Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: i.
Ymddiheurodd
y Cynghorwyr Ceris Jones (Is-gadeirydd), Mark Strong ac Ifan Davies am nad oeddent yn
gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod. ii.
Ymddiheurodd
Donna Pritchard, Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Porth Gofal a Sian Howys,
Porth Cynnal am nad oeddent yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Wyn Evans
fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 5.
|
|
Adroddiad Rheoli Perfformiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Chwarter 3 2021 – 2022 PDF 1 MB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Alun Williams (Aelod Cabinet dros wasanaethau Gydol Oes a Lles)
adroddiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Chwarter 3 2021/2022. Caiff adroddiadau chwarterol eu rhoi gerbron y Pwyllgor
Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach fel rhan o'r ystyriaeth barhaus o'r pwnc i
sicrhau bod yr Awdurdod Lleol yn cyflawni ei ddyletswyddau fel y Rhiant
Corfforaethol. Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys y safonau a'r targedau
cenedlaethol a lleol a ddefnyddir i fesur y canlyniadau ar gyfer plant sy'n
derbyn gofal a phlant sydd wedi gadael gofal adeg eu cyfarfod adolygu, ac mae'n
cynnwys Dangosyddion Perfformiad Llywodraeth Cymru. Ar sail y wybodaeth sydd ar gael a'r hyn a fynegwyd yn
ystod y cyfarfod adolygu, daw'r Swyddog Adolygu Annibynnol i farn broffesiynol
ynghylch effeithiolrwydd cynllun gofal y plentyn/person ifanc o ran bodloni ei
anghenion, a gall argymell newidiadau i'r cynllun gofal. Yn ystod y cyfarfod
adolygu bydd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a oes angen cymorth ar y
plentyn/person ifanc i adnabod pobl eraill berthnasol i gael Cyngor
cyfreithiol/cymryd camau ar ei ran. Roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol o'r farn
nad oedd angen cymryd y cam hwn ar gyfer unrhyw blentyn yn ystod y cyfnod dan
sylw. Yn ogystal, mae'r Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a oes unrhyw
dramgwydd yn erbyn hawliau dynol y plentyn/person ifanc ac, os oes, gallai
gyfeirio'r achos i CAFCASS Cymru. Ni chododd yr angen i wneud hynny mewn unrhyw
gyfarfod adolygu yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r adroddiadau hyn yn cael eu hystyried o fewn
Cyfarfodydd Sicrhau Ansawdd Plant sy'n Derbyn Gofal Amlasiantaethol
sy'n cwrdd bob chwarter; mae'r cyfarfodydd hyn yn gyfle i nodi a gweithredu ar
berfformiad a materion eraill yn ymwneud â'r maes gwaith hwn. Mae'r adroddiadau
hyn hefyd yn cael eu cylchredeg a'u hadolygu gan Grŵp Rhianta
Corfforaethol yr Awdurdod Lleol, a cynhelir y cyfarfodydd hyn bob chwarter. Aeth y
Cynghorydd Alun Williams ymlaen i gyflwyno Crynodeb o'r Pwyntiau Allweddol a
nodwyd ar dudalen 2 yr adroddiad. Nododd Elizabeth Upcott nad oedden nhw wedi derbyn unrhyw
awgrym ar sut y byddai’r canllawiau newydd ar y newidiadau i apwyntiadau
deintyddol arferol yn effeithio ar y gwasanaeth. Mae gweithwyr iechyd
proffesiynol yn mynychu cyfarfodydd monitro sicrwydd ansawdd. Mynegodd y Cynghorydd Alun Williams siom gyda’r
