Agenda a Chofnodion

Cyfarfod arbennig, Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach - Dydd Mercher, 22ain Medi, 2021 10.00 am

Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda

Cyswllt: Dwynwen Jones 

Eitemau
Rhif eitem

11.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

 

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Marc Davies, Peter Davies, Elaine Evans, Maldwyn Lewis, Alun Lloyd-Jones a Mark Strong am na fedrent ddod i’r cyfarfod.  Ymddiheurodd y Cynghorydd Paul Hinge am na fedrai ddod i’r cyfarfod am ei fod yn cyflawni dyletswyddau eraill ar ran y Cyngor. 

 

12.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau.

 

 

13.

Eglurhad o weithdrefn i ymdrin ag achosion o Dipio Anghyfreithlon pdf eicon PDF 173 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Iechyd yr Amgylchedd, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd, adroddiad i’r Pwyllgor yn amlinellu’r heriau yn sgil COVID-19 a sut y blaenoriaethir y gwaith ar hyn o bryd.  Rhoddodd fraslun o’r fframwaith deddfwriaethol a’r gwaith gorfodi o ran tipio anghyfreithlon, o ran rheoliadau RIPA ar fonitro â chamerâu, a’r rheoliadau parthed perchnogaeth tir a’r cyfrifoldeb dros ymdrin â thipio anghyfreithlon ar dir preifat.

 

Nodwyd bod y Cyngor yn monitro lleoliadau lle ceir trafferthion (gorfodi rhagweithiol) yn ogystal ag ymchwilio i gwynion a ddaw i law (gorfodi adweithiol). Nodwyd bod 375 o achosion o dipio anghyfreithlon wedi'u cofnodi yn 2020-2021 a bod 106 o ddigwyddiadau wedi'u cofnodi hyd yma eleni (rhwng 1 Ebrill ac 18 Awst 2021). Yn 2020-2021 cyhoeddwyd 2 hysbysiad cosb benodedig yn sgil gorfodi rhagweithiol, a dim un yn sgil gorfodi adweithiol, sef gostyngiad ar y blynyddoedd blaenorol.  Cyflwynwyd un rhybudd yn 2020-2021 yn sgil gorfodi rhagweithiol.

 

Hefyd mae’r adroddiad yn rhoi braslun o’r cydweithio gyda ‘Cadwch Gymru'n Daclus’, Caru Ceredigion ac Awdurdodau lleol cyfagos.

 

Cododd yr Aelodau y pwyntiau canlynol:

·         Nododd yr Aelodau fod pryderon ynghylch tipio anghyfreithlon wedi'u codi drwy CLIC, ond bu diffyg o ran yr ymateb. Gofynnon nhw hefyd am rannu â'r holl Gynghorwyr gopi o'r matrics sy'n amlinellu lle mae'r cyfrifoldeb yn gorwedd.  Nododd swyddogion y byddent yn ymchwilio i'r mater ac yn darparu copïau o'r matrics.

·         Gofynnodd yr Aelodau a fyddai modd gosod camerâu cylch cyfyng ar gefnffyrdd a thir preifat. Cadarnhaodd y swyddogion nad oes gyfyngiadau, tra bod cytundeb gyda pherchennog y tir.

·         Gofynnodd yr Aelodau a ellid defnyddio mwy o dechnoleg i fonitro’r sbwriel a adewir wrth ochr sgipiau, neu a ellid darparu sgipiau sydd ag agoriad ar yr ochr yn hytrach na gorfod taflu eitemau dros y top.

·         Nododd yr Aelodau nad yw Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol yn gwaredu ag eitemau a dipiwyd yn anghyfreithlon hyd nes bod aelod o'r tîm Diogelu'r Cyhoedd yn archwilio'r cynnwys. Gofynnwyd a ellid symud yr eitemau i Benrhos neu Glanyrafon i'w harchwilio. Nododd swyddogion eu bod yn gweithio ar hyn o bryd gyda'r tîm Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol i adolygu pryderon megis cyflwyno gwastraff yn gynnar, ac y byddant yn codi'r mater hwn gyda nhw.

