Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy'n Dysgu - Dydd Iau, 27ain Mai, 2021 10.00 am

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr John Adams- Lewis a Meirion Davies am na fedrent ddod i’r cyfarfod.

 

Byddai’r Cynghorwyr Alun Lloyd Jones ac Ivor Williams yn gadael y cyfarfod yn gynnar oherwydd bod ganddynt ymrwymiadau eraill.

 

 

2.

Personal

Cofnodion:

          Diolchodd y cadeirydd newydd, y Cynghorydd Wyn Thomas i’r cadeirydd blaenorol, y Cynghorydd Endaf Edwards am ei waith yn ystod ei dymor. Bu i’r Cynghorydd Thomas hefyd ddiolch i Mrs Lisa Evans, Swyddog Craffu a Safonau am ei chefnogaeth, yn enwedig o ran mynychu cyfarfodydd ERW. Hefyd, bu i’r cadeirydd blaenorol ddiolch i’r ddau a dymunodd yn dda i’r Cynghorydd Thomas am y flwyddyn nesaf.

 

          Bu i’r Cadeirydd hefyd ddymuno’n dda i’r Cynghorydd Paul Hinge fel Cadeirydd y Cyngor.

 

          Croesawyd Mr Mike Hayes a Mr Gari Jones o ESTYN i’r cyfarfod. Byddent yn arsylwi ar y trafodaethau.

 

3.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Dim.

4.

Diweddariad ar lafar parthed cefnogaeth y Gwasanaeth Ysgolion dros y cyfnod COVID 19

Cofnodion:

 

Rhoddodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Ysgolion ddiweddariad i’r Aelodau am yr hyn yr oedd y gwasanaeth ysgolion wedi’i wneud yn ystod cyfnod Covid-19 a’r gwaith a wnaed yn benodol o ran iechyd meddwl a llesiant y disgyblion. Rhannwyd y wybodaeth ganlynol ar ffurf cyflwyniad:-

·         Y wybodaeth ddiweddaraf

·         Graddau wedi’u pennu gan ganolfannau 

·         Cefnogi disgyblion

·         Blas o’r gwaith a wnaed i dargedu sgiliau penodol

·         Iechyd Corfforol

 

 

Diolchwyd i holl staff yr ysgolion yn ystod y cyfnod heriol hwn a diolchwyd am yr hyn a ddarparwyd ar-lein i ddysgu’r disgyblion.

 

5.

Y Gwasanaeth Cerdd: Defnyddio Darpariaeth Rithiol yn y Dyfodol pdf eicon PDF 227 KB

Cofnodion:

Ers y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020 roedd Gwasanaeth Cerdd Ceredigion wedi parhau i gyflwyno gwersi offerynnol/lleisiol ar blatfform Microsoft Teams gyda'r nod o sicrhau bod disgyblion yn parhau i ymgysylltu â thiwtoriaid a gwneud cynnydd ar eu siwrnai ddysgu gerddorol.

 

Y gwasanaeth oedd y cyntaf yng Nghymru i ddarparu gwersi rhithiol, felly bu’n arwain yn y sector, ac yn sgil hynny mae’r Gwasanaeth, dan arweiniad Gareth Lanagan o brosiect e-sgol, wedi bod yn rhoi hyfforddiant a chymorth i wasanaethau cerddoriaeth eraill ledled Cymru. Gweithiodd staff y Gwasanaeth Cerdd yn ddiflino i addasu i’r ffyrdd newydd o weithio, gan ddysgu i ddefnyddio'r gwahanol blatfformau a oedd eu hangen i gyflwyno gwersi ar-lein – e.e. Flip Grid a Teams. Roedd y ddarpariaeth rithiol yn sicrhau bod disgyblion yn gallu parhau i ymgysylltu a pharhaodd tua 55% o’r disgyblion â'u hastudiaethau.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod sicrhau darpariaeth rithiol drwy gydol y cyfnod rhwng mis Mawrth 2020 a mis Mawrth 2021 wedi bod yn orchest fawr i'r Gwasanaeth. Mewn cymhariaeth, roedd Awdurdodau Lleol eraill wedi lleihau eu darpariaeth yn sylweddol gyda rhai'n rhoi’r gorau i holl ddarpariaeth eu gwasanaethau cerdd yn ystod y cyfnodau clo. 

 

Niferoedd:

 

Roedd 665 o ddisgyblion wedi cael eu tiwtora yn ystod y flwyddyn:

 

Llinynnau 91

Chwythbrennau 144

Pres 139

Piano 135

Offerynnau taro 53

Llais 64

Telyn 14

Mewn cymhariaeth, roedd y niferoedd ar gyfer y flwyddyn flaenorol fel a ganlyn:

 

Llinynnau 356

Chwythbrennau 196

Pres 315

Piano 57

Offerynnau taro 104

Llais 98

Telyn 55

 

Wrth adolygu'r flwyddyn ddiwethaf a chynllunio ar gyfer y dyfodol, roedd y Gwasanaeth yn cydnabod y rhinweddau a’r heriau canlynol o ran y ddarpariaeth rithiol:

 

Rhinweddau

 

Ø  Roedd y Gwasanaeth Cerdd yn gallu parhau i ymgysylltu â disgyblion

Ø  Parhad a dilyniant i ddisgyblion

Ø  Arbrofi gyda syniadau arloesol megis Taith Rithiol Peri – cyflwyniad i wersi

offerynnol/lleisiol gan gyrraedd nifer fawr o ddisgyblion mewn un sesiwn

Ø  Arbedion o ran y gyllideb a'r amser a dreulir yn teithio o un lleoliad i'r llall