cyhoeddiad gan mai strategaeth allweddol y Cyngor gyda’r Model Gydol Oes a Lles
oedd darparu ymyrraeth gynnar ac atal, a ddylai leihau’r angen am wasanaethau
drutach yn hwyrach ymlaen. Tynnodd y Cadeirydd sylw at y ffaith y bu cynnydd
sylweddol yn nifer y plant sy’n derbyn gofal dros y 2 flynedd ddiwethaf, fel yr
adlewyrchir ar dudalen 4 yr adroddiad. Canmolodd y gwasanaeth am adroddiad clir
a oedd wedi’i gyflwyno’n dda. Esboniodd Elizabeth Upcott fod tueddiad tebyg wedi’i weld yn genedlaethol yn dilyn y pandemig, ac er bod nifer y plant mewn gofal yng Ngheredigion yn isel o’i gymharu ag awdurdodau lleol eraill, roedd pryder ac roedd mesurau atal yn cael eu rhoi ar waith yn y tymor byr a’r tymor hir. Cyfeiriwyd at natur lleoliadau’r plant a adolygwyd a statws ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Rhaglen Cymorth Tai 2022 2026 PDF 2 MB Cofnodion: Cyflwynodd Llyr
Hughes y cefndir i Raglen Cefnogi Tai 2022-2026 fel yr amlinellwyd yn yr
adroddiad. Cyfeiriwyd at y 4 papur cefndir sy’n ofynnol o dan y canllawiau
grant presennol, a nodwyd bod y cynllun 4 blynedd wedi nodi 4 blaenoriaeth
strategol a hefyd camau wrth symud ymlaen. Eglurodd bod y cynllun yn cwmpasu’r
holl anghenion tai, a bod y strategaeth gyffredinol yn sail iddo. Mewn ymateb i
ymholiad ynghylch y rheoliadau rhentu newydd a fydd yn dod i rym ar 1 Rhagfyr
2022, eglurodd Llyr Hughes fod landlordiaid yn gadael y farchnad ac eraill yn
cynyddu rhent a bondiau ar gyfer y rhai mwyaf bregus. Roedd llawer o wybodaeth
anecdotaidd yn cylchredeg, ond y darlun ar draws Cymru yn gyffredinol oedd hyn. O ran troi allan
‘heb fai’, roedd gan y gwasanaeth Opsiynau Tai wasanaeth porth, ac roedden
nhw'n gallu cyfeirio pobl at y cymorth cywir. Mae’r Cyngor yn rhan o Gynllun
Prydlesu Cymru a’r nod yw gweithio’n agos gyda landlordiaid preifat. Mae aelodau wedi
gweld cynnydd yn nifer yr ymholiadau gan bobl sydd wedi derbyn hysbysiadau i
adael llety rhent preifat oherwydd rhesymau amrywiol. Mae hyn nid yn unig yn
effeithio ar iechyd meddwl pobl, ond mae’n lleihau argaeledd llety rhent.
Cymeradwywyd Gwasanaeth Dewisiadau Tai Ceredigion am ei gefnogaeth. Atgoffwyd yr
aelodau i gyfeirio trigolion at y Gwasanaeth Opsiynau Tai os oedd angen cymorth
arnynt i ddod o hyd i lety arall. Roedd yn gwerthfawrogi bod diffyg tai
fforddiadwy ac nad oedd y lwfansau tai yn adlewyrchu rhenti’r farchnad breifat. Yn dilyn
cwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor, cytunwyd i argymell y Rhaglen Cymorth Grant
a Datganiad o Anghenion i’w gymeradwyo gan y Cabinet. |
|
Cofnodion: Cyfeiriodd Heddwyn Evans at y cefndir a’r sefyllfa bresennol a amlinellwyd
yn yr adroddiad. Nodwyd bod y ffioedd arfaethedig mewn ymateb i’r cynnydd mewn
pobl sy’n gwerthu anifeiliaid anwes yn breifat ac ar-lein yn hytrach na phrynu
o siop anifeiliaid anwes. Cyfeiriwyd at y Sefyllfa Bresennol, a oedd yn cynnwys
bod cyflwyniad i’r ddeddfwriaeth wedi ei gyflwyno drwy’r broses Ddemocrataidd
ym mis Tachwedd 2021 a hefyd Cyfraith Lucy, sydd eisoes ar waith yn Lloegr.
