Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach - Dydd Iau, 27ain Hydref, 2022 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

i.      Ymddiheurodd y Cynghorydd Mark Strong am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

ii.     Ymddiheurodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod oherwydd ymrwymiadau eraill y Cyngor.

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Ni ddatgelodd yr un Aelod o’r Pwyllgor fuddiant personol na buddiant a oedd yn rhagfarnu (nac ychwaith unrhyw ddatganiadau chwipio).

3.

Cyflwyno'r Strategaeth Ddementia Ranbarthol a ddatblygwyd gan Grwp Llywio Dementia Rhanbarthol Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru pdf eicon PDF 7 MB

Cofnodion:

Eglurodd y Cynghorydd Alun Williams (Aelod y Cabinet dros Gydol Oed a Llesiant) fod y Strategaeth Dementia Ranbarthol wedi’i datblygu gan Grŵp Llywio Dementia Rhanbarthol Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru. Mae Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru yn dod â sefydliadau o’r sector statudol, y trydydd sector a’r sector annibynnol at ei gilydd gyda’r cylch gwaith o integreiddio a thrawsnewid iechyd, gofal a chymorth yn y rhanbarth. Roedd cyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn cael ei reoli drwy’r Grŵp Llywio Dementia a byddai’n allweddol i gyflawni blaenoriaethau y cytunwyd arnynt o fewn y Strategaeth. Nododd Asesiad o Anghenion y Boblogaeth a gyflwynwyd yn ddiweddar yn y Cabinet fod cynnydd yn nifer y bobl 80+ oed oherwydd bod y genhedlaeth a aned ar ôl yr ail ryfel byd yn cyrraedd yr oedran hwn ac felly byddai'r strategaeth hon yn allweddol wrth symud ymlaen. Rhoddwyd trosolwg o Strategaeth Dementia Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru i’r pwyllgor, gan gyfeirio at y ddarpariaeth ar hyn o bryd, arferion gorau, adborth o gyfweliadau strwythuredig â rhanddeiliaid a gofalwyr a’r dull o weithredu’r llwybr llesiant dementia.

 

Cyfeiriodd Donna Pritchard at y Camau Nesaf o safbwynt rhanbarthol a sirol. Yn rhanbarthol, roedd 6 ffrwd waith wedi'u nodi a oedd yn cynnwys Ymgysylltu â'r Gymuned, Ysbytai a Hyfforddiant a Recriwtio. Roedd cynrychiolaeth o'r awdurdod lleol ar bob ffrwd waith. Nodwyd y byddai cysylltwyr llesiant yn gweithio yn y gymuned ac yn gweithio’n agos gyda Phorth Cymorth Cynnar. Roedd yr awdurdod lleol wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymgynghorwyr i gefnogi datblygu cynllun i gyflawni'r canlyniadau allweddol a nodir yn y strategaeth.

 

Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan Donna Pritchard. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·     Croesawodd yr aelodau'r papur gan nodi ei bod yn allweddol sicrhau bod aelodau'r gymuned yn cael y gofal gorau.

·     O ystyried yr hinsawdd economaidd ar hyn o bryd, codwyd pryderon ynghylch sut y byddai'r strategaeth yn cael ei gweithredu. Nodwyd bod mapio gwasanaethau'n fanwl yn hanfodol i ddeall pa ddarpariaeth sydd eisoes yn ei lle yn y sir ac a ydynt yn parhau i fod yn addas i'r diben. Roedd ffocws rhanbarthol ar hyn o bryd, ond roedd yr awdurdod lleol yn y broses o ddatblygu manyleb gwasanaeth, a fyddai'n cael ei chwblhau erbyn 31.03.23 gobeithio. Yn dilyn hyn, byddai'r gwaith yn gallu symud ymlaen ar lefel sirol.

·     Teimlai'r aelodau'n gryf fod canolfannau dydd yr effeithiwyd arnynt yn ddifrifol gan Covid-19 yn achubiaeth i bobl a oedd yn gofalu am anwyliaid. Roedd diffyg deunyddiau wedi effeithio ar waith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd yng Nghanolfan Padarn, Canolfan Meugan a Hafod. Ar hyn o bryd, nid oedd amserlen i ail-agor yr adeiladau. Rhoddwyd sicrwydd bod pawb sy'n cael cymorth gan staff y canolfannau yn parhau i gael cymorth.

·     Mewn ymateb i gwestiwn yn ymwneud ag a oedd digon o leoedd yng nghartrefi gofal preswyl y sir ar gyfer gofal dementia a gofal seibiant, nodwyd bod cartrefi yn rheoli pobl ag anghenion llawer mwy cymhleth nag  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

ADRODDIAD RHEOLI PERFFORMIAD Y GWASANAETH ADOLYGU ANNIBYNNOL CHWARTER 4 2021 – 2022 pdf eicon PDF 915 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Williams (Aelod Cabinet dros Wasanaethau Gydol Oes a Lles) adroddiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Chwarter 4 2021/2022. Caiff adroddiadau chwarterol eu rhoi gerbron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach fel rhan o'r ystyriaeth barhaus o'r pwnc i sicrhau bod yr Awdurdod Lleol yn cyflawni ei ddyletswyddau fel y Rhiant Corfforaethol. Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys y safonau a'r targedau cenedlaethol a lleol a ddefnyddir i fesur y canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a phlant sydd wedi gadael gofal adeg eu cyfarfod adolygu, ac mae'n cynnwys Dangosyddion Perfformiad Llywodraeth Cymru. Ar sail y wybodaeth sydd ar gael a'r hyn a fynegwyd yn ystod y cyfarfod adolygu, daw'r Swyddog Adolygu Annibynnol i farn broffesiynol ynghylch effeithiolrwydd cynllun gofal y plentyn/person ifanc o ran bodloni ei anghenion, a gall argymell newidiadau i'r cynllun gofal. Yn ystod y cyfarfod adolygu bydd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a oes angen cymorth ar y plentyn/person ifanc i adnabod pobl eraill berthnasol i gael Cyngor cyfreithiol/cymryd camau ar ei ran. Roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol o'r farn nad oedd angen cymryd y cam hwn ar gyfer unrhyw blentyn yn ystod y cyfnod dan sylw. Yn ogystal, mae'r Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a oes unrhyw dramgwydd yn erbyn hawliau dynol y plentyn/person ifanc ac, os oes, gallai gyfeirio'r achos i CAFCASS Cymru. Ni chododd yr angen i wneud hynny mewn unrhyw gyfarfod adolygu yn ystod y cyfnod hwn.

 

Mae'r adroddiadau hyn yn cael eu hystyried o fewn Cyfarfodydd Sicrhau Ansawdd Plant sy'n Derbyn Gofal Amlasiantaethol sy'n cwrdd bob chwarter; mae'r cyfarfodydd hyn yn gyfle i nodi a gweithredu ar berfformiad a materion eraill yn ymwneud â'r maes gwaith hwn. Mae'r adroddiadau hyn hefyd yn cael eu cylchredeg a'u hadolygu gan Grŵp Rhianta Corfforaethol yr Awdurdod Lleol, a chynhelir y cyfarfodydd hyn bob chwarter. Aeth y Cynghorydd Alun Williams ymlaen i gyflwyno Crynodeb o'r Pwyntiau Allweddol a nodwyd ar dudalen 2 yr adroddiad.

 

Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan Elizabeth Upcott a’r Cynghorydd Alun Williams. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·     Nid oedd darpariaeth breswyl mamau a babanod yn y sir ac felly os oedd angen asesiad, roedd yn rhaid iddynt fynd allan o'r sir. Yn ogystal, roedd rhai lleoliadau y tu allan i'r sir oherwydd lleoliadau gofalwyr maeth tra bod eraill oherwydd lleoliadau arbenigol nad oeddent ar gael yn y sir.

·     Roedd proses i'w dilyn pan fynegodd y cyhoedd ddiddordeb mewn dod yn ofalwyr maeth a oedd yn cynnwys asesiadau a chyfweliadau a allai gymryd hyd at chwe mis. Roedd ymgyrchoedd recriwtio parhaus yn genedlaethol oherwydd prinder gofalwyr maeth. Roedd gofalwyr maeth yn gweithio naill ai i awdurdodau lleol neu i asiantaethau. 

·     Cyfeiriwyd at iaith y lleoliad ac anghenion iaith gyntaf y plentyn a nodwyd ar dudalen 6 Adroddiad Rheoli Perfformiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol.

·     Nodwyd bod cost lleoliadau y tu allan i'r sir yn amrywio, yn dibynnu ar anghenion plant a phobl ifanc. Gallai lleoliadau y tu allan i'r sir fod yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Adroddiad Cynnydd Ansawdd Aer pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Esboniodd Heddwyn Evans mai pwrpas yr adroddiad oedd i gyflwyno canfyddiadau Adroddiad Diweddaru ar Ansawdd Aer 2022, yn unol â Rhan IV Deddf Amgylchedd 1997 Rheoli Ansawdd Aer Lleol. O ran dyletswyddau monitro statudol a roddwyd ar Gyngor Sir Ceredigion, mae gofyniad i adrodd ar Nitrogen Deuocsid (NO2) a Deunydd Gronynnol (PM10) yn flynyddol. Mae llygryddion eraill a nodwyd yn y rheoliadau wedi eu heithrio o ofynion adrodd

mandadol oni bai fod tystiolaeth o broblem yn lleol fydd angen mynd i’r afael a ef. Yn sgil lleoliad gwledig Ceredigion a diffyg diwydiannau trwm nid oes gorfodiant o ran llygryddion sydd wedi eu heithrio o adrodd mandadol yn berthnasol i’r awdurdod. Trwy ddefnyddio tiwbiau tryledu, roedd 11 o safleoedd yn cael eu monitro ar hyn o bryd yng Ngheredigion ar gyfer NO2. Pe bai lefelau NO2 yn cyrraedd nod cymedrig blynyddol o 40μg/m3, byddai Ardal Rheoli Ansawdd yr Aer yn Lleol yn cael ei datgan. O ran PM10, gall achosi problemau iechyd niweidiol, fodd bynnag mae monitro PM10 wedi bod yn gyson dda yng Ngheredigion.

