Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach - Dydd Mercher, 22ain Ionawr, 2025 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Dwynwen Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

i.       Ymddiheurodd y Cynghorwyr Ceris Jones, Cadeirydd a Gwyn James  am nad oeddent yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

ii.      Ymddiheurodd y Cynghorydd Wyn Evans y byddai’n gadael y cyfarfod yn gynnar.  

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae'n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

Cofnodion:

i.       Datganodd y Cynghorydd Eryl Evans fuddiant personol mewn perthynas ag eitemau 4 a 5.  

ii.      Datganodd Dwynwen Jones, Swyddog Cefnogi Trosolwg a Chraffu fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 5, yn unol â'r Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol a gadawodd y cyfarfod pan oedd y mater hwnnw’n cael ei drafod.

3.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Cydymdeimlwyd â’r Cynghorydd Eryl Evans a’r teulu yn dilyn marwolaeth ei thad-yng-nghyfraith yn ddiweddar.

4.

Perfformiad a chyflwyniad y cynlluniau a ariennir gan y Gronfa Integredig Rhanbarthol (CIRh) pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Williams (Aelod Cabinet ar gyfer Gydol Oes a Llesiant) adroddiad ar bortffolio’r Gronfa Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Integreiddio Rhanbarthol (CIRh) yng Ngheredigion. Roedd CIRh yn gronfa 5 mlynedd, rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2027, a grëwyd i hwyluso newid system oedd yn gynaliadwy trwy integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Nod y CIRh oedd er mwyn adeiladu ar y gwaith rhagorol a wnaed trwy'r Gronfa Gofal Integredig (CGI) a'r Gronfa Trawsnewid (CT). Nid oedd yn barhad o'r cynlluniau hynny (er bod rhai prosiectau wedi'u hariannu o'r blaen drwy CGI/CT).

 

Roedd y CIRh bellach hanner ffordd drwy ei bum mlynedd arfaethedig ac roedd trafodaethau wedi dechrau yn Llywodraeth Cymru (LlC) ynghylch cynllunio ar gyfer y sefyllfa yn dilyn y CIRh. Roedd negeseuon clir yn dod o gyfeiriad y Tîm Partneriaeth yn LlC ac roedd yr adborth cychwynnol ynghylch yr adroddiadau a gyflwynwyd yn ddiweddar yn awgrymu bod angen gwella’r dystiolaeth o ran yr hyn y mae’r prosiectau wedi’u cyflawni a sicrhau mwy o gysondeb o ran ansawdd y dystiolaeth. Roedd y swyddogion yn nhîm LlC hefyd wedi nodi’r prosiectau nad oeddent yn credu eu bod yn bodloni’r meini prawf ar gyfer y CIRh. Roedd hyn yn bwysig gan ei bod yn debygol y byddai unrhyw benderfyniadau ynghylch ariannu prosiectau yn dilyn y CIRh yn cael eu gwneud gan ystyried y meini prawf canlynol: bod tystiolaeth o gyllid cyfatebol yn cael ei ddangos a bod y prosiect yn bodloni egwyddorion y CIRh. Trafodwyd y mater yma yn y Grŵp Gweithredol Integredig i alluog paratoadau ar gyfer diwedd cyfnod cyllid yr CIRh a'r newid i unrhyw ffrwd ariannu newydd.

 

Rhoddodd Linda Jones, Rheolwr y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol gyflwyniad i'r Pwyllgor yn amlinellu'r canlynol:

·       Gweithgareddau a ariennir gan y CiRh

·       Camau Cyllido

·       Dadansoddiad o’r Cyllid i’r Partneriaid

·       Tîm Trawsnewid Integredig

·       Trefniadau Llywodraethu ac Adrodd

·       Cynllunio at y Dyfodol

 

Cafodd yr Aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan Swyddogion. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·       Roedd yr Aelodau o’r farn fod angen i’r Byrddau Iechyd a'r sefydliadau eraill gydweithio’n agosach er budd cymunedau lleol; dywedwyd bod y Tîm Trawsnewid Integredig a ffurfiwyd yn 2019 wedi manteisio ar arbenigedd amrywiaeth eang o sectorau i gefnogi’r asiantaethau i greu dull system gyfan.

