Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Elaine Evans, Ann Bowen Morgan a Sian Maehrlein am na fedrent ddod i’r cyfarfod. 

 

 

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Dim.

3.

Strategaeth Dai 2023-2028 pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

            Ystyriwyd fersiwn ddrafft Strategaeth Dai Leol 2023-2028. O dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, roedd gan awdurdodau lleol swyddogaeth strategol o ran y modd yr oedd y farchnad dai leol yn gweithio. Un o’r prif ffyrdd yr oeddent yn cyflawni’r swyddogaeth honno oedd drwy greu Strategaeth Dai Leol. Y nod oedd i’r awdurdod lleol arwain y gwaith o ddatblygu dull gweithredu ar gyfer tai ymhob sector a sicrhau bod tai priodol a gwasanaethau cysylltiedig yn cael eu cyflenwi er mwyn bodloni’r anghenion lleol.

 

            Bu’r Strategaeth Dai Leol bresennol ar waith ers 2018 ac roedd yn gynllun ar gyfer 5 mlynedd. O ystyried hyn, cafodd y Strategaeth Dai ei hadolygu a’i diweddaru. Roedd Uwch Swyddogion y Tîm Tai, partneriaid allweddol a Rheolwyr Corfforaethol pob un o’r Pyrth yn rhan o’r adolygiad a gwnaed llawer o waith i gasglu a dadansoddi data.

 

            Roedd y Strategaeth Dai ddiwygiedig yn amlinellu’r weledigaeth am 5 mlynedd arall:

            “Bydd digon o lety addas a chynaliadwy ar gael i fodloni anghenion trigolion y sir yn awr ac yn y dyfodol”.

 

            Yn dilyn trafodaeth, CYTUNWYD ar y canlynol:

            (i) argymell y dylai’r Cabinet gymeradwyo fersiwn ddrafft y strategaeth a dechrau’r ymgynghoriad ffurfiol ar y strategaeth; a

            (ii) dylai’r Cabinet ystyried argymhelliad yr Aelodau sy’n nodi y dylai’r Cabinet ysgrifennu at Ms Elin Jones, Aelod Etholaeth yn Senedd Cymru, a’r pedwar Aelod Rhanbarthol yn Senedd Cymru, i fynegi pryder nad oedd yn bosib darparu digon o dai i ddiwallu’r anghenion yng Ngheredigion gan fod y Rheoliadau Cynefinoedd yn ei gwneud hi’n ofynnol i Awdurdodau Cynllunio Lleol ystyried effaith datblygiadau arfaethedig ar ffosffadau ac ansawdd y dŵr o fewn dalgylchoedd afonydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Roedd hyn yn cael effaith sylweddol ar yr argyfwng tai presennol a dylid ystyried y mater.  

ft Local Housing Strategy 2023-

4.

Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanathau Cymdeithasol ar gyfer 2020-2021, 2021-2022 pdf eicon PDF 4 MB

Cofnodion:

Ystyriwyd Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2020/2021 a 2021/2022. Diffiniwyd y ddyletswydd i lunio Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn Rhan 8 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 o dan y ‘Cod Ymarfer ar Rôl Cyfarwyddwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol’.

 

Bu oedi wrth gwblhau’r adroddiadau yn ystod yr argyfwng COVID-19. Adroddwyd na fyddai rheswm dros oedi wrth gynhyrchu a chyhoeddi’r adroddiad ar gyfer y flwyddyn bresennol.

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, cytunwyd i argymell y dylai’r Cyngor dderbyn yr adroddiad er gwybodaeth.

 

Diolchodd yr Aelodau i’r Swyddogion am eu gwaith caled ac ymroddiad yn ystod cyfnod anodd.

 

 

           

 

           

 

5.

