Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach - Dydd Mercher, 6ed Tachwedd, 2024 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Dwynwen Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Cofnodion:

i.      Ymddiheurodd y Cynghorydd Ceris Jones, Cadeirydd am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

ii.     Ymddiheurodd y Cynghorydd Ann Bowen Morgan am ymuno â'r cyfarfod yn hwyr.

iii.    Ymddiheurodd y Cynghorwyr Elaine Evans a Caryl Roberts am adael y cyfarfod yn gynnar.

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae'n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

Cofnodion:

3.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Dim.

4.

Cyflwyniad Cymunedau Oed-Gyfeillgar Ceredigion pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Eglurodd y Cynghorydd Alun Williams (Aelod Cabinet ar gyfer Gydol Oes a Llesiant) bod cyflwyniad wedi’i gyflwyno ar y dull oedd yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo'r agenda Oed Gyfeillgar, i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion ar 17/09/24. Roedd y Cynghorydd Wyn Evans, oedd yn bresennol yng nghyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi gofyn i Melanie Walters gyflwyno'r wybodaeth i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach. Ers 2019, roedd y Comisiynydd Pobl Hŷn wedi cefnogi awdurdodau lleol i ddatblygu eu siroedd fel rhai 'oed gyfeillgar', gyda'r bwriad o wneud cais i Sefydliad Iechyd y Byd i ymuno â'r Rhwydwaith Byd-eang o Ddinasoedd a Chymunedau sy'n Oed Gyfeillgar.

 

Parhaodd Tîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol Ceredigion i arwain y gwaith Cymunedau sy'n Oed Gyfeillgar ar ran yr awdurdod lleol. Cyflwynwyd cais i’r Sefydliad Iechyd y Byd i ymuno â Rhwydwaith Byd-eang Dinasoedd a Chymunedau sy'n Oed Gyfeillgar ac roedd ymgysylltu â chymunedau a phobl hŷn wedi bod wrth wraidd hyn.

 

Rhoddodd Melanie Walters, Cydlynydd y Gogledd yn y Tîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol gyflwyniad i’r Pwyllgor a oedd yn amlinellu’r gwaith yr oedd Tîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol Ceredigion wedi’i gyflawni ers Hydref 2022. Esboniodd y byddai Fforwm Oed-gyfeillgar Ceredigion yn cael ei gynnal rhwng 2pm a 4pm ar 28.11.24 ar-lein ac mewn 3 lleoliad ar draws y sir (Canolfan Rheidol, Penmorfa a Glascoed, Llandysul) i drafod trafnidiaeth. Ar hyn o bryd, roedd gan y Fforwm 160 o aelodau, ac roedd 21 wedi dangos diddordeb mewn dod yn gynrychiolwyr dinasyddion.

 

Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan Melanie Walters a’r Cynghorydd Alun Williams. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·       Nodwyd bod defnyddwyr cadeiriau olwyn yn gweld y byd ar lefel wahanol  a bod problemau o ran hygyrchedd yn bodoli ar draws y sir megis prinder llwybrau troed hygyrch. Fodd bynnag, nid oedd cyllid ar gael yn rhwydd i’r awdurdod lleol.

·       Un o’r pethau yr oedd y gwasanaeth yn canolbwyntio arno oedd dod â chymunedau ynghyd a chanfod atebion, gan wneud hynny gyda chymorth y tîm. Yr amcan oedd defnyddio’r Aelodau Etholedig a grwpiau cymunedol i roi gwybod i’r cymunedau am unrhyw gyfleoedd a oedd ar gael iddynt megis ffrydiau ariannu.

·       Gallai unrhyw ostyngiad mewn cyfleusterau cyhoeddus arwain at broblemau o ran arwahanrwydd cymdeithasol gan y gallai rhai pobl ddewis peidio â mynd i fannau cyhoeddus os na fyddai cyfleusterau cyfleus ar gael gerllaw.

·       Codwyd pryder ynghylch hygyrchedd ar waelod Craig Glais, Aberystwyth; dywedodd y Cynghorydd Alun Williams y byddai’n parhau i godi’r mater  â’r gwasanaeth perthnasol.

 

Gwnaeth Melanie Walters annog yr Aelodau i gysylltu â hi pe byddent yn ymuno bod yn rhan o bethau a chael eu hychwanegu at y rhestr bostio.

 

Diolchodd yr Is-gadeirydd i Melanie Walters am fod yn bresennol ac am roi cyflwyniad diddorol.

 

CYTUNWYD i nodi’r adroddiad.

5.

