Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Dwynwen Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Croeso ac Ymddiheuriadau Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb
i’r cyfarfod. Roedd y Cynghorydd Ceris
Jones, wedi ymddiheuro am nad oedd yn medru bod yn bresennol yn y cyfarfod. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae'n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 Cofnodion: Gwnaeth Arweinydd y Cyngor, y
Cynghorydd Bryan Davies, ddatgan buddiant personol
mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ynghylch Staff Addysg yr Awdurdod. Gwnaeth y Cynghorydd Gareth
Davies, Aelod o'r Cabinet, ddatgan buddiant personol mewn perthynas ag unrhyw
drafodaeth ynghylch yr Awdurdod Tân. |
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Dim. |
|
Adroddiad ar y Gyllideb Ddrafft 25/26 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gwnaeth y Cynghorydd Amanda Edwards, Is-gadeirydd y Pwyllgor, roi braslun o
drefn y cyfarfod ac estynnodd groeso i’r cyfarfod i Arweinydd y Cyngor, y
Cynghorydd Bryan Davies, i’r Cynghorydd Gareth
Davies, Aelod o'r Cabinet dros Gyllid a Chaffael, i Aelodau’r Pwyllgor, i’r
Aelodau eraill o'r Cabinet, i’r Aelodau sydd ddim ar y Pwyllgor hwn, ac i’r
Swyddogion. Bu i’r Cabinet ystyried a chytuno i 9 argymhelliad ynghylch yr adroddiad ar
gyllideb ddrafft 25/26. Gwnaeth Arweinydd y Cyngor, y
Cynghorydd Bryan Davies, gyflwyno’r adroddiad ar
gyllideb ddrafft 2025/26. Gwnaeth yr
Aelod o'r Cabinet dros Gyllid a Chaffael, y Cynghorydd Gareth Davies, gyflwyno
gweddill y wybodaeth. Wedyn rhoddodd Duncan Hall, Swyddog Arweiniol
Corfforaethol: Cyllid a Chaffael, ddiweddariad cryno ar lafar ar sefyllfa
ddiweddaraf y Gyllideb. Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor
at yr Ardoll Tân a’r Adolygiad Annibynnol diweddar o Ddiwylliant Gwasanaeth Tân
ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Dywedodd y byddai’r Cyngor, fel Awdurdod
cyfansoddol, eisiau craffu ar y sefyllfa a gofyn cwestiynau i Awdurdod Tân
Canolbarth a Gorllewin Cymru. Roedd cyfle i holi cwestiynau
a chael mewnbwn gan Aelodau'r Cabinet a’r swyddogion ynghylch
y meysydd gwasanaeth perthnasol. Dyma’r prif bwyntiau a godwyd
yn ystod y drafodaeth: · Cyfeiriodd y Cynghorydd Wyn Evans at lythyr a anfonwyd
gan y Grŵp Annibynnol at y Cynghorydd Bryan
Davies, Arweinydd y Cyngor, er mwyn i’r Cabinet ei ystyried. Roedd y llythyr yn cynnig y dylid
rhesymoli/ad-drefnu staff er mwyn gwneud arbedion wrth bennu'r gyllideb. Hysbyswyd yr Aelodau y
byddai'n fwy priodol pe byddent yn cyflwyno awgrymiadau ynghylch pa Wasanaethau
yr hoffent roi sylw iddynt er mwyn cyflawni'r arbedion angenrheidiol. Nodwyd
hefyd y byddai lleihau nifer y staff yn arwain at leihau gwasanaethau. · Gwnaed cais am wybodaeth ynghylch y gwariant ar y
Ganolfan Lles a’r Gwasanaethau Hamdden a chadarnhawyd y byddai hyn yn cael ei
roi ar y Flaenraglen Waith. · Mynegwyd pryder fod y gwariant mewn perthynas â Llesiant
Gydol Oes wedi cynyddu. Nododd y Swyddog adran 151
fod costau wedi lleihau ar draws y gwasanaeth Llesiant Gydol Oes yn ystod y
flwyddyn ddiwethaf, ar wahân i leoliadau y tu allan i'r sir. Nodwyd bod
gofyniad cyfreithiol i ddarparu cymorth i'n trigolion mwyaf bregus a bod diogelu
yn flaenoriaeth. Ar ôl iddynt drafod, gofynnwyd
i Aelodau’r Pwyllgor ystyried yr argymhellion canlynol. Argymhellion: O ran y gwasanaethau a oedd yng nghylch gwaith y
Pwyllgor Trosolwg a Chraffu hwn, gofynnwyd i’r Aelodau: a)
sefyllfa gyffredinol
cyllideb ddrafft 25/26. b)
yr elfennau perthnasol o
ran y symudiadau yn y Gyllideb Refeniw. c)
yr elfennau perthnasol yng
nghyswllt y pwysau o ran costau yn y Gyllideb Refeniw. d)
yr elfennau perthnasol o
ran y cynigion ynghylch gwneud arbedion yn y Gyllideb Refeniw. e)
yr elfennau perthnasol o
ran y cynigion ynghylch Ffioedd a Chostau. f)
yr elfennau perthnasol o
ran y Rhaglen Gyfalaf Aml-flwyddyn. 2.
Ystyried yr opsiynau a
argymhellwyd gan y Cabinet ar 21/01/25: a) Gofyniad ar Gyllideb ddrafft 25/26 o £209.109m, gan arwain at gynnydd yn Nhreth y Cyngor (ar gyfer elfen Cyngor Sir Ceredigion) o ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 12. |