·         Awgrymodd yr Aelodau fod y Tîm Diogelu'r Cyhoedd yn cyhoeddi gwybodaeth ynghylch hysbysiadau cosb benodedig er mwyn addysgu a chynyddu ymwybyddiaeth o hyn. Nododd y Swyddog y byddent yn ystyried hyn.

·         Awgrymodd yr Aelodau fod yr adroddiad yn cael ei rannu â Chynghorau Tref a Chymuned, er mwyn iddynt fedru cyfrannu.

·         Nododd yr Aelodau fod nifer o gwynion yn dod i law ynglŷn â diffyg biniau, ond mae llawer o fusnesau tecawe bellach yn defnyddio cardbord sy'n llenwi'r biniau'n gyflymach na phapur. Gofynnwyd felly a ellid gwneud unrhyw beth o ran gofyn i fusnesau gyflenwi eu biniau eu hunain.  Nododd y Swyddog fod cydlynydd 'Cadwch Gymru'n Daclus' wedi'i benodi'n ddiweddar ac y byddent yn gofyn iddi hi rannu'r neges hon gyda swyddogion eraill ledled Cymru i'w hystyried fel prosiect.

 

Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 13.

14.

Trosolwg ar Wasanaethau Wardeniaid Cymunedol a Rheoli Plau pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Safonau Masnach a Thrwyddedu, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd, y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Craffu am y materion y mae Gwasanaeth Wardeiniaid Cymunedol yr adran Diogelu’r Cyhoedd yn eu hwynebu, yn enwedig y Gwasanaeth Rheoli Plâu.

 

Nodwyd, ers mis Mawrth 2020, bod y Gwasanaeth Wardeiniaid Cymunedol wedi bod yn gweithredu gyda dim ond un Warden Cymunedol yn lle dau, gan roi blaenoriaethu i gwynion/ceisiadau ar sail eu risg i iechyd y cyhoedd.  O fis Medi 2021 ymlaen bydd y gwasanaeth yn dychwelyd i ddau swyddog llawn-amser.      

 

Data sy'n ymwneud â nifer y ceisiadau a gofnodwyd bob blwyddyn ers 2016.  Amlinellwyd dyletswydd statudol yr Awdurdod a nodwyd y bydd angen i'r awdurdod gael ei achredu o dan y cynllun SSIP er mwyn ailddechrau’r gwaith o roi abwyd mewn carthffosydd law yn llaw â Dŵr Cymru.   

 

Rhoddwyd amlinelliad hefyd o'r Gwasanaethau Rheoli Plâu ar Ffermydd a gynigir gan Gyngor Sir Ceredigion, hefyd am Wardeiniaid Cŵn a'r Gwasanaeth Gorfodi Baeddu gan Gŵn. Nodwyd bod pedwar swyddog dros dro wedi'u penodi dros yr haf gan ddefnyddio cyllid caledi Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ymwelwyr yn ymweld â Cheredigion mewn modd diogel a chyfrifol.

 

Yn ogystal â chael achrediad SSIP, nodwyd bod y Gwasanaeth yn bwriadu creu Polisi newydd Rheoli Plâu yn nodi’r taliadau am wahanol wasanaethau rheoli plâu, gan ddiogelu o’r newydd y rhai sydd ar incwm isel neu’n aelwydydd bregus. Hefyd, bod y Gwasanaeth yn bwriadu ystyried ffyrdd eraill o gynyddu patrolau / gwaith gorfodi baw cŵn.

           

            Cododd yr Aelodau y pwyntiau canlynol:

·         Gofynnodd yr Aelodau a oedd tipio anghyfreithlon i mewn i ddraeniau yn bryder hefyd. Nododd swyddogion fod hyn yn berthnasol hefyd i fraster ac olew a bod deddfwriaeth wedi'i chyflwyno tua thair neu bedair blynedd yn ôl yn gwahardd peiriannau malu - macerators.

·         Nododd yr Aelodau eu bod wedi cael gwybod nad oedd gan swyddog ar ei ben ei hun yr hawl i godi clawr twll archwilio a gofynnwyd a ellid darparu offer i gynorthwyo gyda hyn. Nododd y swyddog mai eiddo Dŵr Cymru yw caeadau tyllau felly nid oes gan swyddogion awdurdod i godi'r rhain, ac mae angen achrediad SSIP er mwyn gwneud gwaith o'r fath.