·       Codwyd pryderon bod yr ysbytai yn llawn ac nad oedd yr un ysbyty bwthyn bellach ar agor yng Ngheredigion ar ôl i Ysbyty Cymunedol Tregaron gau yn ddiweddar. Dywedodd y Swyddogion mai eu prif neges i Lywodraeth Cymru oedd bod angen canolbwyntio ar wella llif cleifion yn yr ysbytai, atal datgyflyru a chefnogi pobl yn eu cartrefi ac yn y gymuned fel nad oes angen iddynt fynd i’r ysbyty yn y lle cyntaf, os oes modd osgoi hynny.

·       Dywedwyd bod gofynion adrodd pob sefydliad yn wahanol ac y gallai hyn fod yn heriol. Yn ystod y cyfnod adrodd diweddaraf, cafodd y templed a oedd yn cael ei ddefnyddio i adrodd ar brosiectau ei addasu ychydig er mwyn gwella’r modd yr oedd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Polisi Dyrannu Cyffredin pdf eicon PDF 84 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eglurodd y Cynghorydd Matthew Vaux (Aelod Cabinet ar gyfer Partneriaethau, Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd) fod Cyngor Sir Ceredigion (y Cyngor), mewn cytundeb â Chymdeithasau Tai partner (Barcud, Caredig a Thai Wales and West) yn gweithredu Polisi Dyrannu Cyffredinol. Roedd hyn yn golygu fod pob cais am lety cymdeithasol, waeth pwy oedd y landlord, yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor drwy wefan Opsiynau Tai Ceredigion. Roedd pob uned tai cymdeithasol yng Ngheredigion yn cael ei ddyrannu gan Landlord yr eiddo yn unol â’r polisi hwn.

 

Roedd y Cyngor wedi cyd-weithio gyda’i bartneriaid i adolygu’r Polisi Dyrannu ar y cyd. Roedd galw cynyddol am Dai Cymdeithasol ynghyd â’r awydd i gynnal a chryfhau cymunedau lleol wedi arwain y Cyngor at gynnal adolygiad trylwyr o’r ffordd roedd tai yn cael eu dyrannu yn y Sir. Roedd y polisi presennol wedi bodoli ers 2016 ac fe'i hadolygwyd yn 2019. Ers hynny, bu newid yn y dirwedd, y mwyaf amlwg o’r rhain oedd prisiau tai, costau byw, ffocws LlC ar ddigartrefedd a'r cynnydd yn y galw ar y gofrestr dai a'r gwasanaeth digartrefedd

 

Ar 19.12.24, roedd 2082 o geisiadau cofrestr tai gweithredol, gyda 1009 o’r rhain wedi'u nodi ym mand blaenoriaeth (A/B/C) o’r Polisi fel y roedd ar hyn o bryd. Rhoddwyd trosolwg o’r newidiadau a gynigiwyd yn y polisi. Er bod y bandiau a'r cwotâu wedi'u diwygio ychydig, roedd y prif egwyddorion yn aros yr un fath â'r Polisi blaenorol gan sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni ei dyletswyddau deddfwriaethol a'u cryfhau ymhellach er mwyn sicrhau bod amrywiaeth o anghenion a grwpiau sy’n agored i niwed yn cael eu cofnodi o fewn y polisi.