Polisi Taliadau Uniongyrchol pdf eicon PDF 299 KB

Cofnodion:

Adroddodd y Cynghorydd Alun Williams (Aelod Cabinet ar gyfer Gydol Oes a Llesiant) fod y Polisi yn nodi sut y byddai Cyngor Ceredigion yn cyflawni ei ddyletswyddau i ddarparu Taliadau Uniongyrchol i bobl oedd yn gymwys. Roedd y Polisi yn cefnogi egwyddorion grymuso ac yn adlewyrchu'r gofynion a'r dyletswyddau a ddisgrifir yn y Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol a'r Cod Ymarfer a nodir o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Byddai’r ddogfen yn darparu'r fframwaith cyffredinol y byddai gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol yn cyfeirio ato wrth alluogi pobl i gymryd mwy o reolaeth dros eu datrysiadau Cymorth trwy daliad uniongyrchol. Polisi Awdurdod Lleol Tair Sir oedd y polisi blaenorol pan oedd y Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol yn ddarpariaeth ranbarthol ar gontract allanol. Ers diddymu'r model rhanbarthol, roedd Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol bellach wedi hen sefydlu yng Nghyngor Sir Ceredigion ac roedd y polisi wedi'i ddiwygio i gefnogi'r gwaith parhaus o ddarparu taliadau uniongyrchol i ddinasyddion yng Ngheredigion.

 

Esboniodd Donna Pritchard, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Porth Gofal y byddai dogfen dechnegol yn cael ei chreu i gefnogi’r ymarferwyr â’r polisi.

 

Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan Donna Pritchard a’r Cynghorydd Alun Williams. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·       Roedd gan bob un o’r tri rhanbarth bryderon ynghylch y ddarpariaeth ranbarthol a oedd wedi’i chomisiynu’n flaenorol a’r modd yr oedd wedi cael ei gweithredu. Ers i’r Gwasanaeth Taliadau Uniongyrchol ddod yn wasanaeth mewnol, cafwyd arbedion effeithiolrwydd ariannol ac roedd arfer da yn parhau i gael ei rannu’n rhanbarthol.

·       Bu cynnydd yn y galw am Daliadau Uniongyrchol o un flwyddyn i’r llall, yn benodol yn ystod pandemig Covid-19. Roedd y gallu i recriwtio Cynorthwywyr Personol yn heriol, ac roedd y gwasanaeth wedi cynnal ffeiriau swyddi rheolaidd i hyrwyddo’r rôl. Roedd hyn wedi arwain at gynnydd misol yn y nifer a oedd wedi’u recriwtio.

·       Roedd y Cynorthwywyr Personol yn cael eu cyflogi gan Wasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol yr awdurdod lleol. Roedd gwybodaeth am y gwasanaeth ar gael ar wefan y Cyngor.

 

CYTUNWYD i argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo Polisi Taliadau Uniongyrchol Cyngor Sir Ceredigion.

6.

Gwasanaethau Arbenigol Porth Cynnal (Plant ac Oedolion) Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Adroddiad Rheoli Perfformiad Ch 1 2024 - 2025 pdf eicon PDF 673 KB

Cofnodion:

Eglurodd y Cynghorydd Alun Williams (Aelod Cabinet ar gyfer Gydol Oes a Llesiant) fod yr adroddiadau chwarterol eu rhoi gerbron y Pwyllgor fel rhan o’r ystyriaeth barhaus o'r pwnc i sicrhau bod yr Awdurdod Lleol yn cyflawni ei ddyletswyddau fel y Rhiant Corfforaethol. Roedd yr adroddiad yn cynnwys safonau a’r targedau cenedlaethol a lleol a ddefnyddir i fesur y canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a phlant sy'n gadael gofal adeg eu cyfarfod adolygu, ac mae'n cynnwys Dangosyddion Perfformiad Llywodraeth Cymru.

 

Ar sail y wybodaeth oedd ar gael a'r hyn a fynegwyd yn ystod y cyfarfod adolygu, roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn llunio barn broffesiynol ynghylch effeithiolrwydd Cynllun Gofal y plentyn/person ifanc o ran bodloni ei anghenion, a gall argymell newidiadau i’r Cynllun Gofal. Yn ystod y cyfarfod adolygu roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a oedd angen cymorth ar y plentyn/person ifanc i nodi pobl berthnasol eraill i gael cyngor cyfreithiol/cymryd camau ar ei ran. Roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol o’r

farn bod angen gweithredu ar gyfer 4 person ifanc yn ystod y cyfnod hwn. Yn ogystal, roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a oedd unrhyw dramgwydd yn erbyn hawliau dynol y plentyn/person ifanc ac, os oedd yna, gallai gyfeirio’r achos i CAFCASS Cymru. Ni chododd yr angen i wneud hynny mewn unrhyw gyfarfod adolygu yn ystod y cyfnod hwn. Aeth y Cynghorydd Alun Williams ymlaen i gyflwyno Crynodeb o'r Pwyntiau Allweddol a nodwyd ar dudalen 2 yr adroddiad.

 

Dywedodd Audrey Somerton-Edwards, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Porth Cynnal fod yr adroddiad yn ddogfen allweddol a oedd yn rhoi manylion am berfformiad y gwasanaeth. Roedd unrhyw faterion a godwyd yn ystod y cyfnod megis anawsterau o ran y Cynlluniau Llwybr wedi cael eu hymchwilio ac roedd sylw priodol wedi’i roi iddynt.

 

Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan Audrey Somerton-Edwards a’r Cynghorydd Alun Williams. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·       Roedd nifer y Plant sy’n Derbyn Gofal wedi cynyddu dros y blynyddoedd. Ar hyn o bryd, roedd 142 o Blant yn Derbyn Gofal, ac roedd hyn yn cynnwys 22 o Blant Digwmni sy’n Ceisio Lloches o dan y Cynllun Trosglwyddo Cenedlaethol a oedd yn orfodol i bob awdurdod lleol. 

·       Yn ddiweddar, roedd yr awdurdod lleol wedi gweld cynnydd yn nifer y gofalwyr maeth ac roedd yn gweithio’n agos gyda Maethu Cymru, rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu awdurdodau lleol ar draws Cymru a oedd yn cael ei hwyluso gan Lywodraeth Cymru. Darparwyd trosolwg o’r broses ar gyfer dod yn ofalwr maeth.

·       Roedd angen pwyso a mesur oedran y plentyn, ynghyd â nifer o ffactorau eraill, yn ofalus cyn ystyried mabwysiadu ac roedd angen archwilio pob opsiwn arall a’u diystyru.

 

CYTUNWYD i nodi cynnwys yr adroddiad a’r lefelau gweithgarwch gyda'r Awdurdod Lleol.

7.

Siarter Rhianta Corfforaethol pdf eicon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eglurodd y Cynghorydd Alun Williams (Aelod Cabinet ar gyfer Gydol Oes a Llesiant) mai pwrpas yr adroddiad oedd i dderbyn cytundeb y Pwyllgor er mwyn symud y gwaith o fabwysiadu'r Siarter Rhianta Corfforaethol gan Gyngor Sir Ceredigion drwy'r daith lywodraethu. Eglurodd fod rhianta corfforaethol yn disgrifio cyd-gyfrifoldeb holl swyddogion awdurdodau lleol, comisiynwyr ac Aelodau Etholedig i ddiogelu a hyrwyddo hawliau a chyfleoedd bywyd plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal.

 

Fodd bynnag, dylai cefnogi plant sy'n derbyn gofal, y cyfeirir atynt weithiau fel plant a phobl ifanc â phrofiad o ofal, trwy eu plentyndod ac wrth iddynt adael gofal, fod yn gyfrifoldeb ar holl gyrff y sector cyhoeddus. Yr Awdurdod Lleol oedd y prif riant corfforaethol bob amser a disgwylir iddo hyrwyddo a hyrwyddo hawliau'r plant a'r bobl ifanc hyn yn llwyr. Roedd y Grŵp Rhianta Corfforaethol Ceredigion wedi cytuno i fabwysiadu'r Siarter Rhianta Corfforaethol yn ffurfiol yn y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 15.10.24. Roedd gan y Siarter un ar ddeg egwyddor allweddol fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Esboniodd Audrey Somerton-Edwards, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Porth Cynnal pe byddai’r Cabinet yn cytuno i fabwysiadu’r Siarter Rhianta Corfforaethol y byddai’n dangos i gyrff eraill yn y sector cyhoeddus  ymrwymiad yr awdurdod lleol i blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal.

 

CYTUNWYD i gefnogi datblygiad y Siarter Rhianta Corfforaethol drwy'r daith lywodraethu i'w mabwysiadu'n llawn gan Gyngor Sir Ceredigion.

8.

Ystyried Blaenraglen Waith y Pwyllgor pdf eicon PDF 205 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD nodi cynnwys y Flaen Raglen Waith a gyflwynwyd, yn ddibynnol ar gynnwys y canlynol:

·       Cyflwyniad ar Wasanaethau Digartrefedd

9.

I ystyried cofnodion y cyfarfodydd blaenorol 17.9.24 a 27.9.24 ac i ystyried unrhyw faterion sy'n codi ohonynt pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion: