Lleoliad: ZOOM
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorydd Paul Hinge am na fedrai ddod i’r Cyfarfod gan ei fod yn cyflawni dyletswyddau eraill ar ran y Cyngor. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Datgelodd y Cynghorydd Elaine Evans fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu o dan eitem 3 a gadawodd y cyfarfod. |
|
Adroddiad Gwasanaeth Sicrhau Ansawdd ac Adolygu Annibynnol 1.10.2020 - 21.12.2020 PDF 828 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog
Arweiniol Corfforaethol Porth Cynnal Adroddiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol ar gyfer Chwarter
3 2020/2021. Caiff
adroddiadau chwarterol eu rhoi gerbron
y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach fel rhan
o'r ystyriaeth barhaus o'r pwnc
i sicrhau bod yr Awdurdod Lleol
yn cyflawni ei ddyletswyddau fel y Rhiant Corfforaethol. Roedd yr adroddiad hwn
yn cynnwys y safonau a'r targedau
cenedlaethol a lleol a ddefnyddir i fesur
y canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a phlant sydd wedi
gadael gofal adeg eu cyfarfod
adolygu, ac roedd yn cynnwys Dangosyddion
Perfformiad Llywodraeth Cymru. Ar sail yr
wybodaeth sydd ar gael a'r hyn a fynegwyd
yn ystod y cyfarfod adolygu, daw'r Swyddog Adolygu
Annibynnol i farn broffesiynol ynghylch effeithiolrwydd cynllun gofal y plentyn / person ifanc o ran bodloni ei anghenion
a gall argymell newidiadau i'r cynllun gofal. Yn ystod y cyfarfod adolygu bydd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried
a oes angen
cymorth ar y plentyn / person ifanc i adnabod pobl
eraill berthnasol er mwyn derbyn
cyngor cyfreithiol / cymryd camau ar
ei ran. Roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol o'r farn nad
oedd angen cymryd y cam hwn ar gyfer unrhyw
blentyn yn ystod y cyfnod dan sylw. Yn ogystal,
mae'r Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a
oes unrhyw dramgwydd yn erbyn
hawliau dynol y plentyn / person ifanc a gallai gyfeirio'r achos at CAFCASS Cymru. Ni chododd yr angen
i wneud hynny
mewn unrhyw adolygiad yn ystod
y cyfnod hwn. Mae'r adroddiadau hyn yn cael
eu hystyried o fewn Cyfarfodydd Sicrhau Ansawdd Plant sy'n Derbyn Gofal
Amlasiantaethol sy'n cwrdd bob chwarter; mae'r cyfarfodydd hyn yn gyfle
i nodi a gweithredu ar berfformiad
a materion eraill yn ymwneud â'r
maes gwaith
hwn. Mae'r adroddiadau hyn hefyd yn cael
eu cylchredeg a'u hadolygu gan
Grŵp Rhianta Corfforaethol yr Awdurdod Lleol dan gadeiryddiaeth y Cynghorydd Alun Williams, Aelod
Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Plant a Diwylliant,
a chynhelir y cyfarfodydd hyn bob chwarter. Gofynnodd yr
Aelodau a oedd modd nodi unrhyw
batrymau o ran yr hyn oedd yn
digwydd yn y trefi o gymharu â’r ardaloedd gwledig.
Hefyd, bu iddynt ofyn sut
oedd ein proffil oedran ni yn cymharu ag Awdurdodau eraill. Wrth ymateb,
dywedodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol nad oedd
dim gwahaniaeth rhwng y trefi a’r ardaloedd
gwledig ac mai dynameg y teulu oedd yn aml
i gyfrif. Roedd y proffil oedran yng Ngheredigion
yn unol â’r
hyn oedd i’w ddisgwyl. Roedd
canran y plant iau
yn uwch oherwydd
eu bregusrwydd a’u hanghenion uwch o ran gofal. Rhoddodd yr
Aelod Cabinet sicrwydd i’r Pwyllgor fod
esboniadau rhesymol paham nad
oedd 8 o’r targedau wedi’u cyflawni yn ystod
y chwarter hwn. Roedd yr esboniadau hyn
yn cynnwys nifer y staff. Hefyd, roedd llai wedi
cael eu gweld
gan ddeintydd am fod y deintyddion ar gau am gyfnod
hir oherwydd Covid-19. Tynnwyd sylw at y ffaith bod prinder gofalwyr ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Diweddariad gan y Cadeirydd yn dilyn cyfarfod Cyd-bwyllgor Iechyd a Gofal Canolbarth Cymru PDF 12 MB Cofnodion: Bu cynrychiolwyr o’r Pwyllgor Trosolwg
a Chraffu Cymunedau Iachach yn arsylwi