 

Aeth y Cynghorydd Matthew Vaux ymlaen i gyflwyno canfyddiadau'r ymgynghoriad a'r broses. Roedd y Cyngor yn bwriadu ysgrifennu at bob ymgeisydd oedd ar y gofrestr tai gweithredol (ar 28.02.25) i roi gwybod y byddai eu ceisiadau yn cael eu cau, a’r angen iddynt wneud cais o’r newydd yn unol â'r Polisi newydd. Os ceir cytundeb gan y Cabinet ar 18.02.25, roedd y Cyngor yn bwriadu gweithredu’r drefn hon o 01.04.25. Er mwyn hwyluso’r newidiadau, bydd y Gofrestr Tai ar gau i ymgeiswyr newydd rhwng 01.03.25 a 31.03.25. Yn ystod y cyfnod hwn, byddai dyraniadau tai cymdeithasol yn parhau i gael eu cynnal o'r Gofrestr wreiddiol, fodd bynnag, mewn cytundeb a phartneriaid Cymdeithas Tai y Cyngor, ni fyddai dyraniadau yn cael eu gwneud rhwng 01.04.25 a 14.04.25 i ganiatáu amser i'r rhestr aros gronni ôl geisiadau a aseswyd yn erbyn y Polisi newydd. Diolchodd y Cynghorydd Matthew Vaux i’r Gwasanaethau Tai am eu gwaith ac i bartneriaid y Cyngor am eu cydweithrediad.

 

Cafodd yr Aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan Swyddogion a’r Cynghorydd Matthew Vaux. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·       Diolchodd yr Aelodau i’r Gwasanaethau Tai am eu gwaith a’u cymorth parhaus.

·       Tynnodd yr Aelodau sylw at yr angen am fwy o dai cymdeithasol yn y sir. Dywedwyd fod tai cymdeithasol yn cael eu datblygu’n bennaf gan gymdeithasau tai a bod datblygiadau o’r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Trosolwg a'r materion ariannol yn ystod y flwyddyn pdf eicon PDF 130 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Duncan Hall, Swyddog Arweiniol Corfforaethol drosolwg o’r Gyllideb Refeniw Rheoladwy 24/24 - Perfformiad Ariannol - Chwarter 2 a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 03.12.24. Ar adeg ysgrifennu’r adroddiad, rhagwelwyd gorwariant rhagamcanol am y flwyddyn o £313k ar y Gyllideb Reoladwy’. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn cynnwys rhai risgiau mewn perthynas â chyflawni arbedion yn ystod y flwyddyn.

 

Darparwyd trosolwg o'r canlynol fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad:

·       Perfformiad y Gyllideb – Heriau Allweddol (gan gynnwys lleoliadau i Blant y Tu Allan i'r Sir a'r defnydd o staff asiantaeth o fewn Gofal Cymdeithasol)

·       Perfformiad y Gyllideb – Buddion Allweddol

·       Perfformiad y Gyllideb – Arbedion Cyllideb

 

O ran statws BRAG yr eitemau sy’n rhan o’r Gostyngiadau yng Nghyllideb 24/25, roedd gan ddwy eitem (eitem 36b - Llyfrgell Llanbedr Pont Steffan ac eitem 70 - Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir) statws coch adeg ysgrifennu’r adroddiad. Ers hynny, roedd eitem 43 (taliadau am ofal heb fod mewn man preswyl) wedi newid ei statws i goch am fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio â chynyddu’r cap wythnosol o £100 i £120. Yn sgil y penderfyniad hwn, roedd grant gwerth £62,500 wedi dod i law oddi wrth Lywodraeth Cymru i gefnogi’r awdurdod lleol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Rhoddwyd trosolwg o Berfformiad y Gyllideb o ran Treth y Cyngor a Sefyllfa’r Gwasanaethau yn unol â’r hyn oedd wedi’i gyflwyno yn yr adroddiad. Fel y dywedwyd mewn Gweithdy i’r Aelodau yn ddiweddar, roedd yr awdurdod lleol wedi derbyn £3m yn ychwanegol oddi wrth Lywodraeth Cymru ar gyfer amrywiol eitemau gan gynnwys pwysau o ran cyflogau a chyllid ychwanegol ar gyfer ysgolion.

