Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach - Dydd Mawrth, 15fed Mawrth, 2022 2.00 pm

Lleoliad: O bell

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau a Materion Personol

Cofnodion:

i)       Ymddiheurodd y Cynghorydd Keith Evans am na allai fynychu'r cyfarfod oherwydd y newid dyddiad.

ii)      Ymddiheurodd y Cynghorydd Mark Strong am na allai fynychu'r cyfarfod.

iii)    Ymddiheurodd y Cynghorwyr Marc Davies ac Alun Lloyd Jones y gallai fod yn rhaid iddyn nhw adael y cyfarfod yn gynnar. 

iv)    Cydymdeimlodd y Cynghorydd Catherine Hughes yn ddiffuant â theulu Gethin Bennett, cyn Aelod Cabinet a Chadeirydd olaf Cyngor Sir Dyfed, a fu farw’n ddiweddar.

 

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd dim Buddiannau Personol a Buddiannau sy'n rhagfarnu (gan gynnwys datganiadau chwipio) gan Aelodau'r Pwyllgor.

 

3.

Adroddiad Rheoli Perfformiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Chwarter 2 2021 - 2022 pdf eicon PDF 776 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Williams (Aelod y Cabinet dros Borth Cynnal) Adroddiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Chwarter 2 2021/2022. Caiff adroddiadau chwarterol eu rhoi gerbron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach fel rhan o'r ystyriaeth barhaus o'r pwnc i sicrhau bod yr Awdurdod Lleol yn cyflawni ei ddyletswyddau fel y Rhiant Corfforaethol. Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys y safonau a'r targedau cenedlaethol a lleol a ddefnyddir i fesur y canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a phlant sydd wedi gadael gofal adeg eu cyfarfod adolygu, ac mae'n cynnwys Dangosyddion Perfformiad Llywodraeth Cymru.

 

Ar sail yr wybodaeth sydd ar gael a'r hyn a fynegwyd yn ystod y cyfarfod adolygu, daw'r Swyddog Adolygu Annibynnol i farn broffesiynol ynghylch effeithiolrwydd cynllun gofal y plentyn/person ifanc o ran bodloni ei anghenion, a gall argymell newidiadau i'r cynllun gofal. Yn ystod y cyfarfod adolygu bydd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a oes angen cymorth ar y plentyn/person ifanc i adnabod pobl eraill berthnasol er mwyn cael cyngor cyfreithiol/cymryd camau ar ei ran. Roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol o'r farn nad oedd angen cymryd y cam hwn ar gyfer unrhyw blentyn yn ystod y cyfnod dan sylw. Yn ogystal, mae'r Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a oes unrhyw dramgwydd yn erbyn hawliau dynol y plentyn/person ifanc ac, os oes, gallai atgyfeirio'r achos at CAFCASS Cymru. Nid oedd angen y cymryd y cam hwn yn unrhyw un o'r cyfarfodydd adolygu yn ystod y cyfnod.

 

Aeth y Cynghorydd Alun Williams ymlaen i gyflwyno Crynodeb o'r Pwyntiau Allweddol a nodwyd ar dudalen 2 yr adroddiad.

 

Nododd Sian Howys fod effaith Covid-19 yn parhau, sydd wedi arwain at fwy o lwythi gwaith a dyletswyddau statudol ond mae’r cydweithio ar draws y Model Gydol Oed a Lles wedi bod yn gadarnhaol. O ystyried yr amgylchiadau a'r pwysau ar staff, roedd yr adroddiad yn plesio ac roeddent yn ymwybodol o'r meysydd yr oedd angen eu gwella.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, nododd Sian Howys fod yna brinder cenedlaethol o ofalwyr maeth yn gyffredinol, ond annog dwyieithrwydd oedd y nod. Roedd ymgyrch recriwtio sy’n mynd rhagddi ar gyfer gofalwyr maeth.

 

Oherwydd prinder gofalwyr maeth, roedd plant naill ai'n cael eu lleoli yn y sir neu gyda gofalwyr maeth sy'n gweithio i Asiantaethau Maethu Annibynnol sy'n byw yng Ngorllewin Cymru neu gerllaw. Ni chafodd dim plant eu lleoli gyda gofalwyr maeth yn Lloegr, fodd bynnag, roedd plant wedi'u lleoli gydag aelodau o'r teulu y tu allan i Gymru.

 

Roedd rhywfaint o ddefnydd o leoliadau preswyl yn Lloegr oherwydd diffyg argaeledd yng Ngheredigion. Mae Caniatâd Cynllunio wedi ei roi ar gyfer cartref gofal preswyl bychan yn ardal Dyffryn Aeron. Mae swyddi wedi'u hysbysebu. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhannu maes o law. Roedd yr angen am leoliadau oherwydd troseddu yn gyffredinol isel yng Ngheredigion ac felly hefyd yr angen am leoliadau arbenigol megis cyfnodau yn yr ysbyty.

