Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach - Dydd Llun, 15fed Gorffennaf, 2024 10.30 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Dwynwen Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

i.    Ymddiheurodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

ii.   Ymddiheurodd y Cynghorwyr Keith Evans a Carl Worrall am orfod gadael y cyfarfod yn gynnar.

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Alun Williams fuddiant personol yn y trafodaethau ynghylch Gwasanaethau Meddygol Teulu yn eitem 7.

3.

Adroddiad ar ganfyddiadau Adroddiad Cynnydd Ansawdd Aer 2023, yn unol â Rhan IV o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 - Rheoli Ansawdd Aer yn Lleol. pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux (Aelod Cabinet ar gyfer Partneriaethau, Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd) am ganfyddiadau Adroddiad Cynnydd Ansawdd Aer Cyngor Sir Ceredigion 2023. Yng Ngheredigion, gwelwyd bod safonau ansawdd yr aer yn gyfforddus o fewn y safonau cenedlaethol felly nid oes yna Ardal Rheoli Ansawdd Aer yma. Fodd bynnag, ledled Cymru gyfan, Nitrogen Deuocsid (NO2) a Deunydd Gronynnol (PM10) oedd y ddau brif lygrydd oedd yn peri pryder. Bu i Awdurdodau Lleol ddatgan eisoes fod 40 o Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer wedi’u creu, un ar gyfer Deunydd Gronynnol a’r gweddill yn ymwneud â NO2 o draffig y ffordd.

 

Roedd gofyn i’r awdurdod lleol adrodd ar lefelau NO2 a PM10 yn flynyddol. Darparwyd trosolwg o fonitro NO2  a PM10 yng Ngheredigion. Roedd yr Adroddiad Cynnydd Ansawdd Aer yn ymdrin â data a gasglwyd yn y flwyddyn flaenorol, felly roedd Adroddiad 2023 yn ymwneud â data monitro aer a gasglwyd yn 2022. Roedd y crynodiadau NO2 a PM10 a nodwyd ym mhob lleoliad yng Ngheredigion yn 2022 cryn dipyn islaw’r terfyn statudol (cyfartaledd blynyddol o 40μg/m3.) ym mhob mis pan gasglwyd data. Roedd Ceredigion yn parhau i fod â rhai o’r safonau ansawdd aer gorau yng Nghymru ac mae pob un o’r lleoliadau monitro yn cydymffurfio’n dda iawn â’r safonau cyfreithiol.

 

Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion a’r Cynghorydd Alun Williams. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·       Gwnaeth yr Aelodau ganmol yr adroddiad ac annog pawb i rannu llwyddiant y sir.

·       Adolygwyd y safleoedd i sicrhau bod yr ardaloedd mwyaf priodol yn cael eu monitro ac roedd y Swyddogion yn agored i awgrymiadau newydd. Nid oedd Penparcau, Aberystwyth wedi cael ei fonitro yn y gorffennol ac o ystyried lefelau’r traffig yn yr ardal cytunodd y Pwyllgor i ofyn am iddo gael ei ystyried.

·       Roedd lefelau uwch o NO2 ym mis Ionawr o gymharu â misoedd yr haf pan mae mwy o lif traffig yn draddodiadol, ac roedd hon yn duedd yn genedlaethol. Roedd hyn o bosib oherwydd bod gwres canolog yn cael ei ddefnyddio’n fwy a gwahanol amodau hinsawdd. Dylai’r Safonau Ansawdd Aer wella wrth i ragor o bobl ddefnyddio cerbydau trydan.

·       Roedd yr awdurdod lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio’n agos â’i gilydd. Roedd awdurdodau lleol yn rheoleiddio allyriadau i’r awyr a phrosesau llai o faint tra bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn tueddu i reoleiddio prosesau mwy o faint megis treulio anaerobig a biomas mawr.

 

CYTUNWYD i nodi cynnwys yr adroddiad ac argymell gosod Tiwbiau Tryledu ym Mhenparcau, Aberystwyth.

4.

