Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Rhif | Eitem |
---|---|
Croeso ac Ymddiheuriadau Cofnodion: i.
Ymddiheurodd y Cynghorydd Carl Worrall am nad oedd yn
gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod. ii.
Ymddiheurodd y Cynghorydd Gwyn James y byddai'n
gadael y cyfarfod yn gynnar. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Ni ddatgelodd yr un Aelod o’r Pwyllgor fuddiant personol na buddiant a oedd yn rhagfarnu (nac ychwaith unrhyw ddatganiadau chwipio). |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Williams (Aelod Cabinet ar gyfer Gydol Oed a
Llesiant) y Cynllun Gweithredu yn dilyn Arolygiad Gwerthuso Perfformiad
Arolygiaeth Gofal Cymru. Cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Cymru werthusiad trylwyr
o berfformiad y Gwasanaethau Oedolion a’r Gwasanaethau Plant rhwng 27 Chwefror
2023 a 10 Mawrth 2023. Cyhoeddwyd yr adroddiad ar 18 Mai 2023. Yn unol â’r
dyletswyddau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014,
roedd yr arolygiad yn gwerthuso’r meysydd canlynol: Pobl - Llais a Rheolaeth,
Atal, Llesiant a Phartneriaeth. Roedd pum
arolygydd yn rhan o’r arolygiad a gynhaliwyd yn rhithiol ac wyneb yn wyneb.
Roedd 114 o unigolion yn rhan o'r broses o gasglu tystiolaeth gan gynnwys y
swyddogion, yr Aelodau Etholedig, y defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr,
sefydliadau statudol a sefydliadau partneriaethol yn
y trydydd sector. Yn ogystal â’r
gwaith o archwilio’r ffeiliau achosion, craffwyd ar y prif bolisïau a
datblygiadau. Roedd hyn yn cynnwys y ffeiliau gorchwylio, y Polisi diwygiedig ynghylch Canmoliaethau a Chwynion,
y Fframwaith Sicrwydd Ansawdd drafft, yr ymgynghoriad ynghylch Therapi Galwedigaethol
a’r strwythurau diwygiedig o ran Diogelu a Llesiant Meddyliol a Phorth Cymorth
Cynnar. Arsylwyd ar gyfarfodydd strategol a gweithredol ar-lein ac wyneb yn
wyneb. Rhoddwyd pwyslais ar brofiadau’r plant, y gofalwyr a’r teuluoedd a’r
modd yr oedd y gwasanaeth yn gwrando ar eu safbwyntiau. Roedd yr Arolygwyr am
weld bod y defnyddwyr gwasanaeth yn cymryd rhan yn yr asesiadau a’r cynlluniau
a’u bod yn cael y cyfle i gyfathrebu eu gofynion gofal eu hunain. Roedd yr
Arolygwyr hefyd yn awyddus i ddeall a gwerthfawrogi buddion y model Llesiant Gydol
Oes. Roedd yr
adborth cychwynnol a roddwyd ar 16 Mawrth 2023 yn galonogol iawn, ac roedd yr
adroddiad yn canmol y Gwasanaethau a ddarperir i ddinasyddion Ceredigion. Yn
ystod yr Arolygiad, ni nodwyd yr un maes lle nad oeddem yn cydymffurfio â’r
gofynion. Rhoddwyd trosolwg o'r canfyddiadau a'r dystiolaeth allweddol. Roedd
Cynllun Gweithredu bellach wedi’i ffurfio er mwyn ymateb i’r gwelliannau yr
oedd Arolygiaeth Gofal Cymru yn eu hargymell yn yr adroddiad. Roedd mwyafrif
helaeth y camau gweithredu eisoes ar waith gan fod y materion a nodwyd gan
Arolygiaeth Gofal Cymru eisoes yn cael sylw cyn i’r arolygiad ddechrau. Llongyfarchwyd
yr holl staff sy'n ymwneud â'r gwasanaeth ar eu perfformiad fel yr amlygwyd yn
yr adroddiad. Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn
cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion a’r Cynghorydd Alun Williams.
