Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Dwynwen Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Croeso ac Ymddiheuriadau Cofnodion: ii. Ymddiheurodd y
Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet ar gyfer Gydol Oes a Llesiant am nad
oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod. iii. Estynnwyd
llongyfarchiadau i’r Cynghorydd Ceris Jones (Cadeirydd) ar enedigaeth ei mab. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Ni ddatgelodd yr un Aelod o’r Pwyllgor fuddiant personol na buddiant a oedd yn rhagfarnu (nac ychwaith unrhyw ddatganiadau chwipio). |
|
Cofnodion: Rhoddwyd
ystyriaeth i’r adroddiad ar Ganolfan Lles Aberteifi yn dilyn ymweliad y
Pwyllgor â safle Pwll Coffa Aberteifi / Maes Parcio Cae Ffair, a Chanolfan
Hamdden Teifi ar 24 Hydref 2024. Cafodd yr aelodau
gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion a’r Cynghorydd
Catrin M S Davies. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd: · Roedd yr Aelodau yn ddiolchgar o’r cyfle i
ymweld â Phwll a Neuadd Goffa Aberteifi / Maes Parcio Cae Ffair, a Chanolfan
Hamdden Teifi a gwnaethant ddiolch i’r Swyddogion am eu hamser. · Roedd mynediad yn ffactor allweddol wrth
ystyried beth oedd yn cael ei ddiffinio fel canol y dref. Nodwyd nad oedd
trafnidiaeth gyhoeddus yn gwasanaethu Canolfan Hamdden Teifi yn uniongyrchol ac
roedd mynediad ychydig yn fwy o her. Roedd llawer o’r Aelodau o’r farn fod Pwll
a Neuadd Goffa Aberteifi / Maes Parcio Cae Ffair yng nghanol y dref ac y dylent
fanteisio ar y cyfleoedd i’r ardal. · Nodwyd, pe bai Pwll a Neuadd Goffa
Aberteifi / Maes Parcio Cae Ffair yn cael ei gymeradwyo fel y safle a ffafrir,
y byddai gofyn cynllunio’n ofalus a chydweithio i hwyluso’r gwaith o achos bod
yr ysgol gerllaw, bod y maes parcio yn cael ei ddefnyddio wrth ollwng a chasglu’r
disgyblion, ac o achos y ffair flynyddol. · Mynegwyd pryderon ynghylch colli 60 o
leoedd parcio ym Maes Parcio Cae Ffair gan fod hynny’n achosi anhawster adeg
gollwng/ casglu o’r ysgol a darparu lleoedd parcio hygyrch. Nodwyd bod y ffigwr
hwn yn seiliedig ar y cynlluniau gwreiddiol o hyd at 3002m o
arwynebedd llawr ac y byddai hyn yn rhan o'r ystyriaethau ehangach. · Er nad oedd cyllid ar gael ar hyn o bryd,
byddai mandad gwleidyddol yn adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i ddatblygu Canolfan
Lles yn Aberteifi pan fyddai’r cyfle yn codi. · Bydd cyfleoedd yn hwyrach yn y broses i
benderfynu ar ba gyfleusterau fyddai'n cael eu cynnig yn y Ganolfan Lles.
Byddai'r pwyslais ar ddarparu cymorth iechyd a lles i deuluoedd mewn angen. · Nodwyd nad oedd yr awdurdod lleol wedi bod
ynghlwm wrth redeg Pwll a Neuadd Goffa Aberteifi yn y gorffennol. Unwaith
byddai’r cyfleuster yn cael ei drosglwyddo i berchnogaeth y Cyngor ar 1 Hydref
2024, nid oedd ganddynt fwriad i'w ailagor oherwydd pwysau ariannol parhaus,
fodd bynnag, roeddent yn agored i dderbyn achos busnes hyfyw oddi wrth y
gymuned. CYTUNWYD i
argymell y canlynol i'r Cabinet: 1.
Mai safle
Pwll Coffa Aberteifi/ Maes Parcio Cae Ffair yw’r un a ffafrir ar gyfer
datblygu’r Ganolfan Lles, yn seiliedig ar opsiwn B yn yr astudiaeth
ddichonoldeb; yn amodol ar leihau ôl troed y ganolfan er mwyn peidio â cholli
cymaint o fannau parcio. 2.
Mai
adeiladu o’r newydd ar safle Pwll Coffa Aberteifi/ Maes Parcio Cae Ffair yw’r
opsiwn a ffafrir. |