 

O safbwynt y Rhaglen Gyfalaf, roedd Ysgol Dyffryn Aeron wedi agor ei drysau ar ddechrau mis Ionawr ac roedd dyddiad cwblhau Cynllun Amddiffyn yr  Arfordir yn Aberaeron wedi’i ymestyn. O ran Lleoliadau i Blant y Tu Allan i’r Sir, roedd y ddau gyfleuster yn y sir wedi’u trosglwyddo’n ôl i’r awdurdod lleol ac roedd gwaith ar y gweill i’w gwneud yn weithredol yn fuan. Roedd cyllid ar gyfer gwaith cefnogol yng nghartrefi gofal yr awdurdod lleol wedi’i gynnwys yn y rhaglen Gyfalaf ers nifer o flynyddoedd.

 

Cafodd yr Aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan Duncan Hall. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·       Roedd yr Aelodau’n falch o glywed bod nifer y staff asiantaeth wedi gostwng a bod ymdrechion yn cael eu gwneud i leihau’r ddibyniaeth honno ymhellach. Hefyd, roedd ymdrechion yn cael eu gwneud i leihau’r costau a oedd yn gysylltiedig â’r lleoliadau y tu allan i’r sir, lle bo hynny’n briodol. Roedd y ddwy elfen yn parhau’n destun pryder i’r Swyddogion.

·       Diolchodd yr Aelodau i bawb a fu’n rhan o’r gwaith hyd yma yn y ddau gyfleuster yn y sir a fyddai’n weithredol yn fuan.

·       Dywedwyd bod un adain yng Nghartref Gofal Preswyl Hafan y Waun wedi’i gosod ar brydles i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Roedd gweddill yr adeilad yn gartref i’r preswylwyr a arferai fod yng Nghartref Gofal Tregerddan a’r rheiny a oedd yn y cartref cyn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

Adduned Cyflogwr Oed-gyfeillgar pdf eicon PDF 152 KB

Cofnodion:

Eglurodd y Cynghorydd Alun Williams (Aelod Cabinet ar gyfer Gydol Oes a Llesiant) fod Cyngor Sir Ceredigion (CSC) wedi’i derbyn i Rwydwaith Sefydliadau Iechyd y Byd o Gymunedau a Dinasoedd sy’n Oed-Gyfeillgar ym mis Medi 2024, yn dilyn cyflwyno adroddiad hunanasesu a baratowyd gan y Tîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol. Fel rhan o'r ymrwymiad i arwain o'r blaen ar yr agenda hon, cynigwyd bod CSC yn ymrwymo i'r Addewid Cyflogwr Oed-Gyfeillgar.

 

Roedd yr Addewid yn rhaglen genedlaethol ar gyfer cyflogwyr y DU oedd yn cydnabod pwysigrwydd a gwerth gweithwyr hŷn. Roedd cyflogwyr yn ymrwymo i wella gwaith i bobl yn eu 50au a 60au a chymryd y camau angenrheidiol i'w helpu i ffynnu mewn gweithlu aml-genhedlaeth. Roedd trafodaethau wedi'u cynnal gyda'r Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Pobl a Threfniadaeth ac yn y Grŵp Arweiniol lle cytunwyd y byddai mabwysiadu’r adduned yn fuddiol ac na fyddai’n golygu gwyro oddi wrth arferion presennol oedd yn gynhwysol eu natur

 

Dywedodd Iwan Davies, y Rheolwr Corfforaethol, mai Cyngor Caerdydd a Chyngor Sir Powys oedd yr unig awdurdodau lleol yng Nghymru a oedd wedi llofnodi’r addewid hyd yma. Roedd rhai o adrannau’r llywodraeth a’r byrddau iechyd hefyd wedi’i lofnodi. Byddai llofnodi’r addewid yn dangos ymrwymiad y Cyngor i’r sefydliadau sy’n bartneriaid iddo yn y sector preifat, y trydydd sector a’r sector cyhoeddus.

 

CYTUNWYD i gefnogi'r Awdurdod Lleol i ymrwymo i'r Adduned Cyflogwr sy'n Oed-Gyfeillgar ac i argymell y dylai’r Cabinet gymeradwyo’r cynnig.  

8.

I gadarnhau cofnodion y cyfarfod diweddara ac i ystyried unhrhyw faterion sy'n codi ohonynt pdf eicon PDF 103 KB

Cofnodion: