Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach - Dydd Llun, 3ydd Gorffennaf, 2023 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Penmorfa

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Cofnodion:

i.      Ymddiheurodd y Cynghorydd Carl Worrall y byddai'n gadael y cyfarfod yn gynnar.

ii.     Ymddiheurodd y Cynghorydd John Roberts am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod oherwydd ymrwymiadau eraill y Cyngor.

iii.    Ymddiheurodd y Cynghorwyr Elaine Evans a Sian Maehrlein am nad oeddent yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

iv.   Ymddiheurodd Donna Pritchard, Swyddog Arweiniol Corfforaethol- Porth Gofal a Greg Jones, Swyddog Arweiniol Corfforaethol dros dro- Porth Cymorth Cynnar am nad oeddent yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Datganodd Audrey Somerton-Edwards fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 3, yn unol â’r Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol.

3.

Heriau recriwtio yn y Gwasanaethau Llesiant Gydol Oes pdf eicon PDF 282 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Williams (Aelod y Cabinet dros Gydol Oes a Llesiant) ddiweddariad i’r Pwyllgor ar recriwtio a chadw staff Gofal Cymdeithasol. Roedd dyletswydd gyfreithiol ar y Cyngor i ddarparu gwasanaethau statudol diogel i’r rheiny â’r angen mwyaf yng nghymunedau Ceredigion. Er mai Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor oedd yn ysgwyddo cyfrifoldeb dros hyn yn y pen draw, roedd y cyfrifoldeb ar y sefydliad i gynorthwyo’r Cyfarwyddwr Statudol i sicrhau bod y cyfrifoldebau hyn yn cael eu cyflawni’n effeithiol ac mewn modd oedd yn arwain at wasanaeth diogel.

 

Ar y gwaethaf, byddai’r perygl o beidio â chael gwasanaeth diogel yn peri risg i fywyd defnyddwyr y gwasanaeth, a byddai’n peri risg ariannol sylweddol ac yn dreth ar gapasiti staff pe bai’r Cyngor yn destun mesurau arbennig. Er bod staff asiantaeth yn cael eu defnyddio yn ein strwythurau gofal cymdeithasol, pan fo recriwtio’n anodd, roedd cost gwneud hynny’n gyfystyr â gwerth am arian o ystyried y rhan hollbwysig roeddent yn ei chwarae i gynnal gwasanaeth diogel. Roedd staff asiantaeth yn cael eu dewis yn ofalus a’u rheoli’n dda i sicrhau bod anghenion y Cyngor ac anghenion defnyddwyr gwasanaethau’r Cyngor yn cael eu bodloni. Roedd yr her recriwtio ym maes gofal cymdeithasol yn un genedlaethol ac yn un oedd yn debygol o barhau oni bai fod Llywodraeth Cymru’n canolbwyntio’n fanwl ar y materion hyn.

 

Bu i Arolygiaeth Gofal Cymru arolygu gwasanaethau’r awdurdod lleol i blant ac i oedolion ym mis Mawrth 2023. Ar ôl arolygiad trylwyr, bu i’r arolygwyr ddarparu adroddiad eithriadol o gadarnhaol a oedd yn darparu llawer o enghreifftiau o’r gwaith da helaeth oedd yn digwydd bob dydd ac yn cyfeirio at yr arweinyddiaeth gref a geir ar lefel uwch. Bu iddynt hefyd gydnabod y meysydd i’w gwella a gyflwynwyd gan yr awdurdod lleol iddynt, a bu iddynt gadarnhau nad oedd unrhyw feysydd lle nad oedd cydymffurfiaeth.

 

Recriwtio a chadw gweithlu o’r maint priodol oedd un o’r heriau mwyaf sylweddol roedd llywodraeth leol, a’r sector cyhoeddus yn gyffredinol, yn ei hwynebu, gyda chyfraddau’r swyddi gwag yn cynyddu ym mhob maes. Yn ogystal ag egluro’r heriau mewn manylder, roedd yr adroddiad yn cofnodi’r ffordd roedd y Cyngor yn defnyddio dulliau arloesol a chreadigol i geisio ymateb i’r heriau hynny. Roedd y gallu i ddenu ac i gadw talent yn hollbwysig i gynnal gweithlu medrus oedd yn gallu darparu gwasanaethau o ansawdd i gymunedau’r awdurdod lleol. Roedd y Cyngor yn cyflogi gweithlu o oddeutu 3,700 o weithwyr mewn gweithlu cyfwerth ag amser llawn o oddeutu 2,600 o weithwyr, a hwnnw’n weithlu benywaidd i raddau helaeth gyda thua 66% yn fenywod.