Cyflwyno i'r Pwyllgor ddiweddariad ar Wasanaeth Therapi Galwedigaethol Porth Gofal pdf eicon PDF 287 KB

Cofnodion:

 

            Ystyriwyd yr adroddiad diweddaru ynghylch Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol Porth Gofal. Rhoddwyd cefndir manwl ynghylch y Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol ynghyd â diweddariad ynghylch y sefyllfa bresennol. 

 

Roedd gan y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol niferoedd uchel o bobl ar y rhestr aros ac roedd y niferoedd hyn wedi cynyddu yn sgil y cyfyngiadau COVID gan mai ymweliadau brys a gynhaliwyd yn unig yn ystod y cyfyngiadau. Gan na lwyddwyd i recriwtio i lanw swyddi gwag am gyfnod hir, nid oedd y gwasanaeth yn gallu lleihau’r rhestr aros. Yn ogystal, roedd rhywfaint o salwch hirdymor yn y gwasanaeth ac roedd yr unig Therapydd Galwedigaethol llawn amser newydd ddychwelyd i’r gwaith yn dilyn cyfnod mamolaeth.

 

            Adroddwyd mai’r heriau i’r gwasanaeth ar y pryd oedd fel a ganlyn:-

1) Recriwtio Therapyddion Galwedigaethol cymwys – roedd hysbyseb ar gyfer 2 swydd Therapydd Galwedigaethol lawn amser wedi bod allan ers bron i flwyddyn heb unrhyw ymgeiswyr.

2) Roedd y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Integredig yn arwain ar bryderon am y gallu i reoli’r tîm oherwydd mynediad i TG a’r adnoddau oedd ar gael. Ar y pryd roedd y galw am y gwasanaeth yn fwy na’r hyn yr oeddent yn medru ei ddarparu ac o’r herwydd roeddent wedi camu nôl o reolaeth weithredol i ddarparu cyfarwyddyd clinigol yn unig. Roedd y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn cael ei reoli’n weithredol gan Reolwr Brysbennu Integredig Porth Gofal a oedd yn Weithiwr Cymdeithasol.

3) Roedd 2 Uwch Ymarferydd wedi rhoi rhybudd eu bod yn gadael eu swyddi. Roedd 1 wedi ymddeol ar 18.5.2022. Roedd y llall yn gweithio o bell ac wedi’i leoli y tu allan i Geredigion, ac roedd ar rybudd estynedig tan 31/3/23.

4) Ni chafwyd unrhyw ymgeiswyr ar gyfer hysbyseb diweddar am 2 uwch ymarferydd (ers y mis Mai blaenorol). Ar y pryd, roedd y swydd wag yn cael ei rheoli gan weithiwr asiantaeth tra bo’r uwch ymarferydd arall yn gweithio cyfnod rhybudd estynedig.

5) Roedd risg y byddai’r rhestr aros yn parhau i gynyddu, gan arwain at fwy o risg oherwydd yr oedi pellach ac wrth i sefyllfaoedd waethygu ar gyfer unigolion a theuluoedd.

6) Cynnydd yn yr angen am ofal a chymorth yn sgil oedi yn yr ymyrraeth ataliol a oedd ar gael gan y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol.

7) Cynnydd yn nifer y cwynion a diffyg ffydd yn y gwasanaeth wrth i ddefnyddwyr y gwasanaeth a’u teuluoedd deimlo’n rhwystredig gyda’r oedi a’r ffaith nad oedd datrysiad nac amserlen i fynd i’r afael â’r problemau.

