybodaeth a dylent fod wedi’u cysylltu â strwythurau democrataidd
lleol. • Byddai
angen iddynt hefyd gael eu cysylltu'n effeithiol â strwythurau cyfranogi
cenedlaethol fel Cymru Ifanc, Comisiynydd Plant Cymru a Chynulliad Cenedlaethol
Cymru. Mae gan
blant a phobl ifanc yr hawl ddynol i gael barn a dylai’r farn hon gyfrif. Mae'n
dweud y dylid ystyried barn plant a phobl ifanc pan fydd pobl yn gwneud
penderfyniadau am bethau sy'n ymwneud â nhw, ac ni ddylid eu diystyru a’u
hanwybyddu ar sail oedran. Mae hefyd yn dweud y dylid rhoi'r wybodaeth sydd ei
hangen ar blant a phobl ifanc i wneud penderfyniadau da. Erthygl 12 (Parch at farn y
plentyn - Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP). : Gwasanaeth
Ieuenctid Ceredigion oedd yn gyfrifol am gydlynu a rheoli Cyngor Ieuenctid Ceredigion
ers iddo gael ei sefydlu yn nhymor yr hydref 2015. Mae Cyngor Ieuenctid
Ceredigion yn cyfarfod dair gwaith y flwyddyn (unwaith bob tymor) a threfnir
digwyddiad gan y Cyngor ar ddiwedd blwyddyn yr aelodau ‘yn y rôl’. Ar hyn o
bryd, mae cyfarfodydd y Cyngor Ieuenctid yn cael eu cynnal yn rhithiol, ond fel
rheol, byddent wedi'u lleoli yn y siambr ym Mhenmorfa. Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD y byddai cofnodion Cyngor Ieuenctid
Ceredigion yn cael eu cyflwyno yn dymhorol i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu
Cymunedau sy’n Dysgu ac i’r Cabinet, er gwybodaeth. |
|
Adborth ar ffrwd gwaith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy'n Dysgu Cofnodion: CYTUNWYD i
nodi’r adroddiad adborth a gyflwynwyd ac i ddiolch i’r swyddogion am eu gwaith,
o fewn cyfnod byr, yn dilyn cyflwyno’r cod ADY. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD i gadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor a gynhaliwyd ar 20 Medi 2021 Materion
yn codi Nid oedd materion yn
codi. |
|
Ystyried Rhaglen Flaen Trosolwg a Chraffu Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: It was AGREED to note the content of
the Forward Work Programme subject to noting the following:- ·
Welsh in Education Strategic Plan would be
presented at the 03 February 2022 meeting ·
The Play Sufficiency Assessment would be
presented with the Child Sufficiency Assessment at the 02 March 2022 meeting ·
An update on the Dyffryn
Aeron school be provided at the 03 February meeting |