Dyma'r prif bwyntiau a godwyd: · Roedd yn anodd
cymharu ag awdurdodau lleol eraill oherwydd nifer o ffactorau megis poblogaeth,
lefelau staffio, nifer yr achosion a natur wledig. Credai Swyddog Arweiniol
Corfforaethol Porth Cynnal fod y gwasanaeth yn chwarter uchaf Cymru. · O ystyried yr
heriau gyda recriwtio, roedd pob darpariaeth bosibl yn cael ei harchwilio i
gadw a recriwtio staff. Roedd cyflogi gweithwyr tramor yn opsiwn a ddefnyddiwyd
mewn mannau eraill i gefnogi sector y Gofal Cymdeithasol ac nid oedd wedi'i
ddefnyddio yng Ngheredigion. Amlygwyd y gwahaniaeth mewn diwylliannau ac
ieithoedd; felly, roedd angen gofal os oedd bwriad i archwilio'r opsiwn hwn
ymhellach. · Wrth i awdurdodau lleol eraill gynyddu cyflog staff ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Trefniadau Cenedlaethol Mabwysiadu a Maethu Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Alun Williams adroddiad ar Drefniadau Cydweithio Cenedlaethol ar
gyfer gwasanaethau Mabwysiadu a Maethu Cymru (awdurdod lleol). Mae’r Gwasanaeth
Mabwysiadu Cenedlaethol wedi bodoli ers 2014 ac mae wedi galluogi newid a
gwelliant sylweddol mewn gwasanaethau mabwysiadu ledled Cymru. Roedd pob cyngor
bryd hynny wedi cytuno ar ei strwythur a’i lywodraethiant
drwy drefniadau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol; arweiniodd adolygiad yn 2018
at gynigion i symleiddio llywodraethiant a gwella
atebolrwydd. Mae rhai o'r rhain e.e. creu Bwrdd Llywodraethu Cyfunol (sy’n dod
â’r Grŵp Cynghori a’r Bwrdd Llywodraethu sy’n ofynnol gan y ddeddfwriaeth
ynghyd) a Chytundeb Partneriaeth newydd i ddisodli’r model swyddogaethol
gwreiddiol eisoes wedi’u rhoi ar waith.Mae sefydlu
Maethu Cymru yn rhoi'r cyfle i uno'r trefniadau ar gyfer mabwysiadu a maethu yn
un gyfarwyddiaeth yn weithredol a'r llywodraethiant
ar gyfer y ddau weithgaredd i'w uno. Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn
cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion a’r Cynghorydd Alun Williams.
Dyma'r prif bwyntiau a godwyd: · Ystyriwyd bod
gweithio'n rhanbarthol ac yn genedlaethol yn ffordd synhwyrol ymlaen. · Mae niferoedd
mabwysiadu wedi gostwng yn genedlaethol am sawl rheswm. Roedd y gwasanaeth
mabwysiadu yng Nghaerfyrddin a swyddogion lleol yn gallu gweithio yn ôl
galwadau ac arhosodd y rhan fwyaf o blant Ceredigion a fabwysiadwyd o fewn y
rhanbarth oherwydd nifer y mabwysiadwyr a hefyd rhesymau diwylliannol. Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i · Ceisio cytundeb
bod Ceredigion yn llofnodi Cytundeb y Cyd-bwyllgor ar gyfer y Gwasanaeth
Mabwysiadu Cenedlaethol a Maethu Cymru. · Bod y papur hwn
yn mynd drwy'r prosesau llywodraethu llawn i'w gymeradwyo'n llawn. |
|
Trosolwg Gofal Cartref Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Alun Williams adroddiad ar safbwynt y Cyngor a’i ddull gweithredu
tuag at Ofal Cartref. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn comisiynu Gofal Cartref i
Ddefnyddwyr Gwasanaeth, yr aseswyd bod gofyn iddynt gael gofal o'r fath
oherwydd eu bod yn agored i niwed neu oherwydd amgylchiadau eraill, yn unol â
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Roedd yr adroddiad yn
manylu ar y cefndir statudol i Ofal Cartref, y gwaith a wnaed ledled Cymru i
ddatblygu’r gwasanaeth yn genedlaethol a’r sefyllfa’n lleol yng Ngheredigion.