 

O ran y penderfyniad i ddefnyddio asiantaeth allanol i gynorthwyo gyda’r rhestr aros, ni fu hyn mor llwyddiannus â’r disgwyl oherwydd cafodd yr asiantaeth drafferthion wrth geisio cael gafael ar Therapyddion Galwedigaethol a oedd yn medru teithio i Geredigion. Dim ond 34 asesiad a gwblhawyd mewn cyfnod o 4 mis a chodwyd pryderon am ansawdd y gwaith felly terfynwyd y contract. Roedd y gwasanaeth wrthi’n trafod ag asiantaeth arall yn Ne Cymru a oedd wedi dweud y byddent yn fodlon darparu nifer o Therapyddion Galwedigaethol er mwyn cefnogi’r gwasanaeth i leihau’r rhestr aros a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Adroddiad Rheoli Perfformiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Chwarter 3, 2022/2023 pdf eicon PDF 859 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd yr adroddiad ynghylch Adroddiad Rheoli Perfformiad y Swyddog Adolygu Annibynnol ar gyfer Chwarter 3 2022/2023. Roedd yr adroddiad hwn yn cyflwyno gwybodaeth am y gwaith monitro a sicrhau ansawdd mewn perthynas â’r plant sy’n derbyn gofal a adolygwyd yn ystod trydydd chwarter 2022/23. Roedd y wybodaeth hon yn cynorthwyo’r Aelodau i gyflawni eu swyddogaethau fel Rhieni Corfforaethol. Sail y wybodaeth oedd y ffurflenni monitro a gwblhawyd gan y Swyddogion Adolygu Annibynnol yn dilyn pob Adolygiad Statudol o Blant sy’n Derbyn Gofal yn ogystal â’r wybodaeth arall yr oedd y Gwasanaethau Plant yn ei chasglu am berfformiad. Roedd yr adroddiad yn cynnwys y safonau a'r targedau cenedlaethol a lleol a ddefnyddiwyd i fesur canlyniadau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal adeg eu hadolygiad statudol, gan gynnwys Dangosyddion Perfformiad Llywodraeth Cymru a Thargedau Perfformiad Lleol.

 

Ar sail y wybodaeth a oedd ar gael a’r hyn a fynegwyd yn ystod y cyfarfod adolygu plant sy’n derbyn gofal, roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn llunio barn broffesiynol ynghylch effeithiolrwydd Cynllun Gofal y plentyn / person ifanc o ran bodloni ei anghenion, a gallai argymell newidiadau i’r Cynllun Gofal.

 

Yn ystod y cyfarfod adolygu roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a oedd angen cymorth ar y plentyn / person ifanc i nodi pobl eraill berthnasol er mwyn cael cyngor cyfreithiol / cymryd camau ar ei ran. Roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol o’r farn bod angen cymryd y cam hwn ar gyfer 1 person ifanc yn ystod y cyfnod dan sylw. Yn ogystal, roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a fu unrhyw dramgwydd yn erbyn hawliau dynol y plentyn / person ifanc, ac os felly, gallai gyfeirio’r achos i CAFCASS. Ni chododd yr angen i gymryd y cam hwn mewn unrhyw adolygiad.

 

      CRYNODEB O’R PRIF BWYNTIAU:

  • Ar ddiwedd Chwarter 3, roedd 122 o blant yn derbyn gofal o’i gymharu â 112 ar ddiwedd Chwarter 2.
  • Cafodd 116 o blant eu hadolygu yn y chwarter hwn o’i gymharu â 63 yn y chwarter blaenorol. Cwblhawyd nifer fawr o adolygiadau yn y chwarter hwn oherwydd bod y Tîm Innovate wedi dechrau ar eu gwaith yn y sir. Cafodd adolygiadau o blant sy’n derbyn gofal eu gohirio tan Chwarter 3 pan fyddai mwy o gapasiti, gydag Innovate yn dechrau, a chafodd achosion y plant eu hailneilltuo i weithwyr cymdeithasol newydd a allai gymryd rhan yn y broses adolygu. Cafodd 85.3% o blant eu hadolygu o fewn y terfynau amser statudol o’i gymharu ag 88.9% yn Chwarter 2. 
  • Gadawodd 8 o blant ofal yn y chwarter hwn o’i gymharu â 6 yn Chwarter 2. Dirymwyd Gorchmynion Gofal 6 o blant, dychwelodd 6 o blant adref at eu teuluoedd, aeth 1 plentyn i leoliad Pan Fyddaf yn Barod, ac aeth 1 plentyn i lety â chymorth neu i leoliad byw’n annibynnol neu i leoliad cysylltu bywydau.
  • O ran y lleoliadau a ddarparwyd ar gyfer y plant a adolygwyd yn ystod y chwarter hwn, roedd 13 o dan ofal maeth yr Awdurdod Lleol, 24 mewn lleoliadau gofalwyr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

