Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorydd
Mark Strong am na allai fynychu’r cyfarfod. Ymddiheurodd y Cynghorydd Paul Hinge am ei anallu i fynychu’r cyfarfod oherwydd ei fod ar ddyletswyddau eraill ar ran y Cyngor. |
|
Personal Cofnodion: Estynnwyd cydymdeimlad i Ms Nia James, Rheolwr Corfforaethol – Adnoddau Dysgu ar farwolaeth ei
mam yn ddiweddar. Croesawyd y Cynghorydd Lloyd Edwards yn ôl i’r pwyllgor yn dilyn cyfnod o salwch. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Dim. |
|
Diweddariad ar lafar parthed cefnogaeth y Gwasanaeth Ysgolion dros y cyfnod COVID 19 Cofnodion: Rhoddodd Swyddog
Arweiniol Corfforaethol – Ysgolion yr wybodaeth
ddiweddaraf i ysgolion ynghylch y sefyllfa mewn ysgolion o ran
Covid-19. Dywedwyd
bod y ddogfen newydd, sef Fframwaith
penderfyniadau rheoli heintiau COVID-19 lleol ar gyfer ysgolion
a cholegau o Awst 2021 ymlaen yn cynnwys
tabl graddau risg cenedlaethol - risg isel, cymedrol,
uchel ac uchel iawn. Roedd ysgolion
Ceredigion wedi’u hasesu ar y cyd â Bwrdd
Iechyd Hywel Dda a phennwyd bod yr ysgolion ar
hyn o bryd ar lefel risg
gymedrol, gyda 22 achos positif wedi’u
cofnodi yn ysgolion Ceredigion y diwrnod blaenorol. . Diolchodd y Cadeirydd i’r holl swyddogion a staff yr ysgolion am eu gwaith yn ystod yr amser anodd hwn. |
|
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth
i’r Adroddiad, gan roi’r wybodaeth
ddiweddaraf i’r Pwyllgor a’i hysbysu
am y modd y mae’r tri gwasanaeth sef yr Uned Cyfeirio
Disgyblion, y Gwasanaethau Cymorth ac Atal a Dysgu Gydol Oes a Sgiliau,
yn datblygu o fewn Porth Cymorth Cynnar ac fel rhan
o’r Rhaglen Gydol Oes a Llesiant. Rhoddwyd cyflwyniad
manwl ar y tri gwasanaeth gan y Rheolwyr Corfforaethol/Prifathro sy’n gyfrifol am y gwasanaethau hyn a chafwyd gwybodaeth
am y cefndir; y strwythur staffio a sefyllfa pob gwasanaeth ar hyn o bryd. Yn dilyn
cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i nodi’r adroddiad er gwybodaeth
a diolch i’r swyddogion am eu holl waith yn
y gwasanaethau hyn. Nododd swyddogion hefyd y gallai fod yn bosibl i aelodau ymweld â’r cyfleusterau cyn gynted ag y byddai nifer yr achosion o Covid-19 wedi gostwng. |
|
Strategaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol PDF 232 KB Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth
i’r Adroddiad ar Anghenion Dysgu
Ychwanegol. Dywedwyd bod y cod newydd ar gyfer Anghenion
Dysgu Ychwanegol yng Nghymru wedi
ei gyhoeddi ym mis Mawrth
2021, gyda’r bwriad o roi’r system newydd ar waith o fis
Medi 2021. Fodd bynnag, roedd
y rhaglen weithredu wedi’i hadolygu oherwydd effaith y pandemig. Rhoddwyd gwybodaeth
gefndir fanwl i’r strategaeth a chyflwynwyd nod yr ymagwedd newydd fel y mae
wedi ei nodi
yn y Cod. Adroddwyd bod y cynllun gweithredu wedi
ei adolygu ymhellach gan y Gweinidog ym mis
Gorffennaf 2021, oherwydd effaith sylweddol y pandemig. O’r 1af o Fedi
2021, byddai’r system ADY yn
dechrau ar gyfer plant o oedran ysgol gorfodol ac is yn unig: • sydd newydd eu nodi fel
rhai sydd ag angen dysgu ychwanegol
(ADY) yn dilyn prosesau Cod ADY, waeth beth fo'u lleoliad
- gan gynnwys y rhai sydd o bosibl
yn cael darpariaeth
ysgol heblaw yn yr ysgol