 

Oherwydd cyfyngiadau a blaenoriaethau gwahanol yn ystod pandemig Covid-19, rhoddwyd y gorau dros dro i samplu a dyna pam y ceir 6 mis o adrodd yn yr adroddiad. O safbwynt Sicrhau Ansawdd a Rheoli Ansawdd, defnyddiwyd Ffactorau Addasu Tuedd Tiwbiau Tryledu ar y daenlen a roddwyd gan DEFRA i addasu mesuriadau, er mwyn sicrhau bod y canlyniadau'n gyson ar draws y sir. Cyfeiriwyd at y tueddiadau mewn crynodiadau NO2 cymedrig blynyddol yn ystod y 5 mlynedd diwethaf o fonitro a gynhwyswyd yn yr adroddiad. Amlygwyd y bu gostyngiad yn genedlaethol y llynedd oherwydd llai o draffig yn ystod y pandemig. Amlygwyd bod llygredd aer yng Ngheredigion yr ail isaf yng Nghymru.

 

Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan Heddwyn Evans, Elis Gwyn a Carwen Evans. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·     Nodwyd nad oedd yn ofynnol i'r awdurdod lleol fonitro amonia na methan.

·     Codwyd cwestiynau ynghylch a ddylid monitro ym mhob tref yn y sir; eglurwyd bod swyddogion yn mynd ati i werthuso safleoedd i sicrhau bod yr ardaloedd mwyaf effeithiol yn cael eu mesur.

·     O ran adnoddau, nodwyd nad oedd y tiwbiau tryledu yn ddrud, ond nid y gwaith dan sylw oedd y defnydd gorau o amser staff bob amser. Gan fod pob tref yn dref glyfar, awgrymwyd y gellid ystyried synwyryddion i ddarparu monitro dangosol wrth symud ymlaen.

·     Mewn ymateb i sylwadau aelod, nodwyd bod camau deddfwriaethol priodol yn cael eu cymryd i ymdrin â llygryddion ac wrth i risgiau a dealltwriaeth ddatblygu, bod addasiadau’n cael eu gwneud i’r ddeddfwriaeth.

 

Amlygodd y Cadeirydd bwysigrwydd cyfleu llwyddiant y sir i’r cyhoedd mewn datganiad i’r wasg. 

 

Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i nodi cynnwys yr adroddiad ac argymhellir i’r Cabinet y dylai’r adroddiad gael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor a’i gyflwyno i DEFRA yn unol â gofynion statudol.

6.

Blaenraglen Waith Ddrafft 2022-2023 pdf eicon PDF 147 KB

Cofnodion:

Cytunwyd nodi cynnwys y Flaen raglen Waith a gyflwynwyd, yn ddibynnol ar gynnwys y canlynol:

·     Byddai cyfarfod yn cael ei gynnal gyda'r Cadeirydd/Is-gadeirydd a'r Swyddogion Arweiniol Corfforaethol perthnasol i drafod y Blaengynllun Gwaith ar 09.11.22.

·     Cytunodd yr aelodau i drefnu cyfarfod arbennig ar 23.01.22. Byddai diweddariad ar Covid-19 yn cael ei roi ac mae CAMHS wedi’u gwahodd i fynychu’r cyfarfod.

·     Diweddariad ar y ‘Rhaglen Gydol Oed a Llesiant’

·     Adroddiad ar Arolygiad o Safleoedd Bwyd (ar ôl Ebrill 2023)

·     Diweddariad ar Ofal Cartref (Gwasanaethau Dementia/Cartrefi Gofal Preswyl) (Ebrill 2023)

·     Diweddariad ar Wasanaethau Dydd yn y Sir (Adroddiad interim Ionawr 2023 / adroddiad llawn Ebrill 2023)

·     Therapi Galwedigaethol yn rhoi gwaith ar gontract allanol – costau a goblygiadau costau

 

Eglurodd y Cadeirydd fod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy'n Dysgu wedi gwahodd aelodau'r pwyllgor i'w cyfarfod ar 08.12.22 i drafod adroddiad ar awtistiaeth a'r gwasanaethau sy'n ymwneud â hyn.  

7.

I gonsidro cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 103 KB

Cofnodion:

Cytunwyd i gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2022.

 

Materion sy’n codi: Dim.