Mae’r ffioedd arfaethedig sydd wedi’u rhestru ar dudalen 2 o’r adroddiad yn
adlewyrchu’r gwaith ychwanegol sydd gan yr awdurdod i’w wneud a lefel y mewnbwn
gan swyddogion. Cyfeiriwyd at yr hyn sydd i mewn ac y tu allan i’r cwmpas: Gwerthu
Anifeiliaid fel Anifeiliaid Anwes gan gynnwys y Prawf Busnes, meini prawf o
fewn y cwmpas, canllaw i ddangosyddion rhedeg busnes gwerthu anifeiliaid fel
anifeiliaid anwes, meini prawf y tu allan i’r cwmpas a dangosyddion canllaw o
weithgareddau sydd “y tu allan i’r cwmpas” fel yr amlinellir yn yr
adroddiad. Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan Heddwyn
Evans. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd: ·
Esboniodd Heddwyn Evans eu bod yn monitro hysbysebion
ar-lein ac amlder hysbysebion gan fridwyr heb drwydded, a allai fod yn arwydd
bod bridio yn cael ei wneud fel gweithgarwch masnachol. ·
Mae anawsterau gydag olrhain o ran monitro lles cŵn
ar ôl iddyn nhw orffen bridio gan nad oes deddfwriaeth i gefnogi hyn. Mae
amddiffyniad ar waith ar gyfer bridwyr trwyddedig nad ydynt yn caniatáu mwy nag
un torllwyth y flwyddyn a 6 mewn oes. Yn ogystal, mae strategaeth ymddeol ar
waith ac roedd gosod microsglodion yn ofyniad
cyfreithiol. Mae gwaith yn cael ei wneud yn barhaus i ddiogelu lles
anifeiliaid. ·
O ran pwy oedd yn cael ei gategoreiddio fel bridiwr,
eglurodd Heddwyn Evans fod awdurdodau yn edrych ar wahanol senarios i sicrhau
cysondeb. Mae monitro dros gyfnod o amser yn allweddol i weld a yw’r
gweithgarwch yn fasnachol ac i wneud elw. Bydd pob achos yn cael ei ystyried yn
ei rinwedd ei hun cyn gwneud penderfyniad. ·
Yn dilyn pryderon a godwyd gan aelodau y gallai teuluoedd
gael torllwyth y flwyddyn am incwm ychwanegol, eglurodd Heddwyn Evans nad oedd
unrhyw fwriad i drwyddedu pobl yn y sefyllfa yma ond yn hytrach, pobl a oedd
wedi cael torllwyth gan sawl ci mewn blwyddyn. ·
Mae Bathodynnau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn nodi y
gallai elw o £1000 awgrymu gweithgarwch masnachol - dywedodd Heddwyn Evans y
byddai hyn yn codi pryderon o ystyried y cynnydd mewn prisiau yn ddiweddar. ·
Mae monitro gwefannau, nodi bridwyr a phatrymau
gweithredu yn cymryd llawer o amser. Mae’r camau gorfodi ychwanegol wedi’u
cynnwys yn y ffi. Os bydd angen adnoddau ychwanegol i wneud y gwaith, bydd
angen ystyried hyn. ·
Mynegwyd pryderon gan aelodau nad oedd eglurder llwyr o
ran y gwahaniaeth rhwng y diffiniad o weithgaredd domestig a masnachol. ·
Roedd yr aelodau’n teimlo bod cael anifail anwes teuluol
yn bwysig, er mwyn addysgu plant am sut i ofalu am anifeiliaid anwes. · Rhoddodd Alun ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 293 KB Cofnodion: CYTUNWYD i
gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2022. Materion sy’n
codi: Dim. |
|
Blaenraglen Gwaith Ddrafft 2022-2023 PDF 144 KB Cofnodion: CYTUNWYD nodi’r Flaenraglen Waith a gyflwynwyd yn amodol ar y canlynol: i.
Gweithdy
yn benodol ar gyfer cyllideb y gwasanaethau o dan gylch gwaith y pwyllgor
(Hydref) ii.
Anogodd
y Cadeirydd yr aelodau i roi gwybod iddi am unrhyw faterion yr hoffent eu
harchwilio fel rhan o gylch gwaith y pwyllgor. Diolchodd
y Cadeirydd i bawb am eu hamynedd yn y cyfarfod heddiw gan ymddiheuro am yr
anawsterau technegol. |