Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach - Dydd Mercher, 5ed Mawrth, 2025 10.00 am

Lleoliad: Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron ac o bell trwy fideo gynhadledda

Cyswllt: Dwynwen Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Eryl Evans ac Wyn Evans am adael y cyfarfod yn gynnar.

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae'n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

i.       Datganodd y Cynghorwyr Catrin M.S. Davies, Amanda Edwards, Elaine Evans, Eryl Evans, Keith Evans, Wyn Evans, Keith Henson, Sian Maehrlein ac Ann Bowen Morgan fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 5.

ii.      Datganodd Dwynwen Jones, Swyddog Cefnogi Trosolwg a Chraffu fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnau mewn perthynas ag eitemau 6 a 7, yn unol â'r Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, a gadawodd y cyfarfod pan oedd y materion yma’n cael eu trafod.

iii.   Datganodd Neris Morgans, Swyddog Gwasanaethau Democrataidd fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 5, yn unol â'r Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol.

3.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd Amanda Edwards am gadeirio'r cyfarfodydd yn ei habsenoldeb. Croesawodd Aelodau'r Pwyllgor y Cadeirydd ar ôl iddi ddychwelyd yn dilyn absenoldeb mamolaeth.

4.

Gwasanaethau Anabledd Arbenigol pdf eicon PDF 167 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Alun Williams (Aelod Cabinet ar gyfer Gydol Oes a Llesiant) ddiweddariad ar Wasanaethau Anabledd Arbenigo yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet ar 6 Rhagfyr 2022 i gynnal ymarfer ymgysylltu ac ymgynghori ehangach gan ganolbwyntio ar ail-lunio’r cyfleoedd o ran y gwasanaethau dydd a’r ddarpariaeth seibiant. Wrth ymgysylltu ac ymgynghori, rhoddwyd ystyriaeth fanwl i brif egwyddorion y Strategaeth Llesiant Gydol Oes ochr yn ochr â’r Strategaethau Cenedlaethol a Rhanbarthol oedd yn gysylltiedig ag Anableddau Dysgu, Plant sy’n Derbyn Gofal a chyfleoedd o ran seibiant.

 

Cafodd ymarfer ymgysylltu ac ymgynghori eang ei gynnal rhwng mis Mawrth a mis Awst 2023. Gwnaed y gwaith hwn gan gwmni annibynnol (Practice Solutions Limited) ac ariannwyd y gwaith drwy’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol. Ym mis Rhagfyr 2023, cymeradwyodd y Cabinet wyth o gynigion a amlinellwyd yn yr adroddiad. Yn dilyn cyhoeddi’r argymhellion hyn, cafodd Grŵp Arweiniol y Cyngor wybodaeth ym mis Gorffennaf 2024 am waith dadansoddi pellach a wnaed a oedd yn dangos nad oedd y Gwasanaethau Dydd traddodiadol yng Ngheredigion yn cyrraedd digon o bobl, nad oedd ganddynt ddigon o arbenigedd ac nad oeddent yn ddigon cynhwysfawr (yn enwedig ar gyfer y dinasyddion oedd fwyaf angen y cymorth). Hefyd, nid oedd y cynlluniau peilot o ran ‘mynediad agored’ i’r darpariaethau gofal dydd wedi cynnig fawr ddim budd i’r cleient (nac ychwaith gwerth i’r Awdurdod).

 

Er mwyn mynd i’r afael â hyn, amlinellodd yr adroddiad sut yr oedd yr adran Llesiant Gydol Oes yn bwriadu creu nifer o Wasanaethau Anabledd Arbenigol y gallai’r cleientiaid eu defnyddio fel rhan o’u cynlluniau gofal a chymorth, os nad oeddent eisoes yn derbyn darpariaeth breswyl neu lety â chymorth arall, e.e. cysylltu bywydau, byw â chymorth. Roedd tair prif elfen i’r gwasanaethau newydd, wedi’u trefnu yn ôl lefel y cymhlethdod:

        Anghenion Cymwys Cymhleth ac Anawsterau Dysgu Dwys a Lluosog – gwasanaethau addysg a phontio yn seiliedig ar anghenion

        Cyflogaeth a Gwirfoddoli yn y Gymuned – rhoi arweiniad i gleientiaid a’u cyfeirio at gyfleoedd am gyflogaeth yn yr hirdymor

        Anghenion Cymwys Canolradd – cyfeirio cleientiaid, eu teuluoedd a’u rhwydweithiau at wasanaethau cyffredinol a chymunedol; yn aml drwy Ddebyd Uniongyrchol

 

O ran yr unigolion oedd ddim yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth hwn, byddai rhaglen ymwybyddiaeth yn cael ei rhoi ar waith (yr un adeg â lansio’r gwasanaeth newydd) i sicrhau eu bod nhw, eu teuluoedd, eu gofalwyr a’u rhwydweithiau yn ymwybodol o’r ystod eang o wasanaethau cyffredinol oedd ar gael fel rhan o’r ddarpariaeth Llesiant Gydol Oes ehangach. Byddai hyn yn cefnogi’r model both ac adain oedd wedi’i argymell yn yr adroddiad ymgysylltu ac ymgynghori.

