Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach - Dydd Llun, 18fed Medi, 2023 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Dwynwen Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Ann Bowen Morgan am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

i.      Datganodd y Cynghorydd Eryl Evans fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 4. 

ii.     Datganodd y Cynghorydd Alun Williams fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 5. 

3.

ADRODDIAD RHEOLI PERFFORMIAD Y GWASANAETH ADOLYGU ANNIBYNNOL CHWARTER 4 2022 – 2023 pdf eicon PDF 906 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Williams (Aelod Cabinet dros Wasanaethau Gydol Oes a Lles) adroddiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Chwarter 4 2022/2023. Caiff adroddiadau chwarterol eu rhoi gerbron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach fel rhan o'r ystyriaeth barhaus o'r pwnc i sicrhau bod yr Awdurdod Lleol yn cyflawni ei ddyletswyddau fel y Rhiant Corfforaethol. Roedd yr adroddiad hwn yn cynnwys y safonau a'r targedau cenedlaethol a lleol a ddefnyddiwyd i fesur y canlyniadau ar gyfer plant oedd yn derbyn gofal a phlant oedd wedi gadael gofal adeg eu cyfarfod adolygu, ac roedd yn cynnwys Dangosyddion Perfformiad Llywodraeth Cymru. Ar sail y wybodaeth oedd ar gael a'r hyn a fynegwyd yn ystod y cyfarfod adolygu, daw'r Swyddog Adolygu Annibynnol i farn broffesiynol ynghylch effeithiolrwydd cynllun gofal y plentyn/person ifanc o ran bodloni ei anghenion, a gall argymell newidiadau i'r cynllun gofal. Yn ystod y cyfarfod adolygu, roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a oedd angen cymorth ar y plentyn/person ifanc i adnabod pobl eraill berthnasol i gael Cyngor cyfreithiol/cymryd camau ar ei ran. Roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol o'r farn bod angen cymryd y cam hwn ar gyfer 7 plentyn yn ystod y cyfnod hwn. Yn ogystal, roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a oedd unrhyw dramgwydd yn erbyn hawliau dynol y plentyn/person ifanc ac, os oedd yn, gallai gyfeirio'r achos i CAFCASS Cymru. Ni chododd yr angen i wneud hynny mewn unrhyw gyfarfod adolygu yn ystod y cyfnod hwn.

 

Roedd yr adroddiadau hyn yn cael eu hystyried o fewn Cyfarfodydd Sicrhau Ansawdd Plant oedd yn Derbyn Gofal Amlasiantaethol oedd yn cwrdd bob chwarter; roedd y cyfarfodydd hyn yn gyfle i nodi a gweithredu ar berfformiad a materion eraill oedd yn ymwneud â'r maes gwaith hwn. Roedd yr adroddiadau hyn hefyd yn cael eu cylchredeg a'u hadolygu gan Grŵp Rhianta Corfforaethol yr Awdurdod Lleol, a chynhaliwyd y cyfarfodydd hyn bob chwarter. Aeth y Cynghorydd Alun Williams ymlaen i gyflwyno Crynodeb o'r Pwyntiau Allweddol a nodwyd ar dudalen 2 yr adroddiadau.

 

Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion a’r Cynghorydd Alun Williams. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·       Roedd nifer o resymau am y cynnydd yn nifer y plant sy’n derbyn gofal, gan gynnwys effaith yr argyfwng costau byw, amrywiol gymhlethdodau a’r gwell cyfradd ymateb o ran atgyfeiriadau.

·       O dan gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddileu’r gallu i wneud elw o ofalu am blant sy’n derbyn gofal, roedd yr awdurdod lleol wrthi’n datblygu adnoddau mewnol mewn 3 lleoliad ar draws y sir ac roedd disgwyl i’r rhain agor yn 2024. Er bod gan Geredigion lai o unigolion mewn lleoliadau y tu allan i’r sir o gymharu ag awdurdodau lleol eraill, yr amcan oedd caniatáu i blant aros yn eu cymunedau lleol a chaniatáu iddynt gadw cysylltiadau â’u teuluoedd a’r ysgolion.

·       O ystyried yr adnoddau a oedd eu hangen, y prinder manylion a oedd wedi dod i law oddi wrth y Swyddfa Gartref a’r pwysau ariannol ar gyllideb yr awdurdod lleol, codwyd pryderon  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Y Strategaeth Dai - amlinellu gweledigaeth a chynlluniau Ceredigion ar gyfer tai yn y sir dros y 5 mlynedd nesaf pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

Esboniodd y Cynghorydd Matthew Vaux (yr Aelod Cabinet dros Bartneriaethau, Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd) fod ymgynghoriad cyhoeddus wedi’i gynnal ynghylch y Strategaeth Dai Ddrafft a hynny ar ôl i’r Pwyllgor Craffu a’r Cabinet gytuno iddi. Dechreuodd yr ymgynghoriad ar 5 Mai a daeth i ben ar 30 Mehefin 2023. Gofynnodd Arolwg yr Ymgynghoriad gyfanswm o 10 cwestiwn, ac o’r canfyddiadau, roedd y mwyafrif yr ymatebion yn gadarnhaol ac yn cytuno â’r strategaeth arfaethedig. Felly, roedd y Tîm Tai yn parhau i fod yn hyderus bod y cyfarwyddiadau hyn yn addas i'r diben ac nad oedd angen eu newid. Thema allweddol i’w nodi o’r ymatebion i’r ymgynghoriad oedd eiddo gwag. Roedd y maes hwn wedi cael ei gydnabod gan y Gwasanaeth Tai ac wedi cael ystyriaeth a blaenoriaeth briodol o fewn y Strategaeth Dai ac felly, roedd yn gadarnhaol gweld bod pobl yn cytuno bod angen rhoi sylw i’r maes gwaith hwn yn yr ymatebion a dderbyniwyd. Rhoddwyd trosolwg o’r ychwanegiadau i’r Strategaeth Dai yn dilyn yr ymgynghoriad a’r gwaith adolygu mewnol.

 

Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion a’r Cynghorydd Matthew Vaux. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·       Roedd ffosffadau yn broblem fawr yn y sir ac roedd yn atal datblygiadau. Serch hynny, nid oedd hyn o fewn cwmpas y Strategaeth Dai.

·       Wrth ymateb i bryderon bod yna lai o ymwneud ag adeiladwyr bach lleol na’r hyn a arferai fod yn y gorffennol, dywedwyd bod partneriaid y Bartneriaeth Dai Strategol yn cynnwys y landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a’r datblygwyr preifat.

·       Mynegodd yr Aelodau eu siom bod cyn lleied wedi ymateb i’r ymgynghoriad. Serch hynny, roedd natur yr ymatebion yn gadarnhaol. Awgrymwyd bod cyfraddau ymateb isel i ymgynghoriadau yn broblem genedlaethol.

·       Gan fod yr ymgynghoriad yn un dienw, nid oedd manylion am ddemograffeg yr ymatebwyr ar gael megis lleoliad y sawl oedd yn ymateb ac nid oedd modd cael gwybod a oedd yr ymateb gan unigolyn neu sefydliad.

·       Roedd y gwasanaeth wedi nodi cynlluniau eraill i gynyddu’r cyflenwad tai, megis y Cynllun Gweithredu Eiddo Gwag ac roedd y rhain wedi’u cynnwys yn y Cynllun Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol.

 

Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i argymell bod y Cabinet yn argymell i’r Cyngor Llawn y dylid cymeradwyo’r Strategaeth Dai a derbyn yr argymhellion yn dilyn diwedd y cyfnod ymgynghori a’i chymeradwyo i’w mabwysiadu’n llawn.

5.

Cyflwyno i’r Pwyllgor ganlyniad Cynllun Gweithredu Dementia Ceredigion pdf eicon PDF 5 MB

Cofnodion:

Eglurodd y Cynghorydd Alun Williams (Aelod y Cabinet ar gyfer Gydol Oes a Llesiant) mai pwrpas yr adroddiad oedd craffu ar ganlyniad yr ymgynghori cyhoeddus a’r Cynllun Gweithredu a ddatblygwyd, a gwneud argymhellion i Gabinet Cyngor Sir Ceredigion os oes angen. Maes blaenoriaeth i Gyngor Sir Ceredigion oedd datblygu Cynllun Gweithredu lleol ar gyfer dementia i gefnogi'r Strategaeth Dementia Ranbarthol. Ar 6 Rhagfyr 2022, penodwyd Attain i gynnal a hwyluso sesiynau ymgysylltu i weld pa gamau oedd eu hangen i gefnogi pobl oedd yn byw gyda dementia yng Ngheredigion. Parodd y cyfnod ymgysylltu am chwe wythnos rhwng 13.02.2023 a 31.03.2023. Yn ystod y cyfnod ymgysylltu, siaradodd Attain ag ystod eang o randdeiliaid, o unigolion oedd yn byw gyda dementia, eu gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol o bob rhan o faes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan gynnwys rhwydweithiau cymorth yn y 3ydd sector. Fel rhan o’r gwaith hwn, roedd Attain wedi llunio adroddiad a Chynllun Gweithredu i gefnogi Cyngor Sir Ceredigion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wrth iddynt fynd i’r afael â rhai o’r heriau a’r bylchau a nodwyd.