Cymunedau oed-cyfeillgar - asesiadau pdf eicon PDF 904 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Williams (Aelod Cabinet ar gyfer Aelod Cabinet ar gyfer Gydol Oes a Llesiant) Hunanasesiad Ceredigion ar gyfer cofrestru gyda Rhwydwaith Oed-gyfeillgar Sefydliad Iechyd y Byd. Yn 2014, arwyddodd pob Awdurdod Lleol yng Nghymru Ddatganiad Dulyn yn ymrwymo i weithio mewn partneriaeth ar gyfer datblygu Cymunedau sy'n Oed-gyfeillgar. Amcangyfrifwyd bod poblogaeth Ceredigion wedi gostwng dros y 10 mlynedd diwethaf, o 75,220 yn 2010 i 72,895 yn 2020. Roedd tueddiadau yn dangos bod y boblogaeth oedran gweithio (16-64) wedi gostwng 14% ers 2001, tra roedd y boblogaeth 65+ wedi cynyddu'n sylweddol 29.5%. Rhagwelwyd y bydd y tueddiadau hyn yn parhau.

 

Dros y 18 mis diwethaf, roedd y Tîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol wedi ymgymryd â gwaith ymgysylltu ag amrywiol fforymau perthnasol ac wedi casglu gwybodaeth mewn perthynas â phrofiadau preswylwyr o heneiddio yng Ngheredigion, gyda'r bwriad o wneud cais i ddod yn aelod o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau sy'n Oed-gyfeillgar.

 

Rhoddwyd trosolwg cryno o’r camau yr oedd yn rhaid i awdurdodau lleol eu cymryd cyn llwyddo i ymaelodi.  Cam cyntaf y broses oedd darparu hunanasesiad ar-lein trwy pro-forma yn erbyn yr 8 parth cymunedau oed gyfeillgar a llythyr cymeradwyaeth gan y Prif Weithredwr a'r Aelod Cabinet enwebedig. Byddai’r hunanasesiad yn cael ei wirio gan Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn ar ran Sefydliad Iechyd y Byd ac os caiff ei dderbyn, bydd angen i'r Awdurdod Lleol ddatblygu Cynllun Gweithredu. Pwrpas y cynllun oedd nodi camau a fydd yn gwneud Ceredigion yn lle gwell i heneiddio. Bydd ymgysylltu parhaus â phobl hŷn wrth wraidd datblygu ac adolygu'r cynllun.

 

Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion a’r Cynghorydd Alun Williams. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·       Ymrwymiad yw’r cynllun yn hytrach nag achredu. Byddai’n galluogi’r awdurdod lleol i fod yn rhan o rwydwaith oed-gyfeillgar lle byddai sefydliadau yn genedlaethol ac yn fyd-eang yn gallu rhannu gwybodaeth ac arferion er budd y boblogaeth sy’n heneiddio, a helpu i oresgyn heriau mewn cymdeithas.

·       Cydnabyddir bod teuluoedd a chymunedau yn rhoi cymorth gwerthfawr i’r genhedlaeth hŷn ac roedd yn hanfodol eu bod yn aros yn agos i’w hardal leol, lle bo modd.

·       Gwnaeth yr Aelodau ddiolch i bawb a oedd wedi cyfrannu i’r cynllun hyd yma a dymuno’n dda i’r tîm wrth ddatblygu’r cynllun gweithredu.

 

CYTUNWYD i gymeradwyo cyflwyno'r hunanasesiad a'r llythyr eglurhad at Sefydliad Iechyd y Byd. Os bydd hyn yn llwyddiannus, bydd Ceredigion yn cael ei dderbyn i rwydwaith Sefydliad Iechyd y Byd o gymunedau sy'n oed gyfeillgar.

5.

Polisi Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eglurodd y Cynghorydd Alun Williams (Aelod Cabinet ar gyfer Aelod Cabinet ar gyfer Gydol Oes a Llesiant) fod lleihau niferoedd Plant sy'n Derbyn Gofal (CLA) mewn modd diogel a phriodol yn flaenoriaeth genedlaethol i Lywodraeth Cymru. Roedd hefyd yn flaenoriaeth gorfforaethol allweddol i’r awdurdod lleol oherwydd, pan fo'n ddiogel, mae'n galluogi canlyniad cadarnhaol i blant a phobl ifanc fyw mewn cartref parhaol, gyda’i teulu biolegol lle bo hynny'n bosibl, neu lle na bo hynny’n bosibl, mewn cartref teuluol parhaol. Roedd yna nifer o resymau pam nad oedd rhai plant yn gallu byw gyda'u rhieni biolegol ac ar adegau, nid oedd angen gwneud y trefniadau hyn er mwyn i blant gael gofal gan eraill. Gall rhai plant fyw gydag aelodau eraill o'u teulu, gofalwyr maeth, rhieni mabwysiadol neu mewn lleoliadau gofal preswyl.

 

Gorchymyn llys oedd SGO sy'n penodi person(au) penodol i ddod yn warcheidwad plentyn nes iddynt gyrraedd 18 oed. Roedd SGO yn cynnig mwy o ddiogelwch na maethu tymor hir ond nid oedd yn golygu gwahanu cyfreithiol cyfan gwbl wrth y teulu biolegol oedd yn deillio o orchymyn mabwysiadu. Felly, roedd yn ganlyniad da a sefydlog i nifer gynyddol o blant a phobl ifanc. Cyflwynwyd SGOs gan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002. Cyflwynwyd a diwygiwyd Rheoliadau Gwarcheidwaeth Arbennig (Cymru) 2005 wedi hynny gan Reoliadau Gwarcheidwaeth Arbennig (Cymru) (Diwygio) 2018 a Chod Ymarfer Gwarcheidiaeth Arbennig ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig 2018. Ar hyn o bryd, roedd gan yr awdurdod lleol 39 o orchmynion gwarcheidiaeth arbennig wedi’u cofrestru ledled Ceredigion, oedd yn cyfrif am oddeutu £280k y flwyddyn, gyda dros 50% o’r rhain yn 18 yn y pum mlynedd nesaf.

 

Roedd yr awdurdod lleol wedi adolygu'r Polisi Gwarcheidiaeth Arbennig, oedd yn nodi cymhwysedd i ddod yn Warchodwr Arbennig, y broses ymgeisio a chyfrifoldebau'r Awdurdod Lleol o ran adrodd i'r Llys, Cefnogaeth sydd ar gael i Warcheidwaid Arbennig ac ati. Roedd y Polisi wedi'i adolygu a'i ddiweddaru wedi'i alinio â'r "Canllaw ar gyfer Cynnig Cymorth Gwarcheidiaeth Arbennig yng Nghymru 2020" a oedd yn dwyn ynghyd yr holl ganllawiau statudol perthnasol. Nododd yr adolygiad fod angen mwy o eglurhad mewn perthynas â'r Cymorth Ariannol sydd ar gael i Warcheidwaid Arbennig ac, er mwyn gwneud hyn, roedd angen arunig "Polisi Ariannol Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig" annibynnol. Nod y polisi oedd i leihau'r oedi posibl o ran sicrhau sefydlogrwydd i blant a phobl ifanc, pan fydd darpar Warcheidwaid yn ansicr o'r cymorth ariannol sydd ar gael iddynt.

 

Yn dilyn adolygiad cynhwysfawr o'r Polisi, cynhaliwyd ymgynghoriad â'r SGOs presennol mewn perthynas â'r Polisi Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig a'r Polisi Ariannol dros gyfnod o bythefnos (22 Mai 2024 – 5 Mehefin 2024). Rhannwyd yr ymgynghoriad gyda SGOs presennol, CAFCASS, Staff Cyngor Sir Ceredigion, aelodau Panel Maeth a rhanddeiliaid allweddol eraill. Cafodd hefyd wedi ei rannu ar wefan Cyngor Sir Ceredigion. Roedd y polisïau wedi’u diweddaru’r i adlewyrchu’r 7 ymateb a dderbyniwyd. Cydnabuwyd bod angen i’r Awdurdod Lleol wella cysylltiadau gyda’r gwarcheidwaid a datblygiad y polisïau oedd y cam cyntaf i wella’r gwasanaeth.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Polisi Llety a Chymorth pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Williams (Aelod Cabinet ar gyfer Aelod Cabinet ar gyfer Gydol Oes a Llesiant) y Polisi Llety a Chymorth. Ychydig iawn o gyfleoedd oedd gan yr awdurdod lleol ar hyn o bryd i ddarparu llety addas i letya plant 16+. Bwriad Llety â Chymorth oedd darparu 'carreg filltir' tuag at fyw'n annibynnol i bobl ifanc Ceredigion, rhwng 16 a 25 oed. Roedd Llety â Chymorth yn darparu cyfle i bobl ifanc oedd yn gadael gofal, nad ydynt efallai yn barod i ymgymryd â'u tenantiaethau eu hunain, i bobl ifanc 16+ oedd yn ddigartref neu oedd yn geiswyr lloches ar eu pen eu hunain. Nid oedd y ddarpariaeth yn dod o dan Ddeddf Rheoleiddio Gofal Cymdeithasol Cymru (RISCA) ac nid oedd gofyniad i'r ddarpariaeth gael ei chofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

