Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Dwynwen Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Croeso ac Ymddiheuriadau Cofnodion: i. Ymddiheurodd y
Cynghorydd Caryl Roberts am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod
oherwydd ymrwymiadau eraill y Cyngor. ii. Ymddiheurodd y
Cynghorydd Gareth Davies, Aelod Cabinet ar gyfer Cyllid a Chaffael am nad oedd
yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae'n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 Cofnodion: i.
Eglurodd
y Cynghorydd Amanda Edwards nad oedd ganddi ddiddordeb personol yn eitem 4, ond
ei bod wedi mynychu cyfarfod cyhoeddus i drafod Pwll a Neuadd Goffa Aberteifi. ii.
Datganodd
y Cynghorydd John Roberts fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 6, mewn
materion sy'n ymwneud â deiliaid Bathodyn Glas. iii.
Datganodd
y Cynghorwyr Rhodri Evans a Ceris Jones fuddiant personol mewn perthynas ag
eitem 5. iv.
Datganodd
y Cynghorydd Sian Maehrlein fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 6. |
|
Cyflwyniad gan Rhian Bond, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gofal Sylfaenol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Cofnodion: Eglurodd y
Cadeirydd fod Rhian Bond, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gofal Sylfaenol wedi
ymddiheuro y bore yma am ei hanallu i fynychu'r cyfarfod oherwydd ymrwymiadau
gwaith eraill. Roedd hi wedi cytuno i fynychu'r cyfarfod yn ddiweddarach. |
|
Canolfan Lles Aberteifi PDF 23 MB Cofnodion: Eglurodd y
Cynghorydd Catrin M S Davies (Aelod y Cabinet ar gyfer Diwylliant, Hamdden a
Gwasanaethau Cwsmeriaid) fod y Cabinet wedi cytuno ar y 5ed o Ragfyr 2022 y
byddai ail Ganolfan Lles y sir yn cael ei lleoli yn Aberteifi i wasanaethu de’r
sir. Rhoddwyd caniatâd i’r swyddogion werthuso’r dewisiadau i nodi lleoliadau
posib ar gyfer y Ganolfan Lles a’r cyfleusterau oedd eu hangen i ddarparu’r
gwasanaethau arfaethedig. Penodwyd Alliance Leisure i
ymgymryd â'r Astudiaeth Ddichonoldeb ac fe’i cefnogwyd gan Benseiri Roberts Limbrick a hefyd Strategic
Leisure. Gofynnwyd i’r
astudiaeth ddichonoldeb ystyried y safleoedd posibl canlynol ar gyfer y
Ganolfan Lles: 1. Maes parcio Cae Ffair a Phwll a Neuadd
Goffa Aberteifi 2. Canolfan Hamdden Teifi 3. Caeau Dolwerdd Nodwyd bod y
ffactorau canlynol yn bwysig wrth benderfynu ar safle i’w argymell: a)
Maint:
-
Maint
y safle – y gallu i ddarparu ar gyfer adeilad y Ganolfan Lles a’r gofynion
parcio. b)
Dalgylch
/ lleoliad / hygyrchedd: -
Y
dalgylch – pa safleoedd sy’n hygyrch ar gyfer y mwyaf o bobl. -
Lleoliad
– canol tref/ y tu allan i’r dref – hygyrchedd. -
Hygyrchedd
– trafnidiaeth gyhoeddus – y safleoedd bws agosaf. -
Hygyrchedd
– Llwybrau beicio. c)
Perchnogaeth: -
Perchnogaeth
y safle. -
Cyfyngiadau
cynllunio hysbys ac anawsterau cynllunio posib. -
Effaith
ar fannau gwyrdd. -
Ystyriaethau
Adeiladu – e.e. mynediad ar gyfer cerbydau adeiladu. Roedd gwerthusiad
o’r dewisiadau o ran y safleoedd wedi nodi bod gan bob un o'r safleoedd a
werthuswyd y potensial i ddarparu ar gyfer y Ganolfan Lles newydd arfaethedig.
Rhoddwyd crynodeb o werthusiad pob safle gan gynnwys y manteision a'r
anfanteision yn yr adroddiad ac Atodiad A. Safle Pwll Coffa Aberteifi/ Maes
Parcio Cae Ffair oedd yr un a ffafrir ar gyfer datblygu’r Ganolfan Lles.