·         Gofynnodd yr Aelodau a oedd yr ymosodiadau cynyddol gan gŵn ar ddefaid yn fater i'r Gwasanaeth hwn, gan nodi bod y cyhoedd yn cysylltu â'r Heddlu fel rheol ar faterion o'r fath.

·         Gofynnodd yr Aelodau a yw swyddogion sy'n trin gwenwyn yn cael archwiliadau iechyd yn rheolaidd.  Cadarnhaodd y swyddogion fod hyn yn arfer digwydd yn rheolaidd ac y byddai’n ailddechrau cyn bo hir.

·         Gofynnodd yr Aelodau ynghylch adnoddau staffio. Nododd y Swyddog fod yna ddau aelod o staff llawn-amser erbyn hyn ac y byddai hyn yn cael ei adolygu ar ôl ailgychwyn ar y gwaith gyda ffermydd a gwenyn ac ati.

·         Gofynnodd yr Aelodau am ein hawliau mewn perthynas â chŵn yn baeddu ar lwybrau cyhoeddus. Nododd y Swyddog mai'r her yw eu dal yn y weithred o wneud hynny.

·         Nododd yr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 14.

15.

Gwasnaethau Canolfannau Lles a'r datblygiadau yng Nghanolfan Lles Llambed pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol - Porth Cymorth Cynnar adroddiad i’r Pwyllgor a oedd yn rhoi’r diweddaraf am y datblygiadau diweddar yn y gwasanaeth. Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor fod y Gwasanaeth wedi bod yn adolygu’r cynnydd o ran “Strategaeth Gweithgareddau Chwaraeon a Hamdden 2014-2020” Ceredigion wrth baratoi ar gyfer y gwaith o ddatblygu cynllun newydd a fydd yn weithredol o 2022-2027. Nodwyd bod gwaith ymgysylltu cyhoeddus cychwynnol yn mynd rhagddo a fydd yn bwydo i’r cynllun datblygu gan greu sail ar gyfer cam nesaf y broses ymgysylltu.

 

Canolfan Hamdden Llambed fydd lleoliad Canolfan Llesiant gyntaf y Cyngor a fydd yn darparu ystod o wasanaethau Gydol Oes i drigolion Llanbedr Pont Steffan a chanol y sir. Bwriadwyd yn wreiddiol mai Plascrug fyddai’r ganolfan gyntaf ond oherwydd bod Plascrug yn cael ei defnyddio fel ysbyty maes roedd angen i'r Gwasanaeth ystyried datblygu Canolfan Llesiant mewn rhan arall o'r sir. Ar y 1af o Ragfyr 2020, cymeradwyodd y Cabinet y cynnig i ddatblygu Canolfan Llesiant yn Llanbedr Pont Steffan. Roedd y Gwasanaeth yn awyddus i sicrhau na fyddai’r arian yn cael ei golli ac i’w ddefnyddio mewn lle arall.

 

Mae costau dangosol yn awgrymu y gall cyllid grant dalu am y costau adeiladu ond ni fydd y costau terfynol yn hysbys hyd nes bod y broses dendro wedi digwydd. Rhagwelir y bydd y gwaith adeiladu wedi’i gwblhau erbyn Mehefin / Gorffennaf 2022.  Bydd y Ganolfan Hamdden ar gau yn ystod y gwaith adeiladu ond cafwyd trafodaethau cadarnhaol gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ynglŷn â defnyddio ar y cyd eu cyfleusterau chwaraeon nhw yn ystod y cyfnod hwn.

