Lleoliad: Siambr y Cyngor - Penmorfa
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y
Cynghorwyr Paul Hinge, Lyndon Lloyd, Mark Strong a Lynford Thomas am na fedrent
fod yn bresennol yn y cyfarfod. |
|
Datgelu Buddiannau Personol/Buddiannau sy'n Rhagfarnu (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Dim |
|
Materion Personol Cofnodion: Cytunwyd i anfon llythyr at y Cynghorydd Mark Strong i ddymuno’n dda iddo. |
|
Newidiadau i Bolisi Ariannol Benthyciadau a Grantiau Tai Sector Preifat Ceredigion PDF 1 MB Cofnodion: Rhoddodd yr Aelod Cabinet, y Cynghorydd
Dafydd Edwards drosolwg o’r adroddiad cyn i’r swyddogion roi mwy o fanylion. Ym
mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai addasiadau bach a
chanolig ar gyfer pobl anabl ar gael i bawb, hynny yw, argymhellwyd y dylid
dileu’r Prawf Adnoddau Ariannol. Felly, gwnaed newidiadau i Bolisi Ariannol
Benthyciadau a Grantiau Tai’r Sector Preifat er mwyn adlewyrchu argymhelliad
Llywodraeth Cymru. Yn sgil y cynnydd mewn costau deunyddiau a llafur, cynyddwyd
uchafswm y cymorth oedd ar gael ar gyfer yr addasiadau bach (a elwid gynt yn
Grant Diogel, Cynnes a Saff) a’r Cymorth Atgyweirio Brys. Yn ogystal, roedd Llywodraeth Cymru wedi
cynyddu’r uchafsymiau ar gyfer y benthyciadau di-log yr oedd yr Awdurdod Lleol
yn eu rhoi ac roedd gwybodaeth fanylach am y benthyciadau di-log wedi’i
chynnwys. Yn
y gorffennol roedd y Panel Grantiau yn trafod unrhyw achosion lle’r oedd y
taliadau atodol ar gyfer y Grantiau Dewisol i’r Anabl yn fwy na £15k, ynghyd ag
unrhyw amgylchiadau arbennig neu unigryw. Addaswyd hyn fel bod y penderfyniad
yn cael ei wneud yn unol â’r pwerau dirprwyedig a roddwyd i’r Swyddog Arweiniol
Corfforaethol (a nodir yn y Cyfansoddiad) gan ymgynghori â’r Aelod Cabinet
perthnasol. Bu i’r Pwyllgor ystyried y newidiadau a gynigiwyd. Yn dilyn trafodaeth, cytunodd
Aelodau’r Pwyllgor i argymell bod y Cabinet yn gwneud y canlynol: Cymeradwyo’r newidiadau arfaethedig i Bolisi Ariannol Benthyciadau a
Grantiau Tai Sector Preifat Ceredigion. Yn dilyn awgrym gan y Cadeirydd,
cytunodd Aelodau’r Pwyllgor, pan fyddai digon o amser wedi mynd heibio, y
byddai adroddiad diweddaru yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor er mwyn asesu
effaith rhoi’r polisi ar waith. |
|
Cofnodion cyfarfod 16 Rhagfyr 2021 ac unrhyw faterion sy'n codi ohonynt PDF 149 KB Cofnodion: Penderfynodd y
Pwyllgor i gadarnhau Cofnodion Cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr
yn rhai cywir. Materion yn codi Dim |