Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd ymddiheuriadau.

 

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Gwyn James, Wyn Evans, Eryl Evans, Catrin M S Davies a Bryan Davies fuddiant personol o dan yr eitem agenda Cynigion o ran Arbedion i Gyllideb 2023/24, Polisi Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd (elfen Ddiogelu’r Cyhoedd yn unig).

 

3.

Adroddiad ar y Gyllideb ddrafft ar gyfer 2023/24 pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Amlinellodd y Cynghorydd Caryl Roberts, Cadeirydd y Pwyllgor, weithdrefn y cyfarfod a chroesawodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, y Cynghorydd Gareth Davies, Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cyllid a Chaffael, Aelodau’r Pwyllgor, gweddill Aelodau’r Cabinet, yr Aelodau nad ydynt yn perthyn i Bwyllgor a Swyddogion i’r cyfarfod.  

 

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, yr adroddiad ar gyllideb ddrafft 2023/2024 gan gynnwys rhaglen gyfalaf amlflwyddyn wedi’i diweddaru gan nodi ei fod yn seiliedig ar setliad dros dro Llywodraeth Cymru, a bod setliad terfynol Llywodraeth Cymru i gael ei gyhoeddi ar 28 Chwefror 2023.   

 

Dywedodd yr Arweinydd wrth Aelodau’r Pwyllgor y croesawir y cynnydd uwch na’r disgwyl o 8.1% (ar sail ariannol) yn y setliad dros dro gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2023/2024.  Dylai hyn sicrhau y gellir diogelu gwasanaethau i breswylwyr Ceredigion cymaint ag sy’n bosibl ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/2024 er y cydnabyddir bod hon yn Gyllideb eithriadol o heriol o hyd.  Mae’r pwyntiau allweddol sy’n deillio o’r adroddiad fel a ganlyn:

 

·         Mae’r pwysau o ran costau a wynebir gan y Cyngor yn dod i gyfanswm na welwyd ei debyg o £22m, sydd gyfwerth â ffactor chwyddiant penodol i Geredigion o fwy na 13%. Mae hyn yn cymharu â chwyddiant cyffredinol o 10.5% (ffigwr CPI Rhagfyr 2022). Mae angen dod o hyd i ddiffyg o £12m yn y gyllideb felly drwy gyfuniad o ystyriaethau o ran Arbedion Cyllidebol a chynnydd yn y Dreth Gyngor.

 

·         Dywedodd nad oedd y meysydd lle gwelir pwysau o ran costau yn gyffredinol yn unigryw i Geredigion. Mae themâu’n dod i’r amlwg yn gyson sy’n debyg i’r rhai y cyfeirir atynt yn y wasg yn genedlaethol sy’n effeithio ar ystod o sefydliadau sector cyhoeddus a phreifat yn ogystal ag ar sefyllfa ariannol teuluoedd unigol.  Maent yn amrywio o gostau ynni a thanwydd i ddyfarniadau cyflog staff uwch na’r rhagamcanion, i gontractau â chymalau sy’n gysylltiedig â chwyddiant.

 

·         Mae cynnydd arfaethedig ar ei ardoll gan Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru hefyd sydd ar lefel na welwyd ei thebyg o’r blaen. Mae cynnydd arfaethedig o 13% yn ei Gyllideb yn arwain yn ei dro at bwysau mawr o ran costau, mewn termau cymharol, ar gyllideb y Cyngor ei hun.

 

·         Mae’r gofynion ar gyllidebau sy’n ymwneud â Gofal Cymdeithasol yn dal i gynyddu, ac mae hefyd angen cyfeirio mwy nag £1.7m o arian yn y Setliad Dros Dro (1.5% o’r cynnydd o 8.1%) i wasanaethau a gomisiynir yn allanol yng Ngheredigion er sicrhau bod gweithwyr Gofal Cymdeithasol cofrestredig yn dal i gael eu talu ar y Cyflog Byw Real, o leiaf (sydd wedi codi o £9.90 i £10.90 yr awr - cynnydd o 10.1%).

 

·         Ar waethaf heriau gweithredol ar adegau mewn rhai gwasanaethau, mae Cyngor Sir Ceredigion yn dal i ddarparu gwasanaeth o safon a gaiff ei gydnabod gan reoleiddwyr allanol. Mae Archwilio Cymru yn asesu bod y Cyngor yn parhau yn sefydlog yn ariannol, er yn cydnabod bod heriau ariannol yn ei wynebu gan greu risg ariannol parhaus nad yw’n unigryw i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion pdf eicon PDF 115 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD cadarnhau fel cofnod cywir Gofnodion y Cyfarfod o’r Pwyllgor a gynhaliwyd 23 Ionawr 2023.

 

Materion yn codi: Dywedodd y Cynghorydd Eryl Evans wrth y Pwyllgor ei bod, yng nghyfarfod 23 Ionawr 2023, yng nghyswllt yr eitem agenda ar Arolwg Ysgolion Chwaraeon Cymru, wedi gofyn ar i’r tîm sicrhau ei fod yn cydweithio gyda’r Adran Drafnidiaeth er mwyn datblygu Teithio Llesol.