Cyfeiriwyd at Fentrau Ceredigion i gefnogi Marchnad y Gofal Cartref o 2022/23
ymlaen a’r sefyllfa bresennol. Arolygwyd
Gwasanaeth Gofal a Galluogi wedi'i Dargedu Cyngor Sir Ceredigion gan
Arolygiaeth Gofal Cymru ym mis Hydref 2022 a chafodd adroddiad rhagorol, a
gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2022, a'r arolygwyr yn cynnig y ganmoliaeth uchaf ar
gyfer model y gwasanaeth a'r ddarpariaeth. Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn
cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion a’r Cynghorydd Alun Williams.
Dyma'r prif bwyntiau a godwyd: · Cydnabuwyd bod
gweithlu’r Gofal Cymdeithasol ledled Cymru yn heriol. O fewn yr Addewid 15
Pwynt fel rhan o’r Fframwaith Gofal Cartref newydd 2023, y nod oedd talu
cyfradd i bob darparwr gofal cartref a oedd yn fwy cyson â’r gyfradd fesul awr
a argymhellir gan y Gymdeithas Gofal Cartref. · Rhaid i bob
darparwr dalu cyflog byw gwirioneddol o dan y ddeddfwriaeth. Roedd y cynnydd
mewn ffi i £26.50 yr awr ar gyfer darparwyr yn cydnabod y cynnydd mewn costau
byw a thanwydd. Roedd y ffi hon yn cynnwys cyflogau, ychwanegiadau at gyflogau
a chostau hyfforddi. Nodwyd bod gwahanol ddarparwyr yn rheoli costau teithio o
eiddo i eiddo yn wahanol a bod mentrau amrywiol wedi'u cynnig i'w cefnogi. · Byddai cytuno
i'r Addewid 15 Pwynt yn dangos ymrwymiad darparwyr i gefnogi'r gweithlu.
Awgrymwyd y dylai darparwyr monitro fod yn allweddol wrth symud ymlaen gyda'r
Addewid 15 Pwynt. Roedd Fframwaith Sicrhau Ansawdd ar gyfer Gofal Cymdeithasol
yn cael ei ddatblygu; byddai hyn yn cynnwys staff ymroddedig a fyddai'n monitro
darparwyr yn barhaus, y broses o ddarparu'r contractau ac ansawdd y gwasanaeth.
Yn dilyn
cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i nodi’r adroddiad, yn amodol ar
gael diweddariad i’r Addewid 15 Pwynt ym mis Ebrill 2024. |
|
Strategaeth Gorllewin Cymru ar Famolaeth a'r Blynyddoedd Cynnar Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Alun Williams Strategaeth Gorllewin Cymru ar Famolaeth a’r
Blynyddoedd Cynnar. Yn 2018 roedd Llywodraeth Cymru wedi gwahodd cynigion gan
Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd i fod yn fraenarwyr
(Pathfinders) ar gyfer Rhaglen Trawsnewid
Integreiddio'r Blynyddoedd Cynnar. Cyflwynwyd cais gan Awdurdodau Lleol
Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, ar y cyd â Bwrdd Iechyd Hywel Dda, i fod yn
ardaloedd braenaru. Cafwyd cyllid (2019 - 2024) i beilota
a phrofi ffyrdd o Drawsnewid Integreiddio'r Blynyddoedd Cynnar, a ffurfiwyd Grŵp
Llywio Mamolaeth a’r Blynyddoedd Cynnar. Ym mis Ionawr 2021, llwyddodd Sir
Benfro â’u cais nhw i ymuno â’r Rhaglen Fraenaru ac felly mae pob Awdurdod
Lleol ym mhatrwm daearyddol Hywel Dda wedi bod ynghlwm â’r Rhaglen. Yn 2021/