Unwaith y cytunwyd ar safle a ffafrir ar gyfer y Ganolfan Lles bydd y Model Pum
Achos, sef y broses ymgeisio a ddynodwyd ar gyfer y Gronfa Gyfalaf Integreiddio
ac Ailgydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn cael
ei ddilyn. Cafodd yr aelodau
gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion a’r Cynghorydd
Catrin M S Davies. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd: · Codwyd pryderon ynghylch y posibilrwydd o
golli parcio pe bai'r penderfyniad yn mynd gyda safle Pwll Coffa Aberteifi/
Maes Parcio Cae Ffair. Nodwyd y byddai hyn yn cael ei archwilio ymhellach yn yr
astudiaeth ddichonoldeb. · Roedd yr aelodau yn teimlo bod Canolfan
Hamdden Teifi mewn lleoliad da o ystyried pa mor agos ydyw at Ysgol Uwchradd
Aberteifi a Choleg Ceredigion, ac fe awgrymwyd symud y ffordd sy’n rhoi
mynediad i ochr y cae chwaraeon allan tuag at Heol Gwbert. Nododd swyddogion y
byddai angen ystyried unrhyw effaith ar y maes chwaraeon a'r ysgol. · Cefnogodd y Pwyllgor ddatblygiad Canolfan Lles yn Aberteifi, ond nid ar gost y pwll nofio lleol gan fod nofio yn cael ei ystyried yn sgil hanfodol. Amlygwyd pan gymeradwyodd y Cabinet drosglwyddiad asedau Pwll a Neuadd Goffa Aberteifi i berchnogaeth y Cyngor ar 19.03.24, fod yr awdurdod lleol ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Cyflwyniad gan Kay Isaacs, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Iechyd Meddwl Oedolion, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd Kay Isaacs, Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar
gyfer Iechyd Meddwl Oedolion i'r cyfarfod. Rhoddodd Kay Isaacs gyflwyniad i'r Pwyllgor yn amlinellu'r canlynol: · Trosolwg o Wasanaethau Iechyd Meddwl · Canolfan Iechyd Meddwl Cymunedol Gorwelion
a darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg · Ydy’r gwasanaeth iechyd meddwl yn
Aberystwyth yn ddigon da? · Gwasanaeth Cyswllt Gofal Sylfaenol (PCLS) · Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl
Sylfaenol Lleol (LPMHSS)- Ceredigion · Gwasanaethau Therapi Seicoleg Integredig
(IPTS) · Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Oedolion
Hŷn a darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg · Clinig Cof a Gwasanaethau Dementia · Staff Meddygol - nifer y seiciatryddion /
therapyddion lefel ymgynghori · Seicolegwyr Ymgynghorol a Hyfforddiant i
Feddygon Teulu Cafodd yr aelodau
gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan Kay Isaacs.
Dyma'r prif bwyntiau a godwyd: · Yn hanesyddol, y llwybr i'r Gwasanaeth
Eilaidd oedd drwy feddyg teulu, fodd bynnag, roedd y gwasanaeth 'Galw 111
opsiwn 2 ar gyfer iechyd meddwl' yn darparu un pwynt cyswllt 24/7. Galluogodd
hyn i unigolion gael eu hasesu i ddechrau gan ymarferydd iechyd meddwl dros y
ffôn a chael eu trosglwyddo'n lleol naill ai i'r tîm gofal sylfaenol neu
eilaidd yn ôl yr angen. · Roedd yr aelodau'n teimlo'n gryf y
byddai'n fuddiol i feddygon teulu dreulio amser gyda'r Gwasanaethau Iechyd
Meddwl i wella eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth. · Awgrymwyd nad oedd y Gwasanaethau Iechyd
Meddwl yn cael eu hariannu'n ddigonol a bod angen mwy o arian i gefnogi eu
gwaith. · Roedd y Gwasanaeth Iechyd Meddwl i
Oedolion a'r Heddlu gydweithio’n agos ac yn cyfathrebu’n ddyddiol a’i gilydd. · Roedd pwysigrwydd i sicrhau bod staff
Cymraeg eu hiaith ar bob rota, ar y gwasanaeth 'Galw
111 opsiwn 2 ar gyfer iechyd meddwl' ac ar ymweliadau i gartrefi yn hanfodol,
