Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda
Cyswllt: Dwynwen
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorydd Paul
Hinge am na fedrai ddod i’r Cyfarfod gan ei fod yn cyflawni dyletswyddau eraill
ar ran y Cyngor. Ymddiheurodd y
Cynghorwyr Odwyn Davies, Keith Evans a Mark Strong am nad oedd modd iddynt ddod
i’r Cyfarfod. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Dim |
|
Strategaeth Gydol Oes a Llesiant 2021 - 2027 a'r Cynllun Gweithredu Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol gyflwyniad a dangosodd fideo ar y Strategaeth Gydol Oes a
Llesiant 2021 – 2027 a’r Cynllun Gweithredu. Esboniwyd fod y
strategaeth hon yn rhan allweddol o Strategaeth Gorfforaethol Cyngor Sir
Ceredigion, sef y ddogfen sy’n dangos prif flaenoriaethau’r Cyngor. Nod y
blaenoriaethau yw galluogi gwasanaethau a fydd yn gwella lles cymdeithasol,
economaidd, amgylcheddol a diwylliannol pobl Ceredigion. Mae rhoi cymorth a chefnogaeth i’r holl
oedrannau ac anghenion gwahanol yn her sylweddol i’r Cyngor gydag adnoddau
cyfyngedig. Mae proffil y gymdeithas a demograffeg wedi newid cryn dipyn dros y
degawd diwethaf gyda chynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o gamddefnyddio
sylweddau, iechyd meddwl gwael a cham-drin domestig ynghyd â chynnydd yn nifer
y grwpiau oedran hŷn sy’n byw yng Ngheredigion. O ganlyniad, mae’r galw am
rai gwasanaethau wedi cynyddu gan roi mwy o bwysau ariannol ar y meysydd
gwasanaeth hynny. Yn ogystal, mae lefelau diweithdra ynghyd â lefelau incwm
isel wedi esgor ar fwyfwy o anawsterau i bobl gael mynediad at dai diogel,
fforddiadwy. Nododd y Pwyllgor y
cytunwyd yn 2017 i gynnal adolygiad systematig o'r holl strwythurau a’r meysydd
gwasanaeth i sicrhau bod gan wasanaethau’r Cyngor y gallu i gyflawni
blaenoriaethau'r Cynlluniau a'r Amcanion Corfforaethol. Mae’r gwaith o
drawsnewid gwasanaethau wedi mynd rhagddo'n dda a'r
newid mawr olaf yw integreiddio gofal cymdeithasol a dysgu gydol oes i mewn i’r
tri gwasanaeth sef Porth Cymorth Cynnar, Porth Gofal a Phorth Cynnal. Y rhain,
ynghyd â Chyswllt â Chwsmeriaid, yw'r pedwar prif faes sy'n dod o fewn rhaglen
newid Gydol Oes a Llesiant. Dechreuodd y gwaith o
ailstrwythuro'r gwasanaethau hyn yn ffurfiol yn niwedd 2019 drwy weithredu
strwythur y Rheolwyr Corfforaethol ar draws y gwasanaethau. Gohiriodd y pandemig y cynnydd gyda hyn yn ystod 2020 ond bwrwyd ymlaen â’r gwaith o fis Medi 2020 ymlaen. Cydnabuwyd
bod angen strategaeth glir i yrru a rhannu'r angen am newid a sut i gyflawni
hynny. Cynhaliwyd gweithdai gyda’r
aelodau a rhoddwyd y newyddion diweddaraf iddynt drwy gydol y cyfnod o
newid. Ymgysylltwyd ac ymgynghorwyd â’r
Staff a’r Undebau Llafur ar bob adeg o'r broses. Ar ddechrau'r rhaglen
crëwyd gweledigaeth a oedd yn adlewyrchu'r rhaglen uchelgeisiol o newid: ‘Sicrhau bod pob
plentyn, person ifanc ac oedolyn yng Ngheredigion yn gallu cyrraedd ei lawn
botensial. Sicrhau mynediad teg i bawb i wasanaethau cyffredinol a phwrpasol
rhagorol sy'n cefnogi iechyd a lles pob dinesydd. Datblygu sgiliau a chydnerthedd
a fydd yn para am oes ac yn galluogi unigolion i ymdopi'n dda â'r heriau a'r
pwysau y dôn nhw ar eu traws.’ Mae'r Strategaeth Gydol
Oes a Llesiant yn egluro'r weledigaeth a'r dulliau a gymerir i drawsnewid y
gwaith o gefnogi llesiant a diogelwch pobl Ceredigion, gan roi amserlen o 2021
hyd 2027 i gyflawni'r newidiadau. Mae'r strategaeth yn disgrifio'r trywydd y bydd y Cyngor yn ei ddilyn, ar y cyd â'i bartneriaid, i drawsnewid ei ffordd o weithio. Mae'n cynnig cyd-destun strategol ar gyfer y gwaith yn y dyfodol o gomisiynu, darparu gwasanaethau, rheoli gofal a rôl y Cyngor wrth integreiddio gwasanaethau. Mae'r ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9. |
|
Archwiliad Sicrwydd Arolygiaeth Gofal Cymru 2021 Cofnodion: Rhoddodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol - Porth
Cynnal a Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol wybod i’r Pwyllgor
fod llythyr wedi dod i law oddi wrth Arolygiaeth Gofal Cymru, a hynny ar 2
Gorffennaf 2021 yn dilyn yr Archwiliad Sicrwydd a gynhaliwyd ym mis Mai 2021. Mae’r llythyr yn crynhoi canfyddiadau’r
archwiliad sicrwydd a gynhaliwyd rhwng 10 Mai ac 14 Mai 2021. Roedd prif lwybrau ymholi’r Arolygiaeth yn
seiliedig ar bedair egwyddor Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
2014 ac maen nhw wedi cofnodi eu barn a’u canfyddiadau yn unol â'r rhain: Pobl
– Llais a Rheolaeth, Atal, Llesiant, Partneriaethau ac Integreiddio. Rhoddwyd crynodeb i’r Pwyllgor o'r
canfyddiadau a’r blaenoriaethau ar gyfer gwella. Yn
dilyn trafodaeth, cytunodd yr Aelodau i nodi cynnwys y llythyr a chanmol holl
staff y Gwasanaethau Cymdeithasol am eu gwaith caled a'u hymrwymiad cyn ac yn
ystod y pandemig.
Roedd
yr Aelodau yn dymuno nodi bod y staff a'r gwasanaeth dan bwysau cynyddol ac yn
gwneud y gorau y gallant o dan y pwysau a brofir gan
y gwasanaeth ar hyn o bryd. |