2022 bu cynrychiolwyr o'r tri Awdurdod Lleol a Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn
cydweithio i lunio Strategaeth Mamolaeth a Blynyddoedd Cynnar ar gyfer
Gorllewin Cymru. Mae’r
strategaeth yn canolbwyntio ar gefnogaeth yn ystod 7 mlynedd gyntaf y plentyn,
gan gydnabod pwysigrwydd y blynyddoedd ffurfiannol hyn wrth siapio iechyd a
lles y plentyn at y dyfodol. Nod y Strategaeth yw hyrwyddo cydweithio rhwng
gwasanaethau cymorth yn y cyfnodau cyn geni a’r Blynyddoedd Cynnar. Mae’r
strategaeth i’w gweld ar wefan Strategaeth Gorllewin Cymru ar gyfer Mamolaeth
a’r Blynyddoedd Cynnar sy’n ffrwyth cydweithio rhwng awdurdodau lleol
Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a
phartneriaid trydydd sector. Ar sail ymgynghori helaeth gyda Defnyddwyr
Gwasanaethau a Gweithwyr Proffesiynol y Blynyddoedd Cynnar, lluniwyd
Strategaeth Gorllewin Cymru ar Famolaeth a’r Blynyddoedd Cynnar gyda’r nod o
hyrwyddo gwasanaethau rhagorol ar bob cam o Famolaeth a’r Blynyddoedd Cynnar. Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn
cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion a’r Cynghorydd Alun Williams.
Dyma'r prif bwyntiau a godwyd: · Roedd heriau
recriwtio yn gyffredinol, ond roedd swyddi gwag naill ai allan i hysbyseb neu
wedi’i penodi ym Mhorth Cymorth Cynnar. Pan benodwyd staff, rhoddwyd
hyfforddiant yn ôl yr angen i sicrhau bod ganddynt y sgiliau cywir ar gyfer y
rôl. · Pan oedd eitem
ar yr agenda yn ymwneud â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, argymhellwyd y
dylid hysbysu’r Cynghorydd Rhodri Evans fel aelod etholedig y Bwrdd. · Roedd Gydol Oes
a Llesiant, Cymorth a Gofal wrthi’n lansio gwefan newydd a fyddai'n amlinellu'n
glir y gwasanaethau sydd ar gael i'r cyhoedd. Awgrymwyd a chytunwyd y gallai grŵp
bach o Aelodau weld y wefan cyn iddi ddod yn fyw, i roi eu barn a'u hadborth. · Lleolir staff
mewn canolfannau teuluoedd ar draws y sir ac ystyriwyd anghenion y cyhoedd wrth
baratoi sesiynau; rhannwyd gwybodaeth am y sesiynau hyn yn eang gan gynnwys
trwy’r gwefannau cyfryngau cymdeithasol perthnasol. Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i gymeradwyo
Strategaeth Gorllewin Cymru ar Famolaeth a’r Blynyddoedd Cynnar. |
|
I gadarnhau cofnodion y cyfarfod diwethaf ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi Cofnodion: Cytunwyd i gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Ebrill 2023. Materion sy’n codi: Eglurwyd bod y Cabinet wedi derbyn yr argymhelliad
gan Aelodau’r Pwyllgor i ysgrifennu at Ms Elin Jones, Aelod Etholaeth y Senedd
ac at y pedwar Aelod rhanbarthol o Senedd Cymru yn mynegi pryder ynghylch
darparu digon o dai yng Ngheredigion. Byddai angen monitro unrhyw
ddiweddariadau. |
|
I ystyried Rhaglen Gwaith y Pwyllgor Cofnodion: Cytunwyd i nodi cynnwys y Flaen Raglen Waith a gyflwynwyd. |