Ø  Roedd prosiect West End of Wales wedi dangos sut y gallai perfformiadau                      ar-lein hyrwyddo'r Gwasanaeth Cerdd a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd

 

Heriau

 

Ø  Gallai’r cysylltiad â'r we, gan gynnwys ansawdd sain gwael, beri trafferthion i

ddisgyblion a thiwtoriaid

Ø  Anawsterau wrth diwnio offerynnau – offerynnau llinynnol yn arbennig

Ø  Anawsterau wrth gyfeilio o achos oedi ar-lein

Ø  Anawsterau wrth atgyweirio offerynnau

Ø  Dim gwaith grŵp/ensemble/cyngherddol a'r ymwneud cymdeithasol cysylltiedig sy'n annog cynnydd

Ø  Anawsterau i ddechreuwyr heb yr hyfforddiant a'r cyflwyniad ymarferol sy’n

angenrheidiol ar y cychwyn

Ø  Roedd creu perfformiadau ar-lein, megis perfformiadau prosiect West End of Wales, yn gofyn am fewnbwn technolegol sylweddol ac arbenigedd allanol   

 

Ffactorau a ystyrir wrth fynd ymlaen

Gan gydnabod bod y Gwasanaeth wedi addasu'n dda ac wedi edrych ar ffyrdd newydd ac arloesol o gyflwyno’i ddarpariaeth, dywedwyd y byddai’r Gwasanaeth Cerdd a'r Rheolwr Corfforaethol dros Ddiwylliant yn ystyried y canlynol wrth fynd ymlaen: 

 

·           Pan fydd yn ddiogel ac yn ddefnyddiol gwneud hynny, ailddechreuir y ddarpariaeth wyneb  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Cytundeb Partneriaeth rhwng yr ALl a’r Ysgolion 2021-24 pdf eicon PDF 209 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd bod Adran 197 o Ddeddf Addysg 2002 yn ddarpariaeth ar gyfer Cymru’n unig, sy’n rhoi’r pŵer i Lywodraeth Cenedlaethol Cymru (“LlC”) ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud cytundeb partneriaeth gyda chorff llywodraethol pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod. Pwrpas y Cytundeb Partneriaeth yw gwella a chynnal gwaith partneriaeth rhwng yr ALl ac ysgolion.

 

Roedd y Cytundeb Partneriaeth yn nodi’r trefniadau ar gyfer adolygu’r cytundeb a rhaid iddo gael ei adolygu bob 3 blynedd.

 

Byddai’r Cytundeb Partneriaeth arfaethedig rhwng yr Awdurdod Lleol a’r ysgolion yn rhedeg o Fedi 2021 tan Awst 2024.

Gellir crynhoi’r prif newidiadau i’r ddogfen fel a ganlyn:

 

·         Newidiadau i gysylltiadau Ceredigion / manylion cyswllt

·         Newidiadau o achos newid mewn deddfwriaeth ee. Rhaglen Trawsnewid AAA / Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)

·         Newidiadau i drefniadau Gwella ysgolion yn sgil Ceredigion yn tynnu’n ôl o Gonsortiwm ERW

 

Roedd yn bosib y byddai angen addasu ymhellach Adran 2 o’r Cytundeb Partneriaeth yn ystod cyfnod y cytundeb er mwyn cyfateb â ‘Chanllaw Gwella Ysgolion: Fframwaith ar gyfer Arfarnu, Gwella ac Atebolrwydd’ Llywodraeth Cymru.’

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i argymell y Cytundeb Partneriaeth rhwng yr Awdurdod Lleol a’r Ysgolion ar gyfer 2021-24 er cymeradwyaeth y Cabinet.

 

7.

Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-32 pdf eicon PDF 202 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Ysgolion wybodaeth am y broses o roi Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar waith gan gynnwys y prosesau democrataidd ac ymgynghori. Dywedwyd mai cynllun 10 mlynedd oedd y CySGA ar gyfer y cyfnod rhwng 2022 a 2032 ac y byddai’n cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Ionawr 2022. Roedd angen cynllunio yn unol â 7 deilliant statudol er mwyn datblygu a chryfhau lle’r Gymraeg o fewn addysg.

 

Deilliant 1: Mwy o blant meithrin / tair oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg

Deilliant 2: Mwy o blant dosbarth derbyn / pump oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg

Deilliant 3: Mwy o blant yn parhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cyfnod o'u haddysg statudol i un arall

Deilliant 4: Mwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau Cymraeg (fel pwnc) a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg

Deilliant 5: Mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destunau gwahanol yn yr ysgol

Deilliant 6: Cynnydd yn y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (“ADY”) (yn unol â'r dyletswyddau a bennir gan y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018)

Deilliant 7: Cynnydd yn nifer y staff addysgu sy'n gallu addysgu Cymraeg (fel pwnc) a thrwy gyfrwng y Gymraeg

 

Rhoddodd y Swyddog Arweiniol CorfforaetholYsgolion ddiweddariad i’r Aelodau am sefyllfa ysgolion Ceredigion o ran pob un o’r deilliannau uchod a'r data i gefnogi’r sefyllfa bresennol a’r hyn fyddai’n digwydd yn y dyfodol.

 

Yn dilyn cyflwyniad manwl a chwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i argymell i’r Cabinet bod y cynllun yn destun ymgynghoriad cyhoeddus

8.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion pdf eicon PDF 452 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD i gadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2021 yn rhai cywir.

 

9.

Ystyried Rhaglen Gwaith Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 344 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi’r Flaenraglen Waith a gyflwynwyd yn amodol ar y canlynol:-

Darparu adroddiad am adborth yr ymgynghoriad ynghylch Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-32 yn y cyfarfod ym mis Tachwedd.