 

Roedd yr awdurdod lleol wedi wynebu her gynyddol o ran recriwtio a chadw staff yn ei gwasanaethau gofal cymdeithasol Llesiant Gydol Oes, yn enwedig dros y deunaw mis diwethaf, ar ôl cyfnod COVID. Roedd y gwasanaethau hyn yn cyflogi gweithlu o oddeutu 700 o weithwyr mewn gweithlu cyfwerth ag amser llawn o 500, ac roedd canran uwch na’r cyfartaledd corfforaethol o’r gweithlu yn fenywod, sef 74%. O blith y swyddi  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Gwasanaeth Cefnogi Taliadau Uniongyrchol pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad ar gynnydd y Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol. Taliad Uniongyrchol oedd arian a roddwyd gan Awdurdod Lleol i Ddefnyddwyr Gwasanaeth er mwyn iddynt fedru trefnu eu pecyn gofal eu hunain. Roedd Taliadau Uniongyrchol yn cael eu cynnig i unrhyw un oedd wedi cael ei asesu i fod yn gymwys i dderbyn gwasanaethau gofal cymunedol. Ar ôl cael eu hasesu, rhaid cynnig y dewis o daliad uniongyrchol i unigolyn. Roedd y swm a roddwyd yn dibynnu ar faint o gymorth oedd ei angen, a pha fath, ac roedd hyn i gyd yn cael ei gynnwys yn y cynllun gofal oedd yn cael ei lunio gan yr aseswr. Roedd rhai yn dewis defnyddio asiantaeth ofal yn lle hynny. Roedd yn rhaid i awdurdodau lleol roi cymorth a chefnogaeth i bobl iddynt reoli eu Taliad Uniongyrchol a’u cyfrifoldebau cyflogaeth. Rôl y Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol oedd hyn.

 

Roedd Archwilio Cymru wedi disgrifio nodweddion meincnodi awdurdodau lleol oedd yn effeithiol wrth annog, rheoli a chefnogi pobl i ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol. Rhoddwyd trosolwg o’r sefyllfa bresennol, fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Cytunwyd i nodi’r wybodaeth a’r diweddariad ar ddatblygiadau o fewn y Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol.

5.

Adroddiad ar y Gofrestr Tai pdf eicon PDF 821 KB

Cofnodion:

Esboniodd y Cynghorydd Matthew Vaux (Aelod Cabinet dros Bartneriaethau, Tai, Gwasanaeth Cyfreithiol a Llywodraethu, a Diogelu’r Cyhoedd) mai diben yr adroddiad oedd rhoi gwybodaeth am broses ymgeisio a bandio'r Gofrestr Tai, a’r cysylltiadau a'r buddion oedd ynghlwm. Dywedwyd bod y wybodaeth a gasglir yn helpu'r gwasanaeth i nodi tueddiadau a fydd yn cael eu hystyried yn y Polisi a'r Strategaeth Tai.

 

Rhoddodd Llyr Hughes gyflwyniad i’r Pwyllgor gan amlinellu’r canlynol:

·       Pwrpas y Gofrestr/ Galwadau ar y Gwasanaeth

·       Partneriaid

·       Proses Ymgeisio a Pholisïau/Cofrestrau

·       Polisi Dyrannu Cyffredin a Bandio

·       Ceisiadau- 01/04/2022 hyd 31/03/2023

·       Dadansoddiad o'r Bandio presennol

·       Rhesymau dros symud

·       Dyraniadau - 01/04/2022 hyd 31/03/2023

·       Manylion Cyswllt

 

Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan Llyr Hughes, Cerys Purches-Phillips a’r Cynghorydd Matthew Vaux. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·       Mewn ymateb i ymholiadau am yr angen i adnewyddu ceisiadau tai yn flynyddol, nodwyd bod hyn er mwyn sicrhau bod y wybodaeth yn gyfredol ac yn gywir a bod dal angen am dŷ. Roedd mecanwaith cadarn ar waith i sicrhau fod pob ymdrech yn cael ei wneud i gysylltu ag ymgeiswyr pan oedd angen iddynt adnewyddu, ac roedd yn allweddol bod y manylion yn gywir rhag ofn fod cynnig am lety yn cyrraedd.

·       Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig oedd yn gyfrifol am reoli tenantiaeth, yn hytrach na'r awdurdod lleol a oedd yn gyfrifol am y cyfnod cyn tenantiaeth. Anogwyd aelodau i gysylltu â'r gymdeithas dai berthnasol os oedd problemau i’w riportio.

·       Amlygwyd mor bwysig oedd peidio â chael rhagdybiaethau ynglŷn â dyrannu tai cymdeithasol. Roedd polisi a phroses i'w dilyn gan gynnwys bodloni'r meini prawf ar gysylltiadau lleol i sicrhau bod ceisiadau'n cael eu bandio'n briodol.

·       Nid oedd yna dystiolaeth i awgrymu bod mwy o ddigartrefedd wedi i Rhentu Doeth Cymru gael ei gyflwyno, ond awgrymai gwybodaeth anecdotaidd fod landlordiaid yn gadael y farchnad.

 

Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i nodi’r adroddiad.

6.

I gonsidro'r Rhaglen Waith 2023/24 pdf eicon PDF 141 KB

Cofnodion:

Cytunwyd i nodi cynnwys y Flaen Raglen Waith a gyflwynwyd, yn ddibynnol ar gynnwys y canlynol:

·       Gwahodd landlordiaid cymdeithasol cofrestredig lleol (Barcud, Cymdeithas Tai Wales & West, a Caredig) i annerch y Pwyllgor (Mawrth 2024)

·       Cael diweddariad ar wasanaethau iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

7.

Cofnodion o'r Pwyllgor diweddara ac unrhyw faterion sy'n codi ohonynt pdf eicon PDF 104 KB

Cofnodion:

Cytunwyd i gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mai 2023. 

 

Materion sy’n codi: Dim.