Strategaeth Eiriolaeth Oedolion Gorllewin Cymru pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Roedd yr holl ddeddfwriaeth ddiweddar o ran iechyd a gofal cymdeithasol yn cydnabod bod eiriolaeth yn sylfaenol bwysig mewn sefyllfaoedd pan fo angen i unigolion a grwpiau a oedd ar y cyrion gael cefnogaeth i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a’u hawliau’n cael eu parchu. Roedd eiriolaeth yn cael ei chynllunio a’i chyflwyno er mwyn annog unigolion a grwpiau i gymryd rhan yn y penderfyniadau a’r prosesau a oedd yn effeithio ar eu bywydau.

 

Er nad oedd yn ofyniad statudol, roedd y Strategaeth Eiriolaeth Oedolion Ranbarthol yn ceisio llunio ein trefniadau comisiynu i fodloni’r gofynion cyfreithiol er mwyn sicrhau bod eiriolaeth o ansawdd da ar gael yn rhwydd i bawb sydd ei heisiau, neu sydd ei hangen, yn rhanbarth Gorllewin Cymru, sef Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

 

Roedd y strategaeth hon yn seiliedig ar gyfnod estynedig o ymgysylltu â dinasyddion, yn enwedig felly’r rheiny a oedd yn ymgysylltu â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, sefydliadau eiriolaeth, ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol, comisiynwyr statudol a rhanddeiliaid perthnasol eraill.

 

Roedd gan y Strategaeth Eiriolaeth Oedolion hon bum maes blaenoriaeth, ac roedd pob un ohonynt yn anelu at wella’r canlyniadau ar gyfer y bobl a oedd angen eiriolaeth. Cafodd y blaenoriaethau eu diffinio yng ngoleuni gweithgarwch cydgynhyrchu hyd yn hyn, ymgysylltu, yr Asesiad Poblogaeth Rhanbarthol ac roeddent yn ymateb i’r gofynion deddfwriaethol. Roeddent yn cynnwys y canlynol:

• Blaenoriaeth 1. Cynnal a datblygu ein dull cydgynhyrchu ymhellach.

• Blaenoriaeth 2. Cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o eiriolaeth.

• Blaenoriaeth 3. Gofalu bod eiriolaeth ar gael yn hwylus ac i bawb.

• Blaenoriaeth 4. Gofalu bod safon eiriolaeth yn gyson uchel.

• Blaenoriaeth 5. Cynnal arbenigeddau a mathau anstatudol o eiriolaeth.

 

Roedd pob blaenoriaeth yn y strategaeth yn amlinellu pam yr oedd yn bwysig a beth oedd y sefyllfa bresennol yng Ngorllewin Cymru. Yn dilyn hyn, roedd pob blaenoriaeth yn amlinellu’r camau yr oedd angen eu cymryd i sicrhau bod pob un o’r meysydd blaenoriaeth yn cael eu bodloni.

 

CYTUNWYD i gymeradwyo Strategaeth Eiriolaeth Oedolion Ranbarthol Gorllewin Cymru fel y’i cyflwynwyd.

 

 

8.

Cofnodion cyfarfod mwyaf diweddar y Pwyllgor ac unrhyw faterion yn codi ohonynt pdf eicon PDF 136 KB

Cofnodion:

Cytunwyd i gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Chwefror 2023.

 

Materion yn codi

Dim.

 

 

9.

I gonsidro'r Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 170 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi cynnwys y Flaenraglen Waith fel y’i cyflwynwyd.