 

Yn unol â chyfarwyddyd y Bwrdd Llesiant Gydol Oes, roedd yr adran wedi bod yn datblygu manylebau gwasanaeth a phroffiliau staff fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. Ochr yn ochr â hynny, roedd y corff corfforedig wedi bod yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu rhaglen ar gyfer ymgynghori â’r staff ynghylch y gwasanaethau a’r strwythurau gweithredol newydd. Y bwriad oedd lansio hyn cyn diwedd Mawrth 2025. Rhannwyd gwybodaeth â’r Undebau ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Asesiad Digonolrwydd Chwarae 2025 pdf eicon PDF 8 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Catrin M.S. Davies (Aelod Cabinet ar gyfer Diwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid) yr Asesiad o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae 2025 gan gynnwys y blaenoriaethau arfaethedig ar gyfer Cynllun Gweithredu Chwarae Ceredigion 2025-28. Roedd Llywodraeth Cymru yn cydnabod ei nod o greu Cymru lle’r oedd cyfle i chwarae a rhoi cyfleoedd gwych i blant chwarae.

 

O dan adran 11(1) Mesur Plant a Theuluoedd Cymru 2010, roedd rhwymedigaeth ar bob Cyngor Sir o ran cyfleoedd chwarae. Ers 2013 a phob 3 blynedd ers hynny, roedd rhaid i bob awdurdod lleol gwblhau Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae. Dyma’r pumed Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Ceredigion. Roedd y ddyletswydd yn cynnwys dwy elfen; yn gyntaf, asesu digonolrwydd cyfleoedd chwarae lleol; ac yn ail, cynllun gweithredu i sicrhau cyfleoedd chwarae digonol cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol. Darparwyd pecyn cymorth asesu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r broses ac roedd wedi'i rannu'n 4 adran (Poblogaeth; Mannau lle mae plant yn chwarae; Darpariaeth dan oruchwyliaeth a Synergedd polisi, ymgysylltu, eiriolaeth a gwybodaeth).

 

Rhoddodd y Cynghorydd Catrin M.S. Davies drosolwg o'r broses ymgynghori a'r canfyddiadau. Er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r cyfraniad pwysig y gallai Chwarae ei wneud i fywyd bob dydd yng Ngheredigion, crëwyd Uchelgais ar gyfer Chwarae a gefnogwyd gan Amcanion Strategol a byddai yn gweithredu fel fframwaith ar gyfer pob sefydliad yn y sir oedd yn cyfrannu at yr agenda Chwarae. Amlinellwyd yr uchelgais, yr amcanion a’r cynllun gweithredu arfaethedig ar gyfer Cynllun Gweithredu Chwarae Ceredigion 2025-28. Unwaith y byddant wedi’u cymeradwyo, byddai’r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae, yr Adroddiad Cryno a’r Cynllun Gweithredu Chwarae yn cael eu Cyflwyno i Lywodraeth Cymru, ac roedd ofynnol i'r holl ddogfennau gael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor. Byddai cynnydd blynyddol y Cynllun Gweithredu Chwarae yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru drwy gydol y cynllun.

 

Cafodd yr Aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion a’r Cynghorydd Catrin M.S. Davies. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·       Nodwyd bod ailosod a gosod offer chwarae yn ddrud, yn enwedig offer hygyrch arbenigol.

·       Mynegwyd pryderon nad oedd yn bosibl bellach i Gynghorau Tref a Chymuned wneud cais am Gynllun Grant Cymunedol Ceredigion yn dilyn penderfyniad gan y Cabinet yn 2024.

·       Roedd y Gymraeg yn bwysig i'r gwasanaeth ac roedd y rhan fwyaf o'r staff yn ddwyieithog. Roedd gwaith yn parhau gyda Gwasanaeth yr Iaith Gymraeg i ddatblygu’r Gymraeg mewn gemau traddodiadol yr iard ysgol.