 

Cododd yr Aelodau y pwyntiau canlynol:

·         Nododd yr Aelodau fod pryder wedi'i fynegi gan dîm Pêl-rwyd Llewod Llambed ynglŷn â bod gostwng maint y Neuadd o bedwar i dri chwrt badminton yn creu cwrt pêl-rwyd sy’n llai na chwrt maint llawn.  Nododd y Swyddog fod llythyr wedi'i anfon at Lewod Llambed ddydd Iau yn eu gwahodd i gyfarfod â'r Aelod Cabinet, y Swyddog Arweiniol Corfforaethol a Rheolwr Corfforaethol Porth Cymorth Cynnar, ond nid oes ymateb wedi dod i law hyd yma.  Nodwyd bod y Gwasanaeth wedi siarad â'r holl glybiau eraill sy'n defnyddio'r Neuadd yn rheolaidd, ac ni chafwyd dim gwrthwynebiadau eraill. Nodwyd bod gemau’r Gynghrair Pêl-rwyd yn cael eu cynnal yn Aberaeron a bod y cyrtiau yn Llanbedr Pont Steffan yn cael eu defnyddio ar gyfer ymarfer yn unig. Bydd cyfleusterau ymarfer yn parhau i gael eu darparu yn y neuadd. Mae dau gwrt maint llawn arall ar gael yn yr awyr agored.  Nododd y Swyddog fod y Cyngor wrthi’n trafod gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan ynghylch rhannu eu cyfleusterau tra bod gwaith adeiladu yn mynd rhagddo. Mae'r cwrt a ddarperir gan y Brifysgol yn fwy ac yn 1 metr yn brin o faint cwrt pêl-rwyd safonol.  Nodwyd bod Cymdeithas Pêl-rwyd Cymru hefyd yn datblygu'r gamp i gynnwys Pêl-rwyd Cerdded, Pêl-rwyd Eistedd a Phêl-rwyd Tiny Tots a bydd datblygu'r Canolfannau Lles yn hwyluso mwy o ddefnydd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 15.

16.

Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 pdf eicon PDF 576 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Iechyd yr Amgylchedd, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd, adroddiad i’r Pwyllgor i roi gwybod iddynt am reoliadau newydd Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n ymwneud ag Anifeiliaid (Cymru) 2021 a ddaeth i rym ar 10 Medi 2021, a’r gofynion ychwanegol sy’n deillio ohonynt.

 

            Efallai y bydd y ddeddfwriaeth newydd yn mynnu bod llawer o sefydliadau lleol sy’n gwerthu anifeiliaid fel rhai anwes, er elw, yn gorfod cael trwydded. Ond mae bridwyr cŵn sydd wedi’u trwyddedu o dan Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 wedi’u heithrio ac ni fydd angen dwy drwydded arnynt. Mae’r amodau a osodir ar y drwydded yn hybu safonau lles, sydd hefyd yn diogelu’r cwsmer. Mae’r adroddiad hefyd yn nodi’r canllawiau statudol parthed gofynion y drwydded.

 

Nodwyd ei bod yn bosib y bydd y system drwyddedu newydd yn achosi gwaith ychwanegol i’r tîm Diogelu’r Cyhoedd ond yn sgil gwaith diweddar a wnaed gan y tîm, mae’r gydymffurfiaeth ag amodau trwyddedau wedi gwella ar draws pob sefydliad trwyddedig. Pwysleisiwyd bod gweithredu “Cyfraith Lucy” yn gwella’r safonau lles y mae Cyngor Sir Ceredigion yn ceisio’u cynnal ar draws holl sectorau’r diwydiant anifeiliaid.

 

Cododd yr Aelodau y pwyntiau canlynol:

·         Gofynnodd yr Aelodau a ddylai cŵn sydd wedi'u croesfridio gofrestru gyda'r Kennel Club, ac a fyddai'r gwaith ychwanegol yn cael effaith ar staffio at ddibenion cynnal arolygiadau.  Nododd swyddogion na fyddai angen i bob bridiwr cŵn gofrestru ond os bydd anifail anwes yn cael mwy na thair torraid o gŵn bach y flwyddyn, gallent ddisgyn i'r categori hwn yn ddamweiniol. Mewn amgylchiadau o'r fath, byddai Swyddogion yn gorfod defnyddio’u crebwyll. Nododd y Swyddogion eu bod yn croesawu'r ddeddfwriaeth hon a bod gwaith cydymffurfio diweddar wedi arwain at wella safonau ledled y Sir.

 

Yn dilyn trafodaeth cytunwyd i nodi’r adroddiad.

 

17.

Cofnodion cyfarfod 24ain o Fehefin 2021 ac unrhyw fater sy'n codi ohonynt pdf eicon PDF 157 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i gadarnhau bod Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2021 yn gywir.