 

Roedd prif ganfyddiadau’r adroddiad terfynol yn awgrymu bod tua 1,260 o bobl yng Ngheredigion yn byw gyda dementia ac erbyn 2040, rhagwelwyd y byddai rhwng 600 a 2000 yn fwy o bobl yn byw gyda dementia. Rhoddwyd trosolwg o’r prif themâu, yr argymhellion a’r camau nesaf fel yr oeddent wedi’u nodi yn yr adroddiad.

 

Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion a’r Cynghorydd Alun Williams. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·       Roedd yr awdurdod lleol yn gweithio’n agos gyda’r awdurdodau lleol cyfagos drwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru i sicrhau bod y modd y darperir gwasanaethau dementia yn gyson a bod modd cael mynediad at gyfran fawr o gyllid yn rhanbarthol. Er mwyn sicrhau bod trigolion Ceredigion yn elwa, rhoddwyd pwyslais ar y cynllun cyflawni lleol ac ystyriwyd hefyd y gwaith a oedd yn mynd rhagddo gyda’r gwasanaethau seibiant a’r gwasanaethau dydd.

·       Teimlai’r Aelodau fod cyfleoedd i’r awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gydweithio i sicrhau bod cleifion dementia yn aros yn eu cymunedau lleol. Byddai uned breswyl newydd ar gyfer pobl â dementia yn agor yn fuan yng Nghartref Gofal Hafan Deg, Llanbedr Pont Steffan. 

·       Cydnabuwyd mai isel iawn oedd y gyfradd ddiagnosis yn rhanbarthol, yn rhannol oherwydd nad oedd Meddygon Teulu yn cael digon o hyfforddiant ynghylch rhoi diagnosis o ddementia. Hefyd, roedd canfyddiad y cyhoedd o’r diffyg cefnogaeth a fodolai ar ôl derbyn diagnosis yn ffactor allweddol. Roedd rôl Cysylltydd Dementia yn cael ei datblygu i gefnogi unigolion ar eu taith. 

·       Eglurodd yr Aelod Cabinet fod dementia wedi’i gynnwys yn ei rôl ef fel Eiriolwr Pobl Hŷn Ceredigion. Nid oedd ganddo ran uniongyrchol yn y trafodaethau â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ond roedd yn allweddol bod swyddogion yr awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynghyd â Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru yn gweithio’n agos.

 

Nodwyd bod argymhelliad wedi’i wneud yn un o’r cyfarfodydd blaenorol y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

I ystyried cofnodion y cyfarfod blaenorol o'r 3 Gorffennaf 2023 ac i drafod unrhyw faterion sy'n codi ohonynt pdf eicon PDF 126 KB

Cofnodion:

Cytunwyd i gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Gorffennaf 2023.

 

Materion sy’n codi: Dim.

7.

I ystyried Rhaglen Waith y Pwyllgor 2023-2024 pdf eicon PDF 168 KB

Cofnodion:

Cytunwyd nodi cynnwys y Flaen Raglen Waith a gyflwynwyd.</AI6>

8.

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

Ar ran y Pwyllgor, diolchodd y Cadeirydd i Audrey Somerton-Edwards, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Dros Dro: Porth Cynnal am ei hymrwymiad i’r gwaith a dymunodd yn dda iddi at y dyfodol. Dywedwyd y byddai hi’n golled fawr i’r awdurdod lleol. Roedd Ricky Cooper, a oedd wedi dechrau ar ei waith fel Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Porth Cynnal wedi gadael y cyfarfod yn gynnar ac felly, byddai’n cael ei groesawu yn y cyfarfod nesaf.

 

Bu i’r Cynghorydd Alun Williams ategu geiriau’r Cadeirydd gan ddweud y bu’n bleser gweithio gydag Audrey Somerton-Edwards a oedd yn eiriolwr cryf dros anghenion y bobl fwyaf bregus.