·       Mynegwyd pryderon er bod datblygwyr tai ar adegau’n ymrwymo i gynnwys ardaloedd chwarae fel rhan o’u cynlluniau, nad oedd hyn yn aml yn cael ei wireddu. Nodwyd bod y Cyngor wedi cytuno i lefel platinwm o wasanaeth gorfodi yn y broses o osod cyllideb 25-26.

·       Os oedd Cynghorau Tref a Chymuned yn gyfrifol am ardaloedd chwarae yn eu ward, roeddent yn gyfrifol am sicrhau bod yr offer yn cael ei archwilio’n rheolaidd.

·       Roedd pwysigrwydd dysgu sut i nofio yn hanfodol; nodwyd bod darpariaeth ar gael i bob ysgol gynradd yng Ngheredigion i gael gwersi nofio. Yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Grant Cymorth Tai - Cynllun y Rhaglen pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eglurodd y Cynghorydd Matthew Vaux (Aelod Cabinet ar gyfer Partneriaethau, Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd) fod cynllun rhaglen y Grant Cymorth Tai wedi’i gymeradwyo gan y Cyngor ym mis Medi 2022 a rhoddodd yr amcanion 4 blynedd i ddatblygu gwasanaethau presennol yn ogystal ag alinio gwaith â'r Strategaeth Dai gyffredinol, gan ategu Amcanion Strategol yr Awdurdod ei hun. Yn gyffredinol, roedd cynllun y rhaglen yn canolbwyntio ar feysydd allweddol i'w datblygu.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Matthew Vaux a Martin Gillard, Uwch Swyddog Tai, drosolwg o’r Sefyllfa Bresennol a Diweddariad ar Gynnydd fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

CYTUNWYD i nodi’r adroddiad.

7.

Strategaeth Dai Leol - Cynllun Gweithredu pdf eicon PDF 963 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux (Aelod Cabinet ar gyfer Partneriaethau, Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd) ddiweddariad ar gyflawni'r Cynllun Gweithredu ar gyfer y Strategaeth Dai Leol – Tai i Bawb (2023 – 2028). Pwrpas y Strategaeth Dai Leol oedd nodi gweledigaeth glir ar gyfer tai yn y sir, ynghyd â'r blaenoriaethau allweddol oedd yn nodi ac yn ymateb i'r heriau i ddod ar gyfer y 5 mlynedd. Er mwyn cyflawni’r Strategaeth Dai Leol, roedd y camau gweithredu a’r mesurau a nodwyd yn cael eu monitro drwy’r Bartneriaeth Tai Strategol a, phan yn briodol, y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Byddai’r gwaith monitro yn cael ei ffurfio drwy Gynllun Gweithredu.

 

Roedd y Cynllun yn tynnu sylw at yr amcanion a nodwyd yn y Strategaeth Dai Leol, ynghyd â'r camau gweithredu a'r manylion ynghylch sut roedd y Cyngor yn rhagweld y byddant yn cael eu cyflawni. Roedd gan bob pwynt gweithredu fesur/au clir oedd yn cefnogi i gyrraedd y canlyniadau dymunedig.  Cydnabuwyd nad oedd y Strategaeth Dai a’r camau gweithredu a nodwyd yn gyraeddadwy gan y Tîm Tai yn unig ac felly, amlygwyd gweithio clir mewn partneriaeth yn y Cynllun. Rhagwelwyd y byddai’r Cynllun Gweithredu yn cael ei adolygu, ei ddiwygio a'i ddiweddaru bob blwyddyn drwy gydol oes y Strategaeth. Am y rheswm hwnnw y caiff ei rannu â’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach, gan dynnu sylw at y cynnydd yn y flwyddyn gyntaf (1 Hydref 2023 i 30 Medi 2024).

 

Darparwyd trosolwg o'r Sefyllfa Bresennol fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad gan gynnwys y cynnydd a nodwyd ar gyfer blwyddyn 1. Roedd y Cynllun Gweithredu yn parhau i fod yn gynllun partneriaeth ac roedd monitro rheolaidd ynghyd â chyflwyno diweddariadau yn y Bartneriaeth Tai Strategol hefyd yn cefnogi'r cynnydd. Byddai’r Cynllun Gweithredu hefyd yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru bob blwyddyn i sicrhau ei fod yn gyfredol ac yn adlewyrchu'r hinsawdd bresennol.

 

Diolchodd Aelodau'r Pwyllgor i staff y Gwasanaeth Tai am eu gwaith mewn amgylchiadau heriol.