 

Mae ymchwil i Ofal Cymdeithasol Plant gan Brifysgol Caerdydd wedi'i gyhoeddi. Bydd swyddogion yn cael eu hannog i ddarllen yr adroddiad. Mae Llywodraeth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Gwasanaethau y Canolfannau Lles - Cynigion Hyrwyddo pdf eicon PDF 140 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Catherine Hughes (Aelod y Cabinet dros Borth Gofal, Ymyrraeth Gynnar, Hybiau Lles a Diwylliant) gefndir yr adroddiad. Nodwyd bod y cynnig wedi ei drafod cyn y gyllideb. Mae Gwasanaeth y Canolfannau Lles sydd o dan Borth Cymorth Cynnar yn chwarae rôl allweddol wrth ddarparu cyfleoedd sy’n cyfrannu at ganlyniadau iechyd a lles ein trigolion.  Un elfen o Wasanaethau’r Canolfannau Lles yw rhedeg cyfleusterau hamdden y Cyngor. Mae annog trigolion i gymryd rhan yn rheolaidd mewn gweithgareddau corfforol yn cyfrannu’n uniongyrchol at well iechyd meddwl a chorfforol ein cymunedau ac yn cynorthwyo i feithrin cydnerthedd unigolion a lleihau dibyniaeth ar wasanaethau iechyd.

 

Mae'r gwasanaeth yn creu incwm trwy godi tâl am ddefnyddio ei gyfleusterau a mynediad i raglenni’r gweithgareddau y mae'n eu darparu. Yn 2018/19 (cyn y pandemig) roedd yr incwm a grëwyd gan y gwasanaeth yn cyfateb i £752,673 gyda thua £176,000 ohono o ganlyniad i becynnau aelodaeth (ffi fisol benodol ar gyfer lefelau defnydd amrywiol o ran nofio, yr ystafell ffitrwydd a dosbarthiadau ymarfer).  Roedd yr incwm a grëwyd ac Arian grant yn 55% o gyfanswm cost darparu Gwasanaeth y Canolfannau Lles gyda’r gweddill yn cael ei ddarparu gan arian craidd y cyngor. Fel gwasanaeth anstatudol, rhaid i Wasanaeth y Canolfannau Lles ddenu pobl i ddefnyddio ei gyfleusterau. Mae yna nifer o ffactorau a all ddylanwadu ar ble a phryd y mae person yn dewis bod yn heini ac mae prisio yn un ohonynt.

 

Dywedodd Elen James yr effeithiwyd yn ddifrifol ar y gwasanaeth yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf ond yn wahanol i rai awdurdodau lleol, cafodd staff eu hadleoli ac maent wedi dychwelyd i'r gwasanaeth ers hynny. Mae pob canolfan hamdden a phwll nofio yn y sir wedi ail-agor a thros 350 o blant wedi cofrestru ar gyfer gwersi nofio gyda 70+ o blant ychwanegol ar y rhestr aros. Cyn y pandemig, roedd gan y gwasanaeth dros 900 o aelodaethau, dim ond tua 400+ sydd ganddyn nhw erbyn hyn, felly mae angen gwaith i farchnata’r Canolfannau Lles, er mwyn annog pobl i ddychwelyd i ymarfer corff a theimlo’n ddiogel wrth wneud. Y cynnig yw cyflwyno cynigion tymor byr tebyg i awdurdodau lleol eraill, i gynyddu defnyddwyr gwasanaethau o bob oed i ddychwelyd i ddefnyddio’r cyfleusterau. Mae’n anodd rhoi enghreifftiau o ffioedd gan y bydd y cynigion yn dibynnu ar y data a gesglir, ond cyflwynwyd enghreifftiau o gynigion i’r pwyllgor.

 

Nodwyd na ddylai fod llawer o gostau ychwanegol ynghlwm wrth redeg y canolfannau gyda'r cynigion hyrwyddo ar waith. Y pwrpas yw denu rhagor o bobl yn rheolaidd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, eglurodd Elen James fod yr awdurdod lleol yn parhau i gael cyfraniadau i gefnogi'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff. Dywedwyd ddoe yn y Bwrdd Perfformiad bod dros 300 o atgyfeiriadau newydd. Rhoddir 16 wythnos o gymorth a'r bwriad yw annog cleientiaid i barhau i ddefnyddio'r cyfleusterau, ar ôl yr 16 wythnos hyn, i helpu i atal problemau pellach o ran iechyd. 

 

Nid oes  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cadarnau cofnodion y cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi ohonynt pdf eicon PDF 271 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD i gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2022.

 

Materion sy’n codi:

Dim.

 

CYTUNWYD i gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2022.

 

Materion sy’n codi:

Holodd y Cynghorydd John Roberts a oedd Arwyn Morris (Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyswllt Cwsmeriaid) wedi rhoi diweddariad ynghylch Gofal Cartref i Geredigion.

 

Cytunwyd y byddai'r eitem yn cael ei chynnwys yn y flaenraglen waith i'r weinyddiaeth nesaf ei thrafod.

 

6.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd mai hwn fyddai cyfarfod olaf y weinyddiaeth hon. Diolchodd i’r holl aelodau am eu mewnbwn ac am gymorth Dwynwen Jones. Dymunodd y Cadeirydd yn dda i bob aelod ac ymddeoliad hapus i'r rheini a oedd wedi penderfynu peidio â sefyll i'w hail-ethol.