 

Roedd Llety â Chymorth yn disgrifio sefyllfa lle’r oedd person ifanc yn byw gyda theulu, unigolyn neu gwpl oedd ag ystafell sbâr ac oedd yn barod i ddarparu arweiniad anffurfiol a chymorth ymarferol i'r person ifanc a fyddai'n byw yn lled-annibynnol. Byddai'r Gwesteiwr yn cefnogi cynnydd y person ifanc ac yn eu tywys tuag at annibyniaeth lawn. Roedd yr adroddiad yn amlinellu cynllun arfaethedig ar gyfer Ceredigion, a fydd yn pontio ac yn darparu cefnogaeth a llety ystyrlon i'n pobl ifanc wrth drosglwyddo i fod yn oedolion.

 

O ran yr awdurdod lleol, roedd 29 o bobl ifanc 16-17 oed oedd fod i adael gofal yn ystod y ddwy flynedd nesaf a 16 mwy a fyddai’n troi’n 16 o fewn y 12 mis nesaf, gan wneud cyfanswm y gofal yn 45. Roedd y Polisi wedi'i ategu gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac roedd yn amlinellu'r broses asesu ynghyd â rôl y panel wrth adolygu ceisiadau ochr yn ochr â'r cymorth parhaus a fyddai’n yn cael ei ddatblygu ar gyfer y gwesteiwyr. Rhoddwyd trosolwg o'r cynnig.

 

Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion a’r Cynghorydd Alun Williams. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·       Roedd prawf ariannol ynghlwm wrth y cynllun os byddai’r person ifanc mewn gwaith neu’n dod o hyd i waith tra ei fod yn cael Llety â Chymorth, a darperir cymorth i ystyried y budd-daliadau a’r cymorth ariannol sydd ar gael.

·       Roedd y cynllun wedi bod ar waith mewn awdurdodau lleol eraill am sawl blwyddyn ac roedd yn fodd o gadw pobl ifanc yn lleol.

·       Cafodd Llety â Chymorth ei ddatgan mewn deddfwriaeth a byddai’r sawl sy’n croesawu lletywr yn cael ei asesu, ei gymeradwyo a’i adolygu yn ôl yr angen.

·       Y bwriad yn wreiddiol oedd cael 3 neu 4 Llety â Chymorth yn y sir, ac yn dilyn adborth byddai hyn gobeithio yn cynyddu yn unol â chapasiti’r gwasanaeth.

 

CYTUNWYD i argymell bod y Cabinet yn:

·       cymeradwyo'r Polisi a’r Cynllun Llety â Chymorth.

·       Rhoi awdurdod dirprwyol i'r Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol Statudol weithredu polisi ac adolygu yn flynyddol.

7.

Ystyried Cynllun Gwaith y Pwyllgor 2024/2025 pdf eicon PDF 143 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD nodi cynnwys y Flaen Raglen Waith a gyflwynwyd, yn ddibynnol ar gynnwys y canlynol:

·     Diweddariad ariannol ynghylch cylch gwaith y Pwyllgor cyn y daw proses pennu cyllideb 25/26.

·     Y diweddaraf gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar wasanaethau deintyddol / meddygfeydd Ceredigion.

·     Y diweddaraf am y ddarpariaeth iechyd meddwl yn y sir (gan gynnwys gan elusennau amaethyddol – Tir Dewi, Sefydliad DPJ a RABI).

8.

Cadarnhau cofnodion cyfarfod 11 Mawrth 2024 a 21 Mawrth 2024 ac i ystyried unrhyw faterion sy'n codi ohonynt. pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD i gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2024 a 21 Mawrth 2024.

 

Materion sy’n codi: Dim.