(EOTAS), y sawl sydd mewn ysgol annibynnol
neu sy'n derbyn addysg ddewisol
yn y cartref; • yn cael eu
cadw; O’r 1af o Ionawr
2022, byddai’r system ADY yn
dechrau ar gyfer plant o oedran ysgol gorfodol ac yn is sydd: • yn mynychu
ysgolion a gynhelir (gan gynnwys Unedau
Cyfeirio Disgyblion) ac sydd ym Mlynyddoedd
Meithrin 1 a 2 a Blwyddyn
1, Blwyddyn 3, Blwyddyn 5, Blwyddyn 7 a Blwyddyn 10) sydd â darpariaeth addysgol arbennig drwy weithredu yn y blynyddoedd cynnar / gweithredu blynyddoedd cynnar a mwy neu weithredu
gan yr ysgol
GY / gweithredu gan yr ysgol â mwy
GYM; • Ni fyddai plant sydd â darpariaeth addysgol arbennig ar hyn
o bryd drwy ddatganiad, yn aros am asesiad AAA neu wrthi'n cael
asesiad AAA; na’r rhai sydd dros
oedran ysgol gorfodol yn cael
eu cynnwys yn y flwyddyn gyntaf
o weithredu. • Byddai’r broses o symud plant i'r system newydd yn cael
ei gwasgaru dros y flwyddyn. • Ni fyddai rhieni'n
gallu gofyn am symud i'r system newydd tan y 1af o Ionawr 2022 Nodwyd bod yr
Awdurdodau Lleol yn dal i aros am y canllawiau gweithredu tair blynedd terfynol. Disgwylir i’r canllawiau gael eu cyhoeddi yn gynnar
yn Nhymor yr Hydref. Roedd y ffaith bod oedi o ran y canllaw hwn yn
effeithio ar sicrwydd y cyngor yr oeddem yn
gallu ei gynnig i ysgolion,
yn ogystal ag effeithio ar y gwaith paratoi yr oeddem yn
gallu ei wneud gyda rhieni
ac asiantaethau cymorth. O dan y system ADY newydd, roedd dyletswydd ar awdurdodau lleol i adolygu'r trefniadau a wnaed gan ysgolion i ddiwallu anghenion dysgwyr ag ADY. Byddai’r canllawiau hyn yn amlinellu egwyddorion a disgwyliadau Awdurdod Ceredigion ar gyfer addysgu plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Roedd hefyd yn rhoi eglurder ar yr hyn a ddisgwylir gan ysgolion prif ffrwd Ceredigion, o ran diwallu anghenion dysgwyr ag ADY, a byddai’r awdurdod yn ei adolygu. Byddai’r ddogfen hon yn rhan annatod o fframwaith ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|
Proses dyfarnu canlyniadau TGAU a Lefel A 2021 PDF 497 KB Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth
i’r broses o ddyfarnu canlyniadau TGAU a Safon Uwch 2021. Nodwyd y cyhoeddwyd ym mis Tachwedd
2020 na fyddai’r
arholiadau allanol traddodiadol TGAU a Safon Uwch yn digwydd
yn ystod Haf 2021. Yn hytrach,
sefydlwyd panel annibynnol yn cynnwys Penaethiaid
Uwchradd a phartneriaid eraill er mwyn
dyfeisio dull cenedlaethol cyson ar gyfer
dyfarnu graddau arholiad ar gyfer
haf 2021. Nid yw’r
drefn ar gyfer 2021 wedi efelychu’r drefn ar gyfer haf
2020. Yn hytrach, cafodd disgyblion eu hasesu’n
rheolaidd ar gynnwys manylebau’r arholiadau o fis Mawrth hyd at ddiwedd
mis Mai. Bu’n rhaid i bob ysgol uwchradd/ysgol gydol oed
wneud y canlynol: •cyflwyno rhaglen
asesu drylwyr i Gyd-bwyllgor Addysg Cymru ei chymeradwyo; •addasu a chreu
polisïau asesu ac apelio o’r newydd;
•darparu rhaglen
hyfforddi i staff ar themâu megis tuedd
a diogelu data; •cyflwyno rhaglenni
asesu ar gyfer pynciau unigol;
•paratoi amserlenni,
asesiadau a chynlluniau marcio pwrpasol; •marcio a chymedroli’r
asesiadau; •cadw tystiolaeth
fanwl o gyflawniadau disgyblion ym mhob
asesiad ac ym mhob pwnc; •sicrhau trefniadau