 

CYTUNWYD i nodi’r adroddiad.

8.

Gwasanaeth Arbenigol Porth Cynnal (plant ac oedolion) Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Adroddiad Rheoli Perfformiad Ch2 2024-25 pdf eicon PDF 864 KB

Cofnodion:

Eglurodd y Cynghorydd Alun Williams (Aelod Cabinet ar gyfer Gydol Oes a Llesiant) fod yr adroddiadau chwarterol eu rhoi gerbron y Pwyllgor fel rhan o’r ystyriaeth barhaus o'r pwnc i sicrhau bod yr Awdurdod Lleol yn cyflawni ei ddyletswyddau fel y Rhiant Corfforaethol. Roedd yr adroddiad yn cynnwys safonau a’r targedau cenedlaethol a lleol a ddefnyddir i fesur y canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a phlant sy'n gadael gofal adeg eu cyfarfod adolygu, ac mae'n cynnwys Dangosyddion Perfformiad Llywodraeth Cymru.

 

Ar sail y wybodaeth oedd ar gael a'r hyn a fynegwyd yn ystod y cyfarfod adolygu, roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn llunio barn broffesiynol ynghylch effeithiolrwydd Cynllun Gofal y plentyn/person ifanc o ran bodloni ei anghenion, a gall argymell newidiadau i’r Cynllun Gofal. Yn ystod y cyfarfod adolygu roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a oedd angen cymorth ar y plentyn/person ifanc i nodi pobl berthnasol eraill i gael cyngor cyfreithiol/cymryd camau ar ei ran. Roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol o’r

farn bod angen gweithredu ar gyfer 8 person ifanc yn ystod y cyfnod hwn. Yn ogystal, roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a oedd unrhyw dramgwydd yn erbyn hawliau dynol y plentyn/person ifanc ac, os oedd yna, gallai gyfeirio’r achos i CAFCASS Cymru. Ni chododd yr angen i wneud hynny mewn unrhyw gyfarfod adolygu yn ystod y cyfnod hwn. Aeth y Cynghorydd Alun Williams ymlaen i gyflwyno Crynodeb o'r Pwyntiau Allweddol a nodwyd ar dudalen 2 yr adroddiad.

 

Cafodd yr Aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan Elizabeth Upcott a’r Cynghorydd Alun Williams. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·       Mewn ymateb i gwestiwn yn ymwneud â chynlluniau llwybrau, nodwyd mai ond 60% o’r bobl ifanc a oedd yn gymwys oedd â chynllun ar waith erbyn yr oedran gofynnol – sef 15 oed a 9 mis oed. Roedd rheoli gofal wedi gwella ers i’r broses ddychwelyd i’r Tîm Gofal wedi’i Gynllunio ac roeddent yn parhau i archwilio dulliau i wella’r broses.

·       Bydd cynrychiolwyr addysg ac iechyd yn mynychu cyfarfodydd Cynllun Llwybr wrth symud ymlaen fel rhan o broses bontio’r person ifanc.

·       Diolchodd Aelodau'r Pwyllgor i’r Swyddogion am weithdy llawn gwybodaeth a gynhaliwyd yn ddiweddar ar Leoliadau y Tu Allan i’r Sir.

·       Nodwyd bod Gweithwyr Cymdeithasol yn cynnal adolygiadau rheolaidd gyda phlant/pobl ifanc mewn gofal ac roedd lleoliadau’n cael eu hadolygu fel rhan o’r broses fonitro. Roedd staff Gofal Cymdeithasol yn gallu cynnal ymweliadau ad-hoc pe bai pryderon ynghylch plentyn/person ifanc.

 

CYTUNWYD i nodi cynnwys yr adroddiad a’r lefelau gweithgarwch gyda'r Awdurdod Lleol.

9.

Cadarnhau cofnodion cyfarfodydd 22.01.25 a'r 06.02.25 ac unrhyw faterion sy'n codi ohonynt pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD nodi cynnwys y Flaen Raglen Waith a gyflwynwyd, yn ddibynnol ar gynnwys y canlynol:

·       Anogwyd Aelodau'r Pwyllgor i gysylltu â'r Swyddog Trosolwg a Chraffu neu'r Cadeirydd os oedd unrhyw feysydd gwasanaeth penodol yr oeddent yn dymuno gofyn am ragor o wybodaeth arnynt fel pwysau cyllidebol nad ydynt wedi'u cynnwys yn yr adroddiadau ariannol chwarterol a gyflwynwyd i'r Pwyllgor.