ar gyfarfod o Gyd-bwyllgor Iechyd a Gofal Canolbarth Cymru ar 25 Mai 2021. Tynnwyd sylw’r Pwyllgor at y prif faterion a drafodwyd yng Nghyfarfod Cyd-bwyllgor Iechyd a Gofal Canolbarth Cymru. Roedd rhan
fwyaf y materion hyn yn gysylltiedig
â Covid-19. Mynegwyd pryder
dybryd ynghylch y ffaith bod 30,000 o bobl erbyn hyn ar
restr aros Hywel Dda. Roedd yr Aelodau
wedi codi’r cwestiynau canlynol: Cwestiwn: Ceir pryderon nad yw cleifion
yn medru gweld eu meddygon
teulu. Mewn rhai achosion, dim ond asesiad dros
y ffôn sydd ar gael iddynt. Sut mae gwella’r sefyllfa hon? Ymateb: Dr Sion James, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol – Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Cymunedol, Bwrdd Iechyd Prifysgol
Hywel Dda Mae mwyafrif y meddygfeydd
teulu yn dal i weithredu model brysbennu ar gyfer
apwyntiadau Gofal Sylfaenol, sy'n golygu bod cleifion yn cyrchu gwasanaethau
dros y ffôn neu trwy e-bost
yn y lle cyntaf. Rhaid i feddygfeydd
gydbwyso anawsterau cadw pellter cymdeithasol
i gadw cleifion
yn ddiogel â'r angen i
sicrhau apwyntiadau wyneb yn wyneb
lle bo
angen. Felly bydd clinigwr yn
cytuno â'r claf ar y canlyniad
mwyaf priodol iddo yn dilyn
brysbennu dros y ffôn. Gallai hwn fod
yn ymgynghoriad o bell a fydd yn cyfeirio
at wasanaeth arall, neu'n apwyntiad wyneb yn wyneb
â chlinigydd. Os yw claf
yn teimlo ei fod yn
cael anhawster cael gafael ar
wasanaethau yn ei bractis, yna
byddem yn ei annog i
gysylltu â thîm Pryderon Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar 0300 0200 159. Dylai cleifion
ddisgwyl y bydd y modelau cyrchu gwasanaethau yn newid fel eu
bod yn gwneud mwy o ddefnydd o ymgyngoriadau digidol ac o bell yn rhan o fodel
y dyfodol; fodd bynnag, bydd y cleifion hynny y mae'n ofynnol iddynt
gael apwyntiadau
wyneb yn wyneb yn gallu
cael apwyntiadau o'r fath. Cwestiwn: Mae nifer o bobl
yn gofyn a fydd yn rhaid
iddynt gael
brechlyn bob blwyddyn i’w hamddiffyn nhw rhag amrywiolynnau
newydd COVID-19. Mae rhai yn poeni wedi
iddynt glywed bod pobl wedi marw
ar ôl cael
eu heintio gan amrywiolyn Delta. Sut ydych chi’n
paratoi ar gyfer hyn? Ymateb: Jo McCarthy, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus / Ymgynghorydd Meddygaeth Iechyd Cyhoeddus, Tîm Iechyd Cyhoeddus Hywel Dda ar ran Ros Jervis, Cyfarwyddwr
Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol
Hywel Dda Rydym yn
aros am arweiniad cenedlaethol ynghylch a fydd rhaglen frechu
COVID-19 yn flynyddol, ac i bwy. Ar hyn o
bryd rydym yn paratoi ar
gyfer nifer o senarios, gan gynnwys - Brechiad blynyddol ar gyfer holl
boblogaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a roddir gyda
brechlynnau ffliw (os cymeradwyir hyn). - Brechiad blynyddol ar gyfer holl
boblogaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a roddir o leiaf 7 diwrnod. - Brechiad blynyddol i'r rhai sydd fwyaf mewn perygl (grwpiau JCVI 1-9) ar ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
I gadarnhau Cofnodion 8.3.2021 a 18.3.2021 ac ystyried unrhyw fater sy'n codi ohonynt PDF 526 KB Cofnodion: CYTUNWYD i gadarnhau Cofnodion y Cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2021 a 18 Mawrth 2021 yn rhai cywir. |
|
I ystyried Blaenraglen Waith y Pwyllgor 2021 - 2022 PDF 204 KB Cofnodion: CYTUNWYD i nodi’r flaenraglen waith a gyflwynwyd yn amodol
ar y canlynol:- ·
Bod yr adroddiad am
dipio anghyfreithlon ar 22 Medi yn cynnwys gwybodaeth am dipio gwastraff i lawr
draeniau yn anghyfreithlon ·
Bod yr adroddiad am
Reoli Plâu yn cynnwys gwybodaeth am y trefniadau staffio ·
Bod y Pwyllgor yn
derbyn adroddiad am Ganolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan yn y cyfarfod ym mis
Medi ·
Bod y Pwyllgor yn
derbyn adroddiad am y ddarpariaeth o ran dementia yn y cyfarfod ym mis Hydref. |