atebolrwydd grymus; •galluogi’r broses apelio ac arwain y broses honno; •cyflwyno dogfen
rhesymeg i Gyd-Bwyllgor Cymru yn egluro
patrwm y canlyniadau o’i gymharu â phatrymau’r
gorffennol Gosododd Cyd-bwyllgor
Addysg Cymru drothwyon lle y byddent yn
dymuno cynnal sgyrsiau proffesiynol ag ysgolion pe
bai’r canlyniadau interim yn croesi’r trothwyon
hynny. Ni chafwyd sgyrsiau proffesiynol rhwng Cyd-bwyllgor Addysg Cymru ag unrhyw un o ysgolion
uwchradd/gydol oed Ceredigion. Bu’r gwaith
uchod yn sylweddol ac yn ddwys o fewn cyfnod
byr o amser. Rydym yn hynod o ddiolchgar
i Benaethiaid, timau arwain, athrawon a staff ysgolion am eu gwaith proffesiynol gwych yn cefnogi
ein disgyblion yn ystod y cyfnod
hwn. Er nad yw’n bosibl cymharu canlyniadau eleni â chanlyniadau’r llynedd, mae’r tabl isod
yn nodi canlyniadau’r
ddwy flynedd, er gwybodaeth yn
unig. Dangosydd 2020 2021 Sgôr pwyntiau
Capio 9 392 386 5A*-C (Iaith a Mathemateg) 68.8 67.7 5A*-G 94.8 95.9 5A*-A 29.3 33.8 Mathemateg gorau
72.9 72.8 Mathemateg 71.4 70.8 Rhifedd 68.0 68.0 Cymraeg 82.1 81.6 Saesneg 73.8 75.1 Gwyddoniaeth 76.8 74.8 Canlyniadau Safon
Uwch Dangosydd 2020 2021 3A*-C 75.6 79.1 3A*-A 27.2 35.4 Cyfanswm y Pwyntiau 855 ~ CYTUNWYD i nodi’r sefyllfa gyfredol. |
|
Llythyr Estyn, tymor yr Haf 2021 PDF 168 KB Cofnodion: Adroddwyd i Estyn gynnal ymweliad rhithiol â swyddogion y Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant, i arfarnu eu gwaith yn
cefnogi ysgolion yn ystod cyfnod
- pandemig
Covid-19. Yn dilyn yr ymweliad rhithiol
hwnnw, anfonodd Estyn lythyr yn
amlinellu eu barn ac fe gyflwynwyd
y llythyr hwnnw i’r Pwyllgor Llywodraethu
ac Archwilio ac yna i’r Cabinet. Lluniodd Estyn adroddiad cenedlaethol cyfansawdd ag iddo argymhellion
penodol. Ym mis Mai 2021 cynhaliodd Estyn ail ymweliad gyda phob
Awdurdod Lleol, gan ganolbwyntio ar yr ymateb
i’r argymhellion yn yr adroddiad
cenedlaethol. Anfonodd Estyn lythyr at y Prif Weithredwr ar 1 Gorffennaf 2021, yn amlinellu gwaith
yr Awdurdod yn y meysydd hynny. CYTUNWYD i nodi’r adroddiad er gwybodaeth. Dymunai’r Aelodau longyfarch y gwasanaeth ar yr adroddiad ardderchog. . |
|
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r Adroddiad a
oedd yn cyflwyno’r
wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth yr Awdurdod
i ysgolion wrth iddynt baratoi ar gyfer mabwysiadu
‘Cwricwlwm i Gymru’. Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i nodi’r sefyllfa bresennol a dywedwyd y byddai adroddiad pellach yn cynnwys y wybodaeth
ddiweddaraf yn cael ei gyflwyno
i’r pwyllgor yn y dyfodol. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD bod cofnodion y pwyllgor a gynhaliwyd ar 27 Mai 2021 yn rhai cywir. Materion yn codi Dim. |
|
Ystyried Rhaglen Flaen Trosolwg a Chraffu PDF 67 KB Cofnodion: CYTUNWYD i nodi’r Rhaglen Flaen a gyflwynwyd yn amodol
ar y canlynol: • Ystyried ailgyflwyno’r ffrydiau gwaith yn rhithiol. Dywedodd Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Ysgolion y gallai fod yn
bosibl i Bennaeth fynychu. • Tynnu’r eitem ar
y broses o ddyfarnu canlyniadau
TGAU a Safon Uwch 2021 oddi ar agenda’r
cyfarfod nesaf, gan na fyddai unrhyw wybodaeth
bellach i’w hychwanegu at yr adroddiad a gyflwynwyd ynghynt. |