Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach - Dydd Llun, 14eg Chwefror, 2022 9.30 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Penmorfa

Eitemau
Rhif eitem

6.

Ymddiheuriadau a Materion Personol

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Mark Strong, Paul Hinge ac Ivor Williams am nad oeddent yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod. 

 

Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad diffuant â theulu Lorelei Bernice Marka a fu farw'n ddiweddar. Bu Lorelei yn gweithio fel Warden Cŵn i'r Awdurdod am flynyddoedd lawer.

 

Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad diffuant hefyd â Justin Davies, (Rheolwr Corfforaethol, Cyllid Craidd, Cyllid a Chaffael), a Nicola Davies, (Cyfieithydd i'r Awdurdod) ar farwolaeth ddiweddar mam Nicola, Mrs Angela Rogers-Lewis, mam-yng-nghyfraith Justin.

 

Hefyd estynnodd y Cadeirydd ei Ddymuniadau Gorau i James Thomas, mab y Cynghorydd Lynford Thomas sy'n gwella ar hyn o bryd yn dilyn triniaeth yn yr ysbyty.

 

7.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau personol na buddiannau sy’n rhagfarnu.

 

8.

Adroddiad ynghylch y gyllideb ddrafft ar gyfer 2022/23 pdf eicon PDF 4 MB

Cofnodion:

Amlinellodd y Cynghorydd Bryan Davies, Cadeirydd y Pwyllgor, weithdrefn y cyfarfod a chroesawodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, yr Aelodau Cabinet a’r Swyddogion i'r cyfarfod.

           

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, yr adroddiad ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2022/2023 gan gynnwys y rhaglen gyfalaf tair blynedd, gan esbonio mai setliad dros dro yw hwn, a disgwylir y setliad terfynol ar 1 Mawrth, 2022. Cyfanswm y setliad refeniw, a elwir yn Gyllid Allanol Cyfun, a ddyrannwyd i Geredigion

ar gyfer 2022/23 yw £119.419m. Mae hyn yn cymharu â dyraniad 2021/22 o £110.006m (wedi’i addasu ar gyfer trosglwyddiadau) ac mae’n gynnydd o 8.6%. Mae Cymru gyfan wedi gweld cynnydd o 9.4% ar gyfartaledd gyda Cheredigion yn 19eg. Dywedodd yr Arweinydd wrth Aelodau'r Pwyllgor fod £50 miliwn o arbedion wedi'u gwneud ers ei phenodiad yn 2012. 

 

Mae Setliad Ceredigion yn adlewyrchu ystod o symudiadau ailddosbarthu llai ffafriol

yn ariannol a welir yn y boblogaeth a dangosyddion niferoedd disgyblion Ysgol

Uwchradd. Mae Asesiadau o Wariant Safonol yn gyfrifiadau tybiannol o’r swm y mae

angen i bob Cyngor ei wario er mwyn darparu lefel safonol o wasanaeth. Yr Asesiad

o Wariant Safonol ar gyfer 2022/23 yw £166.372m, sef cynnydd o 7.2% (2021/22

£155.153m). Y cynnydd mwyaf sylweddol o ran gwasanaeth oedd Gwasanaethau

Cymdeithasol Personol, sef 12.2%.

 

Mae model y Gyllideb wedi'i ddrafftio i gynnwys yr addasiadau o ran y setliad dros dro.

Bydd angen ystyried unrhyw addasiadau sydd eu hangen sy’n codi yn y setliad

terfynol a'u hymgorffori'n briodol yn y gyllideb.

 

Mae'r gwaith asesu manwl, a wnaed i nodi’r pwysau anochel o ran costau sy'n

wynebu'r Gwasanaethau, wedi'i gwblhau, ac mae hwn wedi nodi cyfanswm net o

£13.1m, a grynhoir yn Atodiad 1 ym mhapurau’r agenda. Mae'r swm yma bron yn ddwbl y blynyddoedd cynt ac yn £3.8m yn fwy na'r swm uwch sydd ar gael yn y setliad a byddai hyn gyfystyr â'r angen i gynyddu Treth y Cyngor o bron i 8%, fodd bynnag mae rhai arbedion ar gael i broses pennu’r gyllideb.

 

Daw costau cynyddol Gofal yn unig i £7m, gan gynnwys:-

-       Cyflog Byw Gwirioneddol £9.90 y DU ac Yswiriant Gwladol Cyflogwyr 1.25% – yn effeithio ar y rhan fwyaf os nad y cyfan o’r Gwasanaethau a Gomisiynir yn ymwneud â Gofal (yn arwain at ffactorau chwyddiant dros dro o 8.87% ar gyfer Gofal Cartref / Byw â Chymorth, 9.13% ar gyfer Gofal Preswyl ac 11.15% ar gyfer Taliadau Uniongyrchol);

-       Cartrefi Preswyl – adolygiad pennu ffioedd yn mynd rhagddo ar hyn o bryd;

-       Taliadau Uniongyrchol;

-       Plant sy’n Derbyn Gofal; a;

-       Gofal Cartref.

 

Dywedodd yr Arweinydd hefyd fod darparu ar gyfer chwyddiant mewn cyflogau hefyd yn ffactor arwyddocaol a amcangyfrifir yn £3.4m, ac nid oes cytundeb ffurfiol eto ar brif ddyfarniad cyflog 2021/22. Ar ôl ystyried y cyllid posibl sydd ar gael, gellir cyflawni cyllideb gytbwys.

 

Mabwysiadwyd ffordd gorfforaethol o ymdrin â cholledion a chostau net COVID19, yn

hytrach na bod yn rhaid i bob gwasanaeth ysgwyddo symiau y gellir  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol ac unrhyw faterion sy'n codi ohonynt pdf eicon PDF 271 KB

Cofnodion:

7     Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy’n codi ohonynt

CYTUNWYD cadarnhau bod Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2022 yn rhai cywir ac nid oedd unrhyw faterion yn codi ohonynt.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Aelodau'r Pwyllgor, yr Aelodau Cabinet a’r Swyddogion am fynychu a daethpwyd â’r cyfarfod i ben.