er mwyn galluogi'r claf i siarad yn ei iaith gyntaf pan oedd mewn gofid. Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn
annog staff i fynychu dosbarthiadau Cymraeg a rhoddwyd amser gwarchodedig
iddynt wneud hynny. Gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod aelod o staff Cymraeg eu
hiaith bob amser ar shifft, ond roedd hyn yn ddibynnol ar adnoddau. · Codwyd cwestiynau am allu'r gwasanaeth i
ymdopi â'r galw. Nodwyd bod swydd wag parhaus yn y Tîm Cymunedol, ond yn
gyffredinol, nid oedd unrhyw risg benodol o ran swyddi gwag ar hyn o bryd yn y
Gwasanaethau Iechyd Meddwl. Eglurodd y Cynghorydd Rhodri Evans y byddai'n tynnu sylw at bwysigrwydd
sicrhau bod staff Cymraeg ar gael bob amser ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda,
yn ei rôl fel Aelod o’r Bwrdd. Yn dilyn cais gan y Pwyllgor, cytunodd Kay Isaacs
i anfon gwybodaeth am y gwasanaeth 'Galw 111, opsiwn 2 ar gyfer iechyd meddwl'
at Aelodau Etholedig i'w rhannu â thrigolion lleol. Diolchodd y Cadeirydd i Kay Isaacs am ddod i'r cyfarfod ac am gyflwyniad manwl. |
|
Adroddiad Blynyddol Gofalwyr Ceredigion 2023-2024 PDF 14 MB Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Williams (Aelod y Cabinet ar gyfer Gydol Oes
a Llesiant) adroddiad ar gyflawniadau Tîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol
Ceredigion a’r cynnydd yn erbyn eu targedau a'u hamcanion y cytunwyd arnynt yn
ystod y flwyddyn 2023-2024. Roedd y Tîm Gofalwyr a Chymorth
Cymunedol yn dod a’r Swyddogion Datblygu Gofalwyr, Cysylltwyr Cymunedol a
Swyddog Heneiddio'n Dda at ei gilydd i weithio mewn un tîm oedd yn canolbwyntio
ar roi gwybodaeth, cyngor a chymorth i ofalwyr di-dâl a chefnogi aelodau'r
gymuned yng Ngheredigion. Diffinnir gofalwr fel 'Unrhyw un sy'n gofalu, yn
ddi-dâl, am ffrind neu aelod o'r teulu sydd, oherwydd salwch, anabledd, problem
iechyd meddwl neu gaethiwed, yn methu ymdopi heb eu cymorth’. Roedd gan Ofalwyr
hawl i fywyd y tu hwnt i'w rôl ofalu ac i wneud hynny, roedd angen gwasanaethau
effeithiol arnynt i gefnogi'r bobl roeddent yn gofalu amdanynt ac ar eu cyfer
nhw fel Gofalwyr yn eu rhinwedd eu hunain. Darparodd Iwan Davies, Rheolwr Corfforaethol: Ymyrraeth Gynnar drosolwg
o'r adroddiad i'r Pwyllgor. Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan y
Swyddogion a’r Cynghorydd Alun Williams. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd: ·
Llongyfarchwyd aelodau’r tîm am gynhyrchu adroddiad
gweledol a hawdd i’w ddarllen. ·
Canmolwyd y Cysylltwyr Cymunedol am eu gwaith
gwerthfawr ar draws y sir. ·
Adolygodd y tîm eu gwaith, eu dulliau allgymorth yn
barhaus a sut y dosbarthwyd gwybodaeth gan nad oedd yr holl breswylwyr ar-lein.
Roedd gwaith hefyd ar y gweill gyda'r Gwasanaeth Tai i gynnig sesiynau galw
heibio yng Nghanolfan Lles yr awdurdod lleol a byddai uchafswm incwm ar gyfer
gofalwyr di-dâl yn cael ei ystyried yn y dyfodol. CYTUNWYD i dderbyn Adroddiad Blynyddol y Tîm Gofalwyr a Chymorth
Cymunedol. |
|
Trosolwg o’r materion ariannol yn ystod y flwyddyn PDF 725 KB Cofnodion: Rhoddodd Duncan
Hall, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a Chaffael trosolwg o’r Gyllideb
Refeniw Rheoladwy 24/24 - Perfformiad Ariannol - Chwarter 1 a gyflwynwyd i’r
Cabinet ar 03.09.24. Roedd y broses o bennu Cyllideb 24/25 yn un heriol ac
roedd yn cynnwys cymeradwyo tua 70 o gynigion i gwtogi’r Gyllideb a oedd yn dod
i gyfanswm o tua £5.8m. Mae'r cynnydd wrth gyflawni'r gostyngiadau yma yn y
gyllideb yn cael ei adolygu a'i fonitro gan y Grŵp Arweiniol ar ddiwedd
pob mis. Ar ddiwedd chwarter 1, mae’r sefyllfa ariannol yn parhau’n heriol ac
ar hyn o bryd, rhagwelir gorwariant o £101k yn y Gyllideb Refeniw ar gyfer y
flwyddyn ariannol hon. Fodd bynnag, nid yw’r ffigwr hwn yn cynnwys y risgiau
penodol sy’n bodoli o ran cyflawni arbedion yn ystod y flwyddyn. Darparwyd
trosolwg o'r pwysau / risgiau cost sylweddol. Ers ysgrifennu'r adroddiad,
diweddarwyd Statws BRAG ar Ostyngiadau’r Gyllideb 24/25, gyda 21% o'r arbedion
bellach wedi'u categoreiddio yn oren ac 8% yn goch, yn rhannol oherwydd
penderfyniad gwleidyddol gan y Cabinet ar 03.09.24. Cyfeiriwyd at Berfformiad y
Gyllideb – Y Pethau Cadarnhaol a Pherfformiad y Gyllideb – Y Sefyllfa o fewn
Gwasanaethau fel y'u cyflwynwyd yn yr adroddiad. Cafodd yr aelodau
gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb Duncan Hall. Dyma'r prif bwyntiau a
godwyd: · Nodwyd bod natur lleoli Plant y Tu allan
i’r Sir yn amrywiol ac roedd rhai achosion yn fwy cymhleth nag eraill ac angen
cefnogaeth arbenigol a fyddai’n arwain at gostau uwch. Cymeradwywyd pob
lleoliad gan unigolyn ar lefel Uwch Swyddog. · Yn dilyn yr Etholiad Cyffredinol, nid oes
unrhyw arwydd wedi’i roi hyd yma ynghylch dyfodol unrhyw gyllid i’r dyfodol,
cyllid megis Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU na’r Gronfa Ffyniant Bro. Gobeithio
bydd eglurhad yn cael ei roi yn dilyn gosod Cyllideb yr hydref. CYTUNWYD i nodi'r
adroddiad. |
|
Cofnodion: Eglurodd y Cynghorydd Alun Williams fod yr adroddiadau chwarterol eu rhoi
gerbron y Pwyllgor fel rhan o’r ystyriaeth barhaus o'r pwnc i sicrhau bod yr
Awdurdod Lleol yn cyflawni ei ddyletswyddau fel y Rhiant Corfforaethol. Roedd
yr adroddiad yn cynnwys safonau a’r targedau cenedlaethol a lleol a ddefnyddir
i fesur y canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a phlant sy'n gadael
gofal adeg eu cyfarfod adolygu, ac mae'n cynnwys Dangosyddion Perfformiad
Llywodraeth Cymru. Ar sail y wybodaeth oedd ar gael a'r hyn a fynegwyd yn ystod y cyfarfod
adolygu, roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn llunio barn broffesiynol
ynghylch effeithiolrwydd Cynllun Gofal y plentyn/person ifanc o ran bodloni ei
anghenion, a gall argymell newidiadau i’r Cynllun Gofal. Yn ystod y cyfarfod
adolygu roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a oedd angen cymorth ar
y plentyn/person ifanc i nodi pobl berthnasol eraill i gael cyngor
cyfreithiol/cymryd camau ar ei ran. Roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol o’r farn
bod angen gweithredu ar gyfer 6 person ifanc yn ystod y cyfnod hwn. Yn ogystal,
roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a oedd unrhyw dramgwydd yn erbyn
hawliau dynol y plentyn/person ifanc ac, os oedd yna, gallai gyfeirio’r achos i
CAFCASS Cymru. Ni chododd yr angen i wneud hynny mewn unrhyw gyfarfod adolygu
yn ystod y cyfnod hwn. Aeth y Cynghorydd Alun Williams ymlaen i gyflwyno
Crynodeb o'r Pwyntiau Allweddol a nodwyd ar dudalen 2 yr adroddiad. CYTUNWYD i nodi cynnwys yr adroddiad a’r lefelau gweithgarwch gyda'r
Awdurdod Lleol. |
|
Ystyried Blaenraglen Waith y Pwyllgor PDF 145 KB Cofnodion: CYTUNWYD nodi cynnwys
y Flaen Raglen Waith a gyflwynwyd, yn ddibynnol ar gynnwys y canlynol: · Diweddariad Cymunedau Oed-gyfeillgar |
|
Cadarnhau cofnodion cyfarfod dyddiedig 2 Medi 2024 ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi PDF 124 KB Cofnodion: CYTUNWYD i
gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Medi 2024